
“Dywedir yn aml nad oes lle i emosiwn nac empathi mewn gwleidyddiaeth. Rwy’n gwrthod yr honiad hwn yn gyfangwbl. O adeiladu cymdeithas heb dosturi, fe greir dynoliaeth farwaidd.”
U: Ble rydych chi’n sefyll a beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i chi, a sut mae’r etholaethau newydd yn cyflwyno her?
CH: Rwy’n sefyll yng Nghaerdydd Ffynnon Taf, ar ôl byw ym Mhlasnewydd ac Adamsdown. Cefais fy magu yng Ngheredigion, ac yn fy ngwaith rwyf wedi byw mewn dinasoedd ledled y byd, ond roeddwn i bob tro yn gwybod mai Cymru oeddwn am alw’n adref.
Mae Caerdydd Ffynnon Taf yn cynrychioli holl agweddau gorau Cymru i mi – creadigrwydd, cymuned, cyfoeth diwylliannol, gyda natur ar ein stepen drws a phoblogaeth o bobl garedig a chroesawgar. Wrth gynrychioli Caerdydd Ffynnon Taf, rwy’n sefyll dros le egnïol, sy’n meddwl ymlaen ac sy’n sefyll dros bawb.
Mae’r etholaethau newydd wedi cymryd peth amser i ddod i arfer â nhw o ran deall sut maen nhw’n wahanol i etholaethau San Steffan a’r Cyngor. Mae’n bwysig bod y llywodraeth nesaf yn cymryd yr amser ac yn gwneud yr ymdrech i helpu cyfleu ein tirwedd wleidyddol i bob pleidleisiwr – mae pawb yn haeddu’r cyfle i wwybod am, deall a gofyn cwestiynau am ein systemau democrataidd.
U: Ym mha ffordd rydych chi wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth – pleidiol neu fel arall – ac unrhyw gyflawniadau arbennig rydych chi’n falch ohonynt?
CH: Yn gymharol ddiweddar y dechreuais gymryd rhan go iawn mewn gwleidyddiaeth, er imi fod yn aelod o’r Blaid Werdd ers rhai blynyddoedd. Wrth dyfu fyny, wnes i erioed gweld lle ifi fy hun mewn gwleidyddiaeth – ni chefais addysg breifat, doeddwn i ddim wedi astudio’r pwnc yn y brifysgol, ac mewn gwirionedd roeddwn i’n ystyried gwleidyddion fel rhai sy’n byw mewn byd ar wahân i ni.
Ond ar ôl treulio blynyddoedd yn gwirfoddoli, yn protestio, yn gweithio, ac yn byw mewn cymunedau amrywiol lluosog, a chael fy siomi’n gyson gan y rhai mewn grym, sylweddolais na allwn i eistedd ar fy nwylo a chwyno. Doedd yna ddim modd imi allu peidio â chymryd rhan.
U: Ble’r aethoch chi i’r ysgol? Unrhyw wersi bywyd rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?
CH: Sawl lle! Yn ysgol uwchradd mi es i Ysgol Gyfun Emlyn. Ein harwyddair oedd “Gorau oll y gorau ellir”. Mae’n adlewyrchu’r math o gymdeithas rwyf am ei gweld yn cael ei meithrin – lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi. Nid yn cael eu barnu trwy gymharu ag eraill, ond eu hannog i wneud eu gorau bob amser.
Rwy’n dal yn newydd i wleidyddiaeth, ond un peth rwyf eisoes wedi ei ddysgu yw nad yw ein system wleidyddol wedi’i chreu ar gyfer y werin bobl. Nid i ni ei deall, nid i ni gael mynediad iddi, nid i ni gymryd rhan ynddi. Ar hyn o bryd rwyf ar Gynllun Amelia Womack y Gwyrddion Ifanc, rhaglen lle mae fy mentor Tessa Marshall yn fy nghefnogi i ddysgu mwy am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn ymgeisydd da. Mae hi’n gymaint o ysbrydoliaeth, ac mae cynlluniau fel yr un yma’n fan cychwyn da wrth fynd i’r afael â chanrifoedd o anghydraddoldeb o ran mynediad.
U: Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi mawr sydd wedi’ch llunio? Profiadau/mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?
CH: Bu farw fy nhad pan oeddwn yn bedair oed, a dechreuais weithio yn ifanc iawn. Gan dyfu i fyny fel disgybl Prydau Ysgol Am Ddim gyda fy mam yn fath o archarwr, des i ddeall gwerth gwaith caled yn gyflym. Gyda’r awydd i guro’r ods a’r snobs, enillais le, yna graddiais ar frig y flwyddyn o Brifysgol Caergrawnt.
Ar ôl graddio, gweithiais i elusen addysg mewn ysgol â mwyafrif Mwslimaidd, yna symudais i Tokyo fel athro Saesneg, gan fagu ymwybyddiaeth fyd-eang unigryw o sut y gall systemau fethu pobl gyffredin. Rwyf wedi gwirfoddoli gydag Amnesty International, llinell ffôn iechyd meddwl, a chynlluniau mentora addysg. Teg dweud efallai bod gen i fwy o brofiad bywyd nag y byddai rhywun yn ei ddisgwyl o’m 27 mlynedd!
Drwy gydol fy mywyd, rwyf bob amser wedi cael fy ysgogi gan y gwerthoedd craidd o chwilfrydedd a chyfiawnder. Mae’r byd yn lle dibendraw a hardd, yn llawn pobl ddiddorol – ond lle bynnag yr ewch chi, mi fydd bobl sy’n dioddef trwy drachwant, angharedigrwydd ac anwybodaeth eraill. Dywedir yn aml nad oes lle i emosiwn nac empathi mewn gwleidyddiaeth. Rwy’n gwrthod yr honiad hwn yn gyfangwbl. O adeiladu cymdeithas heb dosturi, fe greir dynoliaeth farwaidd.
U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os cewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?
CH: Sefyll dros ein cymunedau – y pleidleiswyr sy’n ein hethol ni, yn talu ein cyflogau, a nhw yw’r sawl rydym yn gwasanaethu. Dyma bwrpas gwleidyddiaeth a dylai fod yn flaenoriaeth i bob AS.
U: Fel ymgeisydd y Gwyrddion beth yw eich barn yn fras ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?
CH: Byddaf bob amser yn dadlau dros sicrhau llais i bobl yn y penderfyniadau sy’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Rydyn ni’n gwybod nad yw annibyniaeth yn flaenoriaeth uniongyrchol yn y pedair blynedd nesaf i unrhyw blaid, ond byddwn ni’n ymgyrchu’n ymarferol dros fwy o bwerau datganoledig, a chytundeb tecach i bobl Cymru.
U: A phan nad ydych chi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi, a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?
CH: Ar wahân i’m swydd ddyddiol? Treulio amser gyda fy anwyliaid yw fy hoff ffordd o ymlacio. Rwy’n ffodus iawn i adnabod cymaint o bobl garedig a chefnogol, ac mae Caerdydd yn lle mor wych i fod yn gymdeithasol! Rwyf hefyd yn awdur ac yn fardd perfformio, felly byddwch chi’n aml yn fy nal mewn nosweithiau gair llafar ledled y ddinas. Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar flodeugerdd farddoniaeth wedi’i hysbrydoli gan fenywod o lên gwerin Cymru. Mae mor bwysig cynnal angerdd creadigol – ac mae theatr, cerddoriaeth a llenyddiaeth gyfoethog Caerdydd yn fy ysbrydoli bob dydd!
