Bunkhouse, Abertawe
Gwynt y chwys a’r tamp yn fy ffroenau. Blas y cwrw chwerw yn dechrau troi yn fy ngheg. Tywyllwch a tensiwn yn y stafell fach wrth i’r gerddoriaeth dechrau ymlwybro o’r llwyfan. Tri ffigwr diymhongar eu golwg ar y llwyfan. Nid yw’n rhy addawol, efallai byddai rhai yn ei feddwl. Ond rwy’n gwybod beth sydd ar ddod. Sain sy’n addo gymaint; bygythiol efallai byddai rhai yn ei ddweud. Ond inni, o fod wedi clywed o’r blaen, yn gynhyrfus.
Wrth i’r cordiau cario a’r canu’n myfyrio yn dawel a phersain, mae’r croen gwydd yn codi a wedyn, BAM! Ffrwydriad o ddrymiau, gitars a lleisiau nad oes modd gwneud cyfiawnder a nhw gyda geiriau. Ing, grym, angerdd.
Y geiriau’n syml ond dwfn eu goblygiadau: He tangata ahau, Pērā anō ki a koe. Kia tūpato ināianei, Kia kaha tatou. He tangata koe. He tangata koe. – Rwy’n fod dynol, yr un fath a ti. Bydda’n ofalus, byddwn gryf. Rwyt ti’n fod dynol, Rwyt ti’n fod dynol.
O fod yno, gyda nhw, maen nhw wedi eich cydnabod ac adnabod, a wedi eich gwahodd chi mewn i’w byd, a gafael ynoch yn dyner i glywed eu cri.

Dylai pawb clywed hwn, medd y llais yn fy mhen. Dylai pob un gwrando. Teimlo’r swn, blasu’r emosiwn. Eu gweld nhw yn trafod eu gitars fel clefyddau, yn hollti ac ergydio’r awyr. Sgrechfeydd a griddfan fel ei gilydd. Ai dyma sut maen nhw’n teimlo o flaen yr haka? mae’r meddwl yn gofyn wrth geisio angori’r profiad mewn rhywbeth – unrhywbeth – sy’n gyfarwydd.
Mae hynny o eiriau Saesneg rwy’n eu hadnabod yn amlwg eu hergyd. Yn gwawdio’r gwladychu trwy ei grynhoi’n agwedd plentynaidd bron yn yr hyn mae’n mynnu’n ddigywilydd.
I own this house, I own this land, And I’ve come to take what’s mine, Please understand, Your money, Your food, Your words, Even you’re history, What’s mine is mine, What’s yours is too, And it always will be.
Vacate your future and make way, For Progress
Mae’r ysbrydion, ond hefyd yr arwyddion o fywyd dyfal yn cynywair ymhobman.
Come find us, Out where the industrial waste meets rural religious real-estate, In every home, between every floorboard. And in every silence, You will find us there, Our voices distant and the words, sound different, But still, some make it through.
A weithiau, mae’r dicter a’r dolur yn llethol.
Though our bones are in these walls,
Our homes are not our homes
Anymore.
Mae’n ddigonedd i dreulio yn y funud ei hun, heb ddechau ystyried y profiad yn ei gyd-destun. Ond digon buan mae’r meddwl yn holi, a oes neges inni, y Cymry, yn y cri?
Oes, tad, byddai’r ateb iddyn nhw. Mae hynny ymhlyg yn eu presenoldeb yma a’u perfformiad. Ond rwyf wedi cael y braint o’u clywed yn trafod, ac uniaethu eu profiad i’n hanes ni.
Ac o fod yn eu clywed, boed ar lafar neu trwy gân, mae’n gorfodi’r cwestiwn. Ar ba ochr wyt ti? Ac nid cwestiwn hawdd mo hwn i’w ateb i bobl sydd wedi bod rhwng dau stôl cyhyd. Oherwydd y mae’r brodorol ynom ni, ond rydym hefyd yn rhan o stori eu gormes nhw. A ydym yn barod i wadu’r hunaniaeth honno a’u nwyddau bydol?
Prin felly, rwy’n tybio. Yn wir, wrth i’r gitarydd bas gorffen trwy fynnu bod ni’n mynd mas i bleidleisio, ac osgoi ffawd Aotearoa o gwympo dan ddylanwad y dde eithafol, Angloffon, rwy’n pendroni – a ydym ni hyd yn oed ar ochr ni’n hunain mwyach? A ydym, yn ein moeth cymharol a’n cysur ffug, yn brysur anghofio’r hyn yr ydym?
Falle na chaiff pawb y cyfle i wrando ar eich neges, ond rwy’n eich clywed chi. Yn glir.
Bydd Half/Time yn chwarae yn Focus Wales yn Wrecsam ar yr 8fed a 9fed o Fai, yn y Rockin’ Chair, Saith Seren, a Hwb.
