Sut mae rhywun i fod i deimlo pan fo awdurdod lleol yn penderfynu gohirio ymgynghoriad megis y gwnaeth Cyngor Sir Gâr yn ddiweddar yn achos ysgolion Blaenau a Mynydd y Garreg fel ei gilydd?  Ymdeimlad o ryddhad fod yna elfen o drugaredd ar waith?  Gobaith na fydd yr ymgynghoriad yn digwydd o gwbwl?  Ynte ymwybyddiaeth anghyfforddus mai ysbaid dros dro yng nghanol storm yw hyn yn ei hanfod?  Yn sgil yr ymwybyddiaeth honno daw ofnusrwydd ac yn wir bryder gwirioneddol ymhlith rhieni, staff, disgyblion a thrigolion am yr hyn a ddêl.  Rhyw arswyd sylfaenol mai dim ond mater o amser ydyw cyn y bydd yr awdurdod lleol yn cael ei ffordd.

Tybed?

Mae awdurdodau lleol Cymru oll wedi eu rhwymo gan Fesur y Gymraeg 2011 i brofi eu hachos dros gau ysgol ar sail effaith penderfyniad o’r fath ar y Gymraeg fel iaith gymunedol.  Mae hynny oherwydd mai penderfyniad polisi yw penderfyniad o’r fath. Mae dyletswyddau penodol yn rhwymo awdurdodau lleol drwy’r Hysbysiadau Cydymffurfio a osodwyd arnynt gan Gomisiynydd y Gymraeg i ystyried yr effaith ar y Gymraeg wrth ymgynghori am benderfyniad polisi, a chyn gwneud penderfyniad o’r fath.

Er mor ddiffygiol y broses bresennol, pe bai awdurdodau lleol yn dilyn y deddfau sydd eisoes yn bodoli yn briodol, a phe buasent yn gweithredu yn gwbl ddiragfarn ac yn hollol wrthrychol, a phe bai yna reoleiddio cadarn yn digwydd yn y cyswllt hwn, ni fuasai cyhoeddi ymgynghoriad yn arwain yn anochel at gau ysgol.  Mae’r trefniadau dan Fesur y Gymraeg 2011 yn golygu bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i wneud y gwaith caib a rhaw o ran ystyried beth y maent ar fin ei golli o ran y Gymraeg fel iaith gymunedol cyn penderfynu a ydynt am fwrw mlaen â’r cam di-droi’n-ôl arfaethedig ai peidio.  Mae hefyd yn golygu bod dyletswydd arnynt fod â chynllun pendant i lenwi’r gwagle os ydynt wedyn yn parhau ar yr un trywydd. Dro ar ôl tro, fodd bynnag, gwelwyd awdurdodau lleol yn esgeuluso ystyriaeth o’r fath, gan gyfyngu eu sylwadau a’u pendroni i’r effaith ar addysg Gymraeg yn unig, heb grybwyll o gwbl yr effaith ar hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol yn sgil cau ysgol bentref.

Fel y crybwyllais, mae angen gwaith caib a rhaw manwl, ond nid ymddengys fod awdurdodau lleol yn credu mai drwy chwys dy wyneb y bwytei fara o ran dyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau. Yn eironig ddigon, aeth parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n ystyried mai canoli’r ddarpariaeth mewn adeiladau ysgol newydd yw’r unig lwybr gwerth chweil ar gyfer addysg Gymraeg.  Eironi pellach yw nad yw’r adeiladau newydd, er gwaetha’r miliynau o bunnoedd o wariant, yn aml yn creu mwy na chynnydd pitw yn y ddarpariaeth ychwanegol i ddiwallu’r cynnydd yn y galw.

Nid yw hynny o eiriau a ddarperir gan awdurdodau addysg mewn ymgynghoriadau ysgolion yn aml yn ateb gofynion Mesur y Gymraeg. Nid oes ond raid cael cip sydyn ar esgyrn sychion o astudiaethau effaith ar y Gymraeg yn ymgynghoriadau ysgolion Abersoch, Mynydd y Garreg a Blaenau, Rhydaman i weld nad ydynt yn dod yn agos at gydymffurfio.  Nid yw Cynghorau Plaid Cymru Gwynedd a Sir Gâr ysywaeth yn eithriad yn hyn o beth. Mae’n arswydus meddwl nad ydynt fel pe baent wedi troi eu meddyliau am funud at yr effaith bosibl y byddai cau ysgol bentref yn ei chael ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’n deg gofyn yn wir a oes unrhyw awdurdod lleol ar hyd a lled Cymru wedi cymryd y ddyletswydd hon o ddifri?

Er i asesiad effaith ar y Gymraeg Cyngor Môn yn yr ymgynghoriad ar ysgolion Bodffordd a Chorn Hir esgus bach fynd drwy’r mosiwns o gynnwys ieithwedd roddai’r argraff eu bod wedi ystyried yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ganddynt (e.e. y sylw agoriadol sy’n dynwared union eiriad Mesur y Gymraeg ‘Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi mabwysiadu’r egwyddor na ddylai’r iaith Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg, ac y dylai trigolion yr ynys allu byw eu bywydau drwy gyfrwng y Gymraeg os dymunant wneud hynny’), mae ffurf cwestiwn ac ateb llawer o’r cyfryw asesiad yn ymagweddu mwy fel plant ysgol gynradd yn rhoi’r atebion  yr oedd yr awdurdod am eu clywed yn hytrach na bod yn ddadansoddiad treiddgar a diduedd a chanddo rithyn o ymchwil trwyadl a gwybodaeth arbenigol yn perthyn iddo (.  Yn bwysicach, mae hefyd yn dilyn y ffasiwn cenedlaethol o gyfystyru ‘cymuned’ a ‘chymuned addysgol’ wrth ystyried yr effaith ar y Gymraeg.  Nid oes argol fod Gwynedd na Sir Gâr hwythau wedi teimlo pwysau o fath yn y byd i hyd yn oed roi’r argraff eu bod ag awydd ufuddhau i unrhyw drefn statudol.

Mae felly yn deg gofyn a yw awdurdodau lleol ar hyd a lled Cymru yn gweithredu fel cyrff democrataidd mewn perthynas â chau ysgolion Cymraeg?  Lle mae’r enghreifftiau o ymarfer da o ran astudiaethau effaith ar y Gymraeg ar lefel gymunedol?  Cyhoeddwch hwy yn groch os ydych yn digwydd gwybod os gwelwch yn dda.  Yn achos yr ymgynghoriadau cyfredol ar ddyfodol Abersoch, Mynydd y Garreg a Blaenau, nid oes tamaid o dystiolaeth o ymgynghori gyda’r cymunedau lleol ar effaith debygol cau eu hysgolion pentref ar y Gymraeg fel iaith yn y gymdeithas y tu hwnt i furiau’r ysgol, nac arwydd o fath yn y byd fod y naill gyngor na’r llall wedi ysytyried hyn o gwbl.  Nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw gynghorydd wneud penderfyniad ar fater mor greiddiol ac arwyddocaol â chau ysgol Gymraeg mewn pentref Cymraeg heb ystyried y cwestiwn hwn, hyd yn oed pe na bai’r gyfraith yn mynnu ei fod yn cael ei ystyried.

Amlygir yr agwedd ysgafala hon tuag at y Gymraeg fel iaith gymunedol ar ran y Cynghorau er gwaetha’r ffaith fod Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod fod Cyngor Llafur Dinas a Sir Abertawe wedi torri safonau iaith wrth gau Ysgol Gymraeg Felindre am yr union reswm hwn. Yn benodol, dyfarnodd y Comisiynydd na fu ystyriaeth ddigonol o’r effaith ar y Gymraeg gan fod hynny o ystyriaeth wedi ei chyfyngu i’r effaith ar y gymuned addysgol: nid oedd y Cyngor wedi dadansoddi unrhyw effeithiau negyddol na chadarnhaol tebygol yn y gymuned ehangach o gau; nid oedd chwaith yn cynnwys dadansoddiad o ddemograffeg yr ardal na chanrannau na niferoedd siaradwyr na defnyddwyr. Nododd y Comisiynydd y gallasai astudiaeth drylwyr ddadansoddol fod wedi arwain Cyngor Abertawe i gredu mai cam gwag oedd cau ysgol Felindre – yr ysgol bentref olaf yn y pentref Cymreiciaf yn Sir Abertawe oll.

Wrth drafod ei ddyfarniad gyda Bethan Rhys Roberts ar raglen Newyddion fe ddywedodd Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, nad oedd ganddo rym i atal na gwyrdroi’r penderfyniad i gau ond y buasai methiant Cyngor Abertawe i gydymffurfio â’r safonau yn wers i awdurdodau lleol eraill yn y dyfodol i beidio â syrthio’n fyr o’r nod oedd wedi ei osod ganddo – gan awgrymu mai dyna mewn gwirionedd oedd gwerth pennaf y canfyddiad.  Er iddo fodd bynnag osod sancsiwn ar Gyngor Abertawe i gyhoeddi’r methiant ar eu gwefan, dal i aros yr ydys dros flwyddyn yn ddiweddarach i weld hynny ac amryw o sancsiynau eraill yn cael eu gwireddu.

Nid yw Cyngor Abertawe wedi cydymffurfio â gorchymyn y Comisiynydd i roi cyhoeddusrwydd i’w fethiant.  Yn anffodus, nid yw Comisiynydd y Gymraeg chwaith wedi cymryd unrhyw gamau gorfodi pellach yn sgil y methiant hwnnw.  Efallai fod hyn yn esbonio’n rhannol agwedd ryfedd yr awdurdodau lleol eraill: os yw Abertawe’n gallu anwybyddu’r Comisiynydd, pam nad nhw?  Beth bynnag fo’r rheswm, mae awdurdodau lleol ledled Cymru wedi dewis llwyr anwybyddu’r gofyniad cyfreithiol i ystyried a chynnal astudiaeth drylwyr o’r effaith ar y Gymraeg fel iaith gymunedol wrth gynnal ymgynghoriadau ar ddyfodol ysgolion.  Mae pa mor effro yw awdurdodau lleol i wers Felindre yn codi cwestiynau pellgyrhaeddol hefyd am ba mor deg a thryloyw a chytbwys yw’r gyfundrefn bresennol sydd yn amlach na pheidio â’i bryd ar fynd ynghyd â chau ysgolion Cymraeg yn ddirwystr yn enw cynnydd.  Yn ôl tystiolaeth yr ymgynghoriadau sydd ar y gweill ar hyn o bryd, dilyn Cyngor Abertawe yn bur slafaidd y mae awdurdodau lleol eraill hyd yn oed yn yr ardaloedd a ystyrid yn draddodiadol yn gadarnleoedd y Gymraeg megis Sir Gâr a Gwynedd lle mae Plaid Cymru bellach yn mwynhau bod mewn grym.  Dylai Cyngor Sir Gwynedd a Chyngor Sir Gâr a phob awdurdod lleol arall perthnasol fod yn mynd i’r afael â hyn yn awr cyn mynd gam ymhellach ag unrhyw ymgynghoriad gan y buasai’n anffodus, a dweud y lleia, pe baent yn syrthio i’r un fagl â Chyngor Dinas a Sir Abertawe a’r rhybudd eisoes wedi ei seinio gan Aled Roberts.

Yn y cyfamser, buaswn yn annog cyfranogwyr o ymgynghoriadau ysgolion Cymraeg o dan fygythiad lle bynnag y bônt gan gynnwys ysgolion Cymraeg Mynydd y Garreg, Blaenau ac Abersoch i gyflwyno eu cwynion i’r awdurdod perthnasol ar fyrder ac yna i Gomisiynydd y Gymraeg, oni chânt eu llwyr fodloni i’r asudiaeth o’r effaith ar y Gymraeg yn y gymuned y tu hwnt i ffiniau’r ysgolion dan sylw gael ei chyflawni yn bwrpasol ac yn ystyrlon.

Wedi’r cyfan, nid yr ysgolion sydd ar brawf yn y fan hon yn gymaint â’r awdurdodau lleol, Comisiynydd y Gymraeg heb sôn am gyfiawnder a democratiaeth y gyfundrefn gyfan.

****************************************************

Atodiad

Gan nad yw gwefan Comisiynydd y Gymraeg yn weithredol ar hyn o bryd, wele isod y darnau mwyaf perthnasol o adroddiad y Comisiynydd dros flwyddyn yn ôl ar y penderfyniad cibddall i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre.  Cysyllter â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg am gopi cyflawn.  Defnyddiwyd print trwm gennyf i bwysleisio’r egwyddorion creiddiol:

2.32 Mae safonau 88, 89 a 90 yn ei gwneud yn ofynnol ar y Cyngor i ystyried pa effeithiau, os o gwbl, y byddai penderfyniad polisi yn eu cael ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, pa un ai yw’r rheiny’n effeithiau positif neu’n andwyol.

2.33 Golyga hyn bod angen i’r Cyngor ystyried a nodi’r holl effeithiau perthnasol y gall penderfyniad polisi eu cael ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg neu ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

2.34 Mae’r rhestr isod yn cynnig rhai ffactorau y credaf y gallai’r Cyngor fod wedi eu hystyried wrth asesu effaith y cynnig i gau YGG Felindre er mwyn sicrhau bod yr asesiad yn un priodol ac ystyrlon.

¢  A fydd yn cynnig yn cael effaith ar nifer neu’r ganran o bobl sy’n gallu siarad Cymraeg (neu unrhyw sgil arall)?

¢  A fydd yn cynnig yn cael effaith ar nifer neu’r ganran o bobl sy’n defnyddio’r Gymraeg?

¢  A fydd y cynnig yn gwarchod, yn hybu ac yn cyfoethogi treftadaeth a diwylliant yr ardal dan sylw mewn perthynas â’r Gymraeg? 

2.35 Gallai asesiad o effaith ieithyddol hefyd gynnwys y canlynol er mwyn rhoi sylw priodol i ofynion y safonau:

¢  Nodi unrhyw effeithiau positif ar y Gymraeg;

¢  Nodi unrhyw effeithiau andwyol ar y Gymraeg;

¢  Ystyried sut y gallai’r polisi neu’r ymarfer hyrwyddo’r cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg yn ehangach;

¢  Ystyried a fydd y polisi yn effeithio ar drin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r

Saesneg;

2.36   Ar ôl ystyried yr holl effeithiau mae’n ofynnol rhoi ystyriaeth ddyledus i ganlyniadau effaith o’r fath. Mae safon 89 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ystyried sut y gellir llunio polisi (neu newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel y byddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.  Mae safon 90 yn ei gwneud yn ofynnol ar y Cyngor ystyried sut y gellir llunio polisi (neu newid polisi sydd eisoes yn bodoli) fel na fyddai’r penderfyniad polisi’n cael effeithiau andwyol, neu fel y byddai’n cael effeithiau llai andwyol ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Golyga hyn bod yn rhaid i’r Cyngor ystyried unrhyw opsiynau i liniaru neu atal effeithiau andwyol y gall y penderfyniad polisi ei gael ar yr iaith Gymraeg. Rhaid hefyd ystyried yr opsiynau o ran sut i sicrhau effeithiau positif, neu effeithiau mwy positif ar y cyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg

 

2.42 Nodaf fodd bynnag, tra bo’r adroddiad yn trafod effeithiau cadarnhaol y cynnig ar ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg o fewn y sir, nid oes tystiolaeth i’r Cyngor ystyried ac asesu effaith y cynnig ar y Gymraeg y tu hwnt i addysg. 

Adroddiad Ymgynghori: Cynnig i Gau YGG Felindre

2.45 Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd mewn ymateb i’r ymgynghoriad, ac ymateb y Cyngor i’r materion a godwyd. Mae pwyntiau 40 i 49 yr adroddiad yn rhestru materion a godwyd oedd yn ymwneud yn benodol â’r Gymraeg.

Mae un sylw yn cyfeirio at ddemograffeg ieithyddol ward Mawr. Nid yw’r Cyngor wedi cynnig ymateb i’r sylw hwn.

Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg

2.46 Cyhoeddwyd dwy ddogfen oedd â’r teitl hwn. Roedd y ddogfen gyntaf yn asesiad cyn-ymgynghori, a’r ail yn fersiwn diweddarach sy’n cynnwys adran ar y sylwadau a dderbyniwyd ac ymateb y Cyngor i’r sylwadau hynny.

2.49 Y ddau baragraff olaf yn unig felly sy’n ystyried yr effaith ar y Gymraeg yn benodol.  17. O ystyried y cefndir yma ac yn unol gyda’r buddion a restrir uchod credwn bydd y cynnig yn arwain at effaith bositif ar ddatblygiad yr Iaith Gymraeg yn Abertawe.

  1. O ganlyniad, mae’r Cyngor yn fodlon y bydd y ddarpariaeth Iaith Gymraeg yn gwella yn Abertawe. 

2.51 Nid oedd y ddogfen wedi ystyried a oedd unrhyw elfennau negyddol i’r cynnig, nac wedi ceisio canfod beth fyddai effaith y penderfyniad ar faterion nad oeddynt yn ymwneud yn uniongyrchol ag addysg yr ardal, materion megis effaith symud yr ysgol o’r gymuned ar ddiwylliant yr ardal, cyswllt trigolion yr ardal â’r Gymraeg yn sgil hynny ayb. Nid oedd yn ymdrechu i ganfod a oedd y buddion yr honnir y byddai’n dod i addysg Gymraeg yn yr ardal gymaint nes ei fod yn gorbwyso unrhyw effeithiau andwyol eraill posibl.  

Asesiad Effaith Cymunedol

2.53 Ni ellir gweld o’r ddogfen bod unrhyw asesiad pellach wedi ei gynnal a oedd yn edrych ymhellach ar effaith y cynnig ar y Gymraeg o fewn y gymuned.

Asesiad Effaith Cydraddoldeb

2.55 Roedd y ddogfen wedi adnabod bod y cynnig yn berthnasol i’r Gymraeg. Mae Isadran 3: Yr Effaith ar Nodweddion Gwarchodedig wedi dynodi’r effaith ar y Gymraeg fel un ‘Niwtral’. Mae hyn, o edrych ar y ddogfen, gyfystyr â dim effaith cadarnhaol na negyddol. Eir ymlaen i ddatgan:

Mae YGG Felindre yn ysgol gynradd Gymraeg ac er bod y cynnig yn un i gau ysgol gynradd Gymraeg mae’r cynnig yn rhan o’r Cynllun Strategol ehangach y Gymraeg mewn Addysg sy’n ceisio cynnydd nifer y lleoedd sydd ar gael yn ysgolion Cymraeg Abertawe. . .  

Mae’r Cynllun Strategol ehangach y Gymraeg mewn Addysg y Cyngor yn ceisio cynyddu’n sylweddol nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe. O ganlyniad i gynigion i gyflawni ein targedau credwn y byddai hyn yn cynyddu cyfleoedd i fwy o bobl ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

Gwelir o’r ddogfen nad oes unrhyw gamau gweithredu wedi eu nodi ar gyfer ymateb i unrhyw fylchau a nodwyd. Dywed:

Ar ôl yr ymgynghoriad mae swyddogion yn parhau i gredu mai dyma’r penderfyniad cywir.

Tystiolaeth y Cyngor i’r ymchwiliad

Canfyddiadau

2.60 Yn dilyn ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd i mi gan yr achwynydd a’r Cyngor, mae’n ymddangos i mi fod y Cyngor wedi ystyried effaith y cynnig i gau YGG Felindre ar addysg cyfrwng Cymraeg. Mae’r Cyngor wedi cyfeirio sawl tro ac mewn sawl dogfen bod y cynnig yn rhan o’r Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg sydd yn cynllunio ar gyfer cynyddu nifer y disgyblion sydd yn astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir.

2.61 Fodd bynnag, nid yw’r dystiolaeth a gefais fel rhan o’r ymchwiliad wedi fy narbwyllo bod yr un sylw a’r un ystyriaeth wedi ei roi i effaith y penderfyniad ar y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach. Mae’n glir fod y Cyngor wedi cynnal asesiad effaith ar y Gymraeg cyn y broses ymgynghori, a’u bod wedi ailymweld â’r ddogfen honno i’w diwygio yn sgil ymgynghori ar y cynnig. Mae’n glir hefyd fod ystyriaeth wedi ei roi i’r effaith ar y Gymraeg mewn dogfennau eraill, megis yr asesiad effaith cydraddoldeb a’r asesiad effaith cymunedol.  Fodd bynnag, mae’n rhaid i mi ystyried i ba raddau yr oedd yr asesiadau hynny, gyda’i gilydd, yn ystyrlon ac yn ddigonol i sicrhau bod y Cyngor wedi gweithredu yn unol â gofynion ac amcanion y safonau llunio polisi.

2.62 Mae’r achwynydd yn honni bod gan yr ysgol rôl allweddol mwyn cynnal y Gymraeg yn yr ardal ac wrth gynnig cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. O edrych ar ofynion y safonau, mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried i ba raddau y mae’r cynnig yn gwarchod, yn hybu ac yn cyfoethogi treftadaeth a diwylliant yr ardal mewn perthynas â’r Gymraeg. 

2.63 Yr wyf eisoes wedi trafod cynnwys y ddogfen Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg ym mharagraffau 2.33  i 2.37. Tynnais sylw at y ffaith mai dim ond 2 baragraff allan o’r 19 oedd yn trafod effaith ar y Gymraeg. Casglaf bod paragraffau 1 i 16 yn trafod y rhesymau a arweiniodd at y penderfyniad i gynnig cau YGG Felindre, yn hytrach na’u bod yn cynnig asesiad trylwyr o effaith y penderfyniad. Mae’r paragraffau clo yn casglu bod y Cyngor yn credu y byddai’r cynnig yn arwain at effaith gadarnhaol ar ddatblygu’r Gymraeg yn ardal Abertawe, er nad oes unrhyw dystiolaeth gadarn yn cael ei gyflwyno i gefnogi hynny.  

2.64 Nid yw’r asesiad yn ystyried effaith posibl ar y Gymraeg o fewn y gymuned nac yn ystyried unrhyw effeithiau y tu hwnt i’r ddarpariaeth addysgol. Nid yw’r asesiad yn ystyried y defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned a chyfraniad yr ysgol at hynny.

Byddwn wedi disgwyl gweld data neu wybodaeth fyddai’n dystiolaeth bod y Cyngor wedi ystyried demograffeg ieithyddol yr ardal a’u bod wedi craffu a phwyso a mesur effaith cau’r ysgol ar arferion ieithyddol y bobol.  Nid yw’n ddigonol bod y Cyngor yn casglu bod yr effaith yn “niwtral” heb hefyd gyflwyno dadleuon neu dystiolaeth i gefnogi hynny.

2.65 Nid oes ychwaith unrhyw dystiolaeth o’r ddogfen Asesiad Effaith ar yr Iaith Gymraeg, na’r dogfennau a’r asesiadau eraill a gynhaliwyd, fod y Cyngor wedi ystyried sut gellir llunio’r polisi neu’r cynnig fel ei bod yn cael effaith cadarnhaol neu llai andwyol ar y Gymraeg. Er bod y Cyngor wedi nodi bod y cynnig yn cael effaith “niwtral” ar y Gymraeg, mae gofynion safon 89 a 90 yn parhau’n berthnasol ac yn weithredol.

2.66 Wrth gyflwyno ei chŵyn i mi, mae’r achwynydd wedi cyfeirio at y ffyrdd y mae’r ysgol yn cyfrannu at ffactorau cymunedol ehangach sy’n ymwneud â’r Gymraeg. Eglura fod yr ysgol yn cyfrannu at gynnal yr iaith Gymraeg yn y pentref drwy roi’r cyfle i drigolion

y pentref, disgyblion a’u rhieni ddod ynghyd i drefnu a chymryd rhan mewn gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg.

2.67 Mae’r enghreifftiau hynny’n cynnwys y Gymdeithas Rhieni ac Athrawon, eisteddfod y pentref,  digwyddiad Cawl a Thwmpath dydd Gŵyl Dewi, cwrdd y cynhaeaf yn y capel, a’r ddrama Nadolig sy’n cael ei gynnal yn y pentref.

2.68 Eglura’r achwynydd hefyd fod aelodau’r gymuned wedi bod yn weithgar wrth wirfoddoli i godi arian i’r ysgol ar gyfer adnoddau. Trefnwyd yn ogystal brosiectau gan aelodau’r gymuned ar gyfer galluogi plant y pentref i gystadlu yn eisteddfodau’r Urdd…

2.69 Pe bai asesiad priodol o effaith y penderfyniad i gau’r ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned wedi ei chynnal, fe fyddai’r Cyngor yn debygol o fod wedi dod yn ymwybodol o ddigwyddiadau megis rhain, ac wedi gallu gwneud asesiad o’r berthynas rhwng yr ysgol a’r gweithgareddau, a dadansoddi’r effaith y byddai’r cau’r ysgol yn debygol o’i gael ar allu’r gymuned i barhau i’w cynnal yn sgil cau’r ysgol, neu i gynnal gweithgareddau cyffelyb fyddai’n eu galluogi i barhau i ddefnyddio’r Gymraeg.

2.70 Yna, ar sail yr asesiad, fe fyddai wedi bod mewn sefyllfa i ystyried pa gamau y gallai eu cymryd yn sgil gwneud asesiad o’r fath. Mae’r safonau yn ei gwneud yn agored i’r Cyngor i barhau gyda’r penderfyniad doed a ddêl neu, gall gasglu bod yr effeithiau andwyol mor sylweddol fel nad oes modd parhau gyda’r penderfyniad. Mae modd iddo hefyd barhau i wneud y  penderfyniad mewn ffordd a fyddai’n cael effeithiau positif neu fwy positif ar y Gymraeg na’r hyn yr arfaethwyd yn y lle cyntaf, neu wneud y penderfyniad gan gyflwyno mesurau lleddfu gyda’r bwriad o atal neu leihau effaith andwyol y penderfyniad. 

2.71 Y Cyngor ddylai ddod fyny â chynigion ar sut mae gwneud hynny. Heb asesiad, ymchwil a chanfyddiadau priodol, nid oes modd rhagweld beth allai cynigion o’r fath fod, ond fe allai’r enghreifftiau isod fod y mathau o bethau y gellir fod wedi eu hystyried mewn cymuned ble mae’r Gymraeg yn parhau i fod yn rhan o wead y gymdeithas: 

  •   Ariannu mentrau neu weithgareddau dan arweiniad y fenter iaith
  •   Sicrhau fod cyfleusterau ac adnoddau’r ysgol yn parhau i fod ar gael i’r gymuned er mwyn, er enghraifft, fod yn fan cyfarfod neu’n ganolfan ar gyfer derbyn gwasanaethau lleol megis gwasanaeth llyfrgelloedd, mynediad i dechnoleg gwybodaeth ayb
  •   Arweiniad neu gefnogaeth y Cyngor i’r gymuned er mwyn eu galluogi i sefydlu mentrau cymdeithasol er budd y gymuned

2.72 Gan ystyried paragraff 2.66 nid yw’n bosibl i Gomisiynydd y Gymraeg wybod beth allasai penderfyniad y Cyngor fod wedi bod pe bai wedi gweithredu yn unol a safonau’r Gymraeg. Yr unig gasgliad y gellir dod iddo yw y gallasai’r penderfyniad fod wedi bod yn wahanol i’r un a wnaed.

2.73 Yn sgil yr uchod, yr wyf o’r farn nad oedd yr Asesiad Effaith ar y Gymraeg yn ddigonol i gyflawni gofynion safonau 88, 89 a 90. Casglaf felly nad yw’r Cyngor wedi gweithredu gofynion safonau 88, 89 a 90 wrth wneud ei benderfyniad polisi i gau

YGG Felindre. Nid yw’r Cyngor wedi ystyried a nodi pa effeithiau y gall ei benderfyniad gael ar gyfleoedd i bersonau defnyddio’r Gymraeg nag i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Nid ydynt ychwaith wedi ystyried sut y gallant wneud y penderfyniad fel ei fod yn cael effeithiau mwy positif, neu llai andwyol, ar gyfleoedd i bersonau defnyddio’r Gymraeg, neu i beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Dyfarniad a fu methiant i gydymffurfio â safon 88, 89 a 90 a’i peidio

2.74 Fy nyfarniad yw bod Cyngor Dinas a Sir Abertawe wedi methu â chydymffurfio â safonau 88, 89 a 90 yn yr achos yma ar y sail nad yw wedi gallu dangos ei fod wedi ystyried yn llawn yr effeithiau y byddai’r penderfyniad i gau YGG Felindre yn eu cael ar gyfleoedd i bersonau ddefnyddio’r Gymraeg, a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. 

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.