Yfory, bydd Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd yn ystyried cais i ddymchwel y Paddle Steamer, sefydliad hanesyddol yn Butetown, ar gyfer tai cymdeithasol. Mae ymgyrchwyr wedi gwneud cais syml i ymgysylltu â nhw i ddod o hyd i ffordd o gadw lle i’r caffi ar y safle fel rhan o’r datblygiad.
Rydym yn galw ar Arweinydd y Cyngor Huw Thomas i dynnu’r cais o’r agenda nes y mae ymgynghori priodol wedi bod â’r gymuned. Gallwch anfon e-bost ato gan ddefnyddio llythyr drafft yma. Isod mae’r llythyr a anfonwyd gan aelodau’r gymuned at y South Wales Echo.
Annwyl Olygydd
Mae’r Paddle Steamer wedi bod yn sefydliad eiconig yn sgwâr Loudoun ers cenedlaethau. Mae bellach am gael ei ddymchwel, ond mae gan arweinydd y cyngor Huw Thomas y grym i achub y man cyfarfod neilltuol hwn ar gyfer rhai o gymunedau du, hanesyddol Caerdydd.
Rydym yn croesawu cynlluniau ar gyfer tai cyngor ar y safle, mewn cyfnod lle mae cynghorau ledled Cymru wedi methu’n druenus â gartrefu pobl ar restrau aros, sydd yn tyfu’n barhaus. Ond mewn ardal sy’n cael ei hamddifadu’n gyson o’r adnoddau y mae rhannau eraill o’r ddinas yn cymryd yn ganiataol, ni chafwyd unrhyw gydnabyddiaeth o’r hyn y mae’n ei olygu i adeiladu’r unedau yma heb unrhyw le i fusnes fel y Paddle Steamer.
Gyda hanes hir a lliwgar, mae’r Paddle wedi bod yn fan cyfarfod pwysig yn fwyaf diweddar i gymunedau Somali ac Yemeni hirsefydledig Caerdydd. Mae’n gweini bwydydd halal a diwylliannol briodol mewn amgylchedd di-alcohol. Mae arweinwyr cymunedol a chyfreithwyr yn defnyddio’r caffi’n rheolaidd i gwrdd â phreswylwyr bregus i’w cefnogi gyda’u hanghenion cymhleth, o gyngor budd-daliadau’r wladwriaeth i ganllawiau mewnfudo a lloches.
Bydd cai’r caffi hefyd yn lle priodol i bobl ifanc gyfarfod â ffrindiau a chwarae pwl, ac yn anochel yn eu gorfodi i dreulio mwy o amser sbar ar y strydoedd. Heb y caffi, bydd llawer o bobl oedrannus sy’n byw gerllaw yn colli bwyd poeth rheolaidd a’r cyfle i gymdeithasu a chwrdd â phobl eraill. Mae’r caffi hefyd wedi cefnogi cymorth elusennol ac wedi cyflenwi bwyd am ddim yn ystod Ramadan.
Mae trigolion lleol yn gofyn i’r Cyngor ychwanegu lle ar gyfer y caffi at ei gynlluniau ailddatblygu. Cyflwynwyd y cais hwn yn ystod y cyfnod Ymgynghori Cyn Ymgeisio, ond heb unrhyw lwyddiant, ac yn fe’i cefnogwyd gan gannoedd o wrthwynebiadau wedi cwblhau’r cynlluniau. Y cyfan sydd angen i’r Cyngor ei wneud, gan ei fod yn gleient, yw cyfarwyddo’r datblygwr i gynnwys y caffi fel rhan o’r datblygiad – mae’n sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill. Rydym yn cael tai newydd sbon i’r gymuned ac yn cadw’r caffi Paddle Steamer hefyd.
Ar ôl dathlu tynnu cerflun Thomas Picton o Neuadd y Ddinas, a chreu tasglu BAME, a wnaiff y Cyngor gymryd camau go iawn yn awr i gefnogi cymunedau du Caerdydd?
Gall Huw Thomas a’r aelod dros dai, Lynda Thorne, drin pobl â pharch, ymgysylltu â nhw a sicrhau bod y datblygiad yn cael ei addasu i ddiwallu anghenion pawb, neu gallant barhau â’r patrwm hanesyddol o esgeulustod a dihidrwydd gan awdurdodau’r ddinas tuag at gymunedau Butetown.
Eu dewis nhw yw hwn.
Yn gywir
Amanda Khaireh
Abdirahman Adam
Abdihalim Jama
Mahamed Mahamoud
Ahmed Abdi
Alex Wilson
Amber Thomas
Andrea Lockwood
Ashai Hassan
Barrie Phillips
Rebecca Colclough
Brian Camilleri
Daoud Salaman
Zaid Djerdi
Douglas Proctor
Eduardo Estrada
Elbashir Idris
Elias Ahmed
Fatima ingram
Filsan Nur
Gweni Llwyd
Haneefa Hassan
Hassan Yousuf
Halima Yousuf
Mustafa Abdi
Ian Ernest
Ismail Hussain
Jami Abramson
Kadija Hassan
Kay Denyer
Chris Kearns
Steve Khaireh
Mark Stevens
Lala Hassan
Larry Georges
Ambreena Manji
Marwa Yousuf
Mayla Hassan
Dylan Mears
Mohamed Yusef
Moseem Suleman
Musa Hassan
Nadia Nur
Nadifa Mohamed
Naomi Ernest
Neil Evans
Nirushan Sudarsan
Sarah Bowen
Owain Lewis
Owain Elidir
Mair Jones
Rooda Ahmed
Safa Yousuf
Ms. Sara Robinson
Save the Northern Meadows
Sophie D
Sharmarkeh Aman
Mike Webb
Jo Selman
Wasif Raza
Mohamud Yousuf
Yahgub Hassan
Yahye Hassan
Yasmin Begum
Yosuf Yousuf
Zoe Rogers
I support the campaign to save this iconic building it is also vitally important to save a community facility as the area is devoid of facilities for the community and if it’s lost It will have a detrimental effect on the community and in years to come the council will say it was a mistake band in hindsight they wouldn’t have done it.