Gan: Tad Davies, Ted Jackson, Garmon ab Ion

‘Dyma’r Marcsydd o Sardinia Antonio Gramsci. Cysegrodd lawer o’i amser i fyfyrio ar y syniad o greisis.

Wedi holl effeithiau’r Rhyfel Byd Cyntaf sef y Rhyfel Mawr, ac yna’r binno rosso sef ‘y ddwy flynedd goch’ o wrth ryfel a ddilynodd, credai y deilliai trefn sosialaidd yn naturiol o’r cresis a afaelai mewn cyfalafiaeth.

Ond, oherwydd twf ffasgiaeth yn syth ar ol methiant y bienno rosso, ac oherwydd ei fod e wedi ei garcharu mewn carchar Ffasgaidd ar ol 1926, newidiodd barn Gramsci.

mae argyfwng hegemoni, neu oruchafiaeth y dosbarth sy’n rheoli, sy’n digwydd naill ai am fod y dosbarth sy’n rheoli wedi methu mewn rhyw ymgymeriad gwleidyddol mawr sydd wedi gofyn caniatâd torfol neu orfodaeth o’r lluoedd (rhyfel, er enghraifft), neu am fod lluoedd enfawr… wedi newid yn sydyn o sefyllfa wleiyddol oddefol i weithredu bwriadol, ac wedi rhoi ger bron gofynion sydd, yn eu cyfanrwydd ond heb fod o wreiddiau organig, cyfwerth a(to bach) chwyldro. Sonir am ‘argyfwng awdurdod’; dyma’n union yw argyfwng hegemoni, neu argyfwng cyffredinol y wladwriaeth.

“Gadewch i ni edrych ar beth mae hyn yn ei feddwl”

“Nid yw canlyniadau creisis yn anochel. Mae nhw o hyd yn wleidyddol, er gwaethaf ymdrechion y rhai sydd mewn grym i’w gwneud yn anwleidyddol

Mewn cyfnodau o argyfwng daw hegemoni y rhai sydd mewn grym o dan fygythiad; caiff y drefn a ystyrir yn norm ei chwestiynnu, a gall y potensial ar gyfer newid unai gael ei wireddu neu ei ddi-ystyru.

Yng ngoleuni hyn, bydd y dosbarth sy’n rheoli yn cefnu ar ymddangos i fod ‘dros y bobl’ a byddant yn sgrialu i amddiffyn eu cyfoeth, statws a phwer gan wneud unrhyw beth o fewn eu gallu mewn ymgais i atal hyn.

Mae’r pandemig Covid 19 unwaith eto wedi dadlennu wyneb didostur cyfalafiaeth, a’r grymoedd sydd a’u bryd ar amddiffyn y system yma.

Mae blynyddoedd o gyni wedi golygu fod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cael ei amddifadu o’r gallu i weithredu’n gyflawn. Prawf pellach o hyn yw’r modd y mae diffyg PPE, profi ac ystyried imiwnedd torfol wedi tanlinellu difaterwch a dirmyg y dosbarth ‘rheoli’ tuag at fywydau y dosbarth gweithiol.

Mae’n rhaid i’r asgell chwith dynnu sylw at y marwolathau cynamserol oherwydd methiannau’r blaid doriaid, rhaid iddynt iddynt bwysleisio mai gwleidyddiaeth sydd tu cefn i’r dioddef a’r gwrthdaro yn y gweithle, trachwant y landlordiaid a chywilydd y system fudd daliadau.

Rhaid i’r chwith wneud i’r dosbarth gweithiol sylweddoli ar ba ochr maent yn y frwydr gymdeithasol.

Dylai’r asgell chwith ddefnyddio’r argyfwng i fynnu newidiadau chwyldroadol,

Mae gofynion a oedd unwaith yn cael eu disytyrru fel breuddwyd afrealistig, yn awr wedi eu gwireddu a chant eu gweld fel anghenion hanfodol

Caledi

Digartrefedd

A chyflogau isel.

‘maent i gyd yn ddewisiadau gwleidyddol’

Mae Cymuned, caredigrwydd a gofal nid maint elw corfforaethau wedi ei amlygu eu hunain fel y gwerthoedd sy’n bwysig i bobl.

Mae’n rhaid i’r newid sylfaenol hwn yng ngwerthoedd y rhelyw fod yn un parhaol os am drechu’r cyni difrifol sydd ar y gorwel.

Unwaith disgrifiodd Gramsci gyfalafiaeth fel caer a’r wladwriaeth bourgeois fel y rheng gyntaf yn ei hamddiffynfeydd.

Cynrychiola’r argyfwng dwll sydd wedi ei chwalu yn y mur

Gyda threigl amser caiff y bwlch ei drwsio’n fyrbwyll gan ddefnyddio holl adnoddau a dulliau eithafol y wladwriaeth. Ond, am gyfnod byr, mae cyfle i oresgyn y gaer – rhaid gweithredu cyn ei bod yn rhy hwyr. Nid oes dychwelyd i’r hen drefn.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.