I ni, bobl Cymru, roedd nos Iau yn gadarnhad i nifer cynyddol ohonom nad oes dyfodol i ni a’n plant o fewn strwythurau’r wladwriaeth Brydeinig. Gallasai cynghreirio rhwng ein pleidiau ‘blaengar’ wedi achub y dydd o safbwynt cadw y Toriaid mas o’n etholaethau seneddol, ond gweithred dros dro byddai hynny wedi bod, y byddai wedi celu’r hyn sydd yn digwydd ledled Ynys Prydain, sef ymddieithrio pellach o’n dosbarth gwleidyddol, anobaith, a rhwystredigaeth yn wyneb degawdau lawer o ddioddef.

Mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn rhyddhau ein hunain. Gyda ni, y bobl, y mae’r grym. Y mae mudiadau blaengar hanesyddol, a mudiadau llwyddiannus cenedlaetholgar, wastad wedi codi o’r bobl, a rhaid i ni bob tro atgoffa ein hunain o hynny, mewn byd lle mae’n teimlo’n gynyddol anodd i ddylanwadu ar yr hyn sydd o’n cwmpas. A mae gobaith yn parhau i ni yng Nghymru, am y tro. Yn ein calonnau, yn ein hetifeddiaeth, yn ein profiad cyfunol o frwydrau dros ein hawliau, ein hiaith a’n bodolaeth, mae gennym yr ewyllys a’r gallu i frwydro yn ol. Merthyr, y Siartwyr, Ysbryd Beca, pentrefi chwarel y gogledd, y maes glo yn y De; rhaid i ni ailafael yn ysbryd brwydrau’r gorffennol er mwyn diogeli heddiw ein gweithwyr, ein lleiafrifoedd a difreintiedig, a’n hamgylchfyd – a chreu dyfodol o’r newydd.

Roedd dedfryd yr etholiad ar y Deyrnas Gyfunol yn derfynol. Rhaid i ni beidio a gochel rhag gwirioneddau’r canlyniad. Yn wyneb casineb, celwydd, dirmyg, eithafiaeth, hiliaeth, llymder, propaganda, a’r addewid o rwygo’n yfflon yr hyn sydd ar ol o’r wladwriaeth les, fe bleidleisiodd Prydain dros Boris Johnson a’r Blaid Doriaidd mwyaf asgell dde ac adweithiol yr oes fodern. Ymhellach, fe aeth bron i 40% o’r bledlais yng Nghymru i’r un blaid – yn symbol o fethdaliad moesol ein gwleidyddiaeth ni oedd y 27,000 pleidlais ym Mro Morgannwg dros Alun Cairns, gwas bach Boris Johnson, dan ymchwiliad plaid ei hun am gefnogi dyn a ddrylliodd achos llys o draes rhywiol.

A’r gwrthblaid wedyn yn rhanedig, yn cloffi o dan arweiniad gwleidydd y chwith sydd wedi cael ei danseilio’n llwyr. Fe welwn bron yn ddyddiol ymdrech gwleidyddion prif ffrwd Llafur i danseilio rhaglen sosialaidd go iawn y blaid honno, gan amlygu ei natur ragweithiol. Deilliai eu trafferthion hefyd o’r wasg elitaidd Brydeinig, sydd yn cynrychioli’r buddiannau’r dosbarth hynny all sicrhau na fydd y Deyrnas Gyfunol byth yn wladwriaeth gyfiawn sydd yn edrych ar ôl buddiannau’r gweithwyr, lleiafrifoedd a’r difreintiedig. Gan gydnabod gwendidau Corbyn fel arweinydd, rhaid cydnabod y strwythurau dyfnion yma bydd pob tro yn llethu newid er y gwell yn y Deyrnas Gyfunol. Yn wir, y strwythur fwyaf gaethiwus ohonynt i gyd yw traddodiad unoliaethol llafur, nad sydd yn caniatau cydraddoldeb i Gymru – ac fel mae datganoli yn profi, yn sicrhau statws eilaidd ni waeth be fo’r setliad cyfansoddiadol. Cadarnhad yw’r etholiad hwn mai ffug yw unrhyw obaith o achubiaeth i gymunedau Cymraeg, trwy law y wladwriaeth a’r Blaid Lafur Brydeinig.

Y mae Plaid Cymru yn parhau i ymdrechu’n gryf yn ei ardaloedd traddodiadol a ledled y wlad. Mae’n rhan annatod o’r mudiad torfol sydd ei angen i greu newid go iawn, ond peryg yw gorddibyniaeth ar un blaid, yn enwedig lle mae ennill tir o’r newydd wedi profi’n anodd. Yn wyneb yr her yma, ac ar sail y gobaith o’r newydd y mae’r mudiad cenedlaethol yn cynnig, rydym yn annog chi ymuno gydag Undod, i newid Cymru er y gwell.

Clodforwn YesCymru ac AUOBCymru am eu gwaith caled yn arwain y ffordd at annibyniaeth.

Gwaith Undod yw sicrhau bod gan y mudiad hwnnw weledigaeth o Gymru sydd yn wrthbwynt i’r gwleidyddiaeth wenwynig, gormesol, ymerodraethol y sefydliad Prydeinig, sydd yn cynnig gobaith ac uchelgais – ac ein bod ni’n dechrau gweithredu ar y weledigaeth honno nawr. Rhaid i ni uno grymoedd blaengar Cymru, rhaid i ni sefyll yn gadarn a datgan yn glir o blaid cymdeithas amgen, a chreu realiti newydd sydd yn ymateb i heriau bywyd beunyddiol pobl, ac yn cynnig rhyddfreiniad o fileindra’r gymdeithas gyfoes.

Nid oes amser i’w colli, ymunwch heddiw.

7 ateb ar “Ymunwch ag Undod heddiw”

  1. Pwy sydd y tu ôl i Undod? Pwy sy’n ariannu’r sefydliad heblaw am yr aelodaeth? A oedd unrhyw ymgeiswyr yn yr etholiad? Gofyn fel rhywun sy’n byw dramor.

  2. Helo Gwenllian, sut mae?

    Grŵp ymgyrchu/pwyso/gweithredu ydy Undod nid plaid wleidyddol. Nid oedd unrhyw ymgeiswyr yn yr etholiad.

    Am ychydig misoedd mae criw o bobl o gefndiroedd ac ardaloedd gwahanol wedi trefnu’r erthyglau yma, digwyddiadau, ayyb ac rydym yn awyddus iawn i denu mwy o aelodau a chyfranogaeth.

    Yr aelodau sy’n gwirfoddoli ac yn ariannu (pethau bychain fel baneri, sticeri a’r wefan hyd yn hyn. Y bwriad yw i gynnig cyfrannu ariannol ar y wefan – i’r rhai sydd am wneud hynny.)

  3. I am English and live in the Valleys. I love Wales and been an active member of Plaid Cymru for 6 years. I agree with the premise of Undod but find it frustrating when comments are not bilingual as l cannot read or speak Welsh. So often l hear people say they won’t vote Plaid cos it’s only a party for Welsh speakers.

  4. Shwmae Denise? My name is Carl and I work on the Undod website on a voluntary basis.

    I appreciate that you might like to take part in the conversation through the medium of Welsh. Perhaps you might know somebody who could help you to understand the comments written in Welsh? The only reason that I can understand them is because other people have helped me (as somebody originally schooled through the medium of English).

    For the website we have a policy of accepting comments in Welsh, and unapologetically so, as well as in English. Nevertheless I will have a think about how we can reach more people with the messages of Undod, and converse with more people.

  5. Denise it’s not perfect but if you put comments into Google translate, small sentences at a time, you’ll get a rough translation. It’s quick and easy. Carl may be aware of better tools. Also why not start learning Welsh, Duo Linguo is a free app that can help start the process and there are various courses available locally. Pob lwc.

  6. I think this is viewing the situation from/with a negative perspective and hope you all agree with becoming much more positive toward your/our future outlook ! stick to it over human rights and the cross party merger with a view to formation of the administration and establishment of the welsh financial institute, neutral status and dealing with internal affairs first and formost , the open forum through our media to debate , homelessness,benefits and legeslative reform, current lending policies and the economy in respect of human rights standards if we are going to get anything done ! dont compete, unite, what about end hunger and financial security are human rights ! Pete x

  7. dont forget about the green eco/nomy , recycling , green projects more responcible forest stewardship, energy production, with greater controle over our recourses ! neuclear free state and the feel good factor from it !? Pete x be positive ! win !

Mae'r sylwadau wedi cau.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.