Yn y blynyddoedd sydd i ddod, dylai’r wythnos diwethaf yma yng Nghymru cael ei chofio fel cyfnod allweddol, pan ddechreuodd y wlad o’r newydd. Wedi blynyddoedd o wamalu, cafodd ffordd liniaru’r M4 ei wrthod – y tro, hwn, mentrwn, yn dyngedfennol. O fewn ychydig ddyddiau, roedd Ford wedi cyhoeddi eu bod yn cau eu ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a tua 2000 o swyddi yn debygol o gael eu colli.

Yn y modd sy’n nodweddiadol o’r dyddiau dwl yma, roedd yna gryn anghyseinedd gwybyddol i’w glywed yn yr ymateb. Croesawyd y penderfyniad gyda chrin rhyddhad ac ychydig o edmygedd – cydnabyddiaeth o’r diwedd o’r ffaith, fel yn achos gymaint o agweddau ar ein heconomi, ni allwn barhau fel ag y mae, a bod yn rhaid dod o hyd i ymatebion gwahanol i’n problemau trafnidiaeth, yn wyneb yr argyfwng hinsawdd. Bydd pob dim i’w trafod o’r newydd, gyda’r addewid o ailystyried y rhagdybiaethau sy’n gynsail i fywyd modern ac sydd wedi siapio ein gwleidyddiaeth ers yr Ail Ryfel Byd. Efallai, o’r diwedd, cawn gyfle i lunio polisi, nid fel ymgais i gael ein crafangau ar gymaint o arian a phosib, ond trwy ystyried ein lles yn nhermau ein hamgylchedd, ein cymuned a’n ffordd o fyw – gan wrthod y temtasiwn i ymateb i anghenion twf economi, sydd yn hanesyddol wedi ei yrru gan danwydd ffosil.

Ond er gwaethaf y gydnabyddiaeth hon, mae’r ymateb i ffawd ffatri Pen-y-bont ar Ogwr hefyd wedi gweld mynegiant o anghrediniaeth: sut y gallai Ford wneud hyn i Gymru? pam na ellir dod o hyd i atebion? a pham y dylai cynhyrchu mwy a mwy o geir am 10 mlynedd arall fod yn broblem?  Ac yntau newydd benderfynnu rhwystro prosiect ffordd mawr, soniodd Mark Drakeford am ei siom a’i sioc bod ffatri ceir yn cau; cwynodd Adam Price am lywodraethu aneffeithiol yng Nghaerdydd a San Steffan fel pe bai’r cwbl yn deillio o’u hamryfusedd – mae’n debyg nad oedd y ddau yn ymwybodol o’r eironi o ddatgan yr angen am drywydd newydd yn ein heconomi, tra’n cwyno am y canlyniadau.

Mae’r canlyniadau tymor byr i Ben-y-bont ar Ogwr, ei gweithwyr a’u teuluoedd, yn drasiedi, wrth gwrs. Ond mae’r ymateb gan ein gwleidyddion blaengar, sy’n beio’r cwmni, yn ffuantus a dweud y lleiaf. Mae’r diwydiant ceir wedi bod ar drothwy argyfwng ers amser maith, felly – fel y gofynnodd yr economegydd blaenllaw Calvin Jones – lle’r oedd ein cynllun wrth gefn? Ymhellach, fel y pwysleisiodd Dan Evans yn ôl yn 2015, mae economi Cymreig sy’n gweithredu ar sail Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor bob amser yn mynd i ddioddef pan fydd amseroedd yn anodd, neu mae cwmni’n canfod y sgiliau a llafur angenrheidiol am gost rhatach mewn mannau eraill o’r byd.

Mae angen arnom economi gynaliadwy yng Nghymru, er budd Cymru; a rhaid efelychu’r pwyslais yma ar gynaladwyedd lleol ledled y byd os ydym am frwydro yn erbyn argyfwng yr hinsawdd a drygau cyfalafiaeth ddilyffethair fyd-eang.

Siawns na ddylai’r ddau ddigwyddiad hyn, yn dilyn un ar ol y llall, sbarduno ein gwleidyddion i weithredu, gan newid cyfeiriad ein taith – yn hytrach na pharhau â gwallgofrwydd dilyn yr un polisïau anghywir drosodd a throsodd. Gwae ni os oes mwy o bobl yn disgyn islaw’r llinell dlodi, lle mae 30% o boblogaeth Cymru yn byw fel ag y mae.

Bydd creu’r economi werdd integredig sydd ei hangen arnom, wrth gwrs, yn parhau i fod yn freuddwyd gwrach cyhyd ag y byddwn wedi’i traflyncu gan y wladwriaeth neoryddfrydol Brydeinig. Ond er mwyn cael blas ar y posibiliadau a rhywfaint o ysbrydoliaeth, gwyliwch y gofod hwn am ddatganiad sydd ar ddod gan Undod ar yr economi werdd.

Cyn inni wireddu annibyniaeth, fodd bynnag, gallwn o leiaf roi pwysau ar ein gwleidyddion i aros yn driw i’w rhethreg flaengar; mae gennym Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi’r cyfan, a rydym yn clywed sôn am yr economi seiliol – gwerthoedd a syniadau yw’r rhain y gallwn eu canlyn yn awr.

Yr wythnos ddiwethaf yn ogystal cynhaliwyd digwyddiad yn y Ffatri Bop yn y Porth – cyn ffatri y cwmni diod ysgafn enwog o Gymru, Corona (a gollodd ei fwrlwm – yn symbolaidd iawn – ar ôl cael ei brynu gan y cwmni aml-ryngwladol Britvic). Yno trafodwyd yr Incwm Sylfaenol: polisi i ddisodli’r gyfundrefn lles annynol a chreulon sydd wedi cael ei datblygu gan y Torïaid dros y blynyddoedd diwethaf, lle rhoddir adnoddau ariannol i bob person yn seiliedig nid ar eu diffyg moddion, ond ar sail eu dynoliaeth – a’r gred na ddylai unrhyw un sy’n cael ei eni i’r ddaear hon cael ei ddifrentio o’r adnoddau dylem oll fod yn eu rhannu. Nid moddion at bob clwyf mohoni, ond oni bai ein bod yn archwilio ac yn gweithredu’n amgen yn y modd radical yma yn awr, mae’r mwyafrif llethol ohonom yn wynebu dyfodol anodd a gwantan.

Llun gan Mick Lobb

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.