Ddydd Sadwrn, Tachwedd 21, cynhaliwyd tair rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ gan Gymdeithas yr Iaith am broblem tai haf – yn Llanberis, Aberaeron a Chaerfyrddin.

Roedden ni’n wlyb at ein crwyn ac roedd Llyn Padarn yn llwm ac yn llwyd. Mae Llanberis yn y glaw yn go wahanol i Lanberis yr Haf. Gan na chaiff pobl Lloegr ddod i Gymru, mae’n eitha gwag yn y pentref ar hyn o bryd. Diflannodd y stribed hir o’r camper-vans, ac roedd modd cael lle yn y maes parcio. Cawn gyfle i anadlu. Ond mewn ychydig byddwn ni’n ôl yn yr un hen drefn. Pobl yn heidio i’w hail gartrefi, a Chymry lleol methu fforddio byw yn eu cymunedau eu hunain. Mae o mor anheg.

Dwi’m wedi gwneud hyn o’r blaen, mynd ar daith rithiol ar draws y blynyddoedd i’r tai haf rydw i wedi ei meddiannu.

BETWS GARMON, Gorffennaf 1976

Fy ngweithred gyntaf oedd hon – torri ffenest tŷ haf i dynnu sylw at y nifer o dai haf yng Nghymru. Roedd Edward H. Dafis wedi crisalu’r broblem yn eu clasur o gân ‘Tŷ Haf’,

‘O mae’n braf cael byw mewn tŷ haf! Mae hi’n sbri cael perchen dau dŷ,

O, wi’n dwlu dod i Gymru a dwi’n dod bob cam o Surrey bob haf…’

Dim ond ers rhyw 3 blynedd oedd Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn gweithredu yn y maes hwn. Un o’r raliau enwocaf oedd yr un yn Rhyd lle roedd bob tŷ yn y pentref yn dŷ haf.

Enghraifft drist arall oedd Derwen Gam pan werthwyd pentref cyfan yng Ngheredigion oedd yn eiddo i un teulu. Diflanodd y Cymry a daeth pobl o Loegr i mewn.

PORTHMADOG, Ionawr 1977

Tai ar y cei ym Mhorthmadog oedd y rhain – tai oedd yn amlwg wedi eu codi yn bwrpasol fel tai gwyliau, dwi’n cofio fod Vaughan Roderick ymysg y criw ohonom a feddiannodd y tŷ hwn. Doedd y Llywodraeth heb gymryd unrhyw gamau i wella’r sefyllfa.

BANGOR, Ionawr 1982

Dim tŷ penodol oedd dan sylw y tro hwn, ond tai. Ers 1979, roedd tai haf yn cael eu llosgi gan Feibion Glyndŵr, ac felly roedd sylw Cymdeithas yr Iaith yn mynd ar ralïau yn erbyn stadau tai di-angen megis y rhai yn Gaerwen a Harlech. Fis Ionawr 1982, dyma gyflwyno cerdyn i Wyn Roberts efo’r geiriau ‘Blwyddyn Newydd Well i’r 1,922 o deuluoedd ar y rhestr aros am dai yn Aberconwy ac Arfon’. Erbyn y Steddfod roedd slogannau ar uned y Swyddfa Gymreig ‘18,000 o dai haf – Gwarth!’ Ni wnaeth y Llywodraeth unrhyw beth.

LLIDIARDAU, Ebrill 1983

Dim tŷ haf rywun rywun oedd hwn. Roedd yn perthyn i Aelod Seneddol Ceidwadol, Anthony Steen. Run stori oedd hi – pobl gyfoethog yn gallu fforddio dau dŷ, eraill methu fforddio yr un. Ni weithredodd y Llywodraeth o gwbl ar y mater.

BLAENAU FFESTINIOG 1987

Meddiannu tŷ gwag ddaru ni y tro hwn, i ddangos fod modd adfer eiddo mewn pentref a’i rentu i bobl leol. Ond roedd y sefyllfa yn prysur waethygu, a dyma fynd ati i gychwyn yr ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ efo mi a Dyfed Wyn Edwards yn arwain yr ymgyrch. Un fuddugoliaeth gafwyd ym maes tai oedd cael y Swyddfa Gymreig i wrthod apêl datblygwyr ar sail perygl i’r Gymraeg. Ond ym maes tai, doedd gan cynghorau bellach mo’r hawl i brynu tai.

Aeth yr ymgyrch Nid yw Cymru ar Werth ymlaen i fod yn un o ymgyrchoedd mwyaf poblogaidd Cymdeithas yr Iaith. Penllanw’r ymgyrch oedd Alun Llwyd a Branwen Nicholas yn cael eu carcharu ddechrau’r Nawdegau, a channoedd yn mynychu ralïau i gefnogi yr ymgyrch.

Mae 30 mlynedd wedi mynd ers hynny, ac mae’r sefyllfa cynddrwg ag y bu erioed.

Bellach mae gan Gymru ei Senedd ei hun, ond does dim camau wedi ei cymryd ganddi i atal tai haf. Fedrwch chi ddim ymyrryd yn y farchnad rydd yw’r esgus a glywn yn rheolaidd.

Ond mae’r broblem mor ddifrifol ag erioed.

Siaradodd Elin Hywel, Mabon ap Gwynfor a Rhys Tudur yn y rali yn Llanberis. Llynedd, yng Ngwynedd, roedd 40% o’r tai a brynwyd yn y sir yn dai haf. Fedrwch chi gredu hynny? 30 mlynedd yn ôl, plant oedd Mabon, Rhys ac Elin. Yn ystod ei oes mae Rhys Tudur wedi gweld Morfa Nefyn, ei bentref genedigol, yn newid ei gymeriad – mae mwy a mwy o dai haf, a llai o bobl leol yn gallu fforddio tŷ. Mae Covid wedi gwneud sefyllfa wael yn un drychinebus. Prin gaiff tai fod ar y farchnad cyn bod rhywun o’r tu allan wedi ei prynu i fod yn dai gwyliau neu yn dai Airbnb. Mae 60% o boblogaeth Gwynedd methu fforddio tŷ. Mae’n fater o frys rwan i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth. Mae 6,000 o bobl wedi arwyddo deiseb i alw ar i’r mater gael ei drafod yn y Senedd. Oni wneir rhywbeth yn fuan, bydd yn rhy hwyr i newid y sefyllfa.

A minnau, bellach? Wel, mi lwyddo i brynu tŷ ym Mhenygroes ganol y Nawdegau. Tŷ pâr ydi o, a dwi’n cofio’r cymydog o Sais drws nesaf pan brynais i o yn edrych arna i yn go bryderus.

“I hear people like you burn English people’s houses” medda fo. Finna’n deud mai peth gwirion iawn fydda rhoi matsien mewn tŷ os oedd hwnnw drws nesa i mi – hyd yn oed petawn i’n cytuno efo’r fath dacteg. Yn y bôn, roedd Ernie a minnau’n deall ein gilydd. Ond bu farw Ernie, a rhyw jôc wael ydi hi fod drws nesa – ers saith mlynedd bellach – yn dŷ haf.

Ydi, daeth cân Edward H wedi dod yn wir yn fy achos i. Dim ond mai o Bedford, yn hytrach na Surrey y daw’r perchnogion. Mae eisiau gras ‘toes?

2 ateb ar “Tai i Gymru, nid tai haf”

  1. I get what is said about the evil English stealing the land, BUT, in many areas outside big cities and towns there is NOTHING, no industry, no manufacturing, not even much of a service industry, areas that’ll take a buck from anyone, and not care how!

    English holiday money is a vital contributor to Wales’ economy. Wales has horrendous transport issues, issues that preserve the ‘antique’ quaintness many tourists seek, but mean for most English a day trip is not possible.

    After living in Wales for 30 years it took living in England to realise that the ‘cuteness’ that for many countrymen makes Wales “Wales”, are keeping it in the past. We’re not sending kids down into mines anymore…the Gresford Disaster is history, our women don’t spend the day in traditional costumes keeping house and baking.

    I was always surprised how it took longer to travel north/south in Wales than from South Wales to London.

    I’d like to know what the economic impact on Wales has been with our shortage of tourists.

    I guess what I’m saying is that it’s OK for people with independent wealth or guaranteed income to want to kick the English out, but the reality for most of us is we need income from tourists…if there’s nowhere to stay, no one will come to Wales.

    True, holiday homes may be pricing locals out of the housing market, however, if there’s no tourist income a lot of people will leave Wales for England and its embracing the future and leaving the past where it should be!

  2. I am not a man of independent means and I am a Welsh speaker, but I have to to write in English for monoglot English to understand me which is a hindrance to the Welsh culture. I am also one of them who were sent down the mines. The antique quaintness of Wales which has been now given World Heritage is good for Wales and the Tourist when under control are also good for the economy of Wales.
    What is not good for Wales is the English coming in their thousands to live here. They have no respect for our culture, our language, or our community, I remember many years ago going to Rhyd a little village near Maentwrog on a peaceful protest as the last home had been sold to the English, they were throwing buckets of water over us and abuse in our faces, what would the English do if this happened in England with the immigrants that come there?.
    By the way, the children being sent down the mines and the Gresford Disaster and also many more disasters and loss of life that occurred in Wales was to do with the greed of the English owners, the lack of roads and railways between North and South Wales are a case of divide and rule by the English Government, which is only now being reversed.
    The English can live here fore 30 years or more and be still ignorant of the Welsh and Wales.
    What did the the English do when their bit of land and culture was under threat during the first and second World War.
    Diolch

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.