Daeth y patrwm yn amlwg, maes o law. Yn y gorffennol, bu myfyrwyr yn gofyn am y ffurflen amgylchiadau arbennig am amryw o rhesymau: tostrwydd yn ystod y cyfnod arholiadau, marwolaeth yn y teulu, o bryd i’w gilydd argyfwng personol neu ysbeidiau o iechyd meddyliol gwael. Ond nawr, mae yna ddau rheswm yn unig: gorbryder ac iselder, gorbryder ac iselder, gorbryder ac iselder.
Yn eiriau Mark Fisher:
“Instead of treating it as incumbent on individuals to resolve their own psychological distress, instead, that is, of accepting the vast privatization of stress that has taken place over the last thirty years, we need to ask: how has it become acceptable that so many people, and especially so many young people, are ill?” (Capitalist Realism, t. 23)
Mae’r undeb UCU wedi bod ar streic ers Tachwedd 25, mewn 60 o brifysgolion ar draws y DU. “Streic darlithwyr,” dywed y wasg, “dros pensiynau.” Gwirionedd rhannol, cyfleus. Undeb llafur i weithwyr prifysgol ydy’r UCU, nid darlithwyr yn unig, ac mae’r streic yma’n ymwneud â llawer mwy na pensiynau. Roedd yna ddau bleidlais, un ar y newidiadau i’r cronfa pensiwn USS – dyma achos streic gwanwyn 2018 – a’r llall yn ymwneud â cyflogau, anghyfartaledd, llwythau gwaith a bregusrwydd. Dyma aelodau’r UCU yn bwrw pleidlais benderfynol o blaid streicio, 79% yn y bleidlais cyntaf a 74% yn yr ail.
Mae “bregusrwydd” wedi dod yn air cyfarwydd yn y byd academaidd. Mae tua traean o weithwyr academaidd yn y DU, ymchwilwyr yn ogystal ag addysgwyr, ar gytundebau bregus, sef rhai tymor byr, chwech mis neu blwyddyn. Efallai bydd eich prifysgol yn bendithio chi gyda tymor arall o waith wedi diwedd eich cytundeb; efallai na. Does dim sicrwydd na sefydlogrwydd yn y byd bregus yma. Rhaid i weithwyr academaidd bregus treulio rhan helaeth o’u amser yn ceisio am y swydd nesaf, y grant nesaf, yn symud o brifysgol i brifysgol gan obeithio cyrraedd gwlad yr addewid: swydd parhaol.
Mae gweithwyr bregus yn haws i’w ecsbloetio. Ers 2009, mae cyflog gweithwyr academaidd wedi syrthio mwy na 20.9%, o ystyried chwyddiant. (Dyna ffigwr yr undeb. Mae’r UCEA, y corff sy’n cynrychioli cyflogwyr prifysgolion, yn amcangyfrif ffigwr llawer fwy hael: gostyngiad o 17% yn unig.) Yn ystod yr un cyfnod, mae llwythi gwaith wedi cynyddu’n enbyd. Profiad cyffredin yw treulio nosweithiau a penwythnosau’n paratoi darlithoedd a seminarau, neu marcio arholiadau a traethodau. Does neb yn synnu clywed bob pob un o’u cydweithwyr yn gweithio 120% o’u llwyth gwaith swyddogol. Sut all gweithwyr bregus ymwrthod?
Ac wrth gwrs, mae bregusrwydd yn pwyso’n drymach ar ysgwyddau’r pobl lleiaf breintiedig. Heb teulu cefnog i’w cynnal, heb cysylltiadau yn y byd academaidd, gall bregusrwydd wthio llawer o weithwyr academaidd benywaidd, dosbarth gweithiol, a rhai o lleiafrifoedd ethnig, allan o’r brifysgol yn gyfan gwbl. Mae’r bylchau cyflog rhywedd a hil yn tystio i amodau gwaith y sawl sy’n aros. Mae yna fwlch cyflog o 16% rhwng dynion a menywod (21.6% yn Mhrifysgol Caerdydd – un o’r bylchau gwaethaf yn y DU), ac un o 9% rhwng gweithwyr academaidd gwyn a rhai o lleiafrifoedd ethnig (14% yn achos academyddion du). Mae’r bylchau yma’n adlewyrchu’r ffaith bod gweithwyr academaidd benywaidd ac o lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o fod ar cytundebau bregus, a llai tebygol o ddal swyddi yn rhengoedd uwch prifysgolion.
Dydy’r dirywiad yma mewn amodau gwaith ddim o ddiddordeb i rheolwyr y prifysgolion. “Mae nifer o bwysau o ran costau, a chost cyflogaeth yw’r mwyaf,” medd gwefan Prifysgol Caerdydd. Yn sicr, roedd gan y Prifysgol diffyg ariannol o £22.7 miliwn yn 2018. Ond efallai bod cysylltiad rhwng y sefyllfa heriol yma a penderfyniad yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan (sy’n ennill £256 798 y flwyddyn, ag eithrio lwfansau eraill), i lawnsio “Trawsffurfio Caerdydd” – rhaglen anferth o adeiladu ac ail-drefnu ysgolion, gyda’r nod o sicrhau lle Caerdydd ymysg 100 prifysgol gorau’r byd. Benthycodd a gwariodd y Prifysgol £50.3 miliwn i’r perwyl yma yn ystod y flwyddyn heriol yna, 2018. Mae yna amryw gyfleodd i fuddsoddwyr a datblygwyr elwa o “Trawsffurfio Caerdydd,” trwy benthyg i’r Brifysgol neu codi adeiladau preswyl newydd i fyfyrwyr. Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru’n hapus i gydweithredu. Gwelir y canlyniadau ar draws Caerdydd, wrth i’r fflatiau drud yma i fyfyrwyr hypothetig gorchuddio strydoedd cyfan, a cyfrannu at y broses o foneddigeiddio sy’n gwthio trigolion dosbarth gweithiol a lleiafrifoedd ethnig allan o’r ddinas.
Yn y cyfamser, mae’r “bwysau o ran costau,” sef y gweithwyr prifysgol a’r myfyrwyr, yn gwneud eu gorau i oroesi. Dydyn nhw ddim yn llwyddo bob tro. Canlyniad uniongyrchol bregusrwydd a llwythi gwaith amhosib yw’r argyfwng iechyd meddyliol presennol. Bu farw 13 o fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bryste dros y tair mlynedd olaf, trwy hunanladdiad. Yng Nghaerdydd, bu farw’r darlithydd cyfrifeg Malcolm Anderson yn Chwefror 2018. Buodd yn gweithio rhwng 70 ac 80 awr yr wythnos. Gofynnwyd iddo farcio 418 o bapurau arholiad o fewn 20 diwrnod.
Ymateb y Brifysgol oddi i osod cloeon ar y ffenestri.
Anghofiwch pensiynau. Dyna pam mae’r gweithwyr prifysgol ar streic.
Hyd yn oed yn yr argyfwng yma, mae yna obaith. Mae aelodaeth yr UCU ar gynnydd. Ar y llinellu biced ac yn y digwyddiadau dysgu agored, rydyn wedi cael cipolwg o’r math o brifysgol hoffwn weld: lle agored a democrataidd, ble mae academyddion a myfyrwyr yn gweithio gyda’i gilydd. Dadl Polly Manning, yn ei traethawd arbennig “A World of Gap Years and Gilt Frames,” oedd ni ddylai Cymru ceisio ail-greu strwythurau hierarchaidd, breiniol prifysgolion megis Rhydychen a Caergrawnt.
“Devolved higher education in Wales should present us with an opportunity to forgo the elitism and snobbery which hounds the intelligentsia of the British state, an opportunity to start afresh and construct our own measures of what constitutes a ‘great’ education. Our universities should be fully in a position to thrive on the basis of accessibility, garnering the experiences of black and minority ethnic students, poor students, disabled and queer students, in creating our own definition of prestige.” (Planet 228, t. 35).
Rhaid i’r drefn academaidd presennol newid. Dyma’r adwy ble gall rhywbeth well ymddangos.