- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Annibyniaeth werdd gymunedol – lansio Undod yn y gogledd / Cyfarfod yn Llan Ffestiniog
25 Mai 2019. 10:30 AM - 2:30 PM
FreeSut mae sicrhau annibyniaeth werdd gymunedol i Gymru?
Pa wersi sydd i’w dysgu wrth brosiectau cymunedol ym Môn a Gwynedd?
Mae croeso cynnes i chi fynychu i glywed a thrafod ynni o safbwynt sosialaidd, cymunedol, gwyrdd, Cymreig.
Bydd Elin Hywel yn llywio’r cyfarfod.
Amserlen
10:30 – 11:00 Cofrestru
11:00 – 11:15 Cyflwyniad i’r diwrnod a hanes y Pengwern – Sel Wilias
11:15 – 11:45 “Ynni ym Mon a Gwynedd” – Robat Idris
11:45 – 12:15 “Ynni Ogwen a Hyder” – Meleri Davies
12:15 – 12:45 Cinio
12:45 – 13:15 Trafod datganiad ar ynni o safbwynt sosialaidd, cymunedol, gwyrdd, Cymreig
13:15 – 14:30 Trafodaeth agored ar y ffordd ymlaen i Undod
14:30 Cloi.
Lluniaeth
Bydd cinio ar gael. Bydd te a choffi ar gael drwy’r dydd. Gwahoddir cyfraniadau tuag at gostau.
Llety
Mi fydd llety ar gael i aros ar y nos Wener – am ragor o wybodaeth, e-bostiwch Undod.
Mae'r sylwadau wedi cau.
Gyrru Ymddiheuriadau mawr am fethu mynychu Dydd Sadwrn. Mai hefyd yn ‘Ras Y Moelwyn’ sef digwyddiad pwysig yng nghalendr cymunedol y Fro.
Ymlaen ‘nde.
Ymlaen