Mae’n siŵr eich bod wedi clywed erbyn hyn: mae rhyw wancar posh wedi gofyn i’r Frenhines atal senedd San Steffan er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb. Mae hyd yn oed Philip Hammond yn galw cam diweddaraf Boris yn annemocrataidd. Mae’r DG ar dân unwaith eto. Neu yn hytrach mae’n parhau i fod ar dân ond mae hen Etonian wedi piso petrol ar y fflamau.

Ac mae Cymru yn wylo. Mae’r ymatebion cenedlaetholgar disgwyliedig wedi dod i’r wyneb. Sylw cyntaf Adam Price ar yr argyfwng cyfansoddiadol oedd ailadrodd ei ymrwymiad i Gymru annibynnol. Manteisiodd hyd yn oed Carwyn Jones ar y cyfle i fygwth y gallasai hyn fod yn ddechrau ar derfyn y Deyrnas Gyfunol.

Os ydych chi’n darllen y blog hwn mae’n debyg eich bod chi’n gyfarwydd a’r holl ddadleuon arferol: nid yw San Steffan yn cynrychioli Cymru; mae pŵer y DG wedi’i ganoli yn Llundain a de-ddwyrain Lloegr; bydd annibyniaeth yn golygu y gallwn Take Back Control™ ar faterion Cymru a’u rhedeg yn well na bechgyn Boris Boys’; ayyb, ayyb; gan gynnwys rhyw bwt ynghylch faint o ddŵr rydym ni’n ei allforio.

Felly rydym ni yn y mudiad dros annibyniaeth wedi cytuno ei bod hi’n well gennym ni i bobl Cymru redeg Cymru. Beth nesaf, felly?

Un rhagdybiaeth yw y byddwn yn cael annibyniaeth drwy orymdeithio tuag at refferendwm, ac yna ei ennill. Pan gyrhaeddwn ni, bydd y blaid sydd wedi llwyddo i sicrhau’r refferendwm wedyn yn penderfynu telerau annibyniaeth Cymru. Plaid Cymru – yr unig blaid dros annibyniaeth gydag unrhyw wleidyddion etholedig – sy’n ymddangos fel yr unig ymgeisydd ar gyfer y swydd honno ar hyn o bryd.

Mae’r gobaith o gael refferendwm dros annibyniaeth yn dal i fod yn bell iawn i ffwrdd, ond anodd yw peidio cael ychydig o déjà vu yn barod; bydd refferendwm yn dibynnu ar gwestiwn ymddangosiadol syml. Byddai ‘na’ i annibyniaeth Cymru yn ddigon syml: cadwch y status quo (byddai San Steffan yn cadw ei phŵer dros Gymru). Ond beth fyddai ‘ie’ yn ei olygu?

Dylai trywydd Brexit wneud i’n stumogau ni droi wrth feddwl ein bod yn gadael y manylion hyn ar gyfer y dyfodol pell. Nid yw hyn i ddweud nad oes unrhyw syniadau manwl ynglŷn â sut y gallai Cymru annibynnol edrych, ond nad oes gennym ar hyn o bryd ddelwedd gydlynol a all fod yn sail i ymgyrch annibyniaeth fwy effeithiol. Rydym ni i gyd yn gorymdeithio dros annibyniaeth, ond dros beth ydyn ni’n gorymdeithio mewn gwirionedd? Yr un system yn y bôn ond gyda Bae Caerdydd yn ganolbwynt pŵer yn hytrach na San Steffan? Ynteu rhywbeth gwahanol yn ei hanfod?

Gwers refferendwm Brexit yw ein bod yn agor y broses ddemocrataidd i gamdriniaeth enfawr os na fyddwn yn diffinio telerau refferendwm yn fwy llym. Ar hyn o bryd mae Boris yn defnyddio pleidleisiau 52% o’r rhai a bleidleisiodd yn refferendwm yr UE i gyfiawnhau ei weledigaeth ei hun o ‘dim cytundeb’. Ond yn amlwg ni phleidleisiodd 52% o’r bobl hynny dros adael heb gytundeb.

Awn ymlaen i ddychmygu refferendwm llwyddiannus yng Nghymru a
sut y gallem gael ein twyllo yn yr un modd? Efallai y bydd Plaid yn arwain y blaen ac, yna, ar yr eiliad olaf, yn dweud wrthym fod angen i ni ddod yn hafan i’r rheiny sy’n osgoi talu treth fel Iwerddon os ydym am fod yn llwyddiannus yn annibynol. Grêt, bydd prisiau eiddo a rhent yn mynd trwy’r tô yng Nghaerdydd i lefelau Dulyn a bydd y llywodraeth yn moesymgrymu i ddarparu ar gyfer biliwnyddion o Silicon Valley. Nid dyna’r annibyniaeth yr oeddech ei eisiau? Ah, wel, chi’n gweld, dim ond parchu canlyniad y refferendwm ydw i. Neu efallai y bydd rhywun arall yn dal yr awenau pan fydd Cymru’n mynd yn annibynnol. Pa fath o wlad gallem ni ddod o hyd i’n hunain ynddo wedyn? Efallai y bydd yn gyfundrefn sosialaidd Corbynaidd neu gallai fod yn ethno-wladwriaeth Hunaniaethol dde-eithafol.

Mae angen i ni ddechrau diffinio nawr yr hyn yr ydym am i Gymru annibynnol fod. Mae’r symudiad dros annibyniaeth wedi bod yn wych yn yr ystyr ei fod wedi cael miloedd ar filoedd o bobl i ymgynnull yn rheolaidd i fynnu Cymru wahanol. Rhaid i’r un bobl hynny fod y rhai sy’n mynegi’r weledigaeth honno. Efallai y bydd Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn fan hyn, cynulliad dinasyddion fan draw, ond nid yw hynny’n ddigon. Mae angen arnom ni am ddemocratiaeth go iawn, o’r fath nad ydym erioed wedi’i chael ar yr ynys laith hon.

Mae annibyniaeth yn gyfle am rywbeth hollol wahanol. Gallwn geisio creu Cymru lle nad yw’r math o weithredoedd gwelwn ni heddiw gan Boris yn bosibl. A thrwy hynny, nid wyf yn golygu gobeithio y bydd Plaid Cymru yn ysgrifennu cyfansoddiad newydd sgleiniog ar ein cyfer pan awn yn annibynnol. Meddyliwch yn ehangach.

Llun oddi wrth Barcelona en Comú

Yn Barcelona, fe etholwyd rhwydwaith o gynulliadau cymdogaeth yr actifydd tai Ada Colau yn faer. Penderfynwyd ar bolisïau gan bobl sy’n byw yng nghymdogaethau’r ddinas, gan ddefnyddio offer ar-lein ac mewn cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb reolaidd. Codwyd lleisiau menywod a lleiafrifoedd, gan geisio chwalu eu hanes ar y cyrion gan elîtiaid gwleidyddol rhydlyd. Fe atalwyd troi pobl allan o’u tai a throsglwyddwyd pŵer gwleidyddol i lefel y stryd. Mae’r broses ddiwygio o dan Colau yn parhau (ac nid heb ei chamgymeriadau), ond mae’r prosiect y mae hi wedi bod yn wyneb iddo wedi bod yn doriad radical gyda’r hen bwerau a oedd yn rhedeg y ddinas.

Yn Rojava, gogledd-ddwyrain Syria, yng ngwactod rhyfel cartref Syria, mae cymunedau wedi sefydlu rhaglen debyg o “gydffederaliaeth ddemocrataidd“, gan ail-ganoli grym wleidyddol ar y lefel leol. Lefel cymdogaethau a strydoedd, hynny yw. Mae gwasanaethau sy’n cynnwys pobl arferol (gyda chynrychiolaeth menywod wedi’i gwarantu ar bob lefel trwy system cyd-gadeirio) yn penderfynu beth fydd yn digwydd yn eu cymunedau. Mae’r gwasanaethau hynny yn siarad â chynulliadau eraill a gyda’i gilydd maent yn ffurfio llywodraeth ddosbarthedig radical ddemocrataidd ar gyfer y rhanbarth. Mae lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn gweithio ochr-yn-ochr mewn ardal o’r byd sy’n rhy aml yn gysylltiedig â gwrthdaro sectyddol.

Dyma ddwy enghraifft o’r mudiad bwrdeistrefol ledled y byd sydd wedi bod yn tyfu’n gyflym dros y degawd diwethaf. Y cynsail sylfaenol yw: dylai gymuned leol fod yn brif safle democratiaeth. I Gymru mae hynny’n golygu nid San Steffan ac nid Bae Caerdydd. Dylai democratiaeth fod yn gymaint mwy na phleidleisio ychydig weithiau bob degawd i ychydig o gynrychiolwyr na fyddwch chi byth, mae’n debyg, yn cwrdd â nhw. Y math hwn o ddatgysylltiad yw sut rydyn ni’n gorffen yn y ffoslen wleidyddol rydyn ni’n boddi ynddo ar hyn o bryd.

Mae’r bennod ddiweddaraf yn argyfwng Brexit yn sylfaenol yn un o ddemocratiaeth. Mae gan Boris ormod o rym ac mae bellach yn ei gam-ddefnyddio yn amlwg. Ond nid mater o gael y person anghywir mewn grym yn unig yw hwn: mae’n fater o rym ei hun. Mewn trydariad sydd bellach wedi’i ddileu, roedd defnyddiwr Twitter yn annog pobl yn ddig ynglŷn â phenderfyniad Boris i anfon llythyrau at y Frenhines. Ar hyn o bryd mae anfon llythyrau at y Frenhines yn onest yn teimlo fel un o’r opsiynau gorau sydd ar gael i bobl arferol. Mae rhywbeth wedi torri’n wael iawn.

Ond y gwir yw, nid oedd ein democratiaeth yn iawn erioed. Efallai bod y bleidlais wedi cael ei ehangu dros y blynyddoedd ond mae ein cynrychiolaeth wleidyddol bob amser wedi bod yn bell ac yn amherthnasol i fywydau mwyafrif y bobl. Mae annibyniaeth Cymru yn gyfle i newid hynny. Ond dim ond os ydym yn ffurfio’r symudiad annibyniaeth i wneud rhywbeth gwirioneddol radical. Ni allwn aros i Blaid Cymru weithio allan y manylion. Mae angen i ni weithio hyn allan drosom ein hunain ac yna mynd allan a brwydro drosto.

I fod yn annibynnol mae angen i ni ddechrau gweithredu’n annibynnol. Ni allwn aros i arweinydd gwahanol gyflwyno cynllun y maent wedi’i ddatblygu y tu ôl i ddrysau caëedig. Byddai’n rhaid i fudiad bwrdeistrefol Cymru gymryd blynyddoedd i’w greu ond mae’n bosibl. Mae gennym wactod gwleidyddol yng Nghymru. Os na fyddwn yn ei lenwi bydd rhywun arall yn ei wneud.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.