Gyda’r Etholiad yn nesau, a’r sustem newydd yn rhoi llai o sylw i’n ymgeiswyr na’r arfer, mae Undod wedi bod yn holi ambell un mewn ymdrech i ddod i’w nabod yn well. Marc Jones yw’r gyntaf yn y sedd…

Y wers bwysicaf yw bod hunan-drefnu yn allweddol – gall grwpiau bach o bobl creu hanes os ydynt yn deall eu cymunedau, yn berthnasol ac yn atebol.

U: Ble rydych chi’n sefyll, a beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i chi – a sut mae’r etholaethau newydd yn creu her?

MJ: Cefais fy magu yn Sir y Fflint ac rwy’ wedi byw yn Wrecsam am y 40 mlynedd diwethaf – felly mae etholaeth newydd FflintWrecsam yn ffitio i’r dim imi. Mae fy mab a’i fab ifanc yn byw yn Fflint ac mae’r ieuengaf dal i fyw yn Wrecsam.

Yn wahanol i etholaethau enfawr eraill, mae’r un yma’n weddol o gryno ac yn rhannu’r un cymysgedd diwydiannol a chymdeithasol. Mae FflintWrecsam yn bwerdy economaidd yn ogystal â meddu ar hanes a threftadaeth anhygoel. Roedd yr Athro John Davies yn synio na fyddai Cymru’n bodoli oni bai am y Gogledd-ddwyrain ac rwyf o’r un farn.

U: Pa fath o wleidyddiaeth rydych chi wedi cyfrannu ati – boed fel rhan o blaid neu fel arall – ac oes unrhyw gyflawniadau penodol rydych chi’n falch ohonynt?

MJ: Rwy’ wedi bod yn sosialydd a gweriniaethwr gydol oes, yn ogystal â bod yn undebwr llafur gweithgar. Roedd fy ffocws bob amser ar ymgyrchu cymunedol ac roedd gwleidyddiaeth etholiadol bob amser yn eilradd i’r ymgyrchu lawr gwlad honno. Ymunais â’r Blaid 25 mlynedd yn ôl oherwydd taw hi oedd yn adlewyrchu fy ngwleidyddiaeth a’r ffocws cymunedol orau – mae ein holl ymgeiswyr yn weithgar yn eu hardaloedd.

U: ⁠I ba ysgol aethoch chi? Oedd unrhyw wersi bywyd o’r profiad rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?

MJ: Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug. Mae’r gwydr bob amser yn hanner llawn a’n nod yw ei lenwi eto fyth. Hyd yn oed pan fyddwn yn methu, rydym yn dysgu wrth ymdrechu.

Y wers bwysicaf yw bod hunan-drefnu yn allweddol – gall grwpiau bach o bobl creu hanes os ydynt yn deall eu cymunedau, yn berthnasol ac yn atebol.

U: ⁠Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi o bwys sydd wedi’ch llunio? Profiadau/Mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?

MJ: Rwy’n newyddiadurwr o ran galwedigaeth ac mae hynny’n golygu gwrando ar bobl, gofyn y cwestiynau cywir, asesu’r ffeithiau a’r ffynonellau ac yna cyfathrebu’n effeithiol. Rwyf wedi dysgu cymaint gan ambell fentor a chydweithwyr rhagorol.

Mae rhedeg tafarn gymunedol yng nghanol y dref am 15 mlynedd wedi cynnig cipolwg neilltuol i mi o ran y pwysau sy’n wynebu busnesau bach, a’r gefnogaeth (neu’r diffyg cefnogaeth) gan gyrff cyhoeddus.

U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os gewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?

MJ: Dewiswch eich brwydrau a sefwch eich cornel.

Fy mhrif flaenoriaeth fydd adeiladu balchder a ffydd pobl yn eu democratiaeth, trwy gyflawni gwelliannau pendant.

U: ⁠Fel ymgeisydd Plaid, beth yn fras yw eich barn ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?

MJ: Dylid cymryd penderfyniadau am Gymru yng Nghymru – mae meithrin ymddiriedaeth a hyder yn allweddol o ran cyflawni’r nod hwnnw. Rhaid i dymor cyntaf sicrhau gwelliannau gwirioneddol ym mywydau beunyddiol pobl er mwyn meithrin y ffydd yna.

U: A phan nad ydych chi wrthi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?

MJ: Fel byddech chi’n disgwyl o gynghorydd yn ward y Cae Ras – a deiliad tocyn tymor – byddaf yn cefnogi’r Cochio,n neu o bosibl yn mwynhau peint yn y Saith Seren, y ganolfan Gymreig sy’n eiddo i’r gymuned, a helpais sefydlu 15 mlynedd yn ôl.. Ond treulio amser Taid gyda fy ŵyr newydd tlws Maelon yw fy mhrif boddhad.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.