‘Nid da lle gellir gwell’. Y dywediad yna bydd pob plentyn sydd wedi bod mewn Ysgol Gymraeg yn gyfarwydd ag ef, ac sy’n danfon ias lawr fy nghefn, hyd yn oed yn fy nghanol oed. Wedi ymlafnio i greu rhyw ddarn o waith, byddai’r geiriau yma’n siwr o dynnu’r gwynt o’m hwyliau ac ennyn teimladau o anniddigrwydd tuag at ba bynnag athro oedd wedi methu dathlu’r da, ond yn hytrach am dynnu sylw at y gwendidau.
Yn hynny o beth rwy’n gyndyn i gyfeirio’r un sylw tuag at Plaid Cymru a’u selogion, trannoeth y parti. Maen nhw’n haeddu’r dathliad o ddigwyddiad hanesyddol na fyddai nifer ohonynt, rwy’n amau, wedi breuddwydio y byddai’n cael ei wireddu. Roedd gweld Elfyn Llwyd dagreuol yn crynhoi’r cyfan ar S4C ac yn gweud pob dim ynghylch y llwybr hir, anodd ac yn aml poenus y mae’r pererinion yma wedi eu troedio. Da chi pob un ohonoch.
A llongyfarchiadau arbennig i’r genhedlaeth ddiweddaraf yma sydd wedi gorfod troedio’n llawer bellach na’r arfer yn yr etholaethau gorfawr newydd, ac sydd wedi gorfod wynebu’r gwenwyn fwyaf afiach arlein. Fel un sydd wedi gwneud rhywfaint o ganfasio dwi ddim yn siwr bod gan y person arferol unrhyw amgyffred o ba mor flinedig y mae’r gwaith o gnocio drysau’n gallu bod.
Ac yna, i orfod wynebu hyn tra wedyn dychwelyd i’r erlid a chasineb yn y byd rhithiol, y mae’r ymdrech wir yn arwrol (ni fydd fy merched innau yn mynd yn agos at wleidyddiaeth os yw’n parhau fel y mae). Nid fy enwad i yw’r bobl yma, fel petai, ond ceir yma pobl gwirioneddol neilltuol a dewr, ac rwyf ar ben fy nigon drostyn nhw.
A Oes Chwyldro?
Ond o ystyried yr holl rymoedd dieflig yna sydd ar waith, nid oes chwaith amser i’w golli, oherwydd un frwydr yw hon mewn cyfres o wrthdrawiadau sydd am barhau. Yn wir, yn groes i’r hyn mae ambell i ddoethyn wedi bod yn awgrymu, rydym nawr yn nannedd y chwyldro, sydd wedi bod yn mynd rhagddi ers pleidlais Brexit (ac ethol Trump).
Ond beth am yr interregnum? meddai chi ddisgyblion Gramsci – y cyfnod yna o wacter lle mae’r hen drefn yn dadfeilio a’r drefn newydd yn ceisio sefydlu ei hun – a sydd yn braenaru’r tir ar gyfer y Chwyldro. Wel yr argyfwng a ddechreuodd y cyfnod hwnnw oedd y cwymp ariannol yn 2008, na welodd cwymp yr hen drefn (er ei fod yn ergyd lled-farwol) na chwaith cam blaengar ymlaen, tu hwnt i fudiad penagored Occupy, a oedd, gyda synnwyr trannoeth, yn gam i ‘nunlle braidd.
Ond ers 2016 rydym wedi bod ar faes y gâd go iawn, gyda grymoedd chwyldroadol a rhai adweithiol yn brwydro fyth ers hynny. Wedi blerwch Brexit, dyma’r sefydliad wedyn yn llethu Corbyn, tra yng Nghymru taniodd y mudiad annibyniaeth ac yna ymffrwydro (er peidiwch a diystyrru dylanwad dirgel y sefydliad yn yr achos hwnnw chwaith). Yn y cyfnod mwy diweddar wrth gwrs, y grymoedd adweithiol sydd wedi bod â’r gerdded eto, wrth geisio adfer Prydain imperialaidd eu hagwedd ond crachaidd eu hysbryd.
Dyma ddramateiddio’r sefyllfa’n ormodol meddech chi.
Ond ystyriwch wedyn yr hyn sydd ar ddod mewn cwta tair blynedd. Brwydr nesaf y chwyldro sef yr Etholiad Cyffredinol, ac un lle mae’n bosib bydd y grym adweithiol yna’n sofran dros yr ynys, ac fel mae sawl un wedi nodi, yn fygythiad go iawn i fodolaeth ein Senedd yn ogystal ag un yr Alban. Dyna fydd ergyd farwol, o bosib, i’r grymoedd blaengar, wrth i’r arferiad dangos eu grym.
Ac hyd yn oed os na hoffech chi ddisgrifio hyn oll mewn termau chwyldro, yna mae’n drosiad defnyddiol i ddefnyddio i ddehongli’r hyn sydd ar droed, a deall y math o gamau sydd angen eu hystyried.
Peintio’r Map yn Wyrdd
A dyma ni’n cyrraedd y craidd. Oherwydd ni thal nawr i gymryd camau bychain. Nid nawr yw’r amser i gloffi na chymryd anadl. Nid amser i’r gwangalon mohoni. Oherwydd erbyn 2029 mae’n gofyn bod y map gwleidyddol yn un nad sy’n adlewyrchu Cymru’r Normaniaid a’r rhaniad rhwng y Mers a Pura Walia, ond ei fod yn gyfangwbl gwyrdd, fel yr oedd hi unwaith yn felen, ac unwaith yn goch.

Oherwydd os am wrthsefyll yr adferiad bydd gofyn undod gwleidyddol ac ysbrydol ymhlith canrannau sylweddol o Gymru. A Phlaid Cymru yw’r llestr bellach all gario’r gobaith.
Yn hynny o beth, fel y sylwodd Elfyn Llwyd trwy lygaid llaeth, y mae buddugoliaeth Plaid yn un hynod o fod wedi creu sail ledled Cymru, un y gall arwain at ganlyniad ysgubol o’r fath. Ymhellach, fel y nododd yn graff, ‘mae’n rhaid adeiladu ar hynny, a mynd ati’. Ac nid oes amser i’w golli.
Ac wrth edrych tua 2029, beth sydd gan Blaid i’w ddysgu? Wel, dyma le mae angen elfen o onestrwydd arnynt, a pheidio a thwyllo’u hunain. A mae hynny’n anodd, oherwydd pwy byddai’n gwarafun ennyd o falchder ag ymffrost i griw sydd wedi creu hanes?
Crochenwaith Nant Garw, nid y Ming Vase
Ond, er gymaint y mae yna bobl dda, sydd wedi gwneud pethau da, rhaid cydnabod mai amgylchiadau i raddau helaeth sydd wedi creu’r cyfle i’r Blaid. Dirywiad dramatig Llafur Cymru gyda help llaw farwaidd Starmer yn San Steffan, ac yna ymchwydd mewn grym dinistriol, sydd yn ddigon i hela crid ar niferoedd digonol, fel y byddan nhw’n fodlon pleidleisio i ba bynnag bwer sydd am ei gadw mas o Gymru.
Ac eto fe roedd digon o bobl wedi bodloni gyda ‘chynnig’ Plaid Cymru. Ac mae’n wir i ddweud bod eu cynllun economaidd yn ddogfen o swmp sy’n cynnig atebion gwirioneddol. Ond rhaid inni beidio a dallu’n hunain gyda’r syniad bod pobl rhywsut wedi’u hysbrydoli, mwy nag oeddent ofn.
Yn wir roedd yn berffaith amlwg taw rhyw gyfuniad o waeddu ‘Stopiwch Reform’ a chario’r ming vase chwedl Llafur 2024, gyda mymryn o bolisiau bumper plate megis gofal plant, oedd sail llwyddiant yr ymgyrch. Ac i raddau helaeth iawn, roedd hyn yn llwyddiant.
Ond yn yr adlais o lwyddiant Llafur Starmer y mae’r perygl amlwg, wrth gwrs. Er mai pleidlais oedd honno yn erbyn y Ceidwadwyr ar y cyfan, ac ni addawyd fawr dim, wele yng ngweddillion Llafur Cymru canlyniad y ffaith na wnaethpwyd nemor dim o ran sylwedd na rhethreg gan Llywodraeth Starmer i wella bywyd pob dydd neu hyd yn oed addo gwelliannau i ddod.
Bydd pobl yng Nghymru yn deall i raddau na fydd gan y Blaid yr un gallu i greu newidiadau sylweddol dros nos, ond fyddan nhw ddim am dderbyn stasis barhaol, na chwaith diffyg gweledigaeth o gynnydd er mwyn cynnal ein gobeithion, ac inni weithio tuag ati yn y tymor canol. Rhaid wrth fwy o sylwedd, fwy o ysbrydoliaeth, a mwy o ddychymyg dros y tair blynedd nesaf, oherwydd yr hyn sydd ar ddod yn 2029.
Cymal Nesa’r Chwyldro
Wrth gwrs, gyda’r sustem etholiadol ‘cyntaf i’r felin’ bydd hyn yn caniatau’r un cyfosodiad o obaith yn erbyn rhaniadau a weithiodd cystal i Plaid Cymru tro hwn – ac os rhywbeth bydd y diffyg amwysedd system D’hondt y Senedd yn ei gwneud hi’n gliriach eto i’r pleidleisiwyr Gwyrdd a Llafur yr hyn sydd yn y fantol. Ond bydd hi’n dalcen caled yn erbyn ton torquise, bydd debycach i Tsunami y tro nesa, ac mewn sawl etholaeth na fydd unrhyw gynsail i Blaid Cymru ynddi o ran etholaethau San Steffan.
Ymhellach, erbyn hynny mae’n ddigon posib bydd sawl Cyngor arall dan arweinyddiaeth Plaid Cymru wedi etholiadau lleol 2027, ac felly peryg bydd Plaid yn dioddef hefyd o fod y Blaid ‘mewn grym’. Ymysg eu tactegau bydd yr angen i osod to o gynghorwyr gweithgar yn eu lle, bydd yn meithrin ymgeiswyr o sylwedd a chyfarwydd ar gyfer 2029. Ond bydd hefyd gofyn i’r ymgyrch honno digwydd mewn hinsawdd lle bydd y freuddwyd ynghyn, a rhywfaint o’r egni a welwyd ar risiau’r Senedd ddoe yn parhau.
Oherwydd os bydd map etholiadol Cymru yn hanner las bydd y genedl, heb sôn am y Senedd, mewn peryg. Mae’n wir i ddweud bod Farage wedi awgrymu y byddai croeso i’r Albanwyr cynnal refferendwm arall pe bai’n berthnasol, ac un ffordd teg o ddehongli hyn yw bod yntau, fel cenedlaetholwr Saesneg, ddim wir a gymaint o ots pe bai’r Albanwyr am fynd ffordd ei hun. Byddan nhw’n fwy o drafferth na’u gwerth.
Ond tebyg na fydd yr un agwedd yn ymestyn i’r ‘arall mewnol’ y Cymry os bydd nifer o’n hetholaethau yn dangos awydd i glosio at Reform a San Steffan. Mae goruchafiaeth dros y Cymry yn agwedd rhy hanfodol o seicoleg y Sais i adael iddi fynd heb frwydr.
Yr Ysbrydol a’r Ymarferol
Mae dyfodol Cymru yn y fantol, heb os. Y newyddion da wrth gwrs yw’r momentwm sydd yn barod cynyddu tu ôl i gydweithio a chytgord y Cyrion Celtaidd a’r synau sy’n ein cyrraedd yn enwedig o’r Ynys Werdd. Maen nhw yn barod wedi synhwyro’r hyn sydd ar droed ochr draw môr Iwerddon, a nad oes amser i’w golli wrth i’r chwyldro mynd rhagddi. Ond y peryg i Gymru, heb inni daenu map etholiadol 2029 yn wyrdd, yw y byddwn yn cael ein hamsugno nid i chwyldro Celtaidd ond i adferiad Seisnig.
Felly y mae angen i’r beirdd canu, ac yn wir mae angen i’r cyfan o gymdeithas sifig Cymru a’u cymuned creadigol i ymuno gyda’r chwyldro a chario breuddwydion a dyheadau cenedl dros y cyfnod nesaf – yn enwedig yn absenoldeb y gallu i greu gwir newid o sylwedd i fywydau pobl mewn amser prin. Mae angen i’r Blaid bod yn eofn, yn feiddgar, ac yn gyfrwys, gan atgyfnerthu eu henillion ac ymestyn allan i’r gefnogaeth newydd a thu hwnt. Codi cenedl mewn gair, a’n digolledu am flynyddoedd coll datganoli.

Ar yr un pryd Cymru mae gofyn dangos bod gwelliannau ar ddod ac yn digwydd fesul tipyn, ac hyd yn oed er mwyn sicrhau buddugoliaethau bach o’r fath bydd gofyn ymdrech radical.
I’r perwyl yna, byddai myfyrio ar rhybuddion a myfyrdodau Lee Waters yn gall o safbwynt deall sut y mae delio gyda heriau llywodraethu, gan gynnwys gwasanaeth sifil bydd o’i natur yn wrthwynebus i newid. Bydd angen iddynt herio a mynnu gonestrwydd o’i gilydd, gan beidio credu rhethreg nhw eu hunain yn y modd yr oedd eu rhagflaenyddion.
A bydd gofyn bod yn ddewr – ac mae hynny’n cychwyn gyda Rhun (a rhaid wrth ddefnyddio ei enw cyntaf yn unig, megis Rhodri a Carwyn), a’i benderfyniadau ar gyfer ei gabinet, a’r bobl eraill caiff gwahoddiad i’r cylch mewnol, megis y SpAds bondigrybwyll a chynghorwyr arbenigol.
Yn ysbryd chwyldro, tra’n cydnabod yr angen am ambell i hen law, bydd rhaid osgoi’r temtasiwn i wobrwyo gwasanaeth ac ymgrymu i hierarchaethau, ac yn hytrach cynnwys y sawl sydd â’r crebwyll, y talent a’r profiad ‘byd go iawn’ er mwyn eu gyrru ymlaen. A chyda niferoedd a chapasiti craffu newydd y Senedd, beth am greu cabinet mwy gyda briffiau mwy arbenigol, gyda chyfleoedd ar gyfer wynebau newydd? Mae fy sector fy hun, Addysg Uwch – mewn argyfwng fel cynifer o rai eraill – yn crefu am ei Weinidog ei hun yn y cabinet, nid rhyw rôl is, ceiniog a dime, heb le wrth y bwrdd. Lleisiau angerddol a radical sydd angen, a gorau oll os bydd y criw mwyaf gweledol yma’n cynrychioli Cymru drwyddi draw o ran rhanbarthau – yn enwedig y rhai sydd ar y cyffindir etholiadol.
Rhaid dangos i’r sawl nad sydd wedi pleidleisio iddynt y tro hwn, beth gall Plaid gwneud drostyn nhw.
Ymlaen felly.
Ymlaen â’r chwyldro.
