Loading Digwyddiadau

« Holl: Digwyddiadau

  • Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.

Aberystwyth: Cydsefyll gyda Imam Sis

16 Mai 2019. 4:30 PM - 5:30 PM

Dewch i gyd-sefyll gyda brwydr y Cwrdiaid gan ymuno mewn ymgyrch rhyngwladol i foicotio gwyliau yn Nhwrci. Dyma ymgyrch i bwyso ar Tui i stopio gwerthu gwyliau yn Nhwrci – gwladwriaeth sy’n lladd ac arteithio’r Cwrdiaid ac yn cefnogi Isis.

Mae Imam Sis sydd yn byw yng Nghasnewydd wedi bod ar streic newyn ers y 17eg o Ragfyr. Mae’r weithred yma mewn unoliaeth ag ef. Mae’n ddifrifol wael ac wedi datgan y bydd ar streic newyn yma hyd farwolaeth.

Darllenwch ei erthygl er mwyn deall pam bod y dyn yma yn gweithredu mewn dull mor ddifrifol.

Fel Cymry mae dyletswydd arnom i gyd sefyll a’r Cwrdiaid – dangoswch wrth y gymuned Cwrdaidd ein bod ni yn eu cefnogi yn y frwydr anodd yma.

Cynnwys pellach:

Manylion

Dyddiad:
16 Mai 2019
Amser:
4:30 PM - 5:30 PM
Gwefan:
https://www.facebook.com/events/286386182076560/

Lleoliad

TUI Aberystwyth
1 Parêd y Gogledd
Aberystwyth, SY23 2JH

0 ateb ar “Aberystwyth: Cydsefyll gyda Imam Sis”