“Gwêl di acw,” ebe Manawydan, “y drws na ddylem ni ei agor.”

– diweddariad Dafydd a Rhiannon Ifans o Branwen Ferch Llŷr, sef ail gainc y Mabinogion

…………………………………………………………

A Chymru ar drothwy ethol gwleidyddion i’n Senedd, pam ar wyneb y ddaear cyfeirio at chwedl ganoloesol?  Beth yn y byd sydd a wnelo hyn â’r Gymru gyfoes?  Ar yr wyneb, dim o gwbl; ond mae’n rhan o’n hanes ni, ac er mai chwedl a nid hanes seiliedig ar ffeithiau pendant sydd yma, gallwn ddehongli peth o’r chwedl yn nhermau heddiw, a gobeithio sylweddoli beth a ddaw o droi cefn ar realaeth.  Mae’n chwedl am greulondeb, am ddial, am drychinebau, ond hefyd yn sôn am gariad, am anrhydedd ac am gyfeillgarwch – er mai y pethau gwael sy’n cael y prif bwyslais.  Chwedl dywyll (gellir darllen crynodeb ohoni yma), y clywir atseiniau ohoni heddiw.  Chwedl sy’n datgelu llawer am ein cyflwr anniddig fel dynoliaeth.  

Gawn ni ystyried y rhan o’r chwedl lle mae’r ychydig o wŷr a oroesodd ryfel erchyll yn Iwerddon yn treulio 80 o flynyddoedd mewn Neuadd ar Ynys Gwales, pryd y maent yn anghofio popeth gwael a ddigwyddodd iddynt ynghynt?  Mae Manawydan yn rhybuddio na ddylid agor y drws tuag Aber Henfelen, ond yn y diwedd agorir y drws gan Heilyn fab Gwyn.  Yna daw pob atgof yn ôl iddynt o’r cyfeillion a pherthnasau a gollwyd, fel ymchwydd tonnau yn eu gorchuddio â thristwch.

Beth am ystyried hyn yng ngoleuni ein profiad o hanes diweddar?  Ydyn ni wedi treulio cyfnod tebyg yn anwybyddu realaeth?

Tua pedwar ugain o flynyddoedd yn ôl y daeth yr Ail Ryfel Byd i ben, ac yn fuan wedyn sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn dilyn yr hil-laddiad o Iddewon a lleiafrifoedd eraill gan y Natsïaid.  Cafwyd heddwch cymharol yng Ngorllewin Ewrop am ddegawdau, cododd safonau byw, roedd digon o fwyd ar y bwrdd, tai ar gael yn weddol rhesymol, cafwyd gwyliau rhad ar y Cyfandir a thu hwnt, daeth yr Undeb Ewropeaidd i fodolaeth.  Gwelsom ddatblygiadau technegol anhygoel fel ffonau symudol, y rhyngrwyd, cyfrifiaduron a nifer di-rif o bethau eraill.  Daethom i dderbyn  fod datblygiadau technegol i’w croesawu .  Roedd y Ddaear a’r Môr yn adnoddau i’w defnyddio ar gyfer y ddynoliaeth, ac ymddangosai’r adnoddau hynny yn ddihysbydd.

Cawsom ni yn y Gorllewin hawddfyd y rhan fwyaf o’r amser, gyda dim ond ambell i gysgod megis argyfwng taflegrau Ciwba.  Daeth argyfwng olew yn 1973 yn dilyn rhyfel Yom Kippur rhwng yr Aifft ac Israel, ac un arall yn 1979 yn dilyn y Chwyldro yn Iran.  Ond buan yr aeth rhain yn angof, fel yn wir fesul tipyn anghofiwyd am erchyllterau y Natsiaid yn yr Ail Ryfel Byd, heb sôn am yr erchylltra o ddisgyn bomiau niwclear ar Hiroshima a Nagasaki gan yr Unol Daleithiau.  Daeth yn gred fod “byth eto” yn golygu hynny yn union, gan fod meddwl am Ryfel Byd a defnydd o arfau niwclear y tu hwnt i grebwyll pobl.

Ond gwelwn erbyn hyn ein bod wedi bod yn byw yn y neuadd ar Ynys Gwales.

Agorwyd ein llygaid i ddrygioni gan i’r drws at Aber Henfelen gael ei agor gan Trump a Netanyahu a Putin.  A methodd arweinwyr y Gorllewin yn llwyr yn eu hymatebion i’r rhyfeloedd diangen yn Wcrain, Palesteina ac Iran.  Heb sôn am beidio a rhoi fawr ddim sylw i sawl rhyfel a chyflafan arall megis yn Myanmar, Swdan, Ethiopia, Nigeria, Mecsico, Burkina Faso, Syria, Somalia, Mali, Libanus, Congo, Afghanistan, Pakistan, Haiti, Camerŵn.

Onid y gwirionedd yw fod holl hanes diweddar ers diwedd yr Ail Ryfel Byd yn croniclo awydd gwledydd pwerus i danseilio gwledydd eraill sydd yn berchen ar rhywbeth mae nhw ei angen?  Olew yn amlwg, ond hefyd metalau a mwynau.  Tan yn ddiweddar, roedd ymosodiad ar wlad arall gan y Gorllewin yn cael ei gyfiawnhau drwy fynnu eu bod am ddod a democratiaeth i wlad, dymchwel unben, a sefydlu gwladwriaeth oedd yn parchu ‘gwerthoedd’ Gorllewinol.  Wrth gwrs y pris i’w dalu yw fod cyfoeth y gwledydd ar gael i’r Gorllewin, bod dyledion amhosib eu talu yn ôl yn cael eu gosod ar wledydd, a bod llygredd gwleidyddol yn dderbyniol os yw Llywodraeth y wlad yn ein cefnogi ni.  Rydym ni wedi bod yn gyfforddus ac yn medru bod yn ‘Ryddfrydol’ yma ar draul gwledydd eraill.

Ac onid yw agor y drws at Aber Henfelen wedi datgelu y llanast sydd ohoni?  Yr ymhyfrydu mewn lladd a welwn gan Trump a Netanyahu a’u tebyg, heb hyd yn oed smalio fod yna bwrpas aruchel.  Y parodrwydd i beidio a chymryd dim sylw o gwbl o Gyfraith Rhyngwladol a’r Cenhedloedd Unedig.  Y distryw amgylcheddol sy’n ganlyniad i’n hawydd dibendraw am ‘bethau’, a hynny wedi arwain ein Planed glwyfedig at ddibyn difancoll.  Chwant cyfalafiaeth sy wedi rhoi mwy a mwy o rym a chyfoeth i’r biliwnyddion, a thynnu grym oddi wrth pobl gyffredin.  Y chwalu ar gymdeithas wâr gan wleidyddiaeth casineb; yr awydd i greu gelyn o’r ‘arall’; yr ymosod ar hawliau dynol; y normaleiddio o dargedu a lladd pobl gyffredin mewn rhyfel; y gwadu fod newid hinsawdd yn digwydd oherwydd effaith y ddynoliaeth; y ffaith fod tlodi plant a digartrefedd yn bodoli yma; y diffyg ffydd mewn gwleidyddion a’r sinigiaeth nad ydi newid llywodraeth ddim yn newid y drefn.  Gallwn edrych yn fwy manwl ar hyn rhywdro eto.

Ond, mae hyn i gyd yn berthnasol i ni ar drothwy Etholiad i’n Senedd.  Sut, gofynnwch?

Yn y lle cyntaf, beth am feddwl fod y Senedd fel y bu’n gweithredu hyd yma yn debyg i Neuadd Ynys Gwales  Lle mae criw o bobl yn ymateb i broblemau’r dydd o fewn muriau cyfyngedig o ran gweledigaeth.  Lle mae yna dderbyn yn fras mai cyfalafiaeth yw’r ffordd ddoeth a chall o drefnu pethau.  Lle mae ystrydebau yn britho datganiadau am ‘Genedlaethau’r Dyfodol’.  Lle mae unrhyw fath o swyddi yn dderbyniol mewn ardal dlawd a difreintiedig.  Lle na chlywir lleisiau yn gwrthwynebu’r diwydiant arfau ac yn cynnig gweledigaeth am swyddi sydd o les i’r ddynoliaeth.  Lle y cefnogir ynni niwclear ar waethaf ei holl beryglon a’i gyswllt diymwad  ag arfau niwclear.  Lle na chlywir gair am beryglon Porthladdoedd Rhydd a Safleoedd Datblygu fel safleoedd i hwyluso cyfalafiaeth eithafol.  Lle nad oes yna gwestiynu ar y cysyniadau o Ganolfannau Data a Deallusrwydd Artiffisial ar waethaf eu gofynion eithafol am drydan a dŵr.  Lle mae rheoli dadfeiliad gwlad yn weddol drefnus yn cael ei gyfrif yn llwyddiant.  Lle mae llaw farwol San Steffan yn gysgod dros weithredu dros bobl Cymru.  Lle a ddiystyrir gan San Steffan pan fydd yna gytundeb trawsbleidiol mewn materion fel Stad y Goron, a Heddlu a Chyfiawnder.  Lle mae yna ddeuoliaeth ryfedd wrth sôn am y wlad – ai Cymru sydd dan sylw, neu y Deyrnas Anunedig?  Lle mae disgwyl i aelodau dyngu llw o ffyddlondeb i ffosil o’r Oesoedd Canol.  Lle mae dros chwarter canrif o ddatganoli heb lwyddo mynd i’r afael a, heb son am ddatrys problemau tlodi, digartrefedd, iechyd ac addysg.  Lle mae yna yn rhy aml olchi dwylo pan sonnir am faterion sydd heb eu datganoli – fel pe na bai gan Gymry yr hawl i fynegi barn ar faterion eraill.  Lle mae muriau’r adeilad ei hun yn wydr dryloyw, ond mae siambr y gwleidyddion tu ôl i bared pren.

Ond lle sydd, ar waethaf ei ffaeleddau, yn sefydliad sydd gennym fel gwlad a phobl Cymru, ac y dylem ymestyn ei rymoedd, yn lle gweld y grymoedd hynny yn crebachu oherwydd diffyg cyllid, neu ymyrraeth gan San Steffan.

Felly rhaid agor y drws at Aber Henfelen a wynebu y byd fel ag y mae go iawn.

O wneud hynny, gallwn weld fod angen cefnogi ymgeiswyr sydd yn fodlon gwthio ffiniau y posib y tu hwnt i’r ffiniau cyfyng presennol.  Cefnogwn ymgeiswyr sosialaidd a sy’n gwrthwynebu y drefn gyfalafol bresennol, rhai sy’n sefyll dros eu cymunedau a nid er budd personol.  Er gwaethaf diffygion y drefn newydd (diwygiad arall sydd ei angen!) mae pobl fel hyn i’w cael!  Edrychwch ar restrau y pleidiau a gweld pwy sydd fwyaf tebygol o gael eu hethol.  Edrychwch ar ymgeiswyr annibynnol sy’n herio y drefn yn ei chyfanrwydd.

Yn sicr nid oes yna ddim lle o gwbl i gefnogi Reform UK Party Limited (neu efallai Reform 2025 Ltd!), os nad ydych am gefnogi cyfoethogion a chyn-Doriaid sy’n falch o fod yn gefnogol i Trump.  Nid yw eu syniadaeth yn dderbyniol yng Nghymru – ac os y bydd, yna y Cymry fydd yn talu’r pris.  Torri cyllidebau, gadael y gweithwyr i lawr, gwasgu mwy ar y tlawd a’r anghenus, preifateiddio y Gwasanaeth Iechyd, difaterwch am y Gymraeg.  Edrychwch ar beth sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau os am weld Gweledigaeth Uffern heddiw, a chofiwch fod Farage yn gefnogwr i Trump ac yn cyfrif ei hun yn gyfaill iddo.

Mae’r Etholiad yma yn bwysig am ei fod yn rhoi dewis clir i ni ar sut fath o wlad y dymunwn fod.

Gwlad sy’n hyderus y gall ddatrys ei phroblemau os y caiff lonydd a grym i wneud hynny, gwlad sydd angen sbardun a chefnogaeth i greadigrwydd ei phobl, gwlad sy’n gyforiog o adnoddau naturiol a gaiff eu datblygu’n gyfrifol er budd ein pobl ni, gwlad sy’n adeiladu ar y syniad o Genedl Noddfa i fod yn Genedl Gyfeillgar a Heddychlon.

Neu ydym ni am weld gwlad sy’n cael ei rhannu ymhellach gan godi cynnen rhwng carfannau a’i gilydd, gwlad sy’n ymhyfrydu mewn militariaeth a grym gormesol, gwlad sy’n fodlon cadw’n dawel yng wyneb anghyfiawnderau.

Mae y dewis yn ein dwylo.

Ond cofiwn mai dim ond dechrau’r daith yw yr etholiad yma.  Rhaid newid y gyfundrefn israddol, echdynnol, uber-gyfalafol, di-ddychymyg ‘rydym yn byw oddi tani.  Os y bydd y Llywodraeth nesaf yn gogwyddo tua’r chwith, yna bydd yna dalcen caled o’i blaen.  Bydd yn rhaid iddi gael gweledigaeth sy’n bwrw ffiniau y posibl cysurus a wynebu na fydd gwelliant gwirioneddol yn digwydd heb i’r holl amodau sy wedi ein harwain i’r argyfwng gobaith presennol gael ei trawsnewid yn llwyr.  Nid gwaith dros nos i’w gyflawni drwy gyfryngau cymdeithasol yw hyn!

O gofio fod yr hualau ariannol yn nwylo San Steffan, heb sôn am y gallu i anwybyddu penderfyniadau y Senedd a hyd yn oedd ei thanseilio yn llwyr, tasg hynod o anodd fydd gan ein Llywodraeth newydd.  A gan fod San Steffan ei hun wedi colli pob hygrededd ac yn ddarostyngedig i ofynion Arian Mawr yn ei holl agweddau dinistriol, bydd angen dewrder a gallu Houdini i ni ddianc o’r presennol llwyd a diflas.  Ond os na fyddwn yn feiddgar, yna buddugoliaeth byr dymor fydd ennill yr etholiad.

Ar ddiwedd y chwedl, mae’r cwmni bach yn mynd a phen Bendigeidfran i’w gladdu yn Llundain.  Gweithred symbolaidd i warchod Ynys Prydain oedd hyn, wedi i’r cwmni sylweddoli erchyllterau eu gorffennol ar ôl agor y drws at Aber Henfelen.  Wrth gwrs, gosodir y chwedl mewn cyfnod cyn i Ynys Prydain gael ei goresgyn gan Sacsoniaid, Llychlynwyr a Normaniaid, felly rhaid fod pen Bendigeidfran druan wedi colli ei rym!  Ond gallwn ddweud yn hyderus y bydd angen mwy nag un pen – pennau gwlad gyfan yn wir – i fynd i’r afael â phroblemau dyrys Cymru, a ddaw yna ddim atebion o Lundain.

Dyna yw hanfod ein sosialaeth: cydweithio er lles pawb mewn ysbryd gostyngedig a chariadus.  Y gwrthwyneb i hynny yw cymdeithas flin a wnaed yn rhanedig o bwrpas, a dlodwyd yn ystyron ysbrydol a materol y gair, ac yn ysglyfaeth parod i rymoedd gormesol.

Beth ydych chi am ddweud wrth eich wyrion am y dewis a wnewch yn awr?

_______________________

Mae Robat Idris, ymysg pethau eraill, yn Gadeirydd Cymdeithas y Cymod, Cyn-Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith, ac yn aelod o PAWB (Pobol Atal Wylfa-B).

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.