Fe gafodd yr orymdaith gyntaf dros annibyniaeth i Gymru ei chynnal ar 11 Mai 2019. Roedd bron i dair mil o bobl yn bresennol, a’r dorf yn llifo drwy ganol y brifddinas cyn cyrraedd yr Aes.

Penllanw’r orymdaith oedd cyfres o areithiau byrion gan arweinydd Plaid Cymru Adam Price, Carys Eleri, Siôn Jobbins, Sandy Clubb, Ben Gwalchmai ac Ajit Cheviz – gallwch wrando arnyn nhw ar-lein. Ymhlith y siaradwyr roedd rhywun i gynrychioli siaradwyr Cymraeg, pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig, pobl LHDT a menywod gwynion: ond dim menywod croenliw. O ystyried y ffaith nad oes ganddon ni’r un fenyw groenliw yn y Senedd, nac yn cynrychioli Cymru yn San Steffan, mae hyn yn rhan o batrwm ehangach. Mor agos at ganmlwyddiant dechrau Terfysgoedd Hil 1919, dyma golli cyfle da i hybu cydraddoldeb hiliol.

Rhowch y tegell i ferwi, mae’n bryd siarad am hil yn y mudiad cenedlaethol.

Mae’n gyfnod o newid i’n hunaniaeth genedlaethol. Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yw bron i 20% o boblogaeth Caerdydd, ac mae hanner y bobl yma’n fenywod ac yn bobl anneuaidd. Er hynny, ac er mai Caerdydd yw cartref y gymuned barhaus hynaf o bobl dduon yng ngwledydd Prydain, doedd dim menywod duon nac o leiafrifoedd ethnig yn siarad yn y digwyddiad.

Mae cymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig ar groestoriad rhwng sawl mynegai o amddifadedd, yn enwedig menywod, pobl cwiyr, pobl draws a phobl nad ydyn nhw’n cydymffurfio o ran rhywedd. Dangosodd ymchwil diweddar gan fudiad menywod Chwarae Teg fod canran y bobl ddi-waith yn rhai o’n cymunedau o bobl ar wasgar mor uchel ag 80%. Ugain mlynedd ers datganoli, does dim un fenyw o’r cymunedau yma wedi cael ei hethol i’r Senedd nac i San Steffan.

Yr ymgyrchydd du radical Claudia Jones fathodd y term “gormes driphlyg”, damcaniaeth sy’n trafod perthynas gormes wrth edrych ar brofiad o hiliaeth, dosbarthiaeth a rhywiaeth ymhlith menywod duon. Mae gormes driphlyg yn fyw ac yn iach i fenywod duon Cymru, ac mae’r bwlch cyflog yn ychwanegu at hynny eto.

Gall y mudiad cenedlaethol fod yn ffeministaidd, yn wrth-imperialaidd ac yn wrth-gyfalafol – ond fydd dim o hyn yn bosib heb bobl groenliw. Angela Davis ddywedodd nad yw bod yn an-hiliol yn ddigon mewn cymdeithas hiliol – mae’n rhaid mynd ati i fod yn wrth-hiliol. Dyma rai pethau y gall y mudiad cenedlaethol ei wneud er mwyn sicrhau ei fod yn fwy cynhwysol a hygyrch er mwyn rhoi diwedd ar y batriarchaeth gyfalafol sy’n dyrchafu pobl wynion:

1. Dysgu ei hanes

Mae gan Gymru berthynas anghysurus gyda gwladychiaeth a’r fasnach gaethwasiaeth. Mae’r berthynas anghysurus yna yn amlwg heddiw yn y gwahanu hiliol sydd i’w weld yn ein gwleidyddiaeth a’n cymdeithas.

Mae gan Gymru hanes dwfn gyda gwladychiaeth sydd heb ei ddadansoddi a’i astudio’n llawn. Gellir dweud yr un peth am ein hanes diweddar gyda phobl groenliw. Mae treftadaeth a hanes pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig Cymru mewn mwy o berygl nag erioed. Yn 2016, caewyd Canolfan Hanes a Chelfyddydau Trebiwt, ac mae dyfodol yr archif o dan fygythiad. Mae’r methiant i ariannu adnodd yn lle’r ganolfan er mwyn diogelu’r rhan hollbwysig yma o hanes Cymru yn dweud cyfrolau.

Ein cyfrifoldeb ni fel pobl Cymru yw addysgu’n hunain am y gymdeithas rydyn ni wedi’i chael o fola’r bwystfil – yr Ymerodraeth Brydeinig ei hunan – a bod yn llawer mwy beirniadol o’n hymwneud ni gyda’r Ymerodraeth honno (a’r mawrygu yng nghyd-destun ein gwladychfa ni’n hunain ym Mhatagonia). Mae rhestr ddarllen ar ddiwedd yr erthygl.

2. Trafod rhyngblethu

Fframwaith ar gyfer deall ein profiadau byw a’r bywydau o’n cwmpas yw rhyngblethni. Mae’n tynnu ar athroniaeth Farcsaidd a Ffeministaidd Ddu, gan edrych ar y ffordd mae sawl matrics grym yn plethu gyda’i gilydd.

Flwyddyn neu ddwy yn ôl, aeth stori ar led am fenyw mewn penwisg oedd yn siarad Cymraeg gyda’i phlentyn ar fws rhwng Caerdydd a Chasnewydd. Ar ôl i rywun ddweud wrthi y dylai “Speak English”, fe gododd teithwraig arall i’w hamddiffyn drwy ddatgan mai Cymraeg roedd hi’n siarad gyda’i phlentyn. Roedd hynny’n ddigon i gau ceg y siaradwr Saesneg. Aeth y stori yma ar led er mwyn “profi” pa mor oddefgar yw Cymru fel gwlad, anwybodaeth y dyn wnaeth ymyrryd, a’r amrywiaeth sydd yng Nghymru. Mae’r stori’n adlewyrchu ein hanes trymlwythog. Rwy’n hoffi meddwl, petai hi’n siarad Iorwba neu Arabeg, y byddai’r deithwraig arall ar y bws wedi herio’r sylw hiliol beth bynnag, ond mae’n bosib, o ystyried gwahanol statws grwpiau gwahanol, y byddai’r deithwraig wedi bod yn llai tebygol o godi llais i amddiffyn iaith leiafrifol heblaw’r Gymraeg. Faint o weithiau mae rhywun yn dweud wrth leiafrifoedd ethnig yng Nghymru y dylent ‘speak English’? A faint o weithiau mae hynny’n digwydd heb i neb ei herio?

Mae rhyngblethni yn ddefnyddiol er mwyn deall enghreifftiau fel y rhain lle mae sawl perthynas rym a sawl haen o ddiffyg braint yn cyd-daro.

Mae’n gallu bod yn ffrâm hefyd ar gyfer deall ein hanes diweddar a chynnig cipolwg ar gymhlethdodau presennol o ran hunaniaethau a pherthnasau cymdeithasol. Mae rhai materion wedi’u clymu wrth ddeddfwriaeth: gweithredwyd y Ddeddf Cysylltiadau Hiliol yn 1965, ond ni chafwyd Deddf Iaith o werth tan 1993. Am y 28 mlynedd yna, roedd llawer o ddrwgdybiaeth rhwng y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a grwpiau eraill: aelodau o gymunedau duon a lleiafrifoedd ethnig ar lawr gwlad, ymgyrchwyr iaith, ac yn arbennig pobl o gefndiroedd lleiafrifol oedd hefyd yn siarad Cymraeg. Mae yna sylwebaeth ddifyr ar berthnasau strwythurol rhwng grwpiau o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a grwpiau Cymraeg yn Gender and Social Justice in Wales a olygwyd gan Nickie Charles a Charlotte Aull Davies. Does dim amheuaeth bod y perthnasau hanesyddol yma wedi cael effaith arnon ni sy’n byw yn y Gymru gyfoes, ac mae angen i ni ddeall gwaddol hyn a bod yn barod i’w drafod. Ni allwn ddianc rhag hyn – ac mae mwy nag erioed o bobl dduon a lleiafrifoedd ethnig sy’n siarad Cymraeg.

Gwnewch ddefnydd o ryngblethni, estynnwch allan at wahanol grwpiau.

Peidiwch â gofyn “Sut mae cyrraedd ‘cymunedau anodd eu cyrraedd?’. Yn hytrach, gofynnwch “Beth allwn ni wneud er mwyn gwneud y mudiad yn fwy hygyrch?” neu “Beth ydyn ni’n ei wneud o’i le?”

3. Cofio am ryngblethu, cofio cyd-sefyll

Mae sawl ffordd o wneud eich digwyddiadau a’ch cyfarfodydd yn hygyrch. Dyma ambell air o gyngor:

1. Os mai cwrdd mewn tafarn rydych chi, ydych chi wedi ystyried peidio cwrdd mewn adeilad lle mae alcohol yn cael ei werthu – siop goffi, er enghraifft? Fe allai fod yn anodd i alcoholigion, alcoholigion sy’n gwella, neu bobl o gefndiroedd ethnig neu ffydd lleiafrifol ddod i’ch cyfarfod.

2. Ydy lleoliad eich cyfarfod yn golygu bod angen i bobl brynu rhywbeth er mwyn bod yno?

3. Fe allai ble rydych chi’n dewis cyfarfod fel grwpiau neu fel ffrindiau gael effaith ar bwy arall sy’n debygol o ddod i’ch digwyddiad neu’ch cyfarfod. Mae trefnu digwyddiadau neu gyfarfodydd fel paratoi platiaid o frechdanau: mae rhai pobl yn chwilio am fwyd di-glwten, tra bod rhai yn chwilio am fwyd halal. Rhowch ystyriaeth i’ch lleoliadau, ac ystyriwch pam mae rhai llefydd yn cael eu hawgrymu yn fwy nag eraill.

4. Mae calendrau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol. Mae Ramadan yn symud bob blwyddyn – felly hefyd Eid. Ond dydy’r Nadolig ddim. Mae’r Pasg yn enghraifft dda o’r ffordd mae calendr y lleuad yn effeithio ar lawer ohonon ni yng Nghymru. Gwnewch yn siŵr nad ydych chi’n gwrthdaro â dim byd, fel Eid, Yom Kippur, neu unrhyw ddigwyddiadau eraill a allai rannu eich cynulleidfa.

5. Mae #CymryEwropeaidd yn dathlu hunaniaeth Gymreig ac Ewropeaidd. Mae’n gwneud synnwyr creu cysylltiadau a chefnogi gwledydd bach eraill fel Catalwnia. Mae cysylltiad clòs rhwng Cymru a Chatalwnia, yn ein dychymyg ac yn ddaearyddol. Aeth miloedd o Gymry i Sbaen i ymladd yn ystod yr ugeinfed ganrif, felly mae cysylltiad teuluol yno i lawer o bobl. Fodd bynnag, mae gwynder unffurf a hunaniaeth gorllewin Ewrop wedi cael effaith ddinistriol ar y byd. Dim ond dwy wlad yn y byd sydd heb eu gwladychu gan Orllewin Ewrop erioed. Fe gafodd y gwladychu yna gan orllewin Ewrop effaith drychinebus ar bobl sy’n byw yng Nghymru heddiw. Mae angen i ni greu cysylltiadau (fel y rhai sydd ganddon ni gyda Chatalwnia) gyda gwledydd o gwmpas y byd. Mae angen i ni hefyd gwestiynu sut rydyn ni’n penderfynu pwy i’w cefnogi yng Nghymru, a sut rydyn ni’n cyd-sefyll â phobl. Mewn 24 awr yn ddiweddar, cafodd Swdan wared â dau arweinydd, rhyddhau ei ffigurau gwleidyddol a sicrhau rhyddid y wasg. Mae’n rhaid gofyn, beth oedd sylwedd ein hymateb ni?

4. Dadwladychu

Rhaid trosi dadwladychu yn weithredu yn y byd go iawn. Mae’n amser dad-ddysgu pob ymddygiad gwenwynig sydd wedi’u pasio i lawr i ni. Mae angen hyfforddiant gwrth-hiliol sy’n benodol i Gymru ddatganoledig, sy’n cwestiynu pam mae cymaint o bobl yn teimlo bod rhaid gofyn “Ond o ble wyt ti’n dod go iawn?” ac sy’n myfyrio ar y berthynas anghysurus rhwng pobl groenliw a gwahanol grwpiau, gan ofyn i bobl groenliw sut i fynd at bobl groenliw a’u denu i ddigwyddiadau. Nid un garfan unffurf yw pobl groenliw, ddim mwy nag y mae siaradwyr Cymraeg yn un garfan unffurf, ac mae cwestiynau sy’n trin pobl groenliw fel un garfan ar y sail nad ydyn nhw’n wyn yn atgyfnerthu’r ddeuoliaeth yna yn anfwriadol. Cadwch lygad allan am grwpiau gwleidyddol a chymunedol yn eich ardal chi, ac ewch allan am baned o de neu goffi. Mae’n haws na feddyliech chi – yr hyn sydd angen ei wneud yw codi pontydd lle maen nhw ar goll (ar hyn o bryd).

Mewn darn difyr tu hwnt ar y berthynas rhwng rhywedd a hil, mae Mamta Motwani Accapadi yn dadlau bod “deall hil a mendio hiliaeth yn ddau gysyniad â chysylltiadau dyfnion, er eu bod nhw’n hollol wahanol. Mae angen creu gofod i gael sgyrsiau o ddifri er mwyn dod i ddeall y gwahaniaethau a’r cysylltiadau rhwng y cysyniadau yma. Mae angen i bobl wynion hefyd fynd ati o ddifri gael sgyrsiau am hiliaeth wyn mewn gofod diogel ar wahân, er mwyn herio eu hunain, eu cyfoedion a/neu eu staff. Mae angen seilio’r broses yma ar rymuso pobl, nid ar euogrwydd.” Allwn i ddim fod wedi’i ddweud yn well fy hunan.

5. Gwneud lle i ni wrth y bwrdd

Os nad ydyn ni wrth y bwrdd, mae’n debyg ein bod ni ar y fwydlen. Gwnewch y lle’n groesawgar hefyd. Peidiwch â’n gwahodd ni i eistedd wrth eich bwrdd a gofyn i ni gadw’n dawel. Gwnewch le i ni: yn eich digwyddiadau ac yn eich sgyrsiau.

Mae breuder gwyn yn bod. Dyma derm a fathwyd gan yr academydd Robin DiAngelo i gyfeirio at ymateb gwyllt pobl sy’n cael ei achosi gan brofiadau o straen hiliol – yn y bôn, pan fydd braint gwyn yn cael ei gwestiynu neu ei herio. Mae’r rhan fwyaf o bobl wynion yn byw mewn byd o gysur hiliol sy’n eu hynysu rhag y straen hiliol sy’n wynebu pobl groenliw bob dydd. Breuder gwyn yw pobl wynion yn crio, yn gofyn cwestiynau amheus neu’n ymateb yn wael iawn, iawn i gwestiynau am hil a gwladychiaeth; a breuder gwyn yw rhes o siaradwyr gwynion mewn digwyddiad. Mae breuder gwyn yn llawn euogrwydd ac yn beryglus – fe allai ddinistrio’r mudiad cenedlaethol.

Mae gorfod cerdded i mewn i’r un gofodau a wynebu’r un mân ymosodiadau flwyddyn ar ôl blwyddyn yn ein blino ni. Mae ein cynghreiriaid yn gweld yr hiliaeth rydyn ni’n ei wynebu ac yn teimlo’n anghyfforddus hefyd.

Fe ysgrifennodd Audre Lorde nad ein gwahaniaethau sy’n ein gwahanu, ond ein hanallu i weld, derbyn a dathlu’r gwahaniaethau yna. Beth am ddysgu derbyn a dathlu’r gwahaniaethau, fel bod y mudiad cenedlaethol yn gallu cynrychioli pob un o’n cymunedau?

Rhestr ddarllen (llyfrau)

  • A Tolerant Wales? – Golygwyd gan Charlotte Williams
  • Decolonising the Mind – Ngũgĩ wa Thiong’o
  • Postcolonial Wales – Golygwyd gan Jane Aaron a Chris Williams
  • Slave Wales – Chris Evans
  • Sugar and Slate – Charlotte Williams
  • Women, Race, Class – Angela Davis
  • Wretched of the Earth – Frantz Fanon

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.