![Loading Digwyddiadau](https://undod.cymru/wp-content/plugins/the-events-calendar/src/resources/images/tribe-loading.gif)
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Casnewydd: Cydsefyll gyda Imam Sis
18 Mai 2019. 3:30 PM - 4:30 PM
![](https://undod.cymru/wp-content/uploads/2019/05/imam-sis.jpg)
Dewch i gyd-sefyll gyda brwydr y Cwrdiaid gan ymuno mewn ymgyrch rhyngwladol i foicotio gwyliau yn Nhwrci. Dyma ymgyrch i bwyso ar Tui i stopio gwerthu gwyliau yn Nhwrci – gwladwriaeth sy’n lladd ac arteithio’r Cwrdiaid ac yn cefnogi Isis.
Mae Imam Sis sydd ei hun yn byw yng Nghasnewydd wedi bod ar streic newyn ers y 17eg o Ragfyr. Mae’r weithred yma mewn unoliaeth ag ef. Mae’n ddifrifol wael ac wedi datgan y bydd ar streic newyn yma hyd farwolaeth.
Darllenwch ei erthygl er mwyn deall pam bod y dyn yma yn gweithredu mewn dull mor ddifrifol.
Fel Cymry mae dyletswydd arnom i gyd sefyll a’r Cwrdiaid – dangoswch wrth y gymuned Cwrdaidd ein bod ni yn eu cefnogi yn y frwydr anodd yma.
Cynnwys pellach:
— Hansh (@hanshs4c) 20 Mawrth 2019