Loading Digwyddiadau

« Holl: Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.

Dewch i gefnogi Jamie Bevan yn y llys

14 Mehefin 2019. 9:00 AM - 10:30 AM

Fel Undod rydym am gefnogi a chyd-sefyll gyda Jamie Bevan ar ei safiad yn erbyn hiliaeth, rhagfarn a ffasgaeth.

Mae Jamie wedi derbyn gwys i ymddangos o flaen llys ar ddydd Gwener 14eg mis Mehefin 2019.

Bydd croeso i gefnogwyr fynychu’r gwrandawiad.

Ar nos Fercher 15fed 2019 cymerodd Jamie ran mewn gwrthdystiad yn erbyn hiliaeth, rhagfarn a ffasgaeth tu allan i rali Plaid Brexit, ar safle Trago Mills, yn y dref lle mae e’n byw, Merthyr Tudful.

Y noswaith honno, cyn i’r rali ddechrau, fe gerddodd Jamie ac eraill ymlaen i heol mynediad y safle yn fwriadol er mwyn atal cerbydau rhag cyrraedd y lleoliad. Llwyddon nhw i ohirio dechrau’r digwyddiad, gan achosi anghyfleustra i’r trefnwyr. Wedyn fe arestwyd Mr Bevan pan gwrthododd symud.‬

Trefnwyd y gwrthdystiad ehangach ar frys gan drigolion Merthyr a’r cylch yn ystod y dyddiau cyn y rali. Roedd y cyfranogwyr o gymysgedd o gefndiroedd, gan gynnwys ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth, gwrth-ffasgwyr, cenedlaetholwyr Cymraeg a phobl a bleidleisiodd o blaid aros ac eraill pleidleisiodd i adael yn y refferendwm UE yn 2016.

Fe fydd Jamie yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr ar ddydd Gwener 14eg mis Mehefin 2019 am 9yb i ymateb i’r cyhuddiad o “rwystro priffordd gyhoeddus”.

Yn ystod y gwrandawiad fe fydd Jamie yn pledio’n euog i’r cyhuddiad penodol hwn tra’n datgan gwrthwynebiad i hiliaeth a ffasgaeth.

‪Meddai Jamie: “Roedd cyfran mawr o bobol ym Merthyr wedi brawychu i weld rali o’r fath yn digwydd yn ei dre’ nhw. Bwriad y weithred oedd datgan nad oes pawb yn Merthyr yn cefnogi’r syniadaeth ffasgaidd gwenwyneg y dde eithafol. Rydym yn credu yn y rhyddid i siarad ond mae’r rhyddid yn dod gyda chyfrifoldeb. Mae Farage a’i criw yn dod i ardaloedd difreintiedig fel Merthyr am eu bod nhw’n gweld ni’n targedau hawdd. Mae’r niwed a’r rhwygiadau mae nhw wedi eu creu yn ein cymunedau yn dorcalonnus. Rydyn yn gwrthwynebu hiliaeth ac anghyfartaledd ar bob lefel gyda pob dull sy’n agored i ni.”

Manylion

Dyddiad:
14 Mehefin 2019
Amser:
9:00 AM - 10:30 AM

Lleoliad

Llys Ynadon Merthyr Magistrates’ Court
Stryd y Castell / Castle Street
Merthyr Tudful, CF47 8BU

0 ateb ar “Dewch i gefnogi Jamie Bevan yn y llys”