“Mae yna rywbeth ar droed” yw’r geiriau sydd yn crynhoi yr achlysur. Teimlad anhraethol na does modd ei fynegi mewn unrhyw dermau penodol, dim ond ei deimlo yn y fan a’r lle. Roedd ymhell dros fil o bobl wedi ymgynnull yn y Tramshed i wrando ar wledd o artistiaid yn canu dan y baneri #yesismore a #gellirgwell – gan annog pobl i siarad annibyniaeth Cymru.
A siarad y gwnaethant; yn yr ennyd roedd rhywun yn camu oddi ar stryd i mewn i’r ynys amryliw, anarchaidd, roedd hi’n amhosibl peidio â theimlo’r cyffro, a meddwl am yr hyn a allai fod. A’r hyn oedd fwyaf trawiadol oedd ystod o leisiau, acenion a delweddau; ‘doedd annibyniaeth Gymreig erioed wedi edrych fel hyn o’r blaen.
Mae’n anodd dychmygu noson a allai dynnu ynghyd talentau creadigol Los Blancos, GLC, Boy Azooga, Astroid Boys, Gwenno, Gruff Rhys, Cian Ciaran a ‘Pop Dungeon’ Charlotte Chuch yn ogystal â’r beirdd Patrick Jones, Ali Zay ac Evrah Rose – a’r ffaith bod hynny yn digwydd dros IndyWales yn gyforiog o symbolaeth, yn arbennig oherwydd mai cydweithrediad a chreadigrwydd o’r fath, a chyfuno talentau fel hyn sydd ei angen, os ydym am lywio Cymru i’r cyfeiriad cywir.
Roedd y drafodaeth oedd yn cael ei annog wedi cychwyn cyn y noson ei hun, ac roedd yr teimlad bod rhywbeth ar droed yn amlwg yn y ras am docynnau o flaen llaw. Roedd hyd yn oed son bod mam Charlotte Church yn cael hi’n amhosib cael gafael ar docyn.
Mae angen, wrth gwrs, beidio mynd dros ben llestri ynghylch digwyddiadau’r nos. Wedi’r cyfan, mae’n gwestiwn agored i ba raddau yr oedd pawb yn y gynulleidfa yno i gefnogi’r achos, neu hyd yn oed yn meddwl am annibyniaeth Cymru – a faint fydd wedi gadael gan synied ei bod hi’n amser iddyn nhw ei ystyried yn wirioneddol.
Fodd bynnag, nid oes modd gwadu pa mor bwerus ydyw i weld eiconau fel Charlotte Church yn cymryd safiad, ac annog inni feddwl o ddifri ynghylch pa mor hanfodol yw hi i ni herio’r strwythurau gwleidyddol sy’n ein rhwymo mewn ffyrdd dinistriol eto fyth.
Rhain yw’r bobl sy’n gosod drych ger ein bron ac yn helpu i ddiffinio’r adlewyrchiad a welwn. Ynddyn nhw, rydym yn gweld ein gobeithion a’n breuddwydion ac yn ynddyn nhw mae ein canfyddiad o’n hunain yn cael ei ailgreu’n barhaus.
Gymaint yn fwy pwerus yw eu gweithredoedd nhw, mewn byd lle welwn methdawlyr moesol yn y mwyafrif o’n gwleidyddion, sydd wedi hen anghofio sut i chwarae’r rôl honno mewn unrhyw ffordd; rydym yn gweld ffigurau sydd wedi pellhau ohonom, yn cylchdroi yn eu bydoedd bach nhw tu hwnt i realiti ein bywydau o ddydd i ddydd. Ymhellach, gwelwn grwp o bobl nad ydynt bellach yn gallu cynnig atebion inni mewn unrhyw ffyrdd argyhoeddiadol neu bwerus.
A dyna pam – llawn gymaint â newid gwleidyddol – mae angen shifft ddiwylliannol arnom, lle mae’r rheini sydd â’r grym a hyder i ddychmygu realiti gwahanol – ein cantorion, ein beirdd, ein awduron – yn helpu arwain y ffordd.
Neithiwr, yn sefyll mewn perlewyg o flaen ein cerddorion mwyaf blaenllaw, ymhlith criw o bobl na fyswn erioed wedi tybio byddai’n ymgynnull ar gyfer noson fel hon, roedd hi’n anodd peidio â theimlo bod y newid ar y ffordd.