Be ydi’r stori?

Mae Undod yn croesawu’r newydd fod y Llys Apêl wedi barnu fod trwyddedu allforio arfau oddi yma i Sawdi Arabia yn anghyfreithlon.

Dywedodd y barnwyr ei fod yn “afresymegol a felly yn anghyfreithlon” bod Ysgrifennydd dros Fasnach Ryngwladol Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol wedi awdurdodi trwyddedau am allforion arfau, heb asesu a oedd Sawdi Arabia wedi torri’r Gyfraith Ddyngarol Ryngwladol neu beidio.1

Bu llawer o adroddiadau o ffynonellau dibynadwy yn dweud fod torcyfraith o’r fath wedi digwydd yn ystod cyrchoedd bomio Lluoedd Arfog Sawdi Arabia ar Yemen. Dyna pam y daeth yr Ymgyrch yn Erbyn y Fasnach Arfau (Campaign Against Arms Trade – CAAT) a’r achos o flaen y llys.

Be ydi’r cefndir?

‘Does dim syndod yn y byd fod rhyfelgwn ein Llywodraeth ddiegwyddor yn San Steffan am geisio gwyrdroi’r dyfarniad drwy apelio yn ei erbyn – anrheg fach gan May i’w holynydd.2 Ond llathen o’r un brethyn ydyn nhw hefyd.

Boris Johnson? Pan oedd o’n Weinidog Tramor yn 2016 cefnogodd werthu arfau yn nannedd tystiolaeth yn dangos fod targedau sifil yn cael eu bomio.3

Jeremy Hunt? Ceisiodd wyrdroi penderfyniad yr Almaen i beidio a gwerthu arfau i Sawdi.4

Ond mae sinigiaeth llwyr Llywodraethau y Deyrnas Gyfunol – Tori a Llafur – drwy werthu arfau i Sawdi yn amlwg ers degawdau. Yn 1985 y dechreuodd Thatcher a phrif gwmni arfau Prydain, BAE Systems, ar gytundebau a elwir ‘Al Yamamah’, sydd wedi roi elw o £43 biliwn fan lleiaf i’r cwmni.5 Gellid honni mai dyma oedd wedi cadw’r cwmni i fynd, gan nad oedd gan y wladwriaeth Brydeinig ddigon o arian ei hun i gynnal ei diwydiant arfau fel arall. Ac yn rhyfeddol i ni erbyn heddiw, llwyddodd Prydain gwerthu arfau iddynt oherwydd bod yr UDA yn gyndyn o wneud, rhag i’r arfau gael eu defnyddio yn erbyn Israel. Ymhen blynyddoedd daeth yn amlwg fod llwgrwobrwyo ar raddfa anhygoel wedi digwydd, ac yn y pendraw cynhaliodd y Serious Fraud Office ymchwiliad – ond yn dilyn pwysau gan Sawdi ataliwyd yr ymchwiliad gan Blair. Dyna hyd a lled moesol y ddau Brif Weinidog a ystyrir y mwyaf ‘llwyddiannus’ yn y cyfnod diweddar.

Amddiffyn buddiannau y fasnach arfau a’r peiriant milwrol ydi blaenoriaeth ein llywodraeth yn Llundain, nid arbed bywydau – sy’n digwydd bod yn fywydau pobl sy’n dywyllach eu croen na’r rhan mwyafrif ohonom ni.

Heddiw, ein gwladwriaeth ni (gyda chymorth y Windsors) sy’n darparu mwy o arfau nac unrhyw wlad arall i Sawdi, heblaw am yr UDA. Nid yn unig hynny, ond maent hefyd yn hyfforddi lluoedd arfog y wlad honno ac yn cynnal a chadw eu hawyrennau.6

Rhyfel Yemen yw’r dolur sy’n dinistrio’r wlad honno, ac yn lladd ei phobl yn ddidrugaredd heb falio os ydi’r lladdedigedig yn filwyr ai peidio. Mae erchylltra mor gyffredin nes ei fod yn ffordd o fyw i ddwy ochr y gyflafan. Ac eto fyth, mae olion bysedd gwaedlyd y Brydain ôl-imperialaidd ar gyrff diniwed. Y diniwed a leddir pan ymosodir ar ysgolion, ysbytai a phriodasau.

Dywed adroddiad diweddar fod agos at 100,000 o bobl wedi eu lladd yn y rhyfel yn Yemen.7 Mae newyn yn rhemp yn y wlad ac mae colera wedi effeithio ar dros filiwn o bobl. Dywedir fod 80% (27 miliwn) o’r boblogaeth angen cymorth dyngarol, a bod tua 10 miliwn o bobl ar drothwy newyn.8

Be sy gan hyn i wneud efo Cymru?

Defnyddir Cymru at ddibenion rhyfelgar, ac mae yna gysylltiad uniongyrchol efo’r hyn sy’n digwydd yn Yemen.

Taniwyd y taflegrynau “Storm Shadow” a “Paveway IV”at Yemen. Profwyd rhain yn Aberporth gyda’r awyren Typhoon yn 2010 a 2015.910 Mae werth cofio’r addewid o 1,000 o swyddi a wnaed, tra bod llai na 50 yno heddiw.

Mae Maes Awyr Llanbedr ger Harlech i’w ddatblygu er mwyn profi adar angau (“drones”). Cefnogir y datblygiad gan £500,000 o arian trethdalwyr a roddwyd gan Gyngor Gwynedd. Mae Llanbedr yn rhan o “Barth Menter Eryri” ynghyd a Thrawsfynydd, lle mae’r Cyngor, yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis Thomas a’r Aelod Seneddol Liz Saville Roberts i gyd yn cefnogi datblygu Adweithydd Niwclear Bychan (SMR) sydd, fel y dengys ymchwil Prifysgol Sussex, yn bennaf er mwyn cadw sgiliau niwclear ym Mhrydain ar gyfer y llongau tanddwr Trident – a yrrir gan ynni niwclear.11

Yr ardal oddi ar arfordir gorllewin Cymru yw’r cyntaf i gael ei chlustnodi ar gyfer paratoi at ryfel a lladd o bell yn y dull hwn.12 Mae ein Llywodraeth yng Nghaerdydd yn fodlon i hyn digwydd, ac ychydig o wleidyddion a glywir yn lleisio barn wahanol. Unwaith yn rhagor, fu yna fawr o drafod cyhoeddus am hyn – sy’n nodweddiadol o’r modd y militareiddiwyd Cymru dros y ganrif ddiwethaf.

Hyfforddwyd peilotiaid o Sawdi Arabia yn RAF Fali ar Ynys Môn, lle y cynhaliodd nifer o fudiadau dyngarol wylnos o brotest llynedd.13 Mae Awyrlu’r Fali wedi derbyn rhyddfraint Ynys Môn gan y Cyngor Sir, sy hefyd wedi penodi Pencampwr y Lluoedd Arfog.

Mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo y diwydiant arfau a rhyfel, fel y gwelir yn amlwg o’u datganiadau cefnogol a’u cyhoeddiadau.14 Dyma i chi rai o’r cwmnïau arfau a milwrol enfawr sy’n cael croeso gwasaidd a thaeog gan Lywodraeth Cymru: BAE Systems (2.6 biliwn o arfau i Sawdi llynedd); Raytheon (gwneuthurwyr Paveway IV); QinetiQ (profi adar angau).

Be sy gan hyn i wneud efo Cymru annibynnol?

Mae’r egwyddorion y dylai Cymru annibynnol eu coleddu yn gwbl groes i’r diffyg egwyddorion a weithredir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ym maes arfau a militariaeth. Fedrwn ni ddim, mewn Cymru annibynnol, adael materion ‘amddiffyn’ yn nwylo Llundain. Fedrwn ni ddim bod yn fodlon efo’r ffaith fod cymaint o’n gwlad yn cael ei ddefnyddio ar gyfer paratoi at ryfel, fod ein pobl dlotaf yn cael eu targedu ar gyfer eu recriwtio i’r fyddin, a bod cymaint o’n swyddi yn dibynnu ar y peiriant dieflig o ddysgu sut i ladd pobl, a hynny yn y ffyrdd mwyaf didostur.

Mae’r ddibyniaeth ar y diwydiant arfau a rhyfel yma yn anfoesol, ac yn ein cadw yn ddibynnol ar San Steffan. Polisi San Steffan yw gwario ar arfau a militariaeth.15 Polisi San Steffan yw llymder sy’n gwasgu ein cymunedau a’n Cynghorau Sir, ac yn ein gwneud yn ysglyfaeth i unrhyw addewid am ‘swyddi’, waeth pa mor annhebygol.

Byddai Cymru annibynnol sy’n fodlon efo militariaeth yn atgynhyrchu’r un math o wladwriaeth anghyfiawn sy’n bodoli yma ar hyn o bryd.

Dydw i ddim eisiau bod yn rhan o’r fath wladwriaeth.

Dylai Cymru annibynnol ymgodymu go iawn gyda chyflogaeth wahanol ar gyfer y rhai sy’n gweithio yn y diwydiant arfau – mae’r New Lucas Plan a’r Shadow Defence Diversification Agency16 yn cynnig rhai atebion posib.

Mae’n rhaid gofyn pam bod cymaint o’n tir, a bellach ein moroedd a’n gofod awyr, o dan law farwaidd y Weinyddiaeth Amddiffyn. Beth ddylai Cymru annibynnol wneud am hynny? Meddyliwch am y peth o ddifri, a chymharwch faint o’n hardaloedd hanesyddol sy wedi eu trawsnewid er gwaeth. Dylai Epynt fod yr un mor bwysig i ni ag ydi Tryweryn.

Mae’n hwyr glas i Gymru ddeffro i’r ffaith fod gweithgaredd milwrol yma yn arwain at ladd ar raddfa eang mewn rhyfeloedd tramor – ac yn aml iawn y diniwed a leddir. Codwn ein lleisiau yn erbyn y fath greulondeb anwar. Fel y dywed y gohebydd dyngarol Hisham al-Omeisy o’r Yemen: ‘Yr arch leiaf yw’r arch drymaf’.

Cyfeiriadau

  1. https://www.caat.org.uk/resources/countries/saudi-arabia/legal-2016
  2. https://www.bbc.co.uk/news/uk-48704596
  3. https://www.independent.co.uk/news/uk/politics/boris-johnson-arms-sales-saudi-arabia-yemen-war-weapons-exports-a8955091.html
  4. https://www.theguardian.com/world/2019/feb/20/jeremy-hunt-urges-germany-to-rethink-saudi-arms-sales-ban
  5. https://sites.tufts.edu/corruptarmsdeals/the-al-yamamah-arms-deals/
  6. https://www.theguardian.com/world/2019/jun/18/the-saudis-couldnt-do-it-without-us-the-uks-true-role-in-yemens-deadly-war
  7. https://www.acleddata.com/2019/06/18/yemen-snapshots-2015-2019/
  8. https://scopeblog.stanford.edu/2018/12/19/cholera-and-starvation-in-yemen-is-preventable-stanford-pediatrician-says/
  9. https://www.baesystems.com/en/article/first-storm-shadow-missile-successfully-released-from-typhoon
  10. https://www.baesystems.com/en/article/paveway-iv-testing-on-typhoon-continues
  11. http://www.sussex.ac.uk/spru/newsandevents/2017/findings/nuclear
  12. http://www.fraw.org.uk/mei/musings/2014/20140318-west_wales_drones-ecologist.html
  13. https://nation.cymru/opinion/a-supine-welsh-government-cant-turn-a-blind-eye-to-training-saudi-pilots-at-raf-valley/
  14. https://tradeandinvest.wales/advanced-materials-manufacturing/aerospace
  15. https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/652915/UK_Defence_in_Numbers_2017_-_Update_17_Oct.pdf
  16. https://www.caat.org.uk/get-involved/unions/shadow-dda-motion

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.