Ar ein hymweliad olaf i gwrdd gydag ymgeiswyr Senedd cyn diwrnod yr etholiad, awn yn ôl i’r Cymoedd i gyfarch Alun Cox.

“Cefais fy ngeni a’m magu mewn cartref â chysylltiadau cryf â’r diwydiant dur yng Nghasnewydd yn yr 80au, felly mae gweld sut mae Port Talbot wedi cael ei fradychu yn arbennig o arwyddocaol i mi.”
U: Ble rydych chi’n sefyll a beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i chi, a sut mae’r etholaethau newydd yn cyflwyno her?
AC: Rwy’n sefyll yn Afan Ogwr Rhondda. Rwyf wedi byw yn y Porth yn y Rhondda ers 28 mlynedd. Mae’n etholaeth enfawr sy’n cwmpasu cymoedd y Rhondda, cymoedd Llynfi a Garw ac i lawr i’r arfordir ym Mhort Talbot. Debyg ei bod hi’n wir na fydd llawer yn siŵr beth mewn gwirionedd sy’n cysylltu Maesteg, Maerdy a Margam, neu Borth Talbot, Porth a Phontrhydyfen, ond y gwir yw bod y problemau yr un fath: costau byw, rhestrau aros, tai ac ati. Cefais fy ngeni a’m magu mewn cartref â chysylltiadau cryf â’r diwydiant dur yng Nghasnewydd yn yr 80au, felly mae gweld sut mae Port Talbot wedi cael ei fradychu yn arbennig o arwyddocaol i mi.
U: Ym mha ffordd rydych chi wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth – pleidiol neu fel arall – ac unrhyw gyflawniadau arbennig rydych chi’n falch ohonynt?
AC: Ymunais â Phlaid Cymru yn 15 oed ym 1979 ar ôl y refferendwm aflwyddiannus ar ddatganoli yn y flwyddyn honno, felly rydw i wedi gweld twf hunaniaeth genedlaethol sylweddol, o’i bwynt isaf posibl i’r twf mewn cefnogaeth dros Annibyniaeth rydyn ni’n ei weld nawr. Mae’n debyg fy mod i’n falch o fod wedi bod yn rhan o ddwy ymgyrch arloesol fel rheolwr ymgyrchoedd i Leanne Wood yn ei hymgais lwyddiannus i fod yn arweinydd Plaid Cymru ac yna i ennill y Rhondda i Blaid Cymru yn 2016.
U: Ble’r aethoch chi i’r ysgol? Unrhyw wersi bywyd rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?
AC: Es i’r ysgol yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, gan deithio o Gwmbrân i Bontypridd bob dydd. Arwyddair yr ysgol oedd “deuparth ffordd eu gwybod” (hynny yw mae gwybod y ffordd yn ddwy ran o dair o’r frwydr / taith”). I fod yn onest, dydw i ddim wedi meddwl llawer am yr arwyddair hwn, ond mae’n ymddangos yn briodol nawr bod angen ar wleidyddion y chwith syniad clir o’r cyfeiriad y mae angen i ni ei gymryd.
U: Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi mawr sydd wedi’ch llunio? Profiadau/mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?
AC: Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ym maes Addysg Uwch, gan gefnogi datblygiad a chyllido Ymchwil ac Arloesi. Rwy’n gwybod bod y sector hwn mewn argyfwng gyda model cyllido anghynaliadwy sy’n arwain at golledion swyddi a thoriadau mewn darpariaeth ym mron pob sefydliad yma. Fel Undebwr Llafur diwyd, rwyf wedi gweld sut mae rheolwyr yn y sefydliadau biwrocrataidd mawr hyn yn ei chael hi’n anodd amgyffred pa mor hanfodol yw gweithwyr â chyflog isel iawn i ddarparu ein gwasanaethau. Byddaf yn hapus i herio’r sefydliadau hyn ynghylch eu cynlluniau, sy’n rhy aml yn amddiffyn y rhai â’r cyflog uchaf ar draul eraill.
U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os cewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?
AC: Rhaid i wleidyddiaeth a gwleidyddion darganfod ffyrdd o ailgysylltu â phleidleiswyr. Mae gormod o’r bobl rwyf wedi siarad â nhw yn ystod y misoedd diwethaf wedi rhoi’r gorau i unrhyw un yn gwneud unrhyw newid ystyrlon yn eu bywydau. Nid yw’n syndod felly bod gwleidyddion asgell dde eithafol wedi llenwi (a thanio) y gwagle hwnnw. Felly, rhaid i’r flaenoriaeth nid yn unig fod yn un o gyflawni ein gorau glas ar ran ein cymunedau ond hefyd mynd i’r afael â’r ffug-wybodaeth a ariennir gan arian crypto sy’n llawer rhy gyffredin erbyn hyn.
U: Fel ymgeisydd i’r Blaid beth yw eich barn yn fras ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?
AC: Nid yw’n syndod wrth gwrs fy mod yn credu y gallai, ac y byddai Cymru’n ffynnu fel gwlad annibynnol. Fel sosialydd, rwyf hefyd yn credu bod Annibyniaeth yn cynnig cyfle inni newid y ffordd y caiff ein cymdeithas ei threfnu. Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir na fyddwn yn defnyddio unrhyw gefnogaeth o’r etholiad hwn i ddadlau y gallwn ddefnyddio’r pleidleisiau hynny i gyflwyno mandad dros annibyniaeth. Fodd bynnag, efallai y byddwn yn wynebu’r posibilrwydd o Lywodraeth Reform yn y DU yn y dyfodol. Yn y sefyllfa honno, rhaid cyflwyno’r achos yn ddiymdroi dros amddiffyn ein cenedl rhag difrod llywodraeth Faragist.
U: A phan nad ydych chi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi, a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?
AC: Efallai y byddwch chi’n dod o hyd i mi yn y gegin. Rwy’n caru coginio ac yn enwedig pobi. Roeddwn i’n arfer gwneud cacen fisol a ddewiswyd gan fy merch neu fy ngwraig, ac efallai y bydd rhaid i mi ystyried ailgyflwyno’r arfer. Rwy’n arbennig o hoff o bobi cacen Guinness siocled! Os nad ydw i yn y gegin, byddai allan gyda’n ci sydd wastad ag awydd (chwedlonol) am droeon newydd, a cheisio dod o hyd i unrhyw ddanteithion ar hyd y ffordd.
