Ymunwch ag Undod i gefnogi Cymru y gallwn ni i gyd fod yn falch o’i galw’n gartref. Rydym yn orymdeithio gyda baneri Undod ac yn cynnal cyfarfod yn Llety Arall.

Mae’r cyffro’n amlwg wrth inni ddisgwyl ymlaen at ddydd Sadwrn ac ail orymdaith Pawb Dan Un Faner dros annibyniaeth, i’w chynnal yng Nghaernarfon. A pha ffordd well o goffáu hanner canmlwyddiant arwisgiad y Tywysog Siarl yn y dref, na gyda chri dros Gymru werdd, sosialaidd a gweriniaethol?

Bydd rhai yn nodi, neu’n protestio o bosib, mai pwrpas gorymdaith o’r fath yw gosod ein gwahaniaethau ideolegol o’r neilltu a chofleidio’r mudiad cyfan a’i amryw wynebau am un prynhawn – gan osod y syniad syml o Gymru annibynnol gerbron y cyhoedd. Mae’r syniad hwn yn bwysig, wrth gwrs, o ran dangos nerth ac undod symbolaidd, a rhoi cyfle i lawer nad ydynt efallai wedi treulio gormod o amser yn myfyrio ar eu sefyllfa i ystyried eu safbwynt, a meddwl am gymryd rhan. Mae casglu tyrfa fawr, gyda digonedd o sŵn a lliw, a chynnal gig gyda’r nos, hefyd yn rhan annatod o sicrhau bod y mudiad yn ddeniadol, yn hwyl ac yn un cadarnhaol.

Fodd bynnag, mae rhesymau da iawn – tri rheswm sylfaenol o leiaf – sy’n gofyn bod set o werthoedd penodol y tu ôl i’r sioe fawr hon, a syniad am Gymru fydd yn ennyn brwdfrydedd pobl am fwy nag un prynhawn, fydd yn cynnig sylwedd ac uchelgais yn wyneb ein hargyfwng gwleidyddol, a chynnig gobaith gwirioneddol sy’n ysbrydoli pobl i ymrwymo a chroesawu newid, yn enw’r achos.

Dyfodol amgen

Un rheswm amlwg pam bod y syniad o Gymru annibynnol sydyn reit yn ddeniadol – i bobl na fyddent erioed wedi breuddwydio am y syniad ychydig flynyddoedd (neu hyd yn oed misoedd) yn ôl – yw argyfwng gwleidyddol ein hoes. Yn y wladwriaeth Brydeinig, wrth gwrs, mae hyn yn cael ei fynegi mewn modd poenus, pathetig, trwy saga Brexit, sydd o’r diwedd yn dod â hen wladwriaeth Imperialaidd i’w phen-gliniau – a’r Ymerodraeth yn dod i ben, o’r diwedd, gyda dim ond gwich. Gwelwn yr un symptomau â gwledydd eraill ar draws y byd – anghydraddoldeb cynyddol, safonau byw sy’n gwaethygu, normaleiddio hiliaeth ac anoddefgarwch ymhlith y dosbarth gwleidyddol ac yn y byd cyhoeddus. Ac yn ein hwynebu ni oll mae’r argyfwng amgylcheddol y mae’r genhedlaeth hon o wleidyddion – a chynifer o’i harweinwyr mor atgas ac anwybodus – yn anfodlon ei gydnabod. Mewn amgylchiadau o’r fath, mae’n amlwg mai’r hyn sydd ei angen arnom yw cyfundrefnau newydd a gwleidyddiaeth newydd i ddisodli’r hen drefn – rhai sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael â’r problemau cyffredin hyn sy’n effeithio ar y mwyafrif. Rhaid i’r mudiad cenedlaethol gynnig y gobaith hwn, a gweledigaeth o wlad sy’n chwarae ei rhan wrth greu byd newydd, a realiti gwell i’n plant.

Y peth iawn i’w wneud

Yr hyn sydd hefyd yn glir i unrhyw berson sy’n cymryd diddordeb mewn gwleidyddiaeth yw bod yr argyfwng presennol hwn, a’r argyfwng amgylcheddol, yn deillio o ddiwylliant gwleidyddol a system economaidd sy’n gosod y gwerth mwyaf ar gyfalaf, cystadleuaeth a chyfoeth unigol, ar draul popeth arall. Fydd cyfalafiaeth ddi-hid, defnydd di-rwystr o adnoddau ein byd, ecsbloetio’r dosbarthiadau gweithiol yn ein cymdeithas ni ac ar draws y byd mwyafrifol, a chymdeithas fyd-eang sy’n dal i weithredu yn ôl hierarchaethau oes gwladychiaeth, yn gwneud dim ond parhau i droi’r cylch dieflig o wrthdaro a thlodi sydd wedi nodweddu’r oes fodern. Mae archwilio sut y gall Cymru annibynnol herio rhai o’r patrymau hyn a gwneud pethau’n wahanol yn fater nid yn unig o geisio denu mwy o bobl i’r mudiad – mae’n rhywbeth y mae’n rhaid ei wneud er mwyn mynd i’r afael â’r dirywiad cyffredinol sy’n ein hwynebu heddiw ac sydd a goblygiadau anferth i’r dyfodol.

Llwyddiant

O safbwynt pragmataidd, yr unig obaith o lwyddiant i fudiad dros Gymru Annibynol yw’r cyfle i newid ein gwleidyddiaeth er gwell, gweithredu polisïau blaengar, a chreu realiti amgen i genedlaethau’r dyfodol. Mae creu gwladwriaeth o’r newydd yn newid radical sy’n risg enfawr ac yn groes i’r graen yn llygaid y mwyafrif, ac felly mae’n rhaid i’r canlyniadau fod yn rhai sy’n sicrhau y bydd y risg tybiedig yn werth chweil. Am y tro, mae’r trychineb sy’n ein disgwyl ym Mhrydain y Brexit Heb Gytundeb yn ddigon i sicrhau bod llawer yn chwilio am ddewis amgen, ond mae angen gweledigaeth sylweddol arnom i’w hargyhoeddi bod rhywbeth gwell yn bosibl yng Nghymru. A pham na ddylai fod? Mae Cymru’n wahanol – mae gennym hanes gwahanol (gyda gwerinwyr a’r proletariat mor amlwg â’r Tywysogion), gwerthoedd gwahanol (rydym yn wlad amlieithog, gomiwnitaraidd), gyda gwahanol ddyheadau (mae pobl yn symud i Gymru yn y gobaith o hapusrwydd, nid cyfoeth) – ac mae’r hunaniaeth hon, a hanes ein diwygwyr, yn elfennau y dylem eu cofleidio wrth geisio creu cymdeithas egalitaraidd, cariadus at natur a chariadus at bobl; cymdeithas fydd yn gyflawniad o bwy ydym ni fel pobl.

Os ydych chi’n rhannu rhai o’r dyheadau hyn, ac yn chwilio am ysbrydoliaeth a gobaith, ymunwch â ni ar ôl y rali yn Llety Arall yng nghanol tref Caernarfon i drafod ein hegwyddorion, darllen ein datganiad ar ynni cymunedol, ac i lenwi ffurflen aelodaeth fel y gallwch ddod yn rhan o’r mudiad sy’n addo dyfodol gwell i Gymru.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.