Gyda’r Senedd yn trafod enwau cartrefi ddydd Mercher, dyma gyhoeddi erthygl a gyhoeddwyd yn wreiddiol ar flog Llafar Bro gan Elin Hywel 

Wrth droedio tir adra fyddai’n meddwl yn aml pa mor wahanol oeddwn i bob tro i mi daro’n nhroed i’r ddaear yma? Pa bethau oedd yn llenwi ‘mhen?

Dwi’n siŵr mod i’n cofio i mi sefyll yn y fan hyn flynyddoedd ynghynt yn damnio mod i heb wisgo côt i fynd i’r ysgol a bod y glaw yn fwy fel bwledi o rew na dŵr. Poen yr oerfel yn crisialu’r atgof debyg iawn. Dyddiau yma, pan fyddai’n gwylio’r hynaf yn mynd i’r ysgol – heb ei chôt, fyddai’n gweiddi o ben grisiau “ti di cofio masg?” Rhyfedd ‘di troad amser. Ac er fod y ddau yn brofiadau yn bell ar wahân dim ond sefyll yn y fan yma sydd raid ac mae profiad merch a mam yn plethu’n un.

I mi mae perthynas cof a lle yn annatod, un yn galluogi’r llall. Heb hanes, heb gof, heb brofiad ac emosiwn beth ydi lle ond diarth? A lle a’r gallu i blethu llanast profiad yn yr un eiliad oesol. Braint o allu hawlio’n lle mewn cymunedau sefydlog ydi hynny hefyd wrth gwrs. Cymunedau sydd yn galluogi ni i fyw a bod yn yr un lle drwy gydol ein hoes os dewiswn wneud. Er i ni wynebu bygythiadau lu fel cymunedau drwy hanes yma ydym ni o hyd, yn brysur yn ein hunfan.

Mi fyddai’n meddwl fwyfwy dyddiau yma am sut ddown ni drwyddi fel cymunedau bach Cymreig yng ngolau gofidiau heddiw. Ella ma’ oed ydi hynny ond mae’n dipyn o beth i lenwi’r meddwl.  Tra fod ein cymunedau o dan y don a’n pennau yn bell o dan y parad mae’n anodd ‘i gweld hi. Cyfrifoldeb trwm ar ysgwyddau gwantan.

Un mater sydd wedi amlygu hyn i mi ydi y mater o newid enwau cartrefi. Mae’n fater sydd wedi amlygu droeon o’r blaen felly pam eto rŵan yn nghanol y gwyllt a gofid? Pam fod hyn o bwys a pam fod y poen o golli’r ddolen yma yn boen sydd yn crisialu angen i wrthsefyll yn mor effeithiol? Dyma i chi fynegiant pur o berthynas lle a cof. Cof cymuned, cof cenedl, cof cenedlaethau. Drwy enw rwyf i yn dyst i brofiad byw fy nghyn-neiniau. Mae rhywbeth mor syml ag enw yn newid ein profiad o fyw yn ein cymunedau i fod yn oesol.

Un agwedd yn unig ydi hyn o bŵer enw i le, enw i’n lle ni. Yn reddfol rydym yn deall fod tŷ neu dir, foed ac iddo gartref neu ddim yn rhan sylfaenol o’n cymunedau ac fod eu henwau yn eu lleoli yno. Fod perchnogi tŷ neu dir yn nhermau farchnad agored, cyfalafol, unigolyddol yn gamarweiniol llwyr yn nhermau creu cartref a gwirioneddau diwylliant cymunedol Cymreig. Mae gwrthdaro diwylliannol, gwleidyddol, emosiynol a  moesol yma. Nid ased personol mo cartref ond ein lle ni yn ein cymuned. Cymuned sydd yn ein cynnal ni, yn rhoi y lle i ni. Dyma wir gyfalaf cartref yn hytrach na pherchnogi tŷ, nid arian o un llaw i’r llall. Rydym ni yn ein tro yn ymroi i gynnal cyfalaf ein cartref drwy warchod breuder yr hun sydd yn annatod a enw, i gynnal hanes, iaith a hunaniaeth y lle yma o’i wreiddiau i’r dail. Yn ôl daw balchder a’r hyder sydd yn dod o fod o rywle sefydlog i warchod breuder ein henaid. Bosib ai enw ein lle ni sydd felly yn dynodi ein hawlfraint i ni gael ein cynnal fel yma gan gymuned ein lle? Lle bynnag fu i ni ddechrau’r daith dyma’n lle ni rŵan.

Felly, sut i roi sylw teg i’r mater yma? Rhaid gwrthod yr honiad ein bod yn esgeuluso materion sydd wir o bwys. Mae Cymru wedi newid yn ddiweddar, mae’r Cymry wedi cael hyder na welwyd ers tro byd. Mae gwrthod ein gallu i ymateb i fygythiadau niferus a gwahanol ar yr un pryd yn fynegiant o ormes ein pobl. Rydym yn gymdeithas cymhleth, fel pob cymdeithas, ac mae gwarchod ein treftadaeth, ein hunaniaeth, ein hanes a’n hiaith yn hawl. Mae cynnal enw cartref yn un ffordd gallwn ni oll daenu edefyn cof cymuned dros geunant amser, ac mae’n fraint cael cynnal cyfoeth ein hanes, ein diwylliant a’n cariad.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.