Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Undod wedi bod yn adeiladu ei aelodaeth ac yn ehangu ei weithgareddau. Fel yr ydym wedi dweud o’r blaen, ein hegwyddor arweiniol yw bod rhaid dechrau nawr ar y gwaith sydd ei angen i adeiladu cymdeithas deg, gyfiawn a dyngarol ddechrau nawr: ni allwn aros nes bod Cymru wedi ennill ei hannibyniaeth o’r wladwriaeth Brydeinig.

Yn yr ysbryd yma, mae ein haelodau eisoes yn arwain ymgyrchoedd i sicrhau bod tai’n cael eu cydnabod fel un o’n iawnderau dynol sylfaenol. Maent yn herio’r diwydiant carchardai barbaraidd, gwahaniaethol. Maent yn ymgyrchu i ddemocrateiddio cynllunio ein dinasoedd, gan weithio gyda mudiadau eraill i wrthsefyll dinistr ein mannau cymunedol a gwyrdd. Maent wedi trefnu ralïau i gefnogi ein sector amaethyddol. Maent wedi dwyn sylw i lywodraeth y DU am ei thriniaeth ddideimlad, annynol o geiswyr lloches. Bydd mwy o ymgyrchoedd dan arweiniad aelodau yn dilyn yn fuan.

Wrth i’n mudiad barhau i dyfu, mae angen inni adeiladu ein cronfa ymgyrchu. Felly, gofynnwn i’n haelodau a’n cefnogwyr sy’n gallu gwneud hynny i drefnu cyfraniad misol tuag at ein hachos. Mae hyn yn annibynnol o aelodaeth. Gallwch gyfrannu wrth gwrs hyd yn oed os nad ydych yn aelod, a gallwch gofrestru fel aelod am ddim os hoffech chi ddysgu mwy amdanom yn gyntaf.

Bydd y gronfa’n talu am ddeunyddiau ymgyrchu, gan ganiatáu i ni ategu ein presenoldeb ar-lein, ac ar y strydoedd. Mae’r Gymraeg yn hanfodol i bob agwedd ar ein gwaith; bydd y gronfa’n talu am y gwasanaethau cyfieithu hanfodol yr ydym yn dibynnu arnynt. Bydd yr arian yn mynd tuag at addysg wleidyddol, gan rymuso ein haelodau gyda’r arfau i hunan-drefnu ac arwain yr ymgyrchoedd sy’n bwysig iddynt. Ym mhob un o’r ffyrdd hyn, bydd y gronfa’n ein helpu i dyfu ein mudiad ymhellach, fel ein bod yn cael ein cynrychioli gan gymunedau ym mhob cwr o Gymru.

Mae eleni’n cynnig trobwynt i ni. Mae Brexit a’r pandemig wedi amlygu hunanoldeb, trachwant ac anallu sydd yn greiddiol i’n sefydliadau llywodraethiant. Saif yr Alban ar drothwy annibyniaeth; gall ail-uno Iwerddon fod ar waith cyn bo hir. Dyma’r ennyd i atgyfnerthu a chryfhau ein mudiad, wrth inni weithio mewn undod â sefydliadau o’r un anian i adeiladu cymdeithas sydd â chyfiawnder economaidd, gofal a chynaliadwyedd wrth ei chraidd.

Os ydych yn rhannu ein hegwyddorion ac eisiau helpu, naill ai drwy gofrestru fel aelod, cyfrannu at ein cronfa ymgyrchu, neu’r ddau, gallwch wneud yma:

Cyfrannu

Ymuno

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.