Datganiad

Mae Undod yn fudiad sydd wedi’i sefydlu i sicrhau annibyniaeth i Gymru.

Bydd annibyniaeth go iawn yn dilyn nifer o egwyddorion hanfodol, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

  • cyfiawnder hinsawdd
  • gwarchod ein hamgylchedd naturiol
  • economi moesegol

i holl bobl Cymru, ac i holl bobloedd y byd.

Mae Undod yn gwrthwynebu’n gryf y syniad o adeiladu M4 newydd, y ‘ffordd liniaru’, ac yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddilyn y blaenoriaethau a gyhoeddwyd ganddi, a dileu’r cynllun dinistriol hwn.

Mae Undod yn datgan ei fwriad i ymgyrchu’n frwd dros genedlaethau’r dyfodol, gan gynnwys defnydd o ddulliau gweithredu uniongyrchol di-drais – os fydd Llywodraeth Cymru yn penderfynu bwrw ymlaen gydag unrhyw gynllun i adeiladu M4 newydd.

Rhesymau i wrthod yr M4 newydd

Yr argyfwng hinsawdd

  • Mae prosiect ffordd mor fawr yn anwybyddu tystiolaeth wyddonol am yr argyfwng hinsawdd a galwadau gan ymgyrchwyr, yn enwedig llawer o bobl ifanc. Mae’n mynd yn groes i ddatganiad diweddar Llywodraeth Cymru ei hun am yr argyfwng hinsawdd.
  • Ar ôl datgan argyfwng hinsawdd, bydd rhaid i ni edrych tu hwnt i gynnydd mewn capasiti ffyrdd a thraffyrdd ar gyfer cerbydau tanwydd ffosil. Yn hytrach mae’n rhaid newid ein ffordd o fyw i leihau allyriadau carbon yn sylweddol, mabwysiadu dulliau teithio llesol, a gwella iechyd cyhoeddus.

Niwed go iawn

  • Yn fyd-eang mae’r argyfwng hinsawdd eisoes yn niweidiol i gymunedau o bobl a chenhedloedd llai breintiedig.
  • Mae bywyd gwyllt ledled y byd yn dioddef o ganlyniad i gynhesu byd-eang. Er lles cenhedloedd nawr a’r dyfodol, mae hefyd angen gwarchod ein gwlypdiroedd gwerthfawr, Gwastadeddau Gwent, rhag dinistr.

Pobl ac economi Cymru

  • Rhaid i fuddsoddiadau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd fod er budd Cymru gyfan yn hytrach nag ar gyfer un cornel o’r wlad.
  • Mae benthyg swm mor fawr gan y Trysorlys yn Llundain ar gyfer prosiect mor ddrudfawr yn creu sefyllfa annerbyniol i bobl Cymru ac economi Cymru. Bydd Cymru fel gwlad hyd yn oed pellach o fod yn annibynnol yn economaidd, ac yn fwy gwasaidd i’r wladwriaeth Brydeinig.

Llythyr agored

At sylw Llywodraeth Cymru

Rydym yn rhan o Undod, mudiad gwleidyddol newydd yng Nghymru sydd yn brwydro i sicrhau annibyniaeth go iawn i Gymru. Rydym am adeiladu cymdeithas wleidyddol gynhwysol sydd yn hybu cymunedau ac economi moesegol, sydd yn chwarae rhan lawn mewn gwarchod amgylchedd naturiol a hinsawdd y Ddaear.

Mae’n rhaid i’r nod hir-dymor o weriniaeth sosialaidd, ffeministaidd, gwrth-hiliol a gwyrdd ddechrau yma nawr. Rydym yn benderfynol o ymgyrchu dros gyfiawnder hinsawdd ac yn erbyn gweithredoedd llywodraethol sydd yn ein pellhau o’r amcanion hyn, ac i sefyll yn erbyn yr haerllugrwydd, y gweithredu byr-dymor a’r anfadwaith sydd mor nodweddiadol o wleidyddiaeth y wladwriaeth Brydeinig gyfoes.

Yn anffodus, nid yw ein Senedd ni yn ddiogel rhag y tueddiadau hyn ac mae peryg bod Llywodraeth Cymru ar fin ildio i ragrith difrifol trwy ddatgan adeiladu ‘ffordd liniaru’ M4 newydd, dim ond wythnosau ar ôl datgan argyfwng hinsawdd.

Rydym yn tynnu eich sylw at eich polisi llywodraethol eich hunain yn y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r datganiad diweddar, ac yn pwysleisio’r difrod i fywyd gwyllt lleol, y cynnydd mewn allyriadau carbon, a’r methiant y byddai penderfyniad o’r fath yn ei gynrychioli yn wyneb yr angen dirfawr i newid ein harferion a pholisi teithio.

Byddai benthyg swm mor fawr o arian gan Lundain ar gyfer prosiect mewn un cornel o Gymru yn creu sefyllfa annerbyniol i’n pobl a’n heconomi. Fel gwlad byddem yn bellach fyth o annibyniaeth economaidd, ac yn fwy darostyngedig i’r wladwriaeth Brydeinig.

Mae’n rhaid i Gymru yr 21ain ganrif fuddsoddi mewn ffordd ecogyfeillgar o fyw ar gyfer ei holl bobl, yn enwedig mewn trafnidiaeth, nid atgynhyrchu polisïau blinedig yr 20fed ganrif.

Pe bai Llywodraeth Cymru yn penderfynu mynd yn groes i’w hegwyddorion a’i deddfwriaeth ei hun, bydd Undod (yn ogystal â grwpiau eraill yn ein cymdeithas sifil, mae’n debyg) heb ddewis ond troi at ymgyrchu trwy weithredu uniongyrchol di-drais yn erbyn penderfyniad mor rhagrithiol a dinistriol i’r amgylchedd.

Daeth Mr Mark Drakeford i rym fel Prif Weinidog Cymru gyda’r addewid o sosialaeth yr 21ain ganrif; bydd rhaid i sosialaeth o’r fath, trwy ddiffiniad, flaenoriaethu’r hinsawdd. Rydym yn ffyddiog y bydd yn gwneud y penderfyniad cywir trwy osod Cymru ar ben ffordd i fod yn wlad y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni.

Yn ddiffuant

Undod

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.