Hydref 21ain, 1966
Eisteddwn mewn ystafell ysgol; ar drothwy gwyliau hanner tymor. O fewn eiliadau bydd y domen enfawr o faw a gwastraff glo ar ochr y bryn uwch ein pennau yn dechrau llithro. Bydd y mwyafrif ohonom yn marw, a bydd y rhai fydd yn byw yn byw am byth gydag euogrwydd dychrynllyd.
Ni fydd unrhyw gosb i’r rhai gaiff eu talu’n hael i’n ddiogelu.
Bydd cadeirydd y Bwrdd Glo Cenedlaethol, a oedd unwaith yn ddyn dosbarth gweithiol fel ein tadau, yn cadw ei swydd – a’i swydd arall ar fwrdd Banc Lloegr – ar waetha’r ffaith y bydd yr ymchwiliad swyddogol yn dangos iddo ddweud celwydd am y peryglon oedd yn hysbys iddo. Yn ddiweddarach heddiw caiff wybod am drychineb mewn pentref mwyngloddio ond bydd yn ei anwybyddu i fynd i seremoni mewn prifysgol yn Lloegr.
Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn arwain ymweliad brenhinol ac yn syfrdanu ein rhieni galarus drwy ddweud pa mor freintiedig ydynt i yfed te mewn cwmni o’r fath. Yna bydd yn dwyn arian a roddwyd er cof amdanom ar gyfer dyfodol ein cyd-ddisgyblion, a’i roi i’r bwrdd glo. Bydd yn mynd ymlaen i gam-drin plant eraill a chaiff elusen plant ei henwi ar ei ôl. Daw yn Arglwydd gan ddwyn enw tref lofaol ar gyfer ei deitl.
Ni fydd chaiff neb ei gosbi. Bydd y blaid wleidyddol a grewyd gan ein rhieni a’n neiniau a’n teidiau i’n cynrychioli, yn penodi cadeirydd y Bwrdd Glo i lunio’r rownd nesaf o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Bydd yn sicrhau ei bod bron yn amhosibl i erlyn y rheini ymhlith asiantau pwerus y wladwriaeth sy’n lladd trwy arfau banal ‘busnes fel arfer’. A bydd plaid y perchnogion glo a laddodd gyda’r un arfau hynny yn cynnig eu sel bendith i droi ei gynigion yn gyfraith.
Bydd y pyllau glo oedd gan ein rhieni a’n cymunedau gymaint o ofn eu colli oherwydd atgofion y 1930au newynog, yn cau beth bynnag. A bydd y cymunedau a adeiladwyd o amgylch y pyllau glo hynny yn cael eu galw “y gelyn oddi mewn” pan fyddan nhw’n meiddio gwrthsefyll.
Gwrandewch. Mae’r domen yn dechrau llithro.
Am genhedlaeth, ac am byth, ni fydd dial am ein trasiedi. Yng nghanol arswyd eu hawr o anobaith nid yw pobl dda yn ymgyrraedd at gasineb, ond yn achub beth bynnag a phwy bynnag a allant, gyda’r holl gariad sydd ganddynt yn weddill. Nid ydynt yn chwarae gwleidyddiaeth yng ngwres y foment, ond yn gobeithio mai’r da fydd yn trechu. Erbyn inni sylweddoli mai dim ond da byw i’r lladd-dai a fuom, bydd y llofruddion yng nghoridorau grym yn eistedd yn ddiogel y tu ôl i’r waliau sy’n ein parlysu yn ein tristwch a’n dryswch. Bydd y ffeithiau eglur yn dod i’r amlwg rhy hwyr yn y dydd, fel y gall haneswyr ddweud “edrychwch, roedd anghyfiawnder yma”.
Gwrandewch. Mae’r domen yn llithro.
Bydd trasiedïau eraill fel ein un ni. Bydd yna gymdeithasegwyr a haneswyr sydd yn gwybod, ac yn dangos nad yw troseddau’r pwerus yn cael eu cosbi fel rhan o’r drefn, ac sy’n cynnal dicter arwrol yn wyneb yr anghyfiawnder hwnnw, drwy yr oesoedd ac ar draws y byd.
Ychydig fydd yn eu darllen. Bydd llai yn cymryd sylw.
Waeth beth yw maint y drasiedi, neu faint y troseddau a gyflawnir yn enw ‘pwyll piau hi’ a ‘busnes yn ôl yr arfer’ ac ymddiried yn y sawl sy’n fwy cyfoethog, yn well, neu’n uwchraddol, greddf gyntaf pobl dda fydd achub bywydau nawr – a gadael dydd barn tan yn ddiweddarach. Byddant yn cyfogi wrth dystio i salwch seicig y rhai sydd yn dwyn enw “Aberfan” i sgorio pwyntiau yn unig.
Gwrandewch. Mae rhuo’r llithr wedi tawelu.
Mae cynnwrf yr achub drosodd. Mae’r ymchwiliad swyddogol ar ben. Pasiodd y degawdau. Ni newidiodd unrhyw beth.
Rhagfyr 31ain, 2019
Ysgol yw’r byd; ar drothwy’r Flwyddyn Newydd.
Mae nant yn rhedeg trwy’r domen ar ochr y bryn uwch ei phen.
Mae’r awdurdodau wedi cael eu rhybuddio, dro ar ôl tro, ond maent wedi dewis anwybyddu’r rhybudd. Nid oes unrhyw elw i’w ennill o gynllunio ar gyfer trychinebau.
Mae strategaeth bandemig naw mlwydd oed llywodraeth y DU yn druenus ac wedi’i chynllunio’n berffaith i ymledu afiechyd yn gynt. Mae’r llinellau yma’n nodweddiadol:
Mae cynulliadau cyhoeddus mawr neu ddigwyddiadau gorlawn lle gall pobl fod yn agos at ei gilydd yn ddangosyddion pwysig o ‘normalrwydd’ – a gallant helpu i gynnal morâl y cyhoedd yn ystod pandemig. Mae canlyniadau cymdeithasol ac economaidd argymell canslo neu ohirio cynulliadau mawr yn debygol o fod yn sylweddol…
A bydd y canllaw hwn yn profi’n angeuol:
Nid yw Llywodraeth y DU yn bwriadu cau ffiniau, atal cynulliadau torfol na gosod rheolau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ystod unrhyw bandemig.
Mae offer amddiffyn personol ar gyfer staff meddygol yn derbyn feto fel rhan o’r drefn gan GIG Lloegr. Mae uwch swyddogion a gweinidogion wedi bod yn brwydro gyda’r undebau Meddygon a Nyrsys ers blynyddoedd. Mae staff meddygol wedi rhybuddio am forâl isel yn gyson, ac yn ddiweddar maent wedi mynd ar streic i’w brofi.
Mae eisoes yn arferol i leisiau cyfryngau’r chwith rybuddio am annigonolrwydd cyllid y GIG, er eu bod yn cael eu boddi gan biliwnyddion a’u newyddiadurwyr taeog, dylanwadwyr cyfryngau, newyddiadurwyr cyfryngau’r wladwriaeth, a hysbysebu llechwraidd ar y rhwydweithiau cymdeithasol. Mae meddylfryd ôl-fodern yn dal i ddominyddu’r dosbarthiadau cyfryngol, gwleidyddol a rheolaethol gan olygu bod ffeithiau anghyfforddus yn eilaidd i’w delwedd. Ac eithrio’r ffaith o bwy sy’n talu eu cyflogau – a’r bwlch dychrynllyd rhyngddynt a’r rhai nad ydynt eto wedi dysgu dweud celwydd am eu ceiniogau.
“Nid oes nant yn rhedeg trwy’r domen” medden nhw. Os ydyn nhw’n colli cwsg dros y celwydd, maen nhw’n gwneud mewn gwelyau cyfforddus.
Yna mae llywodraeth Tsieina yn rhybuddio Sefydliad Iechyd y Byd am fath newydd o afiechyd, gyda 44 o achosion hyd yn hyn.
Gwrandewch. Ai dyna swn y domen yn symud uwch ein pennau?
Ionawr 31ain, 2020
Cadarnheir achosion cyntaf Prydain. Mae Ysgrifennydd Iechyd y Torïaid, Matt Hancock, yn llawn hyder serch hynny.
“Mae ein GIG o’r radd flaenaf wedi’i baratoi’n dda ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn y cyhoedd.”
Tridiau yn ddiweddarach, rhoddodd cenhedloedd y “Deyrnas Unedig” gyfarwyddiadau i olchi ein dwylo, ac i aros gartref os ydym wedi bod yn nhalaith Wuhan yn ddiweddar. Nid oes gorfodaeth. Nid oes unrhyw wirio mewn meysydd awyr. Mae’r llywodraeth mor wrthwynebus i lywodraethu mai ymgyrch hysbysebu golchi-a-chredu yw ei ymateb pandemig, yn ei gyfanrwydd.
Newydd ddatgan bod Argyfwng Iechyd Cyhoeddus rhyngwladol y mae’r WHO. Ond yn yr un cyfarfod, er gwaethaf cymhlethdodau arteithiol cydweithredu meddygol a diplomyddol rhyngwladol, maent yn llwyddo i gytuno ar hyn:
Cydnabu’r Pwyllgor hefyd fod yna lawer o bethau anhysbys o hyd, mae achosion bellach wedi’u hadrodd mewn pum rhanbarth WHO mewn un mis, ac mae trosglwyddiad person-i-berson wedi digwydd y tu allan i Wuhan a thu allan i Tsieina.
Mae’r Pwyllgor yn credu ei bod yn dal yn bosibl torri ar draws lledaeniad firws, ar yr amod bod gwledydd yn rhoi mesurau cryf ar waith i ganfod yr afiechyd yn gynnar, ynysu a thrin achosion, olrhain cysylltiadau, a hyrwyddo mesurau pellhau cymdeithasol sy’n gymesur â’r risg.
Nid yw’r tirlithriad yn dod eto. Efallai ein bod ni’n ddiogel. Efallai bod amser.
Nawr, a’r chwe wythnos nesaf, yw’r amser pan all y pwerus, os ydyn nhw’n malio ac os oes ganddyn nhw’r asgwrn cefn sy’n cyfiawnhau eu cyflogau enfawr, gymryd camau pendant. Gallant sefyll a dweud mai dyma’r argyfwng a fydd yn diffinio ein bywydau. Gallant weiddi bod angen i bawb dynnu at ei gilydd. Gallant ddweud wrthym nad yw’r stociau o offer amddiffynnol a awyryddion sydd eu hangen arnom yn barod, a bod yn rhaid inni eu paratoi nawr. Gallant ymddangos ar ein sgriniau teledu gyda wynebau difrfiol gan adrodd geiriau tawel am sut mae angen i ni wirio ac olrhain cysylltiadau pawb sydd wedi bod ar wyliau neu ymweld ag unrhyw le y mae Covid-19 yn bresennol.
Gallant edrych i fyw ein llygaid, a dweud wrthym fod angen i ni gau’r ysgolion a’r prifysgolion o fewn dyddiau, fel y bydd yn ddiogel eu hailagor eto o fewn misoedd. Gallant ddangos lluniau ffansi inni o ystafell friffio COBRA, a’n cyflwyno i’r arbenigwyr meddygol y maent yn mynd i ddibynnu arnynt.
Gallant ddweud wrth y BBC am dorri ar draws ei rowndiau dibendraw o sioeau “sut i wneud eich tŷ yn fwy diflas” a chyfweld â meddygon a gweithwyr gofal a pharafeddygon am union fanylion y cit amddiffynnol y mae angen eu gwneud, dangos cemegwyr a biolegwyr yn cynnal dosbarthiadau teledu ynghylch sut yn union mae’r firws yn ymosod ar y corff a beth y gellir ei wneud i’w atal.
Gallant wneud hyn i gyd, mewn amrantiad, heb ddeddfwriaeth newydd. Gallant alw’r biliwnyddion i mewn a dweud wrthynt, nes eu bod wedi curo Coronavirus, rhaid iddynt helpu’r wlad, yn hytrach na dim ond helpu eu hunain.
Gallant actio eu ffantasïau o fod yn gymeriadau hanesyddol a oedd yn bwysig, a wnaeth rywbeth yn iawn ar y pryd. Gall Boris Johnson hyd yn oed gael ei foment Churchill, yn lle bod yn Chamberlain.
Yn y Senedd, gall Vaughan Gething ddweud wrthym yn ddifrifol fod ein GIG gwerthfawr mewn perygl o gael eu llethu os na weithredwn yn awr fel cenedl. Gall Mark Drakeford fod y Prif Weinidog a achubodd fywydau eich rhieni oedrannus a’ch neiniau a’ch teidiau. Gall Kirsty Williams fod y Democrat Rhyddfrydol defnyddiol cyntaf erioed a sefydlu cynllun cydlynol a gwych i gyflymu dysgu ar-lein a chydweithrediad labordai ar draws addysg Cymru. Gall y Senedd ddweud wrth y twristiaid am aros adref; a bydd y Cymry yn sicrhau eu bod yn gwneud hynny.
Yn niffyg hynny, gall ein swyddogion meddygol cenedlaethol fynd ar eu liwt eu hunain. Gallant dynnu sylw at rybuddion cynyddol Sefydliad Iechyd y Byd. Gall y gwyddonwyr ymddygiadol gwympo ar eu bai a datgan bod y lledaeniad yn rhy gyflym, nid yw’r ‘hergwd’ yn gweithio. Gall y cynghorwyr gwyddonol dorri rhengoedd a chyfaddef bod rhywbeth i’w ofni. Dim ond un ffigwr mewn awdurdod sy’n gorfod gweithredu a gellir lleihau’r arswyd.
Gall unrhyw un ohonynt ddweud wrthym fod busnes fel yr arfer wedi dod i ben; a chaiff y swyn ei dorri.
Ond does ‘na’r un yn gwneud.
Trwy dair wythnos o Fawrth 2020 mae gofyn inni dderbyn “yr ergyd heb gwyno” ac “imiwnedd yr haid”. Mae Gething a Drakeford yn gwrthod atal gêm rygbi, a phobl Cymru (y lleiaf tebygol o wneud o holl genhedloedd y byd) yn gorfodi tro-pedal ar Undeb Rygbi Cymru – dim ond unwaith y bydd arian y tocynnau wedi’i gymryd. Rydym yn gweld safleoedd carafanau ar agor, tra bod arweinwyr y Senedd yn wilibowan ynghylch pa bwerau sydd ganddyn nhw i’w cau. Gwelwn filiwnyddion yn rhedeg i’w hynysoedd preifat ac yn cardota am help llaw am eu cwmnïau hedfan hoff. Rydym yn cynnal y Cwpan Aur Cheltenham. Mae’r Stereophonics yn chwarae’r gigs – fydd yn eu dinistrio. Mae cadwyni o dafarndai yn gwrthod cau oherwydd, wedi’r cyfan, nhw sy’n berchen arnom ni. Clywn Lee Waters yn dweud wrthym am roi’r gorau i sgorio pwyntiau. Cawn filiwn o bobl yn byw ar fin y gyllell. Rydym yn gweld ein cytundeb profion yn cael y caibosh gan San Steffan fel pe na bai ein meirw o bwys. Derbyniwn wyddoniaeth ymddygiadol ffuantus sy’n cael ei bwmpio allan gan lwfrgwn – sy’n cael eu hailddiffinio fel “gwyddoniaeth” oherwydd ei bod yn Brydeinig, a phobl yng Nghymru yn marw o’n hufudd-dod slafaidd wrth i hyd yn oed Donald Trump wawdio hurtrwydd ein llywodraethwyr.
Ffyliaid Ebrill 2020
Gwrandewch. Mae’r llithriad wedi cychwyn.
Yn ystod y tridiau nesaf bydd niferoedd bras y meirwon yng Nghymru yn fwy na’r cyfanswm a fu farw yn Ysgol Pantglas, a’r rhai na chafodd erioed gyfiawnder.
Bydd y byd yn newid yn llwyr, hyd yn oed i’r rhai ohonom sy’n goroesi. Hyd yn oed i’r rhai sy’n dal gafael ar eu cariadon, rhieni, chwiorydd, brodyr, ffrindiau a chydweithwyr. Ond mae’r bobl a’n harweiniodd i’r drychineb yn dal i fod yno. Ac mae’r tlotaf a’r mwyaf bregus yn cael eu carcharu dan do, ar drugaredd gofynion rhent a chymhellion ac arbedion bychan. Dim ond ein dicter a’n gwyliadwriaeth fydd yn gallu chwalu oes o “fusnes fel yr arfer”.
Nid nawr yw’r amser i “gefnogi” yr arweinwyr annwyl. Dyma’r amser i’w bychanu ac aflonyddu ar y rhai na chyflawnodd eu swyddi: mas o fywyd cyhoeddus; eu hesgymuno o’n hanes.
Ted Jackson, Ebrill 4ydd, 2020
Cyfieithiad Cymraeg: Angharad Tomos
Llun: Mel Hartshorn (CC BY SA)
Ted Jackson – I don’t think I have ever felt so frustrated by not being able to do anything. Not because we as a community in Aberfan would not pull together and make choices that will help us, will help wales but because of a block in a red tape funding that says – this is your money use it to better your community, then blocks the very thing that could make the difference- testing is all – 3800, a similar study to the Diamond Princess. What I don’t want to see is another row of arches on the hillside from waiting, sitting ducks waiting to be done to !! Well the council buildings are closed, there are helplines and yesterday I heard that lots of graves in our cemetery have been dug. That is scary.
Dadannsoddiad treiddgar a chywir.