Trothwyol

1, yn ymwneud â chamau trawsnewidiol neu gychwynnol proses

2, mewn safle ar ffin neu drothwy, neu ar y ddwy ochr iddo

***

Merthyr Tudfil; pair y dychymyg Cymreig le ffrwydrodd y Gymru ddiwydiannol i fodolaeth. Merthyr; y dref chwedlonol hwnnw lle ymfyddinodd wrthdystiad yng Nghymru yn gyntaf; Merthyr; yr enw wedi’i serio ar feddwl pob un plentyn ysgol (yn y Gymru annibynnol, o leiaf), fel y lle y cyhuddwyd ar gam y merthyr arall – y mwyaf ohonynt i gyd o’r dosbarth gweithiol – Dic Penderyn.

 

Merthyr Tudfil, y man hwnnw lle yn yr un terfysg llifwyd y faner yn goch gan waed y llo, i’w godi am y tro cyntaf yn symbol o sosialaeth fyd-eang — a lle na all sgleinio’r adeiladau newydd na swrrealaeth y ffug-gaer wedi’i godi’n deml i gyfalafiaeth hwyr pylu’r atgofion radical o’r dref sydd wedi’i naddu o’r dyffryn dwfn a’r bryniau sy’n bustachu dringo. Yn foth olwyn i dwf a yrrwyd gan fwyn, ymgasglodd ein hynafion – nifer ohonynt wedi lluchio o ddyfnderoedd cefn gwlad Cymru wrth i’n pobl a’u tiroedd dioddef pyliau’r oes. Y lle hwnnw lle na allai’r system gyfalafol – a saerniwyd ar gefn y trymaf o ddiwydiannau – gynnal ei gafael haearnaidd mwyach ar ei gweithwyr, a lle gorymdeithiodd 7000 a mwy, nid yn unig er mwyn brwydro yn erbyn eu ffawd, ond er mwyn newid y byd.

 

O’r de, mae’n borth i’r Gymru wledig, wrth i’r Bannau belydru yn yr haul, neu ymrithio’n sydyn o’ch blaen ar eich taith llaith y tu hwnt i Nant Ddu. O’r Gogledd, dyma geg crwth y de diwydiannol lle mae’r caeau, bryniau a’r mynyddoedd o wyrdd yn diflannu’n raddol rhwng y trefi a phentrefi. Ac i’r rhai ohonom nad ydym erioed wedi bod yn ddigon ffodus i’w hadnabod, dyma ddechrau’r chwedl sy’n fyw o hyd, a adwaenir gan yr ymadrodd cwmpasog hwnnw, ‘y cymoedd’.

 

Ond mae safle trothwyol Merthyr yn ymwneud â mwy na’i ddaearyddiaeth. Mae wedi torri’n ddwfn i’w wleidyddiaeth. Yn yr un modd ag y gallai rhywun dybio’n ddifeddwl bod Merthyr wedi ei leoli’n gadarn yn y De, gan anghofio’r vistas i’r gogledd, gallai rhywun hefyd gymryd yn ganiataol ei fod bob amser wedi bod yn gadarnle lafur draddodiadol Prydeinig, unoliaethol. Ond dyma faglu i’r pechod tragwyddol hwnnw o ddehongliad arwynebol o gymunedau Cymru, heb adrodd dim ond rhan o’u stori.

 

Ceir wrth gipolwg sydyn o’r 20fed ganrif ym Merthyr man cychwyn difyr, sef ffigwr tadol y Blaid Lafur, yr Albanwr Keir Hardie, a oedd yn ogystal â bod yn sosialydd defosiynol, hefyd yn gredinwr o safbwynt ymreolaeth i wledydd Ynysoedd Prydain. Roedd ‘Datganiad Dowlais’ yn adlewyrchu meddylfryd Llafurwyr Cymraeg allweddol y cyfnod, megis David Thomas a Niclas y Glais, a oedd yn gweithredu yn y gobaith o greu Plaid Lafur Genedlaethol Cymreig, er mwyn gyrru Cymru ymlaen at annibyniaeth ystyrlon.

 

‘… Dosbarth gweithiol Cymru yn dod i feiddiannu y mwynfeydd a’r ffwrneisi… er lles pob dyn, a dynes a phlentyn o fewn eich ffiniau. Dyna’r math o genedlaetholdeb y mae arnaf fi eisiau ei gael; a phan ddaw hyny fe gawn weld y Ddraig Goch yn addurno ar Baner Goch sosialaeth, arwydd rhyngwladol y mudiad Llafur drwy’r holl fyd. ’

 

Ymgnawdoliad o’r amalgam hwn o genedlaetholdeb Cymreig a sosialaeth ryngwladol oedd y dihafal SO Davies, Aelod Seneddol Llafur dros Merthyr a oedd yn aml yn sicrhau 75% a mwy o’r bleidlais o 1934 ymlaen. Crisialwyd ei wleidyddiaeth yn yr enwog ddyfyniad:

 

‘Rwy’n sosialydd digyfaddawd. Ond ni all sosialaeth fyth ddigwydd yng Nghymru oni bai y byddwn yn rhydd i gymhwyso ein hegwyddorion i’n ffordd o fyw unigryw.’

 

Nid oedd ei greodau adain chwith, ei gefnogaeth i’r Undeb Sofietaidd, a’i gefnogaeth o Gymru annibynnol (gydag ymreolaeth economaidd yn flaenoriaeth bennaf) yn mennu dim ar ei boblogrwydd ym Merthyr. Yn wir, ar ôl iddo gael ei esgymuno gan y Blaid Lafur ym 1970, aeth ymlaen i ennill yr etholiad fel Sosialydd Annibynnol. Nid syndod efallai, o ystyried cynsail ei wleidyddiaeth ef, bod ymgeisydd Plaid Cymru – yr anorchfygol Emrys Roberts – wedi ennill 37% o’r bleidlais wrth ddod yn ail yn yr isetholiad a ddilynodd farwolaeth SO yn 1972. Yn 1976 byddai’n cymryd yr awenau fel arweinydd y cyngor – yr awdurdod cyntaf i gael ei reoli gan Blaid Cymru.

 

Dim ond marwydos gwasgaredig sosialaeth Gymreig sydd wedi bod yn mudlosgi yno ers hynny, ac mae natur drothwyol y dref wedi bod o fath gwahanol, ond yr un yn ei hanfod â holl faes glo de Cymru – sef cymunedau ar y dibyn, lle mae’r hiwmor, y cariad a’r undod a adeiladwyd ar sgaffald diwylliant ffyniannus, egalitaraidd, wedi bod dan warchae gan dlodi, a gogwyddion y byd y tu hwnt. Yn yr un modd â chymaint o drefi a phentrefi ledled Cymru, nid oes modd cerdded y strydoedd heb i’r dicter llosgi, wrth dystio i’r anghyfiawnder y mae bobl sy’n haeddu cymaint gwell yn ei wynebu – yn ddioddefwyr cytundeb cymdeithasol nychlyd y DU elitaidd.

 

Ond rydyn ni hefyd yn byw mewn cyfnod o obaith, ar drothwy newid llwybr yn llif yr amseroedd, a fydd yn gweld ton wleidyddol anferthol i foddi hyd yn oed arwyddocâd y Blaid Lafur Brydeinig yn hanes y cymunedau hyn.

 

Gall gorymdaith dydd Sadwrn dros annibyniaeth ym Merthyr fod yn achlysur sy’n gweld gwegian bwtresi’r Undeb Ymerodraethol yng Nghymru, dan bwysau llanw sy’n brysur codi.

 

Ac onid oes angen y newid yma arnom? Dywedodd mab Dowlais, ein hanesydd mwyaf Gwyn Alf Williams, ym 1984 am ei bobl – ‘no mean people’ – nad oedden nhw bellach ond ‘yn bobl noeth, o dan law asid’. A beth yr ydym yn awr, ond wedi ein digroeni a’n dadwreiddio, yn wynebu’n fythol mwy o dlodi, dadrithiad ac argyfwng amgylcheddol byd-eang a fydd yn ein llosgi’n lludw.

 

Yn hanesydd Marcsaidd ac yn groniclwr adeiladu’r Ymerodraeth Brydeinig (a rôl arweiniol y Cymry ynddo), mae’n sicr y byddai Gwyn Alf yn dweud wrthym mai dyma yw gwrthddywediadau cyfalafiaeth yn hebrwng gwladwriaeth imperialaidd i’w gwewyr olaf. Mae’r cenedl-gwladwriaethau “mawr” y gorllewinol yr oes ymerodrol yn ymffrwydro o’n cwmpas, ac mae’n rhaid i ni – a phobloedd ledled y byd – fod yn barod i ddechrau o’r newydd gyda gwerthoedd o’r newydd, rhai all gynnal bywydau gwirioneddol ddynol i ni i gyd, yn ogystal a’r amgylchedd naturiol sy’n gynefin inni.

 

Felly dewch â ni i Ferthyr, ar y cam nesaf trwy’r trothwy – lle all Cymru unwaith eto arwain y frwydr dros fyd gwell.

 

Daw dydd y bydd mawr y rhai bychain.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.