![Loading Digwyddiadau](https://undod.cymru/wp-content/plugins/the-events-calendar/src/resources/images/tribe-loading.gif)
- Mae'r digwyddiad yma wedi digwydd.
Merthyr Tudful: dewch i drafod annibyniaeth radical
7 Medi 2019. 2:00 PM - 3:00 PM
Free![](https://undod.cymru/wp-content/uploads/2019/09/canolfan-soar.jpg)
Wedi gorymdaith Pawb Dan Un Faner Cymru mi fydd Undod yn cyfarfod yng Nghanolfan Soar i drafod y ffordd ymlaen o ran annibyniaeth.
Mi fydd yn gyfle i wrando ar rai o’n haelodau yn trafod eu blaenoriaethau nhw o safbwynt ‘annibyniaeth radical’ a’r mudiad cenedlaethol, ac yn gyfle i chi gyfrannu at y drafodaeth, ac ymuno gyda’r ymgyrch.
Dewch yn llu felly i Ganolfan Soar am awr fach bywiog o drafodaeth ymarferol ac i helpu llunio’r llwybr tuag at annibyniaeth.