Mae arbrawf mewn system o ymreolaeth ffeministaidd y Cwrdiaid o dan fygythiad gan wladwriaeth Twrci – a rhaid i ni fel y mudiad cenedlaethol weithredu.

Yn mis Chwefror y flwyddyn hon, clywais bod cyfaill o’r gymuned Gwrdaidd wedi bod ar streic newyn ers dros 70 diwrnod. Yr unig beth oedd yn ei gadw’n fyw oedd fitaminau a the gyda ychydig o siwgwr. Penderfynwyd criw ohonom ymuno yn yr ymgyrch i gefnogi ei safiad. Yr oedd hyn yr oedd yn ei wneud i’w gorff am gyfaddawdu ei hiechyd am weddill ei oes. Oedd ein ffrind Imam Şiş yn barod i ferthyra ei hunain dros yr hyn oedd yn ei gredu ynddo.

Safiad yn erbyn ynysu arweinydd y PKK Abdullah Öcalan oedd streic newyn Imam. Dyn oedd wedi ysbrydoli ei bobl i godi a brwydro dros eu rhyddid. Fel Mandela gynt yr oedd ar garchar-ynys ers ddegawdau. Doedd heb gael ymwelaid gan ei dim cyfreithiol ers blynyddoedd lawer, nac ei deulu. Nid oedd yn cael cyfathrebu gyda carcharorion eraill hyd yn oed. Yr oedd gwladwriaeth Twrci yn torri eu rheolau eu hunain a chyfraith rhynglwadol drwy’r triniaeth arteithiol yma o ynysu.

Enillwyd y dydd gyda’r streic newyn gan y mudiad Cwrdaidd ar draws y byd, gan gynnwys miloedd o garcharorion, aelod seneddol yn Nhwrci yr HDP, Leyla Güven a ein cymrodor ni, Imam Şiş yng Nghasnewydd. Cafodd Abdullah Öcalan ymweliadau gan ei gyfreithwyr am y tro cyntaf ers blynyddoedd a fe wnaeth ein Senedd ni yng Nghymru ryddhau datganiad yn cefnogi’r frwydr yma, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i wneud hyn.

Mae syniadau Abdullah Öcalan wedi esgor ar chwyldro ecolegol a ffeminyddol yng ngogledd Syria – Rojava. Mae democratiaeth uniongyrchol gyda sicrhad o gynrychiolaeth gan fenywod a lleiafrifoedd o bob math yn rhywbeth sydd wedi peri i mi, fel anarchydd teimlo yn ofnadwy o gyffrous. Dychmygwch – democratiaeth go iawn heb wedi ei gyfryngu gan gyrfa-garwyr o wleidyddion, na gwladwriaeth fiwrocrataidd yn eistroni ni rhag grym yn ein cymunedau.

Dyma’r gymdeithas brydferth buom yn freuddwydio amdano, tebyg i’r chwyldro anarchaidd yng Nghatalwnia yn ystod rhyfel cartref Sbaen yn y 1930au. Anhygoel fell all y gorau o ddyniolaeth ddod o’r sefyllfaoedd mwyaf gawedlyd a thywyll – yn ganol rhyfel.

Ers i Syria cael ei rheibio gan drais rhyfel, bu’r YPJ yng ngogledd Syria yn ymladd Isis gan achub eu pobl rhag y gorthwm a chaethwasiaeth mwyaf ofnadwy. Anhygoel bod y drefn yma wedi ei sefydlu yng nghanol y fath chwalfa, ond dyma sydd wedi digwydd.

Mae chwyldroadwyr o bob lliw a llun wedi heidio i Rojava i gefnogi’r chwyldro. Mae dau o’m ffrindiau o’r mudiad anarchaidd yn yr “International Commune” a maent yn gweithio ar brosiectau plannu coed drwy “Make Rojava Green Again” fel rhan o’r gwaith i drwsnewid y gymdeithas i fod yn un ecolegol. Gweler ffilm fer am yr hyn y mae nhw yn ei wneud.

Bu farw ffrind i mi, a oeddwn wedi ei hadnabod ers blynyddoedd trwy’r mudiad anarchaidd ac wedi cydweithio gyda cryn dipyn yn y mudiad dros ddiddymu carchardai – yn Afrin, sef Tre yn Rojava a chafodd ei hymosod arni gan gwladwriaeth Twrci. Cafodd Anna Campbell ei lladd wrth i Dwrci fomio’r dref yn yfflon. Rwan mwy na blwyddyn yn ddiweddarach mae Twrci yn bygwth ymosod Rojava a chwalu y gymdeithas bêr a sefydlwyd yno.

Dydd Sul y 4ydd o Awst cyhoeddodd Erdogan, Arlywydd Twrci ei fod am ymosod.

Gan y mudiad cenedlaethol Gymreig llawer iawn i’w ddysgu o Chwyldro Rojava. Ni wnaiff copi carbon o wladwriaeth gyflalafol y tro i ni. Gyda cynhesu byd eang, ffasgiaeth cynyddu mewn grym ar draws y byd ac adref – rhaid i ni fod yn uchelgeisiol am y gymdeithas gyfiawn a rhydd yr ydym ni yn ei freddwydio amdano. Os all pobl greu y math yma o system yng nghrombil rhyfel – gallwn ni wneud hyn yng Nghymru, heddiw. Yn wir, mae nifer o bentrefi yng Nghymru wedi dechrau’r daith ac pobl wedi dod at eu gilydd i berchnogi eu hadnoddau fel cymuned – sydd yn symudiad cryf tuag at y freuddwyd hon. Ar draws Cymru mae perchnogaeth cymunedol yn cydio.

I ddysgu mwy am y system yma o Gydffederaliaeth Ddemocrataidd, darllenwch y cyfieithiad o waith Abdullah Öcalan a ysgrifennodd o’r carchar. Dim gwladwriaeth, dim cyfalafiaeth ond democratiaeth cymunedol yn gyd-blethu a chymunedau gyda’i gilydd fel cwlwm celtaidd. Gweithredwyd y syniadau yma cyn dyddiau chwyldro Rojava, o fewn ffiniau gwladwriaeth Twrci yn Bakur (gogledd Cwrdistan). Does dim rhaid oedi am “sefyllfa chwyldroadol” (fel y rhyfel yn Syria) er mwyn adeildau y gymdeithas yma, allwn ddechrau’r munud yma yng Nghymru ac yn wir mae rhai cymunedau Cymreig i weld ar y daith tuagat math o awtonomi cymunedol eisioes.

Rhaid i ni amddiffyn y chwyldro yma – fel Cymry sydd yn ceisio am ymreolaeth a rhyddid ein hunain, mae’r chwyldro yma yn lwybr clir allwn ei ddilyn. Heb yr engraifft byw yma o gymdeithas gyfiawn yn gweithredu, mae’n rhy hawdd i ni feddwl mai dim ond breuddwyd yw’r math yma o fyd a nid rhywbeth mae bodau dynol yn gallu ei greu.

Grymoedd rhynglwadol, fel yr ydym wedi gweld ar hyd yr 20fed ganrif yw’r bygythiad mwyaf i arbrawf dewr yma yn Rojava. Gyda’r modd y mae’r UDA a’r gorllewn wedi disodli sawl ymgais at gymdeithasau comiwnyddol neu anarchaidd ar hyd y blynyddoedd, o’r Sardinistas i’r Zapataistas, O Chiwba i fudiadau Pwer Du a oedd yn creu y byd newydd yn sgerbwd yr hen system yn yr UDA – gwelwn mai dyma’r brif her at gynnal fflam y chwyldro y cymdeithasau yma.

Heddiw mae glwadwriaeth Twrci ac Isis sydd yn bygwth Rojava. Gan fod y fygythiad yn rhynglwadol rhaid i’r adwaith i amddiffyn Rojava hefyd fod yn rhyngwladol, ac yn un ffyrnig hefyd. Gall Cymru fach gyfrannu i’r gwaith yma fel pobloedd sydd yn deall gorthrwm iaith, gorthrwm tir a gorthrwm ein hanes.

Dros y chwyldro ffeministaidd, dros Anna a’r miloedd eraill a fu farw yn ei hamddifyn, dros Gymru radicalaidd o rhydd, gweithredwch rwan!

Be allwch ei wneud?

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.