“The Welsh make and remake Wales day by day and year after year.  If they want to.” – Gwyn Alf Williams

Beth yw sefyllfa sosialaeth yn y Gymru dymhestlog gyfoes?

Cwestiwn amserol a ninnau ar drothwy etholiadau’r Senedd.  Oes yna, erbyn hyn, wleidyddion sy’n ddiedifar sosialaidd?  Os oes yna, sut fath o lwyfan sydd ganddyn nhw bellach?  Ac os nad oes yna lwyfan cadarn, sut mae creu un o’r newydd?

Cyhoeddi dogfen Leanne Wood, sef “Cam Nesaf y Rhondda” [1] sy’n ysgogi meddwl am y cwestiynau hyn.  Mae yn ei gosod ei hun yn ddiamwys yn  nhraddodiad sosialaidd ei chymdogaeth ei hun, gan gyfeirio at “The Miner’s Next Steps” [2], pamffled a ysgrifennwyd yn y Rhondda yn 1912 yn dilyn helbul yn y meysydd glo.  Ac yn yr un modd ag y gellir dweud fod y bamffled honno wedi cynnig datrysiadau lleol wedi ei seilio ar egwyddorion oedd yn berthnasol ymhobman tebyg, felly y gallwn ddehongli’r ddogfen gyfoes.  Mae’n cynnig esiamplau o sut i fynd i’r afael â phroblemau lleol drwy ymarfer egwyddorion y mae modd eu gweithredu drwy Gymru gyfan.  Egwyddorion sy’n seiliedig ar gymuned, ar barch at bobl ac amgylchedd.  O dan yr wyneb gallwn ddirnad cri o’r galon am newid y drefn ormesol gyfoes lle mae penderfyniadau oddi uchod yn sigo cymunedau ar lawr gwlad.

“…there is wealth only in people and in their land and seas” – Raymond Williams

Gan mai dogfen i gydfynd â’r etholiad i’r Senedd ym mis Mai eleni yw hon, mae’r ymadrodd  “dyma fydd llywodraeth Plaid Cymru yn wneud” yn ymddangos yn gyson.  Eto i gyd, gweledigaeth Leanne y sosialydd sydd yma, yn lifrai y Blaid a welodd yn dda i’w disodli fel arweinydd.

Cawn gynigion am yr hyn sydd ei angen i adfer y Rhondda yn dilyn Cofid, a hynny yng nghyd-destun degawdau o ddirywiad economaidd; llymder o du Llywodraeth San Steffan; llifogydd niferus y bu eu heffaith yn drychinebus oherwydd gwaddol y diwydiant glo (a sy’n rhagflas o effeithiau newid hinsawdd); tan-fuddsoddi yn y Gwasanaeth Iechyd; ac anghyfartaledd sy’n gwaethygu.

Mae synnwyr cyffredin yn britho’r ddogfen, gan ganolbwyntio yn benodol ar “iechyd a gofal cymdeithasol; ymdrin â’n gwendid economaidd tymor‐hir; paratoi ein cymunedau ar gyfer newid hinsawdd a rhoi i’n pobl y sgiliau sydd eu hangen”.

Gallwch ddarllen y manylion yn y drosoch eich hunain, ond efallai mai buddiol yma yw ystyried y teithi meddwl sy’n sylfaen iddi.

Yn y bôn, dadleuir mai hwyluso ac atgyfnerthu’r lleol ddylai fod prif waith llywodraeth ganolog.  Nid yn unig gwella isadeiledd materol (gan gynnwys tai, band eang, trafnidiaeth, ynni), ond hefyd yr isadeiledd cymdeithasol – addysg, incwm sylfaenol, celf, caffael lleol, cefnogaeth i rieni a gofalwyr.  Drwy hyn, grymusir cymunedau lleol ar sawl lefel, a nid yr economaidd yn unig.

Dadlennol yw’r adran ar “Swyddi Cydweithredol – Rhondda Gyda’n Gilydd”.  Cyfeirir at enghreifftiau lle mae cydweithrediad lleol yn gweithio, a’r awgrym clir yw y gall hyn fod yn fodel i’w atgynhyrchu ledled Cymru.  “ Byddwn yn sefydlu cysylltiadau ffurfiol i ddysgu o fudiadau cydweithredol eraill seiliedig ar lefydd fel mudiad cydweithredol Mondragon [3] yng Ngwlad y Basg a Bro Ffestiniog [4] yng ngogledd Cymru, sy’n cychwyn ’Mudiad Cymunedol Cymru’ (MCC). Nod MCC yw dwyn ynghyd bobl a grwpiau cymunedol i ffurfio rhwydwaith o gymunedau diddordeb cydweithredol a chilyddol i rannu gwybodaeth, sgiliau ac adnoddau. Yn eu geiriau hwy, “gweledigaeth MCC yw o Gymru sy’n gymuned o gymunedau ffyniannus a chynaliadwy: datblygu yn integredig amgylchedd, economi, cymdeithas a diwylliant ein cymunedau”. (Cwmni Bro Ffestiniog, 2020)”

Diweddariad o “Cynllun Gwyrdd i’r Cymoedd” [5] a gyhoeddwyd gan Leanne yn 2011 yw “Cam nesaf y Rhondda”, heb gymaint o fanylder o reidrwydd gan mai dogfen ar gyfer etholiad ydyw.  Yr adeg honno, ‘roedd ar ei phrifiant ym Mhlaid Cymru, a hi oedd ymgeisydd llwyddiannus y Chwith am yr arweinyddiaeth yn 2012.  A hithau, gellid tybio, mewn sefyllfa gref wrth i’w phroffil godi yn dilyn ei pherfformiad yn ystod Etholiad Cyffredinol 2015, ac yna ennill sedd y Rhondda yn Etholiad y Cynulliad yn 2016,  cyhoeddodd bamffled  “Y newid sydd ei angen” [6] yn 2017, sy’n cynnig dadansoddiad ar lefel Cymru gyfan, a syniadau ar gyfer y dyfodol.  Yr un egwyddor o ddatganoli grym a welwn yma hefyd: “Dylai sosialaeth datganoledig fod yn ymarferiad democrataidd mewn tynnu grym gwleidyddol ac economaidd oddi wrth y corfforaethau rhyngwladol a’r wladwriaeth ganoledig, gan ddod â rheolaeth yn ôl i’r gymuned trwy ranberchnogaeth a democratiaeth leol.”  Gwyddom mai ofer fu ei hymdrech i ddarbwyllo ei phlaid ei hun i gefnogi’r weledigaeth yn y bamffled hon, a buan y dychwelodd y Blaid i’r sefyllfa fwy cysurus o gael ei harwain gan ddyn mewn siwt.

Dyma lle y dylwn ddatgan nad ydw i’n ddiduedd – wedi cyfnod o ddadrithiad llwyr pan gefnogwyd Wylfa B gan Ieuan Wyn Jones, yr arweinydd ar y pryd, gadewais y Blaid, gan ail-ymuno pan ddaeth Leanne Wood yn arweinydd.  Wedi iddi gael ei disodli, gadewais eto, gan na welwn unrhyw obaith i’r agenda sosialaidd gael y llaw uchaf.  Onid dyma’r union sefyllfa sy’n bodoli yn y Blaid Lafur yn dilyn dyrchafiad, tanseilio ac yna cael gwared o Corbyn fel arweinydd?  Onid y dadrithiad am y rheswm hwn gyda’r ddwy blaid sydd yn rhannol gyfrifol fod yna angen amlwg am fudiad fel Undod ar gyfer caredigion y chwith?  Onid dyna pam mae yna gymaint o gwestiynu y dull sydd gennym o drefnu ein democratiaeth un-ochrog?

Nid oes yna gartref cysurus i sosialydd o argyhoeddiad oddi fewn i Blaid Cymru na Llafur Cymru pan edrychwn ar gyfanrwydd eu gweithredoedd.

Lle, felly, yn y Gymru gyfoes, mae hyn yn gosod Leanne Wood fel sosialydd mwyaf adnabyddus Cymru?

Mae ei gyrfa hi yn y Cynulliad a’r Senedd dros gyfnod di-dor ers 2003 yn dangos posibiliadau a chyfyngiadau sosialaeth yn y tŷ ar y tywod a roddwyd i Gymru yn dilyn pleidlais 1997 pan gafwyd trwch adain gwybedyn o fwyafrif yn cefnogi datganoli.

“Aeth cawell i chwilio am aderyn” – Franz Kafka

Meddai Leanne yn y cyflwyniad i “Cam nesaf y Rhondda”:

“Mae’n bryd unwaith eto i symud ymlaen o’r arweinwyr blaenorol, i ddod o hyd i ffyrdd newydd o drefnu a rhedeg y cymunedau lle’r ydym yn byw a’r economi lleol sy’n ein cynnal. Gallwn ein harwain ein hunain.”

A dyma sy’n cloi’r ddogfen:

“Mae llawer o’r mesurau a amlinellir yng ‘Ngham Nesaf y Rhondda’ yn galw am gefnogaeth gan lywodraeth leol a chenedlaethol. Hyd yn oed heb hynny, mae’n rhoi patrwm o’r hyn sydd angen ei wneud, gan adeiladu ar ein cryfderau a chynllunio at y dyfodol ar yr un pryd. Mae llawer y gallwn wneud drosom ein hunain, yn annibynnol. Gadewch i ni wneud hynny, gyda’n gilydd.”

Onid y geiriau “hyd yn oed heb hynny” sydd yn greiddiol?  Y sylweddoliad mai ofer, dan ein trefn fiwrocrataidd, ferfaidd, farwaidd yw disgwyl gwelliannau gwirioneddol drawsnewidiol.  Mai fframwaith sydd yn ei hanfod yn agored i lygredigaeth wleidyddol, foesol, ariannol ac amgylcheddol sydd gennym.  Fframwaith sy’n hawdd ei llywio i gyfeiriad neo-ryddfrydol a chyfalafol.  Fframwaith sy’n cuddio y tu ôl i rethreg a geirfa gamarweiniol, sy’n cyflwyno llymder fel polisi anorfod, sy’n analluog i ymaflyd codwm yn effeithiol ag annhegwch cymdeithasol, iechyd, cartrefi, amgylchfyd ac yn creu bwgan o’r arall.  Fframwaith sy’n ceisio cyflwyno cynlluniau mewn modd sy’n awgrymu nad oes yna ddim dewis arall yn bosib – mewn meysydd mor wahanol a chau ysgolion gwledig a chefnogi’r diwydiant arfau.

Cyflyrwyd ein pobl i fod yn wleidyddol anllythrennog.  Eu hymborth dyddiol yw gau gyfryngau sydd dan gesail yr elit rhyngwladol.  Byd-olwg lle mae elw’n frenin, a chenfigen a chasineb yn cael eu hyrwyddo i greu gelynion ffug.  Yn rhy aml o lawer, caiff pobl dlawd eu perswadio mai pobl dlotach neu wahanol yw’r gelyn, nid y cyfoethog.  Dyna pam mai talcen caled yw hi i sosialwyr mewn unrhyw blaid seneddol, yn enwedig i arweinyddion – mae’r pwysau arnynt i fod yn dawedog neu i fod yn ‘gymedrol’ ar faterion sy’n groes i’w daliadau yn aruthrol.  Wrth gwrs eu daliadau hwy sydd yn gymedrol, o’u cymharu â’r bytheirio anghymedrol o’r dde.  Felly mae plaid yn gweld mai’r gobaith gorau am lwyddiant mewn etholiad yw peidio ag ymddangos ormod i’r chwith – er mwyn ceisio apelio at bobl nad ydynt yn gefnogwyr naturiol, gan obeithio ar yr un pryd y bydd y cefnogwyr naturiol yn fodlon derbyn y dacteg fel realpolitik anorfod.

Cannwyll a ddiffoddwyd am y rhesymau hyn oedd arweinyddiaeth Leanne Wood.  Eithr erys ei fflam sosialaidd i losgi – y cwestiwn iddi hi ei ystyried ydi ymhle mae’r tanwydd i gynnau’r tân i gynhesu’r tŷ a elwir Cymru?

Ai cawell yw ei plaid iddi hi bellach?

“Rage, rage against the dying of the light” – Dylan Thomas

Symud ar garlam tua’r dde mae’r Deyrnas Gyfunol, a Chymru yn cael ei hysgubo gan y cerrynt peryglus sy’n bygwth ein hawliau sylfaenol, ein diogelwch, ein Gwasanaeth Iechyd, ein gallu i aros oddi fewn i’n cymunedau, ac yn y pendraw ein hunaniaeth fel Cymru.

Cysgod o gysgod gwan a welwn ni bellach o egwyddorion sosialaeth ym mholisïau a gweithredoedd y prif bleidiau sy’n ceisio ein darbwyllo eu bod ar y chwith yma.  Neo-ryddfrydiaeth yw ffrâm wleidyddol Cymru, a mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru ill dau yn gweithredu mewn modd sy’n dangos yn eglur eu bod yn gaeth i gyffur y bydolwg hwnnw lle mae nhw mewn grym – waeth sut mae eu rhethreg yn ceisio ein darbwyllo yn wahanol.  Sut arall mae egluro y diffygion amlwg i amddiffyn ein pobl rhag rhaib cyfalafiaeth?  A’r croeso a roddwyd i rai o’r enghreifftiau gwaethaf o’r bwystfil?

Gwlad sy’n dal dan warchae gan haint, gwlad yn gwegian gan argyfwng cartrefi gwledig a threfol, gwlad sy’n rhemp gan dlodi plant a gwlad sy’n siglo wrth geisio deall sut i ymdrin â hiliaeth a lleiafrifoedd o sawl math.

Gwlad sy’n llawn cymhlethdodau.

Ac eto gwlad rhyfeddol ei photensial.  Mae’n gyforiog o adnoddau naturiol y gellir eu defnyddio i greu swyddi a gwella ansawdd bywyd heb ddifetha’r amgylchfyd.  Mae’n gyforiog hefyd o adnoddau a thalentau dynol – a dagrau pethau ydi nad ydi’r rhain ddim yn cael eu defnyddio i gyflawni mwy na bwydo y peiriant sy’n eu llyncu, eu treulio, ac yna eu carthu i’r domen.

A hyn yn cael ei sgwennu yn ystod ymgyrch etholiadol ffyrnig yn y Rhondda lle mae Llafur Cymru bron a thorri ei bol eisiau adennill y sedd, a lle nad oes gan Leanne y sicrwydd o sedd ranbarthol wrth gefn, beth am geisio ateb fy nghwestiynau fy hun ar ddechrau hyn o lith?!

Beth yw sefyllfa sosialaeth yn y Gymru dymhestlog gyfoes?  Oddi fewn i’n sustem wleidyddol ffurfiol ac yn wyneb y diffyg amlwg yn drafodaeth gyhoeddus ar y cyfryngau arferol– gwan.  Y tu allan – yn fyw ac yn iach ond angen cyfeiriad eglur.

Oes yna, erbyn hyn, wleidyddion sy’n ddiedifar sosialaidd?  Oes, a nid Leanne Wood yw’r unig un.

Sut fath o lwyfan sydd ganddyn nhw bellach?  Cyfyngedig oddi fewn i’r pleidiau blaenllaw.

Ac os nad oes yna lwyfan cadarn, sut mae creu un o’r newydd?  Dyna, gyfeillion annwyl, eich tasg chi a minnau!  Gallai datblygiad llwyddiannus Mudiad Cymunedol Cymru (un arall o syniadau Sel Wilias sy’n aelod o Undod) fod yn un posibilrwydd.

Un sylw pryfoclyd i gloi – a fyddai sosialaeth Cymru ar ei hennill gyda Leanne yn rhydd o lyffetheiriau cynrychioli plaid os caiff ei threchu yn y Rhondda?  Gallai ei hawr dywyllaf droi yn wawr goch!!!  Mae gwleidyddiaeth yn llawer mwy na’r broses seneddol.

 

[1] https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaidrhondda/pages/1096/attachments/original/1617029284/Plaid_Cymru_Booklet_%28Welsh%29_%282%29-compressed.pdf?1617029284

[2] https://www.library.wales/digital-exhibitions-space/digital-exhibitions/europeana-rise-of-literacy/political-and-radical-publications/the-miners-next-step-being-a-suggested-scheme-for-the-reorganization-of-the-federation#?c=&m=&s=&cv=&xywh=-644%2C0%2C3473%2C2953

[3] https://www.mondragon-corporation.com/en/history/

[4] http://cwmnibro.cymru/

[5] https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaid2016/pages/1253/attachments/original/1490103127/Greenprint_PDF_final.pdf?1490103127

[6] https://d3n8a8pro7vhmx.cloudfront.net/plaid2016/pages/7060/attachments/original/1516013093/NewidSyddAngen%28Cym%29_%282%29.pdf?1516013093

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.