Mae Bywydau Duon O Bwys. Datganiad

Mae’r blog yma yn rhoi lle i areithiau a wnaed wrth gofio Sarah Everard a Wenjing Lin, dwy fenyw ifanc a laddwyd o ganlyniad i drais gwrywaidd yn ystod y mis diwethaf yn unig. Ymgasglodd bobl ar grisiau’r Senedd, gan edrych allan ar fachlud haul glas a phinc clir dros Fae Caerdydd, wrth i fenywod sefyll a dweud eu dweud. Rydym hefyd wedi cynnwys areithiau o Abertawe, lle bu cynulliad i gofio am y fenywod yma er gwaethaf bygythiadau’r heddlu.

Ni fydd menywod sy’n cydsefyll byth yn cael eu trechu. Clod ichi, fy chwiorydd.

——————————————————————————

Rydw i am ganmol pawb yma heddiw am wrthod cael eich dychryn gan yr heddlu. Diolch i chi gyd am ddod allan er gwaethaf y bygythiadau o ddirwyion ac arest yn ein herbyn. Rwy’n credu mae’r ffordd y mae’r heddlu wedi ymateb i galar a thrawma menywod yn hollol ffiaidd, ac mae cryfder pawb sydd wedi dod allan heddiw wedi creu cymaint o argraff arnaf.

Rydym yma heddiw’n heddychlon, ac yn ddiogel, i gofio Sarah Everard, Wending Lin, Grace Millane, Amy Griffiths, Nicole Smallman, Bibaa Henry, a’r holl fenywod eraill a phobl sydd ddim yn cydymffurfio â rhyw sydd wedi bod yn dargedau i drais yr heddlu, y wladwriaeth, a dynion.

Rydym yma i’r miliynau o fenywod, plant a phobl LGBTQ+ sydd wedi profi trais domestig.

I’r 85,000 ohonom sy’n profi trais neu ymosodiad rhywiol bob blwyddyn.

Iddyn nhw, drosom ein hunain. Ar gyfer y 99% o ddioddefwyr nad ydynt byth yn gweld unrhyw gyfiawnder.

Yr wyf fi, a bron pob un o’m ffrindiau, wedi goroesi trais rhywiol. Pan ces i fy nhreisio yn 2018, fe wnes i roi wybod i’r heddlu. Dywedodd yr heddlu wrthyf eu bod yn fy nghredu. Ond ni wnaethant erioed arestio’r troseddwr. Cafodd fwynhau ei fywyd – rwy’n credu iddo hyd yn oed fynd ar wyliau yn y mis ar ôl y digwyddiad – tra roeddwn i’n casglu darnau o fy mywyd ynghyd

Ni fyddaf byth yn anghofio’r rhestr aros 10 mis ar gyfer therapi ‘brys’ ar gyfer y PTSD a’r meddyliau o hunanladdiad yr oeddwn yn eu profi. Neu ei gefnder yn dod i fi yn gwaith, i ddweud wrthyf ni fyddai ei gefnder byth wedi gwneud rywbeth fel hynny. Neu’r ffaith bod ffeminist adnabyddus o Gymru wedi gwrthod cydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu am wythnosau, ac yna siarad ar instagram am fod yn ffeminist.

Sut gallwch chi symud ymlaen pan fydd dyn treisgar yn cael ei amddiffyn gan ei deulu, ei ffrindiau a’r wladwriaeth? Pan fydd o dal i gerdded y strydoedd? Pan fydd o yn eich cartref, ysgol, gwaith?

Mae’r heddlu’n gwrthod dal dynion ymosodol yn atebol nes i ni gael ein lladd ganddynt. Mae hynny’n golygu bod 99% o ddynion treisgar yn parhau i osgoi unrhyw atebolrwydd. Nid yw 99% o oroeswyr yn derbyn unrhyw gyfiawnder. Ac mae’n golygu bod arwyddion o rybudd am lofruddwr bosib yn cael eu hanwybyddu.

Mae’r heddlu’n dweud eu bod nhw yma i’n hamddiffyn ni.

Ond yma yng Nghaerdydd, mae’r heddlu wedi dangos eu bod yn gweithredu i amddiffyn eu hunain a’r wladwriaeth yn unig.

Bu farw Mohamud Hassan, dyn du ifanc iach, yn dilyn cyswllt eithafol â Heddlu De Cymru. Mouayed Bashir, oedd dyn du ifanc arall a fu farw yn dilyn cyswllt â Heddlu Gwent. Lladdwyd Christopher Kapessa, ac nid oedd erlyn y sawl a’i laddodd ‘er budd y cyhoedd’; mae Siyanda wedi’i garcharu am amddiffyn ei hun rhag trosedd casineb ffiaidd.

Mae pedwar protestwr wnaeth alw am gyfiawnder i Mohamud wedi cael eu harestio neu eu ‘gwahodd i gyfweliad’ gyda’r heddlu. Sut wnaeth yr heddlu adnabod y protestwyr hyn, am ond galw am gyfiawnder a chofio dyn ifanc, a’i fywyd o’i flaen? A rhywsut dydyn nhw ddim yn gallu dod o hyd i’r ffilm o’r hyn ddigwyddodd i Mohamud yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd?

Ac yn awr, mae menyw wedi’i lladd gan swyddog. Ond menywod yw’r rhai a ystyrir fel y rhai sydd yn gwneud y strydoedd yn anniogel, trwy weithred o gofio? Rydym yn cael ein haflonyddu yn ein cartrefi gan yr heddlu am alw am goffau heddychlon, dan fygythiad o ddirwyon enfawr, ac yn bellach yn cael ein harestio yn Llundain.

Yr heddlu yw’r rhai sy’n gwneud ein strydoedd yn anniogel.

Ond dim ond y dechrau yw hyn. Anogaf bawb a geisiodd fynychu’r protestiadau i barhau i ddod allan mewn undod â’r holl brotestwyr yng Nghaerdydd a De Cymru. Bydd y Bil Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a Llysoedd yn ychwanegu cyfyngiadau at brotestiadau os ydynt ‘o bosibl yn arwain at aflonyddwch difrifol’, neu a allent achosi ‘anesmwythyd difrifol, braw neu drallod’. Yr Ysgrifennydd Cartref bydd yn medru penderfynu beth yw ystyr ‘difrifol’.

Mae’r Bil hwn yn ymosodiad ar bawb yn y DU, ac yn fwyaf amlwg y dosbarth gweithiol, pobl dduon, brown, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, menywod, pobl LGBTQ+, pobl anabl, a theithwyr. Bydd ein rhyddid i ymgynnull a mynegi galar, trawma, dicter, a llawenydd, yn gwbl gyfyngedig.

Felly daliwch ati i ddod at eich gilydd, daliwch ati i sefyll yn erbyn hyn. I ddyfynnu Sisters Uncut, ni fyddwn yn cael ein tawelu, ni fyddwn yn gofyn am ganiatâd, ac ni ddywed wrthym beth i’w wneud gan ddynion treisgar.

Byddwn yn parhau i sefyll gyda’n gilydd yn erbyn trais dynion a’r heddlu. Ond mae angen i ni hefyd ddechrau sgyrsiau am sut rydym yn newid y system hon sy’n gwrthod gwasanaethu cyfiawnder neu atebolrwydd am unrhyw drais yn erbyn menywod.

Diolch.

——————————————————————————

Rydw i bron yn 31 oed. Y cof cyntaf sydd gen i am ymosodiad rhywiol gan ddieithryn ar y stryd oedd pan oeddwn i’n 14. Roedd dyn yn gyrru ei gar ar gyflymder isel tra roedd yn cyffwrdd ei hyn gan ddweud wrthyf pa mor bert oeddwn i a pha mor siapus oeddwn. Roeddwn i’n dod adref yn y prynhawn yng ngolau dydd, i lawr stryd ganolog yn fy nhref enedigol yn Seville (Sbaen). Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, a wnes i ddim dweud wrth neb oherwydd roeddwn i’n meddwl fy mod wedi gwneud rhywbeth i achosi hynny ddigwydd. Wnes i ddim dweud wrth neb oherwydd roeddwn i’n meddwl bod gen i gywilydd y gallaf wneud hynny. Doedd hi ddim yn hir cyn i mi sylweddoli nad fi oedd yr un oedd ar fai. Mae sylweddoli hynny’n ffodus. Sylweddolwch na ddylech guddio, gallwch barhau i ddatblygu eich ffordd o wisgo, datblygu eich rhyddid, sylweddoli y gallwch barhau i fod yn rhywiol, sylweddolwch y gallwch aros yn annibynnol, a sylweddolwch na ddylai unrhyw un dileu eich rhyddid i symud. Ond nid yw hynny’n arferol. Y peth arferol yw, pan sylweddolwch mai chi yw’r gwrthrych diamheuol o ymddygiad ymosodol, eich bod yn dechrau mewnoli arferion hunanamddiffyn bydd gyda chi trwy eich bywyd cyfan fel menyw.

Yn 2018 pan symudais i Gaerdydd i ddechrau bywyd newydd, roedd y pecyn croeso am y ddinas a gefais gan ffrindiau a oedd eisoes yn byw yma yn cynnwys gwybodaeth am y mannau cyhoeddus yn y ddinas lle’r oedd ymosodiadau rhywiol ar fyfyrwyr benywaidd ifanc wedi digwydd, a mannau eraill lle i fod yn ofalus yn y nos oherwydd perygl mygio. Dyma sut rydym ni, menywod, yn byw. Dehongli neges wedi’i chel-ysgrifo i fenywod am y strydoedd ac am y bobl sy’n byw ynddynt.

Yr ydym yn sôn am hyn, yr ydym i gyd weithiau’n sôn am ba mor ddrwg mae dieithryn wedi gwneud inni deimlo mewn man cyhoeddus gyda geiriau amhriodol, gyda golwg digwylydd, trwy gyffyrddiad, yn mynnu pan fyddwn eisoes wedi dweud na neu sut yr edrychodd pawb arnom tra bod angen help arnom. Nid yw dynion yn siarad am hyn, nid yw dynion yn dweud wrth ei gilydd “ddoe fe wnes i aflonyddu ar ferch ar y stryd”, “neithiwr fe wnes i gyffwrdd a thin merch yn y dorf”, “y diwrnod o’r blaen fe wnes i halio yn y car tra oeddwn i’n edrych ar ferch yn cerdded i lawr y stryd.”.

Yn syml, dynion a menywod, rydym yn tybio bod hyn yn wir, bod rheiny’n “bethau sy’n digwydd”. Ond y realiti yw bod merched a menywod yn tyfu i fyny yn datblygu arferion ac ymddygiadau sy’n ein cadw’n ddiogel rhag ymddygiad ymosodol, trais ac sy’n ein cadw’n fyw. Rydym yn gwneud popeth a mwy: mynd gyda’n gilydd, peidio a cherdded ar ben ein hun yn y nos, newid ein dillad, dal ffôn yn ein llaw, galw rhywun, croesi’r ffordd, defnyddio apiau sy’n dweud ble rydyn ni, hunanamddiffyn, cario allweddi rhwng ein bysedd, cerdded yn gyflym, chwistrellu pupur… A chredwch ni, nid oes neb yn ein helpu ni ac rydym i gyd yn chwilio am y camgymeriadau a wnaethom i wneud hynny ddigwydd. Ond nid fi sydd ar bai, neu’r lle’r oeddwn i, nid oes bai ar beth oeddwn yn gwisgo. Ti oedd yn stelcian. Ti oedd yn ymosodol. Ti oedd y treisiwr. Distawrwydd y gymdeithas yn ogystal. Ni allwn aros yn dawel pan mae siarad yw cyfiawnder.

Nid yw hon yn frwydr yn erbyn dynion. Mae’n frwydr yn erbyn system patriarchaidd sy’n gorbwyso ac yn barnu ni oherwydd ein bod yn fenywaidd. Ac mae holl sefydliadau’r wladwriaeth yn galluogi pan nad ydynt yn ein helpu.  Yn y Deyrnas Unedig, bu dros 58,000 o adroddiadau am drais rhywiol yn 2019. Ar gyfartaledd, llofruddiwyd dwy fenyw yr wythnos yn nwylo eu partneriaid neu gyn-bartneriaid. Er na chesglir ffigurau swyddogol yn y wlad hon, mae sefydliadau sy’n gweithio arnynt yn amcangyfrif bod tri chwarter y trais domestig sydd yn cael ei gyflawni yn erbyn menywod yn nwylo eu cyn-bartneriaid neu aelodau o’r teulu. O’r 173 o ddioddefwyr trais domestig yn 2019, roedd 146 yn fenywod. Nid trais yn y cartref yw hyn, trais ar sail rhyw yw hyn, a thrais yn erbyn menywod yw hyn.

Mae gennym broblem ddifrifol iawn o drais yn erbyn menywod yn y wlad hon ac mae’n ffaith bod y rhan fwyaf o dreiswyr yn dianc o cyfiawnder. Rhan o’r rheswm am hyn yw bod ymchwiliadau’n rhy aml yn canolbwyntio ar gymeriad, gonestrwydd, a hanes rhywiol menywod, yn hytrach nag ar weithredoedd ac ymddygiadau’r berson a gyhuddir.

Ond mae hyn yn ymwneud â phob math o drais rhywiaethol, oherwydd nid yr unig drais yw’r llofruddiaethau sy’n dwyn y sylw; mae’r ymddygiad ymosodol a ddioddefwn ar y strydoedd hefyd yn drais.

Felly gadewch i ni wneud rhywbeth yn glir: nid oes angen mwy o bresenoldeb gan yr heddlu arnom ar y strydoedd i ddatrys y broblem hon. Mae gan bawb yma frodyr, tadau, ewythrod, partneriaid gwrywaidd, ffrindiau … yr hyn dylent wneud yw cael ei frawychu gan beth mae dynion eraill yn gwneud i fenywod. Dylech hefyd geisio adnabod bob dydd yr ymddygiad ‘macho’ a haerllug er mwyn eu newid. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth ddynion eraill “nid yw’r hyn rydych chi’n wneud yn iawn, mae’n gam-drin neu aflonyddu neu drais”. Mae angen i ni amddiffyn ein merched ond yr hyn sydd ei angen arnom fwyaf yw i addysgu’n meibion yn well.

Rhaid i fenywod fod yn unedig a dynion gyda ni. Dyma ddigon o feddwl nad ydym yn werth dim a digon o beidio bod yn berchen ar ein cyrff. Digon o roi’r ffocws ar y dioddefwr. Nid ydym eisiau fod yn ddewr ar y strydoedd, rydym eisiau bod yn rhydd.

——————————————————————————

Yr wyf am ddweud ychydig o bethau’n gyntaf. Nid ydym yma i adennill y strydoedd i fenywod yn unig, mae’r heddlu’n gwneud pobl o liw yn anniogel bob dydd, felly rydym hefyd yma i fynnu cyfiawnder i Mohamud. Yn ail, gofynnodd fenyw draws i mi ddoe a oedd croeso i fenywod yn y protestiadau – mae’n ffiaidd ei bod yn teimlo bod yn rhaid iddi ofyn hynny. Mae yna bobl sy’n defnyddio trais yn ein herbyn ni i ymosod ar ein chwiorydd traws ac nid wyf am oddef hynny.

Mae wedi bod yn emosiynol iawn clywed yr holl fenywod yma ond mae hefyd yn fy ngwneud yn ddig oherwydd ein bod wedi dweud y storiau yma cymaint o weithiau. Pan wnaethom hynny am #MeToo meddyliais iawn, y byddwn yn gwneud hyn, byddwn yn amlygu ein trawma a’n cywilydd yn gyhoeddus ac yna bydd dynion yn poeni. Ond doedden nhw ddim yn poeni.

Dywedodd siaradwr blaenorol nad ydym yn ymladd yn erbyn dynion, rydym yn brwydro yn erbyn system patriarchaidd ac rwy’n cytuno, ond rwy’n teimlo fy mod yn brwydro yn erbyn difaterwch dynion. Beth sydd ei angen er mwyn iddynt boeni am hyn oll?

Mae llawer o grwpiau chwith a radical yma – ac mae misogynists a creeps yn eich sefydliadau hefyd, oherwydd eu bod ym mhobman. Ac os ydych chi’n ddyn efallai na fyddwch chi’n eu hadnabod, ond mae menywod yn gwybod am ein bod yn siarad a’n gilydd i gadw’n ddiogel. A dydyn ni ddim yn dweud wrthych chi oherwydd dydyn ni ddim yn siŵr y gallwn ymddiried ynoch chi i beidio â leihau y peth neu adrodd yn ôl i’r dynion. Nid dim ond ofn dynion yn ymosod sydd arnom, mae gyda ni ofn bydd dynion yn bradychu ni ac sefyll yn erbyn ni.

Ar ôl ychydig mae’n dechrau teimlo fel bod y difaterwch yno am reswm. Oherwydd eich bod i gyd yn elwa o fenywod ofnus. Rydych chi i gyd yn elwa.

Pan fyddwch ar noson allan a does dim rhaid i chi boeni am sut i gyrraedd adref oherwydd bydd y menywod wedi meddwl am y peth. Pan fydd eich pennaeth neu ymgyrchydd arall neu bwy bynnag yn gofyn i chi fynd am ddiod ac nid ydych yn meddwl ddwywaith am fynd gan nad oes rhaid i chi wneud. Ac rydych chi’n cael y swyddi a’r cyfleoedd hynny oherwydd eich bod yn mynd i’r digwyddiadau rhwydweithio oherwydd nad oes ofn gyda chi. Ac mewn perthynasau rydych chi’n elwa. Does dim rhaid i chi daro menyw i’w rheoli oherwydd bod dynion eraill yn wneud hyn i chi. Maen nhw’n wneud ni’n ddiolchgar nad ydych chi’n ein taro ni, diolchgar am y peth lleiaf. Maen nhw’n gwneud ni’n ddiolchgar pan nad ydych chi’n treisio ni. Gymaint o weithiau rwyf wedi clywed ffrind yn siarad am gael rhyw gyda rhywun am y tro cyntaf ac yn dweud, “roedd e mor neis, wyddoch chi?” Dwi’n gwybod. Rwy’n gwybod bod hynny’n golygu na wnaeth o anwybyddu eich ffiniau. Sut y daeth yn eithriad i ryw beidio â bod yn brofiad lled-drawmatig?

Ni all hyn parhau. Ac ni allwn wneud mwy nag yr ydym eisoes yn ei wneud. Rydyn ni wedi gwneud digon.

——————————————————————————

Helo! Ac yn gyntaf, diolch am fynychu yr hyn a oedd yn ddigwyddiad byr rybudd ar bob cyfrif. Ni allwn orymdeithio oherwydd canllawiau a gyflwynwyd dan ddeddf Covid – ond rwy’n eich croesawu i gyd i wylnos gyda phwysigrwydd difrifol. Er mwyn rhoi’r gofynion i’r neilltu, gofynnaf i bawb gadw at groes ar y grisiau – ac os nad oes modd dod o hyd i fan, a wnewch chi ymbellhau oddi wrth eich gilydd. Defnyddiwch eich mygydau a’ch synnwyr cyffredin wrth ymbellhau – nid ydym am i’r awr hon gael ei chwalu oherwydd cyfyngiadau. Cadwch yn ddiogel a chadwch ddiogelwch eich gilydd mewn cof.

Rydym wedi casglu mewn undod â’r rhai yr effeithir arnynt gan drais ar sail y rhywiau. Mae’n deg tybio nad oes neb sy’n bresennol boed yn bersonol neu ar-lein yn debygol o fod wedi cwrdd â Sarah Everard, ond wrth i newyddion ei stori cael ei hadrodd – roeddem yn adnabod edefyn ohonom wedi pwytho o fewn y naratif honno.

Mae llawer o fenywod nad ydynt efallai wedi cysgu cystal yn dilyn yr adroddiadau. Anfonaf fy nghariad o waelod calon at bawb yr effeithiwyd arnynt yn ôl-weithredol gan ddigwyddiadau sydd wedi aros gyda hwy, o bosibl wedi’u claddu, a’u dwyn i’r wyneb ond sy’n parhau’n ingol o ystyried y pwysau o’r tu allan. Y rhai sy’n siarad yn agored, a’r rhai sy’n dal yr atgofion a’r teimladau hynny’n fewnol – rydym i gyd yn sefyll gyda chi heno.

Mae hyn wedi dod ar adeg lle mae ystadegau wedi dangos bod 97% o fenywod o dan 24 oed wedi profi math o ymosodiad rhywiol, gydag 80% o bob oed yn profi math o ymosodiad rhywiol mewn mannau cyhoeddus.

Ers y 5ed o Mawrth, sef dydd Gwener diwethaf – mae chwe menyw a merch fach wedi’u lladd yn nwylo dynion yn y DU.

Yn yr un wythnos, collodd Wenjing Ling, 16 oed, ei bywyd yn nwylo dyn yn y Rhondda. Dim ond ym mis Chwefror eleni, ymosodwyd yn rhywiol ar 10 menyw a 2 o blant ym Mharc Singleton. Mewn perthynas â’r llu hwnnw o ymosodiadau, caniatawyd i’n prif ffynhonnell newyddion yng Nghymru argraffu dyfyniadau troseddwr yn beio’r dioddefwyr. Arweiniodd hyn at ddioddefwyr yr ymosodiadau hynny’n hepgor eu anhysbysrwydd er mwyn siarad am yr anghyfiawnderau a gyflawnwyd, nid yn unig gan y troseddwr – ond gan y cyfryngau.

Amcangyfrifir gan Rape Crisis UK mai dim ond tua 15% o bobl sy’n profi trais rhywiol sy’n adrodd y digwyddiad i’r heddlu. Bu menywod wedi dod i wybod nad ymdrinnir yn ddigonol â’r troseddau hyn bob amser ac yn ôl natur y system patriarchaidd yr ydym yn byw ynddi – mae dioddefwyr yn troi at hunan-fai a chywilydd. Yn ystadegol, mae menywod lliw, gweithwyr rhyw a menywod traws yn fwy tebygol o gael triniaeth annheg gan yr heddlu yn dilyn adroddiad. Maent yn cael eu tawelu, ac mae menywod yn gyffredinol yn dal i ofni ac yn wyliadwrus.

Ar draws y cyfryngau cymdeithasol ac o fewn eu cylchoedd, mae menywod wedi bod yn cofio eu straeon, ond ni ddylai fod gofyn bod menywod yn arllwys eu trawma mewn i gymeriadau cyfyngedig er mwyn i’r materion hyn gael eu cydnabod gan ddynion, gan fenywod eraill, gan y cyfryngau neu gan y lluoedd sydd wedi’u tyngu i’w hamddiffyn.

Ni ddylai menywod fod yn brwydro i oleuo rhannau o’u strydoedd.

Ni ddylai menywod wisgo eu hunain gan feddwl a yw’r dillad yn debygol o ddiweddu mewn ymosodiad treisgar.

Ni ddylid dweud wrth fenywod am beidio â cherdded ond yn hytrach i gymryd tacsi, ac yna gorfod poeni y bydd eu tacsi yn lleoliad i drosedd arnynt.

Ni ddylai menywod ofni mynd at yr heddlu ar ôl digwyddiad gan boeni am wawdio neu anghrediniaeth.

Ni ddylai menywod deimlo y bydd bygythiad cyson a gwirioneddol i’w heinioes bob tro pan fyddant yn gadael y tŷ, gyda pha ymddygiadau bynnag a ddysgwyd sy’n rhan annatod ohonynt fel modd o hunanamddiffyn a diogelwch.

Mae menywod wedi rhoi cynnig ar apiau. Maent wedi rhoi cynnig ar allweddi. Maent wedi rhoi cynnig ar modesty, maent wedi ceisio osgoi lleoedd a sefyllfaoedd. Maen nhw wedi rhoi cynnig ar fotymau panig ar grogdlws. Maent wedi rhoi cynnig ar esgidiau gwastad. Maen nhw wedi osgoi’r noson. Maen nhw wedi sgrechian. Maent wedi cadw eu pen i lawr. Maen nhw wedi cuddio mewn torf. Maen nhw wedi croesi’r ffordd. Maent wedi rhoi cynnig ar ddosbarthiadau amddiffyn. Maent wedi ceisio cyfeillio â menywod eraill. Maent wedi galw ar y ffordd adref. Maent wedi anfon neges destun pan fyddant gartref. Maent wedi rhoi cynnig arni. Fe’u gwneir. Ond mae ar ben..

Ac ni ddylai dynion fod yn cyfiawnhau’r ymddygiad sy’n arwain at y digwyddiadau hyn.

Yr wyf wedi bod yn ansicr, yn ystod yr wythnos, ai mwy gofidus yw gweld straeon ffrindiau a dieithriaid yn gorlifo dros eu llwyfannau cyhoeddus, neu i ddod i sylweddoli bod y cam-drin hwn yn dod i’n diffinio fel menywod.

Nid yw diddymu’r systemau sy’n caniatáu i’r diwylliant hwn barhau yn ddelfryd i ddyheu amdanil, mae’n alwwad dyngarol i’w weithredu ar unwaith. Mae hwn yn gyfle cynhyrchiol ar gyfer sgyrsiau a newid pwysig. Ail-ddychmygu sut rydym yn delio â thrais sy’n seiliedig ar rywedd, wrth ei wreiddiau. Mae’n dechrau ac yn gorffen gyda gwrywdod gwenwynig, ac mae’n dechrau ac yn gorffen gyda dynion.

Mae’n bwysig peidio byth â cholli ffocws yn ystod yr adegau hyn, yr ydych yn rhan o gymundod o fenywod ledled y wlad gyfan sy’n sefyll mewn undod â 50% o’r boblogaeth ac a safodd i gyd am yr un rheswm. Nid yw menywod yn teimlo’n ddiogel, ac ni fyddant yn ddiogel nes bod newid yn cael ei weithredu ar ein hagwedd gyfunol ar drais yn erbyn menywod.

Dewn at ein gilydd i gynne ein canhwyllau, yn enw’r menywod hynny sydd wedi’u lladd mewn achos lle mae dyn wedi’i gyhuddo neu sydd dan amheuaeth o lofruddio, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gofynnaf i chi nawr oleuo eich canhwyllau wrth i mi ddarllen eu henwau.

Tracey Kidd

Nelly Mustafa

Zahida Bi

Josephine Kay

Shadika Mohsin Patel

Maureen Kidd

Wendy Morse

Nageeba Alariqy

Elsie Smith

Kelly Stewart

Gwendoline Bound

Ruth Williams

Victoria Woodhall

Kelly Fitzgibbons and her two daughters

Caroline Walker

Katie Walker

Zobaidah Salangy

Betty Dobin

Sonia Calvi

Maryan Ismail

Daniella Espirito Santo

Ruth Brown

Denise Keane-Barnett-Simmons

Jadwiga Szcygielsk

Emma Jame McParland

Louise Aitchison

Silke Hartsthorne-Jones

Hyacinth Morris

Louise Smith

Claire Parry

Aya Hachem

Melissa Belshaw

Yvonne known to loved ones as Vonnie Lawson McCann

Lyndsey Alcock

Aneta Zdun

Mandy Houghton

Amy-Leanne Stringfellow

Bibaa Henry

Nicole Smallman

Dawn Bennett

Gemma Marjoram

Karolina Zinkeviciene

Rosemary Hill

Jackie Hoadley

Khloemae Loy

Kerry Woolley

Shelly Clark

Bernadette Walker

Stella Frew

Dawn Fletcher

Deborah Jones/Hendrick

Patrycia Wyrebek

Thesasia Gordon

Esther Ebgon

Susain Baird

Balvinder Gahir

Lynda Cooper

Lorraine Cox

Suzanne Winnister

Maria Howarth

Abida Karim

Saman Mir Sacharvi

Vian Mangrio

Poorma Kaameshwari Sivaraj and her child

Louise Rump

Julie Williams

Rhonda Humphreys

Nicole McGregor

Angela Webber

Carole Wright

Sarah Smith

Ildiko Bettison

Kimberly Deakin

Marie Gladders

Paula Leather

Caroline Kayll

Lauren Mae Boomer

Hansa Patel

Helen Bannister

Marta Vento

Andreia Patricia Rodriguez Guilherme

Joanna Borucka

Azaria Williams

Catherine Granger

Eileen Dean

Sue Addis

Carol Hart

Jacqueline Price

Mary Wells

Tiprat Argatu

Christine Frewin

Souad Bellaha

Ann Turner

N’taya Elliot-Cleverly

Rose Marie Tinton

Ranjit Gill

Helen Joy

Emma Robertson

Nicola Anderson

Linda Maggs

Carol Smith

Sophie Moss

Christina Rowe

Susan Hannaby

Michelle Lizanec

Wieslawa Mierzewska

Judith Rhead

Anna Oysyannikova

Tina Eyre

Katie Simpson

Bennyl Burke and her two year old daughter

Samantha Heap

Geetika Goyal

Imogen Bohajczuk

Wenjing Xu

Sarah Everend

Jane Doe, Aberdeen

Jane Done, Doncaster

Jane Done, Wolverhampton.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.