“Ac y mae yma inni rybudd ofnadwy. Canys pan ddyfnha clwyf marwol y gyfundrefn elw hyd bwynt na ellir mo’i doctora hi mwyach, fe eill yn hawdd ein bod ni’n wynebu cyfnod newydd o wrthchwyldro ffasgaidd – ie hyd yn oed ym Mhrydain. Dan enwau a theitlau newydd wrth gwrs. Nid ffasgaeth Jordan na Oswald Mosley, canys adwaenom nodau hwnnw a ni’n twyllir ganddi, ond rhyw fudiad newydd y bydd digon o gamouflage sosialaidd gwerin-ddyrchafol yn cuddio ei fileindra nes dallu’r gwerinoedd unwaith eto.”

Dyma eiriau syfrdanol yr athronydd JR Jones, mor bell nol ag 1963, yn ei glasur o draethawd Yr Argyfwng Gwacter Ystyr.  Testun oedd hwn a oedd yn olrhain cwymp Anghydffurfiaeth Gymreig a myfyrio ar ei beryglon. Ei bryder oedd y byddai’r dihysbyddu moesol a beirniadol yma’n gadael y Cymry’n ysglyfaeth i ffurf newydd ar ffasgiaeth. Gyda dyrchafu plaid Nigel Farage nawr yn wrthblaid y Senedd – a fynte yn hilgi poblyddol sydd wedi meithrin ei boblogrwydd trwy wleidyddiaeth senoffobig – rhaid wrth ofyn, a yw gwrthchwyldro JR wedi cyrraedd o ddifri?

Cordon Sanitaire

Nôl yn 2017, a UKIP wedi ymgartrefu yn y Senedd, sgwennais blog ar y cwestiwn, a oedd UKIP yn ffasgwyr. Roedd hwn yn un o nifer o ddarnau yn ystod y cyfnod hwn yn ceisio rhybuddio yn erbyn bygythiad eu llwyddiant cynyddol.

Ar yr un pryd roedd Simon Brooks a minnau yn ceisio darbwyllo’r dosbarth gwleidyddol i ddilyn ôl traed gwleidyddion blaengar y cyfandir oedd yn draddodiadol codi “cordon sanitaire” o gwmpas pleidiau’r asgell dde eithafol.  Yn fras dyma’r syniad o beidio ymwneud gyda gwleidyddion o’r fath ac eithrio’r hyn oedd yn ofynnol o safbwynt cyflawni cyfrifoldebau democrataidd – yn rhannol gyda’r bwriad o arddangos mewn modd symbolaidd nad yw eu hagweddau i’w goddef oddi fewn i gymdeithas ddemocrataidd iach.

Cafodd Simon rywfaint o wrandawiad oddi fewn i Blaid Cymru. O’m rhan i, doedd yna ddim diddordeb oddi fewn i’r gymuned llafuraidd. Peidied corddi’r dyfroedd oedd yr agwedd, peidied ennyn gwrthwynebiad pellach drwy ymateb mor llawdrwm. Aros iddynt greu ffyliaid o’u hunain ac mi eiff y broblem i ffwrdd. Ac o fewn dim roedd Hamilton a’i glowns fel petaent yn rhan o’r dodrefn, yn wleidyddion y sefydliad, os ychydig yn ddi-drefn a di-glem.

Wrth gwrs fesul tipyn dechrau datod a wnaeth y criw hwnnw, ac rwy’n siwr byddai nifer wedi teimlo bod y dacteg laissez-faire wedi gweithio – a bod y broblem wedi mynd. Ond wrth gwrs, roedd achosion y gefnogaeth i UKIP byth wedi pylu, ac yn wir gwaethygodd amodau byw a rhwystredigaeth y rhelyw dan y Torïaid, methiant Brexit a Llywodraeth Llafur di-ddim Keir Starmer. Ac yn eironig digon achosodd Brexit ymchwydd enfawr mewn mewnfudo’r union bobl roedd Farage a’i ddisgyblion am warafun. Bron gallech chi daeru bod hyn yn fwriadol o ran megino fflamau casineb.

Roedd mwy nag un o’r traethodau yma yn rhybuddio na fyddai’r gwrthchwyldro’n dod i ben, a bod peryg y byddai’r grym hwn yn dod i rym, naill ai ar ffurf glymblaid gyda’r Ceidwadwyr neu trwy gael eu normaleiddio oddi fewn i’r pleidiau prif ffrwd.

Ac wele heddiw, yn ei ffurf fwyaf diweddar o Reform UK, Farage a’i wleidyddiaeth ffiaidd yn esgyn i’r pwynt lle mae bron i 30% o’r etholwyr yng Nghymru yn ei gefnogi – a lle mae’r amddifadedd a rhwystredigaeth ar ei fwyaf o blith gwledydd a rhanbarthau Prydain (a’r teyrngarwch i’r Toris erioed wedi bod ar ei wannaf).

Ac yn hyn oll, erys y cwestiwn, onid ffasgydd yw Farage? Ac nid cwestiwn haniaethol mohono. Oblegid o safbwynt brwydro yn ól yn ei erbyn, a dwyn etholwyr yn ôl, mae angen deall natur yr hyn rydym yn ei wrthwynebu.

Hanfodion Ffasgiaeth

Y mae’r dadansoddiad a gynigais o 2017 yr un mor gyfredol oherwydd nid yw’r ffurf o wleidyddiaeth wedi newid rhyw lawer rhwng yr UKIP a fu a Reform y Senedd, pleidiau Farage ill dau. Hanfod y ddadl yw bod digon o bwyntiau o gyswllt rhwng Ffasgiaeth draddodiadol a gwleidyddiaeth a’r hyn a adwaenir yn gyffredinol (ac ar gam) fel y dde galed heddiw, i adnabod yr ail fel esblygiad o’r cyntaf (fel yr oedd JR yn rhagdybio).

Yn yr un modd rydym yn gyfarwydd gyda thermau megis neo-geidwadaeth a neo-ryddfrydiaeth er mwyn disgrifio fersiynau cyfredol o hen athrawiaethau, mae neo-ffasgiaeth yn derm addas i Farage, Trump a’u tebyg.

O fod yn edrych ar y diffiniadau llawlyfr o Ffasgiaeth (yn yr achos hwn Hoffman a Graham, 2006) y mae’r cysondebau fel y cyfryw:

  • Arddel ffurf ar arch-genedlaetholdeb sydd yn hawlio statws lled-dwyfol i’r wladwriaeth ethnig fel craidd ein hunaniaeth, wedi’i ategu gan senoffobia a hiliaeth tuag at yr “arall” nad sy’n cyrraedd meincnodau’r hunaniaeth ethnic hwnnw (dyma o’m rhan i yw’r amodau angenrheidiol ar gyfer adnabod ideoleg fel un ffasgaidd neu lled-ffasgaidd)
  • Ymosod ar werthoedd deallusol a gwleidyddol yr Oleuedigaeth gan danseilio deallusion, y gwirionedd a chysyniadau rhyddfrydol democrataidd megis iawnderau dynol
  • Tueddiadau tuag at awdurdodaeth, os nad totalitariaeth, gan arddel ymyrraeth yn, a chymhathu o, y gymdeithas sifig a’i sefydliadau ar ran y wladwriaeth.
  • Manteisio ar amddifadedd economaidd er mwyn hyrwyddo gwleidyddiaeth boblyddol gydag arlliw sosialaidd, ond yn ymarferol gweithio law yn llaw gyda chyfalafiaeth
  • Arddel trais ymosodol, yn erbyn y sawl sy’n naill ai sefyll yn ffordd amcanion cenedlaetholgar tramor, neu sy’n cynrychioli bygythiadau honedig mewnol (mewnfudwyr, ceisiwyr lloches, grwpiau lleiafrifol, yr elit, ‘bradwyr”).

Nodweddion Neo-ffasgiaeth

Er y cysondeb o ran themâu, a hanfod estrongasol, hiliol y ffasgiaeth newydd, mae yna wahaniaethau amlwg, sylfaenol y mae gofyn cydnabod er mwyn ei deall yn iawn, ac er mwyn peidio cyffelybu’r ddau – tueddiad sydd yn lleddfu erchyllterau’r ffasgiaeth gynt ac sy’n caniatáu yn rhy hawdd bod rhai yn wfftio’r gymhariaeth yn gyfan gwbl.

Ymddengys mai yn achos trais ac enwedig militariaeth y gwêl y gwahaniaeth fwyaf sylfaenol. Y mae Farage a Trump ar y olwg cyntaf wedi bod ymhell o fod yn gymeriadau sydd yn ymddangos mewn lifrau milwr, yn clodfori rhyfel ac yn meithrin diwylliant o’r fath trwy fudiadau arfog cydnabyddedig.  A diolch i’r drefn am hynny.  Ond wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu nad oes yna islais o drais yn perthyn i’w gwleidyddiaeth, sydd yn codi’n uwch ac yn uwch fesul tipyn.

Gellir awgrymu bod yr agwedd yma’n cael eu mynegi mewn sawl ffordd fwy cuddiedig, trwy guddliw y gwr busnes, a chysylltiadau anffurfiol gyda grwpiau lled annibynnol – megis unigolion eithafol fel Tommy Robinson a chriw QAnon yn yr UDA a ymosododd ar Capitol Hill.  Rhyw ymdeimlad sydd o gangsters gyda dilyniant haid dorfol, yno wrth law i achosi terfysg a dinistr pan fo’r galw.

Gyda Trump yn ennill grym, fodd bynnag, rydym wedi gweld amlygiad trais trwy law’r wladwriaeth yn ffurf lluoedd ICE, sydd yn dwyn i gof heddluoedd totalitaraidd gynt. Ymhellach, lle’r oedd gwrthwynebiad rhethregol i ryfel tramor gan y ddau, mae arlliw o’r agwedd ffasgaidd draddodiadol ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol, a’i agweddau lled-imperialaidd, wedi amlygu eu hunain yn achos yr Ynys Las ac Iran. Y pryder yw bod y cuddliw gwreiddiol yn cael eu diosg a bod y coesarn – y jackboot – yn dychwelyd.

Mae’r elfen ‘fusnes’ hefyd yn cynnig ei hun fel y gwahaniaeth sylfaenol arall sy’n arwain pobl i gamsynio nad ffurf ar ffasgiaeth sydd gennym.  Oherwydd bod Farage a Trump yn cael eu gyrru gan ariangarwch, mae’r agweddau cenedlaetholgar, lled-sanctaidd, proffwydol, oedd yn gyrru’r ffasgiaeth wreiddiol wedi ei gyfyngu i hetiau MAGA gyda’r siwt sgleiniog, a syniadau digon amwys am genedl a diwylliant.

Ymhellach, mae’r camouflage sosialaidd braidd i’w weld yn eu hachos nhw.  Ceir ambell i apel i’r syniad bod yr elit (yr elit arall na nhw, hynny yw) yn gwneud bywyd y lliaws yn anodd, ond y gwir amdani yw nad ydynt yn gwneud llawer o ymdrech i gynnal rhyw arlliw o bolisïau poblyddol economaidd.  Yn eu hachos nhw nid yw’r cyswllt gwaelodol rhwng ffasgiaeth a chyfalafiaeth fyth ymhell o’r golwg. Yn wir mae’r symudiad at yr hyn a elwir Corporatocracy yn amlwgsef llywodraethiant er lles y corfforaethau ac elit ariannog megis Musk a’r sawl sy’n ariannu Farage. Yn wir, yr hyn sydd yn drawiadol yw cyn lleied o gamouflage sydd angen, mae’n debyg, i ddallu’r gwerinoedd o safbwynt y diddordebau mae Farage a’i debyg yn cynrychioli.

Yn olaf mae eu deisyfion o blaid rhyddid yr unigolyn, neu benrhyddid libertaraidd a bod yn fanwl gywir (a’r hawl i ddihysbyddu’r ddaear neu anelu casineb at rai) yn gallu creu’r argraff o agwedd gwrth-awdurdodaidd,  Ond yn ymarferol rydym yn gweld ar hyn o bryd rhyw awdurdodaeth ysbeidiol sy’n eu siwtio, yn wyneb heriau’r wasg neu’r intelligensia fel arfer, neu yn enghraifft cynnig Reform yng Nghymru i ymyrryd gyda’n hamgueddfeydd. Eto, rhaid bod yn glir, er mor bryderus yw’r datblygiadau yma, eu bod ymhell ar hyn o bryd o’r agweddau totalitariaeth yr 20fed ganrif a welodd cymhathu’r gymdeithas (dan Hitler a Stalin) yn gyfan gwbl gan lywodraeth a’u heddluoedd cudd.

At ei gilydd, felly, ymddengys yn amlwg i ddweud nid ffasgiaeth Hitler na Mussolini – na Jordan na Moseley yn hynny o beth – a welwn yn ffigwr Farage na Thrump heddiw.  Fodd bynnag mae’r pwyntiau cyswllt a nodweddion hanfodol yn ddigonol i ddweud ein bod ni’n wynebu mae’n addas i’w adnabod fel gwrthchwyldro neoffasgaidd ar ffurf mudiad gwerin-ddyrchafol newydd, llai eithafol.

Lladd yn llariaidd

I droi at y cwestiwn pwysicaf, felly, beth yw goblygiadau ymarferol hyn oll? Wel, yn gyntaf dydw i ddim yn arddel bloeddio yn ddiddiwedd bod Reform yn neoffasgwyr.  Erbyn hyn dydw i ddim yn gweld bod hynny’n dacteg effeithiol,  Ond eto gyd mae’n bwysig cofio â pha fath o blaid rydym yn ymgiprys, o ran bod yn gadarn yn ein hegwyddorion, ac yn ein dealltwriaeth o natur y bygythiad.

Yn hynny o beth gall cydnabod Farage fel neo-ffasgydd a bod yn llafar am y ffaith o bryd i’w gilydd fod yn bwysig, a pheidio â gadael ei gefnogwyr i wadu hyn (na chwaith y sefydliadau sy’n cynnig platfform iddo). Yn ail, rhaid derbyn, yn enwedig o ystyried ei sefyllfa fel unben i Reform (sydd yn gwmni heb unrhyw strwythurau mewnol democrataidd, ymddengys), bod y Blaid felly, o ran ei phersonoliaeth gorfforaethol a’i brand, o anghenraid yn neoffasgaidd. Mae hyn oll yn ddigon clir.

Fodd bynnag, ym mae ychydig yn fwy cymhleth o safbwynt deall sefyllfa aelodau Senedd a chyffredin y Blaid, a’i chefnogwyr. Y pwynt pwysig, syml, yw y byddant oll yn amrywio. Bydd rhai fydd eu hunain yn neoffasgaidd eu safbwynt – os nad yn fwy traddodiadol ffasgaidd – ond bydd y rheiny yn y lleiafrif, ac mae’n hynod bwysig cofio hynny er mwyn osgoi bardduo pawb. Er enghraifft, mae’n berffaith glir o ran ei gefndir a’i ieithwedd nad yw Dan Thomas yn neoffasgydd wrth reddf. Ac eto mae rhaid hefyd pwysleisio yn ei achos ef a phawb arall nad sy’n ymlynu at y duedd yma, eu bod o anghenraid yn cyfrannu at barhad a lledaenu gwleidyddiaeth o’r fath, yn enwedig trwy’r pwyslais di-baid ar droi mewnfudwyr mewn i’r bwch dihangol.

Mae’r amwysedd hwn o safbwynt daliadau yn ystyriaeth dactegol o ran eu gwrthwynebu, yn enwedig am eu bod mor niferus.  Oherwydd lle mae yn wahaniaeth barn mae yna wastad cyfleoedd i greu rhaniadau, enwedig ymhlith endid cymharol newydd heb diwylliant nac ideoleg sefydlog ac sy’n ymddangos fel criw brith sy’n amrywio o ffrindiau i eithafwyr i gyn-dorïaid parchus gydag addysg Caergrawnt tu cefn iddynt (ac un ohonynt yn Sarah Cooper-Lesadd i weld yn alluog).

Yn hynny o beth difyr iawn oedd gweld Gwyn Williams yr Aelod Plaid Cymru dros Gŵyr Abertawe yn cynnig sefyll ochr yn ochr â Francesca O’Brien Reform yn wyneb unrhyw ganlyniadau gwenwynig o ymddihatru â’i chysylltiadau gyda Voice of Wales. Does dim lle imi gwestiynu diffuantrwydd y cynnig, ond ganddo’r canlyniad effeithiol o naill ai gweld Reform yn ymbellhau o’r math o gysylltiad sydd yn llygaid nifer yn eu gwneud yn ddeniadol a mwy gwrth-sefydliadol, neu ar y llaw arall yn atgyfnerthu perthynas sydd yn mynd i fod yn achos anesmwythodd os nad aflonyddu ymysg cyd-aelodau.

Wele yn y weithred hon felly clem ynghylch sut i amlygu a manteisio ar y tensiwn elfennol hwn (yn yr un modd y mae pob un blaid fawr gyda’u croestyniadau mewnol, yn achos Plaid Cymru rhwng y chwith, canol a’r de) gall mewn amser creu trafferthion ymysg eu cefnogwyr ond yn fwy na hynny gorfodi chwalfa fewnol.  Yn hytrach felly na rhyw ddilorni a chollfarnu, mater o geisio lladd yn llariaidd yw hyn trwy eu gorfodi i feddalu i’r graddau eu bod yn esblygu tu hwnt i’r tueddiadau neoffasgaidd, troi’n geidwadwyr mwy traddodiadol, a thrwy hynny mae’n debyg colli nifer o’r aelodau mwy eithafol.

Adfer Sosialaeth, Nid Prydain

Wrth gwrs, mae’n bosib bydd ffactor allanol arall yn gorfodi’r mater tipyn yn gynt nag unrhyw dacteg o’r fath.  Sôn yr wyf am Restore Britain. Eisoes rydym wedi clywed si gan yr arweinydd Rupert Lowe bod o leiaf 5 o aelodau Senedd Reform wedi bod yn chwarae gyda’r syniad o wrthgilio i’w blaid ef (sydd mwy neu lai, mewn ffordd anuniongyrchol, yn bosib o dan y rheolau newydd).

Ar yr olwg gyntaf gall hwn fod yn ganlyniad dymunol iawn i Blaid Cymru a’r sawl sy’n gwrthwynebu Reform.  Fodd bynnag, rhaid pwyso a mesur hyn yn erbyn effaith criw bach o neoffasgwyr dilyffethair yn cael platfform yn y Senedd i dynnu’r disgwrs ymhellach tuag at neoffasgiaeth, ac o edrych ymlaen at yr etholiad nesaf, y posibiliad o ymchwydd pellach i’r dde eithafol os bydd modd i’r ddwy blaid rywsut dod i delerau digonol i beidio â chwalu ei gilydd. Nid yw clymblaid ddieflig o’r fath yn Llywodraethu tu hwnt i reswm, gwaetha’r modd.

Bydd y posibiliad hynny, wrth gwrs, yn dibynnu i raddau ar lwyddiant Plaid yn y pedair blynedd nesaf.  Sydd yn ein dychwelyd at y pwynt sylfaenol sef nad yw bygythiad neoffasgiaeth am gilio nes bod y gyfundrefn elw wedi dofi eto’n ddigonol i gynnig cysur digonol i’n cymunedau.  Er mwyn gwneud hynny mae gofyn gwella amgylchiadau’r tlotaf yn ymarferol tra hefyd creu gweledigaeth drawsnewidiol o sosialaeth gymunedolaidd sydd yn cydio’n ddigonol yn nhrwch y boblogaeth, fel eu bod wedi argyhoeddi nad lladd ar yr ‘arall’ yw’r ateb amlwg i’n problemau.

Yn hynny o beth, mae’n werth cofio pan yr oedd J.R. Jones yn rhagweld y gwrthchwyldro fel ymateb i argyfwng y gyfundrefn elw (h.y. cyfalafiaeth), roedd yn ategu sawl esboniad o wleidyddiaeth ffasgaidd fel amddiffynfa yn erbyn methiannau’r system honno.

Yn ôl yr esboniadau yma, mae Ffasgiaeth yn ffordd i’r dosbarth ariannog ddatrys yr argyfwng: mae’n ‘falf ollwng’ sydd yn arallgyfeirio llid y bobl tuag at y bwch dihangol gan gynnig chwedl yr hunaniaeth genedlaethol yn hytrach na’r freuddwyd gyfalafol o gyfoeth; trwy ei chefnogi gall yr elit cyfalafol dofi undebau, rhewi tal, a defnyddio trais (neu’r bygythiad o drais) i gynnal y system yn wyneb protest; mae’n diogelu elw’r corfforaethau trwy ymyrraeth y wladwriaeth a chwalu agweddau democrataidd rhyddfrydol y drefn gyfalafol; ac yn ôl rhai megis y meddyliwr gwrthdrefedigaethol Aimé Cesaire, mater o droi’r trais, hiliaeth, dwyn ac echdynnu trefedigaethol yn fewnol ydyw pan mae tiriogaethau a marchnadoedd rhyngwladol wedi’u dihysbyddu neu ddymchwel.

Does dim gofyn sylw pellach er mwyn amlygu perthnasedd hyn oll i’n sefyllfa gyfredol  (er mae’n ormod o demtasiwn peidio gofyn onid yw’r pwynt olaf yn canu clychau Brexit?). Yn hynny o beth, daw’r hyn sydd ei angen heddiw yn amlycach fyth.

I’n gosod ar y llwybr i waredigaeth, bydd rhaid i Blaid Cymru bod yn barod i ymgiprys gyda’u rhaniadau mewnol eu hunain, a bod y mwy gofalus yn eu plith yn derbyn mewn cyfnod o’r fath bod y gwrthchwyldro Ffasgaidd J.R. Jones yn mynd a ni ar garlam tuag at farbariaeth, oni roddir yr awenau i sosialaeth, a grym ei gweledigaeth.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.