Ynghanol ein hamryw argyfyngau cynigir addasiadau o gyfalafiaeth – fel arfer dan enw tebyg i Fargen Werdd Newydd. Mae canlyniadau peryglus i dynnu sylw oddi wrth ein problemau.
Cyflwyniad
Dim ond rhywun nad yw’n llawn llathen neu economegydd fyddai’n dadlau nad yw’r byd ynghanol cyfres o argyfyngau ecolegol, hinsoddol ac yn ymwneud â chydraddoldeb, sydd oll yn gysylltiedig, a bod yr argyfyngau hynny o ganlyniad i weithredoedd pobl (ac yn fwy felly, dynion), bu ymateb llywodraethau ar draws y byd yn drychinebus. Wrth i mi ysgrifennu mae gwleidyddion yn amddiffyn y cloddio a llosgi glo sy’n digwydd mewn gwlad sydd ar dân, yn llythrennol. Ymysg elfennau mwyaf radical y prif lif gwleidyddol, ar y chwith fwy na heb a phrin iawn mewn grym, mae awgrym y gallai’r model economaidd cyfredol ymateb i’r heriau hyn trwy addasu dulliau cynhyrchu a dosbarthu. Mae (rhai) Democratiaid yn yr UDA a’r pleidiau sydd fwyaf i’r chwith yn y DU er enghraifft yn pledio achos y ‘Bargeinion Gwyrdd Newydd’ (BGN) yma gan fynnu mai dyna’r ateb ‘arall’; y gwrthbwynt i ddinistr pengaled a barus ein polisïau presennol. Maent, er hynny, yn annhebygol o lwyddo.
Anawsterau eu gweithredu
Yn gyntaf, mae cyfres o faterion yn ymwneud â gallu asiantiaid – boed nhw yn fusnesau neu lywodraethau – i weithredu mewn modd sy’n cyflawni’i amcanion angenrheidiol. Mae’n sobri rhywun o feddwl mai Capita, Openreach a Serco (oherwydd yr amserlen agos at amhosibl) fyddai’n gyfrifol am ail-greu ein rhwydweithiau trafnidiaeth, band llydan ac ynni, hyd yn oed dan reolaeth llywodraeth Gorbynaidd ddamcaniaethol. Mae HS2 a Heathrow yn brawf cyfredol, yn y DU o leiaf, fod polisïau cyfarwyddol, parhaol ac effeithiol o’r math sydd eu hangen yn brin iawn – heb sôn am yn y ffordd gydberthynol, drawstoriadol sydd ei angen ar BGN. Yn ehangach, wrth ddefnyddio dulliau cyfalafol er lles ecolegol rhaid wynebu a chydnabod bod prif angen cyfalafiaeth breifat- nid creu elw yn unig, ond yr elw mwyaf ar fuddsoddiad – yn anghydnaws â gweithredu mewn modd cynaliadwy. Enghraifft amlwg yw’r sector trafnidiaeth preifat, gwelwyd sgandal Dieselgate, twf anferthol gwerthiant cerbydau SUV trwm, aneffeithiol sy’n achosi llygredd (er eu bod yn broffidiol), a cherbyd bateri trydan dros ddwy dunnell yn arwain y farchnad yn ystod degawd pan oedd trychinebau eco-hinsoddol yn gwbl eglur ac yn fater brys. Waeth pa sector neu ddiwydiant sydd ynghlwm â BGN, heb fod cyfan-werthiant dan berchnogaeth gyhoeddus neu yn gydfuddiannol mae hapchwarae, cyfyngu rheoliadau a methiant yn anorfod.
Anawsterau gyda’u hystod
Hyd yn oed o ddatrys yr anawsterau uchod mewn modd cyfamserol a holistaidd, ni fyddai Bargeinion Gwyrdd Newydd a gyflwynwyd ar ddiwedd y 2010au yn ddigon i fynd i’r afael â’n hargyfyngau naturiol. Mae ystod ein dadl gyfredol yn peri anhawster gan ei fod yn ffocysu ar ran diwydiant a chynhyrchu i newid i’n hamgylchiadau cyfyng, tra yn tanamcangyfrif y newidiadau radical angenrheidiol angenrheidiol i ddulliau o fyw ac ymddygiad yn ehangach. Prin iawn y bydd y rhai sy’n cynnig bod buddsoddi yn yr economi ‘werdd’ yn tynnu sylw at yr angen i bobl brynu mewn modd llawer llai dinistriol, ac yn wir llawer yn llai yn gyfan gwbl (gweler er enghraifft dawelwch cymharol y Blaid Lafur ynglŷn ag ehangu Heathrow). Golyga y bydd Paradocs Jevon yn cael ei weithredu at ei eithaf: bydd arbedion a ddaw drwy dai ynni effeithiol yn arwain at ragor o bryniant a mwy o wyliau, a bydd gwella’r rhwydwaith drafnidiaeth yn arwain at dwf mwy byth dinasoedd sydd eisoes yn fawr, a thynnu mwy o bol i weithio yno (a mwy o fwyd ac ynni i’w cynnal). Mae yna ddiffyg cyfaniaeth lwyr. A heb fframwaith werdd ehangach a dyfnach i gyfleu angenrheidrwydd BGN mae penderfynu ar newidiadau ehangach i ffordd o fyw yn anos.
Anawsterau’r model
Mae’r pwynt olaf yma’n egluro anhawster mwyaf sylfaenol datgan Bargeinion Gwyrdd Newydd neu gyfalafiaeth-wedi-ymyrryd-ag -e fel ateb i’n argyfyngau naturiol cydgysylltiol. Mae systemau cyfalafol yn ddibynnol ar sylfaen economaidd sy’n tyfu’n barhaol er mwyn gwobrwyo buddsoddwyr a’r rhai sy’n berchen ar gyfalaf (ac ydi, os oes gennych bensiwn, mae’n eich cynnwys chi). A rhaid i arian, ac felly’r adnoddau dan ei reolaeth, gynyddu, ac mae cynydd annigonol yn cael ei ystyried yn ddirwasgiad ac annhyfiant. Mae’r rhai sy’n dadlau achos BGN yn aml yn rhoi buddsoddiadau gwyrdd i’r neilltu pan ddaw hi at adfer twf economaidd diffygiol mewn democratiaethau Gorllewinol, gan argymell hwb Keynes-iaidd i mynd i’r afael ag annhyfiant oesol. Ond mae canolbwyntio ar ‘swyddi a thwf’ yn anwybyddu natur anghydnaws economi sy’n tyfu’n barhaol a chyfyngiadau ecolegol. Mae’r hyn sy’n cael ei gyflwyno fel mwy o swyddi, gwell ffyniant, mewn gwirionedd yn trawsnewid adnoddau naturiol (yn bennaf) i wastraff diwerth fwyfwy a chyflymach, ac er gwaetha rhai gwelliannau i effeithlonrwydd cymharol defnydd adnoddau, bydd y byd wedi methu datgysylltu twf economaidd a thrwybwn adnoddau. Disodlir ynni a arbedir wrth i economïau datblygedig symud oddi wrth gynhyrchu ac at wasanaethu gan gynhyrchiant nwyddau yn Asia, i’w danfon at brynwyr Gorllewinol, filoedd o filltiroedd i ffwrdd; disodlir simneoedd gan ffermydd gwasanaethol â phythefnos yn Ninbych-y-Pysgod a gwyliau byr niferus i bob man, ac ar y cyfan bydd defnydd ynni a deunyddiau yn parhau i dyfu. Dyma hafaliad nad oes ateb iddo – neu os gall, dim ond o fewn cyfnod amser hirach na’r hyn i ni ei osod i’n hunain drwy’r hyn a wnaed yn y gorffennol.
Beth ellir gwneud?
Mae dadleuon ynghylch gwyrddio cyfalafiaeth genedlaethol neu ryngwladol yn sylfaenol ddiffygiol. Maent yn mynd i’r afael â’r modd yr ydym yn gwneud pethau yn hytrach na beth neu pam yr ydym yn gwneud. Maent yn canolbwyntio ar ddwysedd ac effeithiolrwydd yn hytrach na graddfa absoliwt gweithgareddau’r gymdeithas a’r economi – ond yr olaf yw hanfod y broblem. Mae llawer gormod o bethau, ac maent wedi’u rhannu’n anghyfartal. Yr ateb mewn gwirionedd wrth gwrs yw ailstrwythuro’n heconomïau er mwyn iddynt barchu cyfyngiadau byd-eang: i leihau yn sylweddol gynhyrchiant nwyddau, i fwyta’n fwy lleol a chynnil (ac yn fwy llysieuol mae’n siŵr); i ffafrio strwythurau presennol sy’n addasu i’r hinsawdd yn hytrach na buddsoddiadau corfforol newydd; i roi’r gorau i’n ffordd gorsymudol o fyw ar gyfer gwaith a hamdden; ac i… gymeryd hoe ac ymlacio dipyn yn fwy. Wrth gwrs ni fydd hyn, neu ni all, ddigwydd o’r top i lawr. Dyna pam i mi fod yn llafar ers blynyddoedd am osod ein cyfeiriad economaidd ar raddfa dipyn yn fwy lleol, byddai datrysiadau radical ac wedi’i deilwra ond wedi’i wreiddio – sy’n cynnwys dad-dyfu – yn dod i’r amlwg, wedi’u cyllido’n dorfol a gyda chefnogaeth eang. Mae Cymru – â’i gwaddol naturiol, amrywiaeth (ond â gweledigaeth gyffredin ar gyfer y genhedlaeth i ddod) ac, i ddweud yn blaen, yn gachu pan daw hi at gyfalafiaeth ta beth – felly yn lle da i ddechrau.
Delwedd gan KC Green
The problem is…, capitalism!
What is to be done? Stop the spread of the disease, treat the infection and remove every bit of the malignant ideology. Capitalism isn’t entrepreneurism nor good business in any shape or form, it is the exploitation of the majority purely for the benefit of the minority. Whether that be mankind, livestock, wildlife or natural resources. It is a select club bolstered by an enabling evil called the stock market.
This whole corrupt system spread in the wake of the Roman empire bringing evolution throughout Europe to a halt two millennia ago. Every aspect of humanity could have advanced in so many ways in this time, but the only advances we have are down to those that had due to their birth and the privileges that they fed off, trying to over shadow a few that didn’t have, but some how managed to make it. If society had not been torn apart, if a class system had not been introduced, people impoverished and a selective educational system had not destroyed the possible genius in everyone, just think where we could be today!
Take a look around the world at Murdoch’s Muppets or Putin’s Puppets really, I ask you is Trumpolini, Bojo The Clown, Macron the Muddler, Scomo the ultimate denialist to name, but a few for real?! So, if you feel I’m being childish by calling them out and do not think they’re morons then sadly, you are part of the problem. However, like so many of us that have you are probably waking up to the fact already on yer own. Respect.
I know some will pick up on the word, ‘if’, that I use here, but ‘if’ you stop quibbling just for a moment and try to understand the restrictions of an unsustainable system then, there will be more of us looking toward finding a new sustainable system and the vast positive possibilities for mankind and the whole planet that await us.
To add eco-capitalism is just another means by which to fleece the already strapped for cash public once again. Capitalism has caused the majority of problems (manmade) the world faces today, capitalism through its monopoly offers us the remedies to the problems it has caused and as I said above the majority are expected to pay for cleaning up everything the minority profited from. Do not be fooled by lies and promises anymore, your life depends on it.