Doedd dim coup d’etat. Doedd dim torcyfraith. Mae’r wladwriaeth Brydeinig yn gwneud yr union peth cafodd ei gynllunio i wneud.

Yng nghyfansoddiad anysgrifenedig Prydain, does dim rheolau, dim ond arferion. Mae beth wnaeth Boris Johnson yn sicr yn teimlo’n ddrwg. Dyma Prif Weinidog o blaid sydd heb ennill etholiad yng Nghymru ers 1885, enillydd etholiad mewnol ei blaid yn unig, yn cael caniatâd gan y Frenhines i ohirio senedd San Steffan am fis neu mwy. A hyn i gyd er mwyn gorfodi Brexit heb gytundeb ar Hydref 31ain. Pleidleisiodd Cymru i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond pleidleision neb am hyn.

Ac eto, mae pob un o weithredoedd Johnson yn gyfansoddiadol ac yn gyfreithlon. Y Goron yn y Senedd ydy’r awdurdod sofran, y Frenhines sy’n caniatáu arweinwyr pleidiau buddugoliaethus i ffurfio llywodraeth, ac mae angen cydsyniad brenhinol i basio deddfau. Fel arfer dydy Prif Weinidogion ddim yn ymddwyn fel wnaeth Johnson. Ond beth yw grym arfer os ydy neb yn ei barchu bellach? Ym Mhrydain, mae oligarchiaeth hirsefydlog yn dewis ymddwyn mewn modd lled-ddemocrataidd. Rhan fwyaf o’r amser. Pan mae’n nhw’n newid eu meddyliau, does dim deddf, dim rheol, dim byd cadarn i’w rhwystro.

Yn 1972, fe wnaeth Awstralia ethol llywodraeth Llafur am y tro cyntaf mewn 23 mlynedd. Daeth llywodraeth Gough Whitlam â gorfodaeth milwrol i ben, a pasio deddfau i sefydlu gofal iechyd cyffredinol ac i darparu addysg uwch am ddim. Ond heb mwyafrif yn y siambr uwch, ac yn wyneb gwrthwynebiad parhaus yr wrthbleidiau, datblygodd argyfwng gwleidyddol. Trodd Whitlam at cynrychiolydd y Frenhines, y Llywodraethwr Cyffredinol Syr John Kerr, am ganiatâd i alw etholiad newydd. Yn hytrach na hyn, fe wnaeth Kerr ddiswyddo Whitlam a gwahodd arweinydd yr wrthblaid, Malcolm Fraser, i ffurfio llywodraeth yn ei le. Doedd dim byd anghyfreithlon nag anghyfansoddiadol am hyn i gyd, o fewn trefn seneddol ar y ffurf Prydeinig. Gallai’r un peth ddigwydd i unrhyw llywodraeth annerbyniol o asgell chwith yn y dyfodol. A petai’r llywodraeth yn Llundain yn penderfynu diddymu seneddau Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon – beth felly?

Fe ddylen ni wrthwynebu beth wnaeth Boris Johnson – nid er mwyn amddiffyn democratiaeth yn San Steffan, ond wrth gydnabod bod yna ddim democratiaeth go iawn yn San Steffan. Os oes angen democratiaeth go iawn arno ni, rhaid i ni ei greu, yma yng Nghymru ac ym mhobman arall.

Wrth sôn am “ddemocratiaeth go iawn,” rwyf yn sôn am ddemocratiaeth dwfn, cyfranogol, trafodol, democratiaeth sydd yn rhan o wead cymdeithas, yn hytrach na perfformiad sydd yn cael ei lwyfannu pob pedair neu pum mlynedd. Mae refferenda effeithlon Iwerddon a’r Swistir, a cyllidebu cyfranogol yn Mrasil, yn cynnig enghreifftiau gallen ni efelychu a datblygu ymhellach yng Nghymru. Dylai diwylliant ddemocrataidd gynnwys “mwy na bwrw pleidlais,” yng ngeiriau J. R. Jones. Ond o fewn y drefn Brydeinig, ein unig cyfraniad ni fel deilliaid (nid dinasyddion!) yw i fwrw pleidlais pob hyn a hyn, er mwyn anfon cynrychiolwyr i San Steffan neu Bae Caerdydd i ymresymu a penderfynu drosom. Does gennym braidd ddim cyfle i ymresymu a penderfynu dros ein hunain, a pan gawn ni refferendwm, mae’n ddryslyd ac yn aneffeithiol. Y senedd ydy canolbwynt popeth. Ar ei orau, mae democratiaeth cynrychiolaidd ar y ffurf Prydeinig yn mygu democratiaeth dwfn, democratiaeth cyfranogol a llewyrchus.

Wrth gwrs, roedd yna trobwyntiau posib, cyfleoedd coll i newid. Diddymu, yn hytrach na “diwygio,” Tŷ’r Arglwyddi. Sefydlu trefn ffederal gyda senedd i Loegr, yn hytrach na datganoli llugoer i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Cael gwared o’r sustem bleidleisio “cyntaf i’r felin.” 1997, 1999, 2011, 2014. Mae’n bosib breuddwydio am Brydain gyda democratiaeth rywfaint llai arwynebol, os hoffech chi freuddwydio am rhywbeth mor ddi-nod.

Ni ddaeth y Prydain yna, ac ni ddaw’r Prydain yna erioed. Mae gweithred penboeth Boris Johnson wedi datguddio gwir natur democratiaeth San Steffan – arfer ydyw, perfformiad sy’n cael ei atal os ydyw’n wir ymyrryd â dibenion ein llywodraethwyr go iawn.

Does dim trwsio Prydain. Ond fedrwn adeiladu rhywbeth gwell yng Nghymru.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.