Dwy o Wyliau mawr cenedlaethol sydd yna a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl Cymru – Y Sioe Fawr (Roial Welsh yn Gymraeg) a’r Steddfod (Royal National Eisteddfod gynt). Heblaw am gemau rhyngwladol, dyma lle y gwelir y torfeydd mwyaf – tua 240,000 yn y Sioe dros 4 diwrnod, a tua 150,000 yn y Steddfod dros 9 diwrnod. Fel rheol mi fydda i’n un o’r miloedd rheiny sy’n mynd i’r ddwy Wyl, a mwynhau fy hun.

Beth, tybed, mae’r gwyliau hyn yn ddweud wrthym ni am y Gymru gyfoes? I ba raddau mae nhw’n adlewyrchu ein cymdeithas? Ac uwchlaw dim, efallai, beth yw’r negeseuon sefydliadol sy’n atgyfnerthu’r “drefn” ac yn llywio barn yn yr isymwybod? Negeseuon sy’n medru bod yn ddigon anghysurus ar adegau i rai fel fi sy’n arddel gweriniaeth sosialaidd werdd a chynhwysol.

Felly ymgais sydd yma i dynnu sylw at ambell i beth sydd, yn fy ngolwg i beth bynnag, yn golygu nad ydi’r ddau sefydliad pwysig a llwyddiannus yma ddim yn llawn amgyffred sefyllfa gyfoes Cymru – er nad ydi’r diffyg amgyffred hwn o fwriad yn angenrheidiol.
Dyma’r erthygl gyntaf yn dilyn Sioe 2019. Daw’r ail yn dilyn y Steddfod.

Y Sioe

Bochdew, blodau a buchod, mae nhw i gyd yma. Heblaw am gant a mil o bethau eraill. Dathliad o’r gorau o ffermio a bywyd gwledig, cyfle gwych i gael hwyl a chymdeithasu. Trafodaethau di-ri, gwleidydda, gwyliau blynyddol i lawer o ffermwyr a’u teuluoedd, a chyfle i fynd dros ben llestri!

Mae’r Sioe, i raddau, yr hyn ydych chi eisiau iddi fod – gallwch ddilyn eich maes arbenigol e.e. ceffylau; dilyn eich trwyn o gwmpas y stondinau; gwylio’r gweithgareddau amrywiol. Mae’r awyrgylch yn gyfeillgar, a mi fedrwch daro sgwrs efo pob math o bobl. Be na fedrwch chi ddim ei wneud ydi osgoi rhai o’r pethau sy’n cael lle amlwg yn y Sioe, ac yn fy nharo i’n chwithig iawn.

Militariaeth

Dyna i chi y “Regimental Band and Corps of Drums of the Royal Welsh” gyda’r carcharor rhyfel Shenkin IV, yr afr a herwgipiwyd o’r Gogarth uwchlaw Llandudno, sy’n chwarae miwsig yn y prif gylch bob blwyddyn.

Stondin enfawr y Fyddin Brydeinig ac un llai yr Awyrlu yn ymyl y brif fynedfa. Dim syndod o gwbl fod arfau rhyfel ac awyren yno, a phlant yn cael eu hannog i chwarae sowldiwrs a dal y gynnau yn eu dwylo meddal tra’n cael caledu eu meddyliau.

Llynedd ‘roedd yr Awyrlu yn dathlu ei ganfed penblwydd, a’r Sioe yn berffaith fodlon rhoi gofod i’r dathliad – parasiwtio i’r prif gylch ac awyrennau’n hedfan uwchben. Mwy siomedig i mi oedd y ffaith fod baner enfawr yr RAF ar do adeilad y Ffermwyr Ifanc. Ydi, mae o’n fudiad rhagorol – ond hogia bach, mi oeddach chi’n cefnogi sefydliad sy’n chwyrnellu drwy’r awyr uwchben eich ffermydd a dychryn eich hanifeiliaid, heb son am yr egwyddor o hyfforddi peilotiaid o dramor i fomio gwledydd fel Yemen. Dydi ffermio ddim yn bodoli mewn gwagle moesol.

Llynedd hefyd un o brif atyniadau’r prif gylch oedd y King’s Troop efo eu harddangosfa o geffylau yn tynnu gynnau rhyfel a’u tanio. Golygfa wedi ei llunio i gynnal cefnogaeth i’r lluoedd arfog. Ac yn naturiol mae’r King’s Troop yn rhan greiddiol o’r sioeau brenhinol yn Llundain. Dwi’n eitha sicr fod yna gost enfawr i’r math yma o weithgaredd – go brin fod y Sioe yn talu’n gyfangwbl.

Cwestiwn i’r Sioe

Pam nad ydych chi’n cwestiynu militariaeth, yn enwedig o gofio faint o’n tir sy wedi ei ddwyn gan y fyddin? (Dydi maes y Sioe ddim ond tafliad carreg o’r Epynt, lle boddwyd gwerinwyr o ffermwyr gan ddagrau hiraeth. Dagrau na fedr swn y gynnau eu dileu o’r cof).

Windsoriaeth

‘Doedd dim angen poeni y byddai’r Sioe yn anghofio’r Windsors a hithau’n hanner canrif ers i ni ddioddef Carlo yn cael ei hwrjio arnan ni gan wleidyddion y dydd. Do, mi gyrhaeddodd yng nghwmni Camilla, a mae’n siŵr gwneud y sylwadau “doniol” arferol, mor ddoniol fel fod pobl ddylai wybod yn well yn chwerthin lond eu boliau. Mae o a’i dylwyth yn hen gyfarwydd a chael lle blaenllaw bob tro y byddan nhw yn y Sioe, ac yn atgyfnerthu’r drefn o foesymgrymu, plygu glin, a’r “wen, lafoerwen, farwol”.

Yn yr oes sy ohoni pam rhoi cymaint o gyhoeddusrwydd i bobl sy’n cynrychioli annhegwch cymdeithas? Pobl sy’n falch o wisgo lifrai milwrol ar bob cyfle posib? Pobl sy’n gyfoethog y tu hwnt i amgyffred ac eto’n ddigon haerllug i dderbyn budd-daliadau dibendraw gennych chi a minnau?

Cwestiwn i’r Sioe

Onid ydi hi’n hen bryd cael ‘madael a’r “Royal” o’r “Royal Welsh Show – y teitl a’r bobl?

Pwy sy’n rhedeg y Sioe?

Gweinyddir y Sioe yn rhagorol gan staff cyflogedig diflino a chydwybodol. Fedra i ddim dychmygu y byddai’r trafferthion a welir yn rheolaidd yn y Steddfod, megis maes parcio Bodedern neu safle Llanrwst, yn digwydd yn y Sioe.

Mae’r Cyngor yn cyfarfod yn rheolaidd ac yn gwneud y penderfyniadau pwysig. Mae’r aelodau yn dod o wahanol gefndiroedd, ac yn wirfoddolwyr. Mae nifer o Gymry da blaenllaw yn eu plith – er diau y gellid ceisio gwell cynrychiolaeth i adlewyrchu cymdeithas wledig, heb son am un drefol. Mae’r Cyngor wedi llywio’r Sioe drwy ambell i storm dros y blynyddoedd, fel ei bod bellach y Sioe fwyaf yng ngwledydd Prydain – cofiwn fod y Royal Show yn Lloegr wedi hen fynd a’i phen iddi.

Mae gan y Sioe Gyfarwyddwr Anrhydeddus, sy hefyd yn Is-Gadeirydd y Bwrdd Cyfawyddwyr. Daeth cyfnod y Cyfarwyddwr presennol, Harry Fetherstonhaugh, i ben eleni. Mae’n dirfeddiannwr, cyn Arglwydd Raglaw Clwyd, ac aelod o deulu bonedd sy wedi rhoi 25 mlynedd o lafur diflino i’r Sioe. Bu ei dad hefyd yn y swydd hon. Bydd yn cael ei olynu gan Richard Price, sy hefyd yn dirfeddiannwr o un o hen deuluoedd bonedd y Gogledd sy’n olrhain ei linach i Rys Fawr, a ymladdodd efo Harri Tudur ar Faes Bosworth. Etholwyd Richard Price gan y Cyngor. Dwi’n barod iawn i gydnabod cyfraniad aruthrol Harry Fetherstonhaugh, a heb amau dim ar allu nac ymroddiad Richard Price, ond mae’n ymddangos o’r tu allan fod y swydd hollbwysig hon wedi ei chadw o fewn un haen cymdeithasol. Haen sy’n fwy tebyg nag eraill i gynnal y drefn. Os yw’r swydd wirfoddol hon yn gofyn llawer o ran amser a chost, yna dylid ystyried digolledu’r person sy’n gwneud y swydd.

Cwestiynau i’r Sioe

Oni ddylid ystyried pobl o bob dosbarth cymdeithasol ar gyfer y swydd o Gyfarwyddwr Anrhydedus y Sioe yn y dyfodol? Onid ydi hi’n bwysig sicrhau fod y Sioe yn gynhwysol ar bob lefel o weithgaredd, cyn belled a sy’n bosib?

Chris Davies

Mae yna nifer o Gyfarwyddwyr Cynorthwyol Anrhydeddus. Un ohonyn nhw yw Chris Davies, a gafwyd yn euog o gamarwain wrth hawlio treuliau tra yn Aelod Seneddol. Ac yntau wedi ei gael yn euog yn ddiweddar mewn llys barn, ac yn wynebu is-etholiad wedi i ddeiseb gael ei harwyddo gan dros 10,000 o’i etholwyr, mae’n syndod deall ei fod yn dal yn y swydd uchel hon yn y Sioe, lle mae’n gyfrifol am adran y ceffylau, y prif gylch, arddangosfeydd a sylwebaeth. (Sgrifennwyd yr erthygl hon cyn yr is-etholiad).

Cwestiwn i’r Sioe

A drafodwyd y priodoldeb o gadw Chris Davies yn y swydd o Gyfarwyddwr Cynorthwyol Anrhydeddus yn dilyn ei achos llys?

Y Gymraeg

Clywir yr iaith yn ei holl amrywiaeth tafodieithol ar faes y Sioe, fel y gellid disgwyl. Mae’r iaith yn fwy amlwg ar arwyddion nag y bu, a mae yna sylwebyddion medrus sy’n ddeheuig yn y ddwy iaith. Mae’r Prif Weithredwr wedi dysgu’r Gymraeg yn rhugl ac yn fodlon cael ei gyfweld yn yr iaith. Tra bod yna rhywfaint o Gymraeg yn y catalog, pur arwynebol ydi o. Hyd y gwn i ‘does yna ddim rheidrwydd cael arwyddion Cymraeg ar stondinau masnachol. Felly o ran y Sioe, mae gwelliant wedi bod, ond byddai mwy o Gymraeg yn dda i’w gweld a’i chlywed.

Cwestiwn i’r Sioe

A fedrwch chi wneud mwy i droi’r Sioe yn wirioneddol ddwyieithog?

Casgliadau

Hoffwn weld y Sioe yn rhoi’r gorau i bethau sy’n rhoi llwyfan amlwg i bropaganda o blaid y Lluoedd Arfog a’r Windsors. Hoffwn weld adlewyrchiad llawer mwy cynhwysol o’r gymdeithas gyfoes ymhlith rhai o uchel swyddogion y Sioe. Hoffwn weld proses deg a thryloyw o ddelio efo unigolion mewn swyddi dylanwadol sydd, am ba reswm bynnag, yn gallu dwyn anfri ar y Sioe drwy eu hymddygiad. Hoffwn weld ymgais i wella’r ddarpariaeth yn yr iaith Gymraeg, er yn cydnabod fod llawer iawn wedi ei wneud yn barod.

Yn bennaf, gadewch i’r Sioe adlewyrchu’r gorau o’r Gymru wledig; a bod yn un o’r sefydliadau fedr arwain ar faterion megis tlodi cefn gwlad; olyniaeth mewn ffermydd teuluol; cefnogi newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant; bod yn flaengar wrth drafod dyfodol cefn gwlad yn ei amryfal agweddau; gweithio i wyrdroi y llif ieuenctid i’r dinasoedd; a dangos yn eglur sut y gall y diwydiant creiddiol yma fod yn rhan o ddyfodol llewyrchus i Gymru.

Rhan 2 i’w chyhoeddi yn fuan

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.