Mae Undod yn cydsefyll â chymunedau Sipsiwn Roma a Theithwyr a’r protestwyr ym Mryste sydd wedi dioddef ymosodiadau ciaidd gan yr heddlu yr wythnos ddiwethaf, tra’n gwrthdystio yn erbyn y Mesur Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd. Os caiff ei basio, bydd y ddeddfwriaeth hon yn dileu’r hawl i dresmasu, gydag effaith ddinistriol ar fywydau pobl grwydrol Sipsi Roma a Theithwyr. Bydd gan yr heddlu pwerau i atafaelu cerbydau, a bydd cosbau am dresmasu yn cael eu cyflwyno, gan gynnwys dirwyon o hyd at £2,500, a hyd at dri mis o ddedfryd o garchar. Bydd hyn i bob pwrpas yn troi eu ffordd o fyw yn drosedd cyfreithiol. Yr ydym yn condemnio’r Bil hwn, ac yn sefyll mewn undod â phawb sy’n ei wrthwynebu.

Rydym yn condemnio ymdrechion gan heddlu Gwlad yr Haf ac Avon a’r cyfryngau prif ffrwd i greu’r argraff taw terfysgwyr treisgar yw’r protestwyr yma, gan gynnwys y celwyddau (sydd wedi’u dad-ddweud erbyn hyn) am anafiadau swyddogion yr heddlu ar noson yr 21ain o Fawrth. Mae lluniau a thystiolaeth uniongyrchol o’r protestiadau ym Mryste ar yr 21ain a’r 26ain o Fawrth yn cyfleu’n mewn modd amlwg mai protestiadau heddychlon oedd rhain, a drodd yn dreisgar yn ddiweddarach, mewn ymateb i gynnydd yn y bygythiadau tactegol gan yr heddlu. Roedd y tactegau hyn yn cynnwys defnydd o ‘kettling’, byddino nifer fawr o heddlu terfysgol a heddlu marchogol a hynny mewn modd anghymesur, a cham-ddefnydd amhriodol, anniogel a threisgar o offer yr heddlu megis defnydd o dariannau i ‘lafnu’ (blade) brotestwyr (fel y dangosir yn glir mewn sawl rhan o’r deunydd fideo).

Yr ydym yn  ffieiddio at, ac yn condemnio’n gryf Heddlu De Cymru am ymuno gyda’r ymateb yma i’r brotest ym Mryste.

Rydym yn annog pawb sydd yn erbyn y Mesur Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd, i wrthsefyll ymdrechion i rannu’r mudiad gan y sawl sy’n ceisio pardduo protestwyr Bryste.

Mae digwyddiadau’r wythnosau diwethaf wedi’i gwneud yn gwbl glir bod yr heddlu’n gweithredu i ddiogelu’r Wladwriaeth Brydeinig, nid pobl a chymunedau. Gadewch inni symud y tu hwnt i sôn am ddiwygio, ac yn hytrach adeiladu rhywbeth newydd.

Mae Undod yn ymgyrchu dros roi terfyn ar greulondeb yr heddlu, ac maent yn gweithio i adeiladu systemau amgen o atebolrwydd cymunedol a all ein helpu i symud tuag at ddyfodol lle mae pobl wedi’i rhyddhau o effeithiau niweidiol plismona treisgar ac atgas at fenwyod, yn ogystal â’r system garcharu.

 

#####

Gallwch gefnogi protestwyr ym Mryste fan hyn

Gallwch gefnogi sipsiwn Roma a theithwyr fan hyn

 

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.