Mae gan ein cymdeithas sawl problem. Nid yr heddlu yw’r sefydliad i’w datrys. Mewn gwirionedd, mae nhw’n broblem arall. Dylem ddiddymu’r heddlu, atgyweirio ein system cyfiawnder, gan yna defnyddio’r arian ac adnoddau a fydd ar gael i ymlid datrysiadau cyflawnedig, wedi’i sylfaenu ar dystiolaeth – meddai Harry Waveney.
****
Wrth ystyried trais yr heddlu, mae llawer ohonon ni yma yng Nghymru a gweddill Prydain – yn enwedig pobl wyn, pobl sy’n edrych fel fi – yn hoffi meddwl “Wel, o leia’ dydy hi ddim mor wael fan hyn â’r Unol Daleithiau.” Yn ôl rhai mesurau gwrthrychol, fel nifer llofruddiaethau’r heddlu, dydy pethau ddim “cynddrwg” ar yr ochr yma i Fôr yr Iwerydd. Ond mae’r anghydraddoldebau sefydliadol yn rhedeg yr un mor ddwfn. Nid yw’r asesiad yma erioed wedi teimlo mor wir ag y mae yn awr, yn sgil marwolaeth y cynnar Mohamud Mohammed Hassan, dyn Du 24 oed o Gaerdydd bu farw dydd Sadwrn, ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu. Yn ôl adroddiadau yr oedd Mohamud wedi’i orchuddio gyda gwaed, datganiad a gafodd ei gadarnhau ar ôl post-mortem. Yn ôl y sôn, dywedodd wrth ffrind, “the police have beat the shit out of me.” Cynhelwyd protestiadau yn galw ar Heddlu De Cymru i gyhoeddi ffilm CCTV a ‘bodycam’.
Rhaid olrhain yr anghydraddoldebau yma i hiliaeth yr ymerodraeth, wrth gwrs. Nid yn unig y cafodd Unol Daleithiau America ei sefydlu ar hil-laddiad y bobl frodorol, ond hefyd y fasnach gaethweision drawsatlantig. Roedd masnachu pobl mor ganolog i ddiwylliant ac economi’r wlad honno nes iddyn nhw gael rhyfel cartref drosto. Masnach oedd yn seiliedig ar arferion milain oedd hi, yn cynnwys herwgipio a gorfodi llafur corfforol am oes, creulondeb a thrais, dadfeddiannu caethweision a’u dieithrio o’u cyrff eu hunain. Aeth yr Ymerodraeth Brydeinig â’r pethau yma, a llawer erchyllter arall, i’r eithaf. Bid yw’r datganiad yma’n esgusodi Cymru, yn anad dim am y modd y gwnaeth ein pobl helpu i ledaenu imperialaeth Prydain ac elwa arni. Y mae’r un yn wir wrth gwrs am y Cymry a oedd yn rhan o’r trefedigaethu.
Efallai y byddai’r rhai sy’n beirniadu ymgyrchoedd fel Mae Bywydau Du o Bwys yn ceisio dadlau “ond roedd caethwasiaeth a’r ymerodraeth mor bell yn ôl. Does dim ots am hynny nawr.” Yr hyn nad yw beirniaid o’r fath yn ei weld, boed hynny’n bwrpasol ai peidio, yw cysgod gwladychiaeth sy’n dal i’w weld heddiw.
Mae yna ddisgynyddion i gaethweision sy’n byw yng Nghymru heddiw gan fod eu cyndeidiau wedi’u gorfodi yma yn groes i’w dymuniad. Yn ddiweddarach, daeth ymfudwyr o gyn-drefedigaethau Prydain ar eu hôl. Daeth llawer o’r rheiny yma i ddianc rhag ansicrwydd economaidd a gwrthdaro – gwrthdaro oedd yn ganlyniad uniongyrchol i gamweddau’r Ymerodraeth Brydeinig yn ysbeilio rhannau mawr o’r byd. Mae mudwyr yn teithio i’r metropol i geisio bywyd gwell, gan eu bod yn ddigon anffodus o fod wedi’u geni ar gyrion cyfalafiaeth fyd-eang, mewn gwledydd sy’n dal i weld eu cyfoeth yn cael ei echdynnu am gost ofnadwy er mwyn cynnal prynwriaeth y Gorllewin (ymchwiliwch i weld o ble mae’r mwynau yn eich ffôn clyfar yn dod). Yn llefydd fel y Dwyrain Canol, mae eraill wedi ffoi gwrthdaro y mae modd ei olrhain yn ôl at ffiniau a luniwyd ar fympwy gan rymoedd Gorllewinol – fel Cytundeb Sykes-Picot – a adawodd y Cwrdiaid, ymhlith pethau eraill, wedi’u difeddiannu ac heb famwlad. Heb sôn am yr ansefydlogrwydd a achoswyd gan weithredoedd anfaddeuol, fel ymosodiad Llafur Newydd ar Irac ar dro’r ganrif, yn seiliedig ar gelwydd am Arfau Distryw Mawr. Heb sôn chwaith am gefnogaeth barhaus y Deyrnas Unedig i gyfundrefn Twrci, grym imperialaidd yn y Dwyrain Canol na fyddai wedi gallu cyflawni eu herchyllterau heb arfau a chyfarpar cysylltiedig ganddon ni.
Yr unig beth sy’n uno’r grŵp anhygoel o amrywiol yma o bobl – o feddyg y gwasanaeth iechyd a anwyd yn India, i feiciwr Deliveroo sydd â hen nain o gyn-drefedigaeth Brydeinig – yw’r ffaith eu bod yn profi gwahaniaethu fel sgil-effaith cymdeithasol i liw eu croen. Caiff y system yma o arallu hefyd ei galw’n hilaeth. Mae’n gyflwr strwythurol sydd â’i wreiddiau yn nhra-arglwyddiaeth ar y byd, gan bobl sydd wedi cael eu hystyried yn wyn. Hynny yw, ar ôl i’r categori hwnnw gael ei ddyfeisio fel ffordd o gyfiawnhau gormesu’r rhai sydd wedi’u heithrio ohono. Mae’r categorïau mympwyol yma hefyd wedi newid dros y blynyddoedd. Er enghraifft, nid oedd Gwyddelod yn cael eu hystyried yn ‘gwbl’ wyn am gyfnod hir. Ystyriwyd bod mewnfudwyr o’r Eidal yn yr Unol Daleithiau yn is-raddol yn yr un modd am gyfnod hefyd.
Mae pobl sy’n profi hiliaeth strwythurol – neu oruchafiaeth wen, i ddefnyddio enw arall – yng Nghymru yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi, yn fwy tebygol o weithio mewn swydd ansicr â chyflog isel, yn fwy tebygol o fod yn ddiwaith, yn fwy tebygol o fyw mewn cartrefi gorlawn, ac yn llai tebygol o fod yn berchen ar eu cartref. Maen nhw yn fwy tebygol o farw â COVID-19.
Maen nhw hefyd yn fwy tebygol o farw yn nalfa’r heddlu.
Mae’r ffeithiau yma’n wir i lawer o ddisgynyddion i fudwyr y mae eu teuluoedd wedi byw yng Nghymru ers cenedlaethau, a hwythau “yr un mor Gymreig” neu “yr un mor Brydeinig” â phobl sydd erioed wedi profi’u Cymreictod neu eu Prydeindod yn cael ei gwestiynu – gan eu bod nhw’n cael eu hystyried yn wyn.
Mae anghydraddoldebau dwfn yn ein cymdeithas, yr un mor ddwfn â’r Unol Daleithiau. Mae’r rhain yn wireddau plaen sy’n cael eu gweiddi drwy uchelseinyddion yn y protestiadau Mae Bywydau Du o Bwys rydyn ni wedi’u gweld yn ystod y misoedd diwethaf.
Heddlu De Cymru
Mae ymchwil gan grŵp atebolrwydd yr heddlu, StopWatch, yn honni bod Heddlu De Cymru yn stopio-a-chwilio unigolion o gefndiroedd ethnig Cymysg ac Asiaidd ddwywaith cymaint â phobl yr ystyrir nhw’n wyn. Caiff unigolion Duon eu stopio a’u chwilio chwe gwaith yn amlach na phobl wynion.
Mae Heddlu De Cymru wedi defnyddio Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, sef adran ddadleuol sydd wedi cael ei beirniadu am alluogi heddlu i chwilio unigolion heb “dybiaeth resymol” mewn ardal benodol am gyfnod o amser a nodir. Mae gwrthwynebwyr yn dweud bod y mesur hwn yn caniatáu i’r heddlu weithredu yn ôl rhagfarnau hiliol, ac mae unigolion Duon 23 gwaith yn fwy tebygol o gael eu targedu nag unigolion gwynion. Datgelodd Cais Rhyddid Gwybodaeth bod gorchmynion Adran 60 yng Nghaerdydd wedi canolbwyntio ar ardaloedd sydd â phoblogaethau mawr o bobl Dduon ac Asiaidd.
Mae Heddlu De Cymru ar y blaen i bob heddlu arall yng ngwledydd Prydain yn eu defnydd o’r hyn mae’r grŵp hawliau dynol Liberty wedi’i alw’n “arsenig yn nŵr democratiaeth”: sef technoleg adnabod wynebau. Heb fawr ddim goruchwyliaeth y tu hwnt i’w strwythurau mewnol, a gydag anogaeth Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru a ffefryn Tony Blair i fod yn Brif Weinidog Cymru, Alun Michael, mae Heddlu De Cymru wedi cyflawni cyfres o weithredoedd sydd mor hir â’ch braich. Ymhell o gyflawni’r rôl oruchwylio sy’n ofynnol o’i swydd, mae Michael yn annog defnydd o dechnoleg y mae Aelodau Senedd yr Alban wedi’i phennu fel “ddim yn addas at ddefnydd”, a olygodd i Heddlu’r Alban gael gwared ar eu cynlluniau i’w defnyddio.
Amlygodd adroddiad yr Alban, a arweiniodd at Heddlu’r Alban i gefnu ar dechnoleg adnabod wynebau yn fyw (am y tro, o leiaf), ei bod yn hysbys bod y dechnoleg “yn rhagfarnu yn erbyn menywod a’r rhai sydd o gymunedau duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.” Mae ymgyrchoedd yn erbyn technoleg adnabod wynebau yn fwy datblygedig yn yr Unol Daleithiau, lle mae o leiaf tair dinas wedi gwahardd y dechnoleg, gan gynnwys San Francisco – canolbwynt diwylliant hi-tech. Yn achos Oakland, dinas yng Nghaliffornia sydd â phoblogaeth sylweddol o bobl Dduon, Hispanaidd ac Asiaidd, defnyddiwyd pryderon ynghylch tuedd ar sail hil fel prif gymhelliant i wahardd y dechnoleg. Mae cewri technoleg fel Microsoft, IBM, ac Amazon yn gwrthod cyflenwi yr heddlu gyda technoleg adnabod wynebau yn dilyn protestiadau eang yn erbyn creulondeb yr heddlu a proffilio (derbynna Heddlu De Cymru eu technoleg gan NEC, corfforaeth amlwladol Japaneaidd).
Mae cefnogwyr yn honni bod y gyfradd cywirdeb yn gwella (er bod rhai’n anghytuno ar sut i fesur anghywirdeb) ond serch hynny, mae wedi’i gofnodi’n helaeth bod gan systemau adnabod wynebau gyfradd wallau chwerthinllyd o uchel. Yn 2018, roedd gan system adnabod wynebau Heddlu De Cymru gyfradd wallau o oddeutu 92%.
Ar yr un pryd, mae Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, yn parhau i gefnogi’r dechnoleg heb gywilydd, a chafodd hyd yn oed ffrae gyhoeddus gyda Chomisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru, Arfon Jones, (o bosib yr unig heddwas y gallwch chi ‘smygu sblyg ag e) am y peth. Un o ofynion rôl Michael yw craffu ar Heddlu De Cymru, ond mae e’n gefnogwr mor gyson nes bod yr heddlu hyd yn oed yn ei ddyfynnu yn eu datganiadau i’r wasg – fel yr un yma lle mae Heddlu De Cymru’n cyhoeddi eu bod nhw’n treialu ap adnabod wynebau ar gyfer ffonau clyfar, sef fersiwn o’r camerâu adnabod wynebau sydd ar eu faniau ac y mae’r grŵp hawliau preifatrwydd Liberty wedi’i alw’n “gamddefnydd difrifol o rym”. Yn ddiweddar, dyfarnodd y llys apêl fod defnydd Heddlu De Cymru o dechnoleg adnabod wynebau yn torri hawliau preifatrwydd ac yn torri cyfraith cydraddoldeb. Mae ymgyrchwyr wedi galw i ymadael a’r dechnoleg yma ond mae Heddlu De Cymru yn darogan eu bod am barhau gyda chyhuddiadau llai.
Enghraifft arall o “gamddefnydd difrifol o rym” gan heddlu yn Ne Cymru oedd sgandal spycops, pan anfonwyd heddwas cudd Mark “Marco” Jacobs (sy’n ffugenw fwy na thebyg) i mewn i fudiadau ymgyrchu yn ne Cymru. Ynghyd â bwydo gwybodaeth fwy na thebyg i Heddlu De Cymru mewn ymdrech i fygu anghydffurfiaeth wleidyddol, cafodd berthynas ramantaidd gyda dwy fenyw. Tybir ei fod yn gweithio i’r Uned Cudd-wybodaeth Trefn Gyhoeddus Genedlaethol. Gallwch ddarllen mwy am “Marco” yma.
Neu, ystyriwch Bump Caerdydd, achos lle cafodd pum dyn o Drebiwt eu camgyhuddo o lofruddiaeth (fel yr adroddwyd yn y podlediad campus Shreds), gyda thri ohonynt yn cael eu dedfrydu i garchar am oes. Am flynyddoedd, mae’r bobl leol wedi ystyried hyn yn llawer mwy na chamgymeriad syml, ond yn brawf o lygredigaeth yr heddlu, gyda thystion yn newid eu straeon i gysylltu’r cyhuddedig â’r drosedd, ac aeth barnwr mor bell â datgan ei fod cyfaddef bod datganiadau’r heddlu “yn frith o gelwyddau”. Darllenwch edefyn #MaePoblDduoBwys Caerdydd i gael rhagor o gyd-destun am yr achos yma.
Ni anghofiwn ychwaith am Mohamud Mohammed Hassan. Darganfyddodd post-mortem statudol iriadau a gwasgariad o waed dros ddillad Hassan yn ogystal â chleisiau ar hyd ei gorff ac anafiadau eraill, sy’n nodedig o ystyried fod Heddlu De Cymru wedi datgan fod eu hymholiadau yn ymwneud ag ymdriniaeth swyddogion yn ystod arestiad a charchariad Hassan “found no evidence of any significant injury or excessive force”. Bu adroddiadau yn y cyfryngau Cymreig yn rhagweladwy o wael ac yn anfeirniadol gan ailadrodd naratif Heddlu De Cymru. Mae’r Independent Office of Police Complaints (IOPC) wedi cael eu cyhuddo o ymddwyn fel “surrogate mouthpiece for the police”.
Mae marwolaeth Mohamud yn dod yn sgil marwolaeth Christopher Kapessa, plentyn Du yn eu harddegau a foddwyd ar y 1af o Orffennaf 2019 ar ôl cael eu gwthio i afon gan grŵp o gyfoedion gwyn. Penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron i beidio â chyhuddo’r drwgdybiwr, ar sail dynladdiad, o farwolaeth Christopher, er iddynt ddarganfod tystiolaeth ddigonol i wneud. Cyhuddwyd Heddlu De Cymru o “racist undertones” yn eu hymdriniaeth o’r achos. Dywed Aliana Joseph, mam Christopher, “I am seeking justice not revenge. I just don’t want another black child and family to be failed by the system.”
Efallai nad oes gan ein heddlu gynnau fel yr heddlu ym Minneapolis, a bod ein hetifeddiaeth wladychol yn wahanol i’r Unol Daleithiau, ond nid yw ein heddlu’n seintiau. Maent hwythau hefyd wedi dinistrio bywydau. Nid ydynt yn llai tebyg o greu sgandal. Mae’r sefydliad plismona wedi yn doriedig. Byddwn yn parhau i weld ailddarllediadau o’r uchod nes inni drawsnewid ein hymagwedd at gyfiawnder yn sylweddol.
Ond beth mae’r heddlu’n ei wneud?
Rôl yr heddlu
Mae ymgyrch Mae Pobl Dduon o Bwys, sydd unwaith eto wedi ffrwydro i sylw’r cyhoedd, yn dilyn llofruddiaeth George Floyd gan yr heddlu a phandemig o drais yr heddlu, wedi gwthio sloganau fel “Diddymwch yr Heddlu” a “Dad-ariannwch yr Heddlu” i wleidyddiaeth brif ffrwd.
Eu dadl? Mae’r heddlu’n gwneud gormod. Os byddwn ni’n dad-ariannu’r heddlu, gallwn ailgyfeirio adnoddau at wasanaethau mwy addas a mentrau cymunedol. Nid yn unig gallai hyn leihau trais yr heddlu, mae gobaith hefyd y bydd yn darparu cyllid i wasanaethau sydd wirioneddol yn datrys problemau, yn hytrach na rhoi pobl dan glo a pharhau â chylchoedd o sefydliadu.
Yn yr Unol Daleithiau, mae hyd yn oed yr heddlu’n feirniadol o rôl eu proffesiwn. Yn 2016, dywedodd heddwas o Dallas, ar ôl i saethwr ladd pum heddwas yn y ddinas,
“Does dim digon o gyllid i iechyd meddwl, gadewch i’r heddlu ddelio gyda’r peth. Does dim digon o gyllid i ddelio ag achosion o gaethiwed cyffuriau, rhowch e i’r heddlu… Yma yn Dallas mae ganddon ni broblem â chŵn rhydd. Gadewch i’r heddlu redeg ar ôl y cŵn rhydd. … Doedd Heddlua erioed i fod i ddatrys yr holl broblemau yna.”
Ydy Cymru’n wahanol mewn gwirionedd?
Digartrefedd? Rydyn ni’n rhoi hwnnw i’r heddlu. Edrychwch ar “Ymgyrch Purple Ash” Heddlu De Cymru, a oedd yn targedu poblogaeth ddigartref ar strydoedd Caerdydd. Datgelodd gais Rhyddid Gwybodaeth mai un o amcanion yr ymgyrch oedd “Bod y gorau a deall ac ymateb i anghenion ein cymunedau.” Y gwirionedd yw: nid dyma ddylai’r heddlu fod yn ei wneud.
Diogelu pobl fregus? Rydyn ni’n rhoi hwnnw i’r heddlu. Er enghraifft, mae adroddiad a gomisiynwyd gan Heddlu De Cymru i’w system adnabod wynebau yn rhestru “diogelu pobl fregus” fel un o dair prif ddiben y system, gan nodi “mae’r heddlu’n dechrau meddwl ynghylch sut gallai’r dechnoleg eu helpu gyda rheoli pobl fregus, er enghraifft unigolion â dementia neu duedd o fynd ar goll”. Pam fod hyn yng nghylch gwaith yr heddlu? Oni ddylai hyn fod i’r gweithwyr proffesiynol sydd wedi cael hyfforddiant briodol i gefnogi unigolion bregus? Nid dim ond am dechnoleg adnabod wynebau mae hyn, mae’n ymwneud â’r hyn y dylai ac na ddylai’r heddlu ei wneud. Mae wedi’i adrodd yn eang y gall ymyrraeth yr heddlu arwain at bobl fregus yn ymuno â’r system gyfiawnder. Fel mae ymgyrch Mae Pobl Ddu o Bwys wedi amlygu, gall ymwneud gyda’r heddlu arwain at farwolaeth, yn enwedig i bobl groenliw. Mae hynny’n wir yn yr Unol Daleithiau ac yn y Deyrnas Unedig.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol? Rhowch hwnnw i’r heddlu. Dim ots bod sefydliadau cymunedol a diwylliannol wedi wynebu toriadau i’w cyllid yn ystod cyfnod o lymder, ochr yn ochr â chyllidebau addysg, pethau sydd wedi cael eu cysylltu â chynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol ac unigolion yn cwympo drwy fylchau yn y system yng Nghymru a’r tu hwnt.
Cam-drin sylweddau? Rhowch hwnnw i’r heddlu hefyd, wrth i ni anwybyddu arbenigwyr sydd wedi bod yn dweud wrthon ni ers dros ddegawd mai troseddoli defnydd o gyffuriau yw’r union ffordd anghywir o ymdrin ag effeithiau negyddol defnydd o gyffuriau. Dydy’r ymagwedd bresennol “ddim yn gyson ag asesiad ar sail tystiolaeth o niwed perthynol cyffuriau” ac mae’n niweidio cymunedau’r dosbarth gweithiol i raddau anghyfartal. Meddai StopWatch am ddefnydd Heddlu De Cymru o stopio-a-chwilio,
Roedd mwy na hanner y chwiliadau yn 2018/19 (57%) ar gyfer cyffuriau, yn lle cael eu defnyddio ar gyfer trais difrifol neu dreisiol. Mae ymchwil yn dangos bod y chwiliadau yma’n dueddol o ddatgelu meddiant o symiau bach o ganabis yn hytrach na chyflenwyr neu gyffuriau cryfach.
Mae’r rhyngweithiadau yma gyda’r heddlu’n effeithio mewn modd anghydradd ar bobl groenliw, sydd, yn ei dro, yn ysgogi troseddoli eu cymunedau. Mae cofnod troseddol, hyd yn oed am rywbeth mor ddi-ddim â meddu ar ganabis (y gallwch ei brynu’n gyfreithlon mewn caffi neu siop bwrpasol yn Amsterdam neu Galiffornia), yn gallu cyfyngu ar ragolygon bywyd unigolyn, gan eu gwthio o bosib i gael cyswllt â throseddwyr go iawn wrth i’w cyfleoedd cyfyngedig gael eu lleihau yn rhagor.
Mae tua traean y rhai sydd wedi’u cael yn euog am droseddau yng Nghymru yn mynd ymlaen i droseddu unwaith eto, sy’n dangos pa mor aneffeithiol yw ein system gyfiawnder hyd yn oed ar ei thelerau ei hunan. Mae pobl o gefndiroedd ethnig sydd wedi’u lleiafrifoli yn profi effeithiau anghyfartal y materion hyn, sy’n arwain at ymyleiddio pellach a lefelau uwch o dlodi yn eu cymunedau, ynghyd â chyswllt anghymesur â’r heddlu, y mae llawer o bobl yn dadlau, gan gynnwys uwch swyddogion yr heddlu, ei fod o ganlyniad i hiliaeth sefydliadol yn yr heddlu.
Ar yr un pryd, roedd cyfran y troseddau sy’n cael eu datrys gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2019 wedi cwympo i’r lefel isaf a gofnodwyd. Yn 2019, adroddodd y Guardian mai dim ond 1.5% (un ymhob 65) o achosion o drais rhywiol a arweiniodd at wŷs neu gyhuddiad ar ôl iddynt gael eu hadrodd wrth yr heddlu. Hyd yn oed yn achos materion y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn cytuno y dylai rhyw fath o sefydliad tebyg i’r heddlu ymchwilio iddo, fel trais a llofruddiaethau, nid yw’r heddlu na’r system gyfiawnder yn gweithio.
Felly, beth mae’r heddlu’n ei wneud? Gwrandewch ar yr hyn mae protestwyr Mae Bywydau Du o Bwys yng Nghymru’n ei ddweud, ac fe gewch chi syniad. Mae’r protestiadau yma wedi’u gyrru gan ddicter, sydd wedi bod yn mudferwi o dan yr arwyneb ers cenedlaethau. Caiff y dicter ei yrru gan yr erledigaeth ddyddiol y mae cymunedau lleiafrifol yn ei brofi gan yr heddlu, gan stopio-a-chwilio, gan gamweddau fel Pump Caerdydd, gan farwolaeth Mohamud Mohammed Hassan ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu, gan y boen ddyddiol o fyw mewn cymunedau sydd wedi’u gwthio i ymylon cymdeithas am ddim rheswm ond lliw eu croen.
Mae’r heddlu wedi cael eu defnyddio’n hanesyddol i dawelu anghydffurfiaeth wleidyddol, o heddlua streiciau’r glowyr (cofier Tonypandy neu Frwydr Orgreave), i greulondeb rheolaidd yr heddlu tuag at bobl LHDTQ+ yn ystod blynyddoedd cychwynnol eu mudiad, mudiad arall lle bu heddlu cudd yn gweithredu. Anghofiwch y myth mai diben presenoldeb heddlu ar orymdeithiau gwleidyddol yw “hwyluso’r brotest”. Roedd protestiadau’n cael eu cynnal yn iawn am ganrifoedd cyn i’r heddlu fod yno. Roedd yr heddlu’n arfer mynd ati i wrthwynebu protestiadau. Pan ddaeth hyn yn annerbyniol, dechreuon nhw honni eu bod nhw’n eu hwyluso. Ond mewn gwirionedd, cyfyngu yw eu rôl.
Pobl groenliw sydd â’r mwyaf i’w ennill drwy waredu â’n system heddlu, ond mewn gwirionedd bydd budd i ni i gyd, o bobl sydd wedi goroesi trais rhywiol i ymgyrchwyr gwleidyddol. Mae gan ein cymdeithasau lawer o broblemau. Mae angen gweithio ar ddatrysiadau go iawn, yn lle parhau gyda’n system heddlua doredig.
DIDDYMU’R HEDDLU
Wrth siarad yng nghyd-destun y cynnydd mewn protestiadau yn yr Unol Daleithiau, ond â geiriau sydd yr un mor berthnasol i bobl Cymru, meddai Alex Vitale, awdur llyfr adnabyddus am ddiddymu’r heddlu, The End of Policing,
Mae’n lefel anferthol o aflonyddwch sydd fwy neu lai wedi’i gyfyngu i’r cymunedau tlotaf ac sydd agosaf at gyrion ein cymdeithas. Mae dicter dwys ynghylch heddlua yn y llefydd hynny. Ac eto, pan mae yna ddigwyddiadau proffil uchel, mae’n rhyddhau’r holl ddicter a chynddaredd.
Dyma’r dicter a’r gynddaredd rydyn ni wedi’u gweld ar strydoedd Cymru, gwledydd Prydain, a’r Unol Daleithiau dros y flwyddyn ddiwethaf wrth i Mae Bywydau Duon o Bwys a phrotestiadau yn galw i ddiddymu’r heddlu ffrwydro ledled y byd.
Fel mae ymgyrchwyr yn yr Unol Daleithiau yn sylweddoli, dyma gyfle hanesyddol nid yn unig i ddiwygio’r heddlu – mae ymdrechion i wneud hynny wedi methu ers blynyddoedd – dyma gyfle i newid ystyr cyfiawnder yn llwyr.
Rydyn ni’n galw am Ddiddymu’r Heddlu nid am ein bod ni am weld cymdeithas lle mae pethau drwg yn digwydd a lle nad oes neb i helpu, fel mae’r gwrthwynebwyr yn ei honni. Rydyn ni’n galw am Ddiddymu’r Heddlu am ein bod ni am weld y gwrthwyneb. Nid yr heddlu yw’r sefydliad i ddatrys problemau cymdeithas. Edrychwch o’ch cwmpas. Hyd yn oed os gallwch chi nodi ffyrdd y mae cymdeithas wedi datblygu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, anodd ar y naw y byddai diolch i’r heddlu am hynny. Mae’r heddlu’n cyflawni gormod o swyddogaethau. Pan taw dim ond morthwyl sydd ganddoch chi, mae popeth yn edrych fel hoelen. Ac mae bod yn hoelen yn boenus iawn.
Mae hyn yr un mor wir yng Nghymru ag y mae yn yr Unol Daleithiau. Beth am ddefnyddio’r arian rydyn ni’n ei wastraffu ar heddlua aneffeithiol a niweidiol, a’i roi yn nwylo’r cymunedau mwyaf bregus? Ei roi tuag at wasanaethau iechyd meddwl, sefydliadau cymunedol, llochesi trais domestig, gwasanaethau addas ar gyfer camdriniaeth sylweddau, canolfannau cymdeithasol, hostelau digartrefedd sydd wedi’u hariannu’n dda, amgueddfeydd, tai cymdeithasol, gofodau cyhoeddus, a’r holl lefydd eraill y gallech chi ddefnyddio’r arian yna i fynd ati go iawn i ddatrys problemau niferus ein cymdeithas.
Mae hefyd angen troi ein system garchardai wyneb yn wared, gan ganolbwyntio ar adsefydlu’r rhai sydd sydd wedi’u cael yn euog am droseddau, yn hytrach na dosbarthu cosbau sy’n annog cylchoedd o droseddu ac yn gwneud dim byd i wneud ein byd ni’n fwy diogel. Ni ddylai ein system gyfiawnder fod yn gosbol, ond yn gefnogol. Mae angen dad-droseddoli cyffuriau a gwaith rhyw tra’n bod ni wrthi, a rhoi diwedd ar erlid y rhai y mae mwyaf o angen ein cymorth ni arnyn nhw.
Amlyga Abolitionist Futures, ymgyrch eang yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon dros atgyweirio ein systemau cyfiawnder: “mae’r system gyfiawnder troseddol yn dreisgar ac yn niweidiol” ac “nid yw’n lleihau niwed”. Mewn erthygl ar gyfer y Metro, a oedd yn edrych ar sut beth gallai diddymu grym yr heddlu fod yn y Deyrnas Unedig, mae Faima Bakar yn ysgrifennu nad yw diddymu a dad-ariannu’r heddlu yn golygu “diswyddo adrannau’r heddlu en masse, ond ail-ddosbarthu adnoddau, cyllid a grym yn strategol oddi wrth yr heddlu, i fodelau cymunedol o ddiogelwch ac atal.”
Cyd-destun Cymru ar gyfer diddymiad posib yw ein bod ni’n rhannu system gyfiawnder gyda Lloegr ar hyn o bryd. Gallwn edrych ar ddiffyg system gyfiawnder ddatganoledig yng Nghymru fel her neu fel posibiliad. Mae lleisiau amlwg eisoes wedi galw am ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Gallai cam o’r fath fod yn gyfle hanesyddol i atgyweirio heddlua, cyfiawnder a charchardai, i adeiladu system sydd wedi’i pharatoi ar gyfer y gymdeithas rydyn ni am fyw ynddi. Byddai annibyniaeth yn caniatáu i ni fynd â’r newidiadau hyn ymhellach.
Yn lle ceisio rhoi plaster dros y system gudd a chosbol rydyn ni wedi’i hetifeddu gan y Fictoriaid a’r Edwardiaid, gallen ni ailadeiladu o’r llawr i fyny, gan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn lle taflu mwy o heddlu at broblemau oherwydd mai dyna mae’r Daily Mail yn dweud sydd ei angen. Gallen ni ddysgu gan enghreifftiau cadarnhaol o bedwar ban byd – o Sweden i Minneapolis – ac archwilio arferion arloesol ein hunain.
Yr hyn na allwn ni ei wneud yw esgus bod ein gwlad ni (Cymru neu Brydain, sut bynnag rydych chi am edrych arno) ddim mor gamweithredol â’r Unol Daleithiau. Mae ein problemau o flaen ein llygaid ni hefyd, ond dydyn ni ddim yn siarad amdanyn nhw cymaint. Diolch i ymgyrch Mae Bywydau Duon o Bwys, mae’r problemau yma’n cael eu hamlygu’n gynyddol.
Mae’n rhaid i ni ddilyn arweiniad ysbrydoledig ymgyrchwyr yr Unol Daleithiau, a sbarduno ein hailfeddwl radicalaidd o ran beth yw’r heddlu – neu hyd yn oed os oes eu hangen nhw o gwbl. Mae’r heddlu fel y maen nhw nawr yn niweidiol, ac yn rhwystr i’n datblygiad fel cymdeithas. Os ydyn ni am drwsio problemau cymdeithas, mae’n rhaid i ni ailgyfeirio’r adnoddau sydd ar hyn o bryd wedi’u clymu i heddlua aneffeithiol ac atchweliadol.
Allwn ni ddim gwneud dim byd yn wyneb trais domestig, epidemigau iechyd meddwl, trais rhywiol, llofruddiaethau, digartrefedd, trosedd ieuenctid a phroblemau eraill. Ond nid yr heddlu yw’r datrysiad cywir i’r rhain. Ac, yn waeth na dim, maen nhw’n rhwystro datrysiadau gwirioneddol sy’n seiliedig ar rymuso cymunedau, ar osod y dioddefwyr yn ganolog, ac ar ddarparu gofodau diogel.
Gallwn barhau i gael ymatebwyr brys sy’n ymateb i alwadau trais domestig, ond byddan nhw’n arbenigwyr trais domestig. Gallwn barhau i gael pobl yn ymchwilio i lofruddiaethau, ond fyddan nhw ddim yn aflonyddu pobl ddigartref ar yr un pryd. Mae ein problemau amlwynebog yn gofyn am ddatrysiadau amlwynebog. Mae’r heddlu’n offeryn di-fin, ac maen nhw’n gwneud mwy o niwed nag o les.
Bydd diddymu’r heddlu’n broses anodd, ond mae’n un y mae’n rhaid i ni ei dechrau ar unwaith. Diddymwn yr heddlu, ac ymlaen â’r gwaith go iawn. Dydyn ni’n haeddu dim llai.