Yn ystod yr wythnos ddiwethaf yma mae’r drafodaeth sy’n troi o gwmpas cynnig gan Gyngor Caerdydd am Amgueddfa Feddygaeth Filwrol ar Barc Britannia ym Mae Caerdydd wedi arwain at lawer iawn o ddadlau o fewn cyd-destun ehangach, rhyngwladol mudiad ‘Black Lives Matter’ (BLM) – gan arwain at alwadau dros Amgueddfa ‘Tiger Bay’. Fe’i nodweddwyd gan ymgyrchwyr, gwleidyddion a sylwebyddion yn cael eu pig i mewn – ond y mae lleisiau o Drebiwt wedi bod yn amlwg yn eu habsenoldeb. Cynigodd Keith Murrell, Cyfarwyddwr Creadigol BACA (Butetown Arts & Culture Association) – trefnwyr carnifal Butetown – ymateb bachog ar Twitter:
Butetown Heritage:
for as long as I can remember, others have
celebrated our history
planned our futures
and disregarded our presence
Penderfynom ddal i fyny ag ef i drafod y sefyllfa, a chawsom ymateb nodweddiadol a heriol – ac un sy’n cyfleu peth o gymhlethdod a chyfoeth y sefyllfa dan sylw.
Undod: Siwmae Keith, da bod mewn cyswllt eto. Cyn i ni fynd ati i siarad am y trafodaethau diweddar, a fyddech chi cystal a dweud gair am eich cefndir? O’ch clywed chi’n siarad yn flaenorol, roedd ambell i linell gofiadwy fel:
Doedden ni ddim angen mynd i weld y byd, daeth y byd i Tiger Bay
a
Roeddem yn arfer amlddiwylliannedd flynyddoedd cyn i unrhyw academydd ei dadansoddi, neu roi label arni.
A yw’n gywir i feddwl bod y sylwadau yma’n crynhoi tipyn ar eich profiadau?
KM: wrth gwrs, mae wastad rhyw elfen o poetic licence pan fydda i’n siarad, ac wrth gwrs ‘fe wnaethon ni fynd i weld y byd’ fel morwyr masnachol, yn y lluoedd arfog, GI Brides a mwy. Mae’r ymadrodd yn fwy o adwaith i oes o fychanu anthropolegol.
Ond i egluro beth rwy’n ei olygu o safbwynt personol …
Dwi heb fod i’r coleg (wel, i ddweud y gwir rwy’ wedi rhoi’r gorau i un neu ddau o gyrsiau yn fy amser), doeddwn i erioed wedi cael pasbort neu drwydded gyrru, ac heblaw am ychydig o gyfnodau byr iawn rydw i wedi byw yng Nghaerdydd erioed: Butetown yn bennaf a Grangetown yn fwy diweddar.
Ond hyd yn oed cyn dyfodiad technoleg y rhyngrwyd roeddwn i eisoes yn gyfarwydd iawn â gwleidyddiaeth fyd-eang, diwylliant a materion cyfoes (er ychydig yn arafach na’r dyddiau hyn). Mae gennyf ffrindiau o bob cwr o’r byd ymysg y bobl rwy’ wedi cwrdd â nhw yn Butetown a nifer nad ydynt yn ffrindiau.
Fel wyddost ti, weithiau mae gen i broblemau o ran terminoleg ac mae amlddiwylliannol yn un enghraifft. Mae’n debyg y gallwn i ysgrifennu papur cyfan yn amlygu fy marn am ddiwylliant, ond digon yw dweud bod yr holl werthoedd a arddelir (neu o leiaf y potensial ar eu cyfer) eisoes wedi’u gwireddu’n organig yn Butetown.
Undod: A beth am edrych ‘mewn’ yn ogystal ag ‘allan’ fel petai? Mae’n deg dweud bod rhai o’ch profiadau chi yn dangos nad oes rhaid i’r nodweddion yma bod mewn gwrthgyferbyniad i, neu rywsut ar wahan i brofiadau eraill Cymreig, y gellid ystyried eu bod yn fwy ‘nodweddiadol’. Mae eich gwaith gyda’r carnifal yn ystod Eisteddfod 2018 yng Nghaerdydd yn neidio i’r meddwl fel rhywbeth gwirioneddol gofiadwy, ond hefyd onid yw’n gywir dweud mai nid hwn oedd y tro cyntaf i chi gymryd rhan yn yr hyn y gallem ei alw’n ddiwylliant ‘Cymraeg’?
KM: Byddem yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn yr ysgol gynradd fel pawb arall – fi oedd Owain Glyndwr un flwyddyn ac os cofiaf yn iawn, fe enillon ni’r frwydr honno; astudiais y Gymraeg am gwpl o flynyddoedd ond doeddwn i ddim yn ddigon hoff o’r athro i barhau.
Rwy’n cofio adroddiadau yn y cyfryngau o genedlaetholwyr Cymreig amser Arwisgiad Charles a meddwl, gan nad oeddem yn siarad Cymraeg ychwaith, eu bod ‘yn ein herbyn ni’ hefyd – heb sôn am llychwino ein parti stryd … ond roedden nhw mewn lle o’r enw Gogledd Cymru felly doedd na ddim gymaint o effaith arna i.
Yn fy arddegau diweddar, yn amlwg newidiodd fy safbwyntiau gwleidyddol a chymdeithasol, a roeddwn i’n cytuno â’r ‘ymgyrch tai haf’ a’r ymgyrch dros deledu Cymraeg: roeddwn yn meddwl bod y ymgyrchwyr hynny’n arwain y ffordd ac ysgrifennais ychydig o ganeuon (Saesneg eu hiaith) yn cyfeirio at y pethau hynny ar y pryd.
Tua’r amser yma cwrddais i â Geraint Jarman – yn nhŷ cyfaill cerddorol yn Nhrebiwt. Roedd Geraint wedi bod yn defnyddio mwy o ddylanwadau reggae yn ei waith ac rwy’n gwybod llawer am reggae … Does dim syndod bod ein sgyrsiau am gerddoriaeth yn canolbwyntio mewn gwirionedd ar faterion gwleidyddol a chymdeithasol, yn gymaint â’r gerddoriaeth.
Yn achlysurol, ac fel arfer yn ddigymell, byddai Geraint yn fy ngwahodd i ganu ar ei draciau stiwdio (Dirwnod i’r Brenin oedd gyntaf) ac er nad oeddwn yn siaradwr Cymraeg dim ond ychydig o linellau syml oedd gen i i’w dysgu ac roeddwn yn iawn wrth ynganu … ac eithrio ar un achlysur arbennig, pan oeddwn wedi dysgu’r llinell o ganwr arall gydag ‘chydig o lisp – ac felly treuliais 20 munud yn y bwth yn canu “Lliglo ar y Lliglen” …
Fe wnes i ambell i gig byw ledled Cymru gan gynnwys “Taith y Carcharorion”: roedd yn gyfle gweld a meithrin ymdeimlad o’r dirwedd a’r hanes, a chwrdd â phobl oedd yn siarad Cymraeg y tu allan i swigen academaidd/proffesiynol Caerdydd.
Mi ges i wir werthfawrogi gwerth cerddoriaeth Gymraeg i bobl ifanc yn y cynulleidfaoedd … a hyd yn oed gwerth cerddoriaeth reggae i ffermwr ym Mhenfro. Fy moment mwyaf dwys o gysylltiad oedd mewn siop sglodion yn y Bala, lle’r oedd y ddynes yn gweini, gan droi’n gynnes a syth bin i’r Saesneg i ateb fy archeb.
Ers hynny, rwyf wedi gweithio ar un neu ddau o brosiectau celfyddydau cymunedol yng Ngogledd Cymru gyda dim ond profiadau cadarnhaol o’r lle a’r bobl. Rwy’n gwybod i sicrwydd nad yw mor ddelfrydol â’m profiadau i, ond rwy’n teimlo’n bersonol yr un mor gartrefol yn y Gogledd a gogledd Caerdydd.
Undod: Felly mae Butetown a’r Bae wedi cael llawer o sylw yn ystod yr wythnos ddiwethaf oherwydd y trafodaethau ynglŷn â’r cynnig am Amgueddfa meddygaeth filwrol ar y gofod a adwaenir fel Parc Britannia – wrth ymyl yr Eglwys Norwyaidd a rownd y gornel o’r Senedd. Beth oedd d’ymateb cyntaf?
KM: Do, fe welais i’r mater yn codi eto … i fod yn onest, fy ymateb cyntaf pan welais yr edefyn Twitter [gan Huw Thomas] oedd ei fod yn sgwrs arall gan bobl o’r tu allan am yr hyn y dylem ei gael, heb drafferthu gofyn … a dydyn ni ddim fel petai’n anodd ei gyrraedd. Gwelais ddarn WalesOnline a theimlais ei fod yn ddos arall o’r hyn y gallech ei alw’n “dirymuso rhadlon”.
Fe wyddoch o’n trafodaethau wyneb i wyneb beth yw fy nghywair a’i bwriad pan fyddaf yn dweud pethau fel hyn, a dydy hi ddim yn un dialgar – ond efallai fy mod i wedi crynhoi ychydig yn llai brathog yn fy sylw Twitter am eraill yn dathlu ein hanes, yn cynllunio ein dyfodol ac yn anwybyddu ein presenoldeb.
Mae tystiolaeth o rôl y cyfryngau yn hynny o beth mewn unrhyw ffilm archif o’r 1960au hyd heddiw, lle mae cyfraniadau lleol yn gyfyngedig i ychydig o ‘bennau llafar’ a montage meat: gall y defnydd mwy diweddar o gyflwynwyr DU awgrymu ryw fath o welliant, ond mae’r ffaith bod pobl o’r tu allan yn cael eu targedu am y swydd yn adrodd cyfrolau imi. Mae’r ffaith eu bod nhw bob tro yn gorfod ailgyfogi yr un hen foftiffau a memes yn cynddeiriogi a bodloni fi ar yr un pryd.
Rwy’n gwybod bod y cyfnod cyfredol hwn yn cael ei yrru gan ddiddordeb gwirioneddol yn hanes ac ewyllys da’r gymuned; bod yr ymgyrch yn ceisio defnyddio’r cyfryngau ac nid fel arall.
Ond dangosodd yr erthygl WalesOnline yn arbennig y patrwm cyfarwydd ac anghyfforddus iawn o ran cynrychiolaeth gyfyngedig.
Un mater penodol a gododd yma ac mewn mannau eraill yw trafod cau Canolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown (BHAC) – fel profiad o golled a thynnu cyllid fel rhyw anghyfiawnder mawr i’r gymuned.
Efallai y bydd hyn yn peri syndod i’r rhai y tu allan i’r gymuned, ond nid yn gymaint i’r rhai sy’n rhan ohono, pan ddywedaf bod y gwrthwyneb yn wir yn fy marn i: roedd y gefnogaeth swyddogol a roddwyd i BHAC ar draul y gymuned leol, nid oedd y sefydliad yn atebol i’r gymuned (er bod rhai pobl leol symbolaidd ar y Bwrdd) ac ni allai Cyngor Celfyddydau Cymru fforddio parhau i daflu arian da at y brosiect. Er gwaethaf gwerth emosiynol yr hyn a allai fod wedi’i golli, ychydig iawn o gefnogaeth neu adwaith lleol a gafwyd iddo’n cau ei ddrysau.
Unwaith eto, rwy’n derbyn bod y diffyg gwaith cartref ar y mater hwn fwya tebyg oherwydd brwdfrydedd yn hytrach nag ymdrech fwriadol i lurgunio’r stori – ond nid yw cael amrywiaeth barn yn Butetown mor galed â hynny, ac nid yw hyd yn oed dod o hyd i gysylltiadau mwy hyddysg yn anodd.
O ran y syniad o Amgueddfa, dydw i ddim mewn gwirionedd yn ei erbyn per se, ond fel dwi wedi’i ddweud o’r blaen, mae gan ein hanes ni hanes o gael ei ecsbloetio a’i gamliwio … ac mae’r drafodaeth rwyf wedi’i darllen hyd yn hyn i’w weld yn mynd i’r un cyfeiriad (pa mor bynnag dda yw’r bwriad).
Byddai mwy o ddiddordeb gen i yn bersonol mewn trafodaeth ehangach (a chamau gweithredu) ynghylch pa dreftadaeth sy’n bwysig a pham – pwy sy’n berchen ar yr hanes a phwy sy’n elwa? Ac yna’r sut: p’un ai a ydi Amgueddfa mewn gwirionedd y buddsoddiad gorau o ba bynnag arian cyhoeddus allai fod ar gael?
Pa mor berthnasol fydd amgueddfeydd hyd yn oed yn y dyfodol? Ai dewis amgen neu gymar i’r amgueddfa filwrol yn unig yw hyn? Unwaith eto, dydw i ddim yn erbyn y syniad ac yn deall y diffuantrwydd sydd y tu ôl i’r cyfan … Dydw i ddim yn blwyfol neu’n gaeëdig, ond byddwn am gefnogi agwedd wahanol tuag at unrhyw brosiect newydd.
Undod: Mae hynny’n amlwg yn ateb pryfoclyd sy’n awgrymu – yn anochel efallai – fod pethau’n fwy cymhleth na dim ond gosod Amgueddfa ‘ Tiger Bay ‘ ar y safle yn lle’r hyn a gynigir, ac y dylem fod yn meddwl am y cwestiwn hwn o ran set gyfan o gwestiynau ehangach.
KM: Ydy, dydy hi ddim hyd yn oed mor syml â dweud bod hyn yn fater o’r gymuned a’r sawl o’r ‘tu allan’. Mae pobl yn mudo i mewn i’r gymuned yn amlwg yn nodweddiadol o’i hanes, ac mae cael y gallu i groesawu a chynnwys newydd-ddyfodiaid yn beth da ac yn dangos cryfder y gymuned – ac er gwaethaf yr enw drwg, nid ydym yn gwbl amharod i weithio gyda ‘phobl o’r tu allan’ chwaith … ond nid yw’r profiad hanesyddol wedi bod yn gynsail gwych, rhaid nodi.
O ran y ffordd rydym yn archifo ac yn dathlu’r ardal, dylwn ddatgan bod gen i rai diddordebau personol gan fy mod hefyd wedi bod yn datblygu syniadau o gwmpas eiddo fel rhan o Gymdeithas Celfyddydau Diwylliannol Butetown (BACA), gan edrych ar gynllun busnes 5 mlynedd a allai gael ei ariannu gan Gyngor y celfyddydau. O’n safle archif gallwch weld fy mod wedi buddsoddi’n llwyr yn ein treftadaeth gymunedol ac mewn gwirionedd, rwyf wedi chwarae rhan sylweddol yn y gwaith o greu’r dreftadaeth honno dros y 40 mlynedd diwethaf neu fwy – nid wyf yn amau y byddwn yn cael sylw yn y pen draw mewn unrhyw amgueddfa yn y dyfodol.
Nid dim ond fi sy’n canu corn fy hun fan hyn, dyma sywl ar berchnogi – dwi’n diflasu bod ein gorffennol yn cael ei ddathlu gan bobl sy ‘mor ddifater tuag at ein presennol (a hynny’n hanesyddol hefyd). Yn absenoldeb cymorth (a’r gwahardd gwirioneddol mewn rhai achosion), yng nghysgod BHAC ac eraill, rydym wedi cadw, ymchwilio, rhannu a hyrwyddo hanes Butetown yn barhaus ar lafar. Ac wrth gwrs, mae technolegau rhyngrwyd wedi creu byd o bosibiliadau newydd … Rydym wedi sefydlu tudalen archif Bywyd y Bae am ei bod yn rhad ac am ddim.
O ran y datblygiad penodol hwn: byddwn yn ddigon parod i ddweud fy mod yn erbyn yr Amgueddfa Meddygaethl Milwrol am sawl rheswm, ond dyma’r dociau a Bae Caerdydd ac rwyf wedi bod mewn gwrthwynebiad (ofer) lawer gwaith o’r blaen. Rwyf wedi siarad o’r blaen, mewn perthynas â Charnifal, am y datgysylltiad rhwng y Bae a’r gymuned – am adennill y lle fel rhan o’n treftadaeth fel y gallwn fod yn rhan o’r dyfodol.
Undod: Mae yna lawer sydd wedi ei ddweud am y berthynas honno rhwng y gymuned a’r Bae, ac mae’n hollol amlwg i unrhyw un sydd wedi treulio unrhyw amser yma bod rhesymau da pam fod rhai yn cyfeirio at ‘wal Berlin’ sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r cledrau, ac yn rhannu sgwâr Loudon a Stryd Bute o adeiladau newydd Glanfa’r Iwerydd – ac wrth gwrs, yn symbolaidd iawn – y Senedd ei hun. Wyt ti’n credu bod modd y goresgyn y rhaniad hwnnw neu creu adferiad, o ystyried yn enwedig y modd y gwnaeth Corfforaeth Datblygu Bae Caerdydd niweidio’r cymunedau hynny wrth greu’r hyn sydd yma heddiw?
KM: Mae amseroedd yn newid. Er enghraifft, roeddwn yn erbyn adeiladu Tŷ Opera tra nad oeddwn i ac eraill yn y gymuned hyd yn oed yn cael eu cydnabod fel artistiaid. Yn llythrennol, doeddwn i ddim wedi mynd ar gyfyl Canolfan Mileniwm Cymru am y 10 mlynedd cyntaf. Ond yr wyf yn llawer mwy cyfforddus yno y dyddiau hyn. Ychydig o flynyddoedd yn ôl, es i heibio’r adeilad gyda fy wyres a dywedodd “Edrychwch, dyna lle rydym yn gwneud carnifal” a wnaeth i mi sylweddoli bod y ganolfan mewn gwirionedd yn garreg filltir yn ei chymuned – nid rhywbeth a adeiladwyd dros rywbeth arall … yn y foment hon, mae’r ganolfan wedi bod o gwmpas cyn belled â’r Casablanca yn ei anterth neu unrhyw rai eraill o’n straeon ni.
Mewn gwirionedd, byddai’n freuddwyd i gael presenoldeb a llais gwirioneddol yn yr ardal honno (roedd fy swydd gyntaf wrth adael yr ysgol yn union gyferbyn y loc). Unwaith eto, mae gen i amheuon am amgueddfa fel bocs llawn pethau marw a chelwyddau … a dydw i ddim yn hollol siŵr am y pellter corfforol o ‘galon’ y gymuned … ond mae hynny hefyd yn codi nifer o gwestiynau. Byddem yn sicr yn hapus i weithio gydag eraill i geisio dod o hyd i rywbeth hyfyw a gwerthfawr, ond unwaith eto, byddem yn ddigon dethol o ddarpar bartneriaid, am resymau da.
Hoffwn hefyd danlinellu fy mod yn siarad am y gorffennol a’r presennol – gallai pob un o’r rhain fod yn bosibilrwydd gwahanol ar gyfer y dyfodol, os yw’r sefyllfa’n caniatáu i bobl weithio gyda’i gilydd yn well.
Undod: Felly, dywedwch fwy wrthym am dy syniadau am yr hyn a allai fod yn ddatblygiadau gwerthfawr i bobl yn Butetown yn eich barn chi – o gofio bod cynifer o bobl eraill wedi cynnig eu rhai nhw’n barod!
KM: Yn gyntaf, dim ond i egluro fy nheimladau am y cynigion. Yn sicr, gall fy holl amheuon a sinigiaeth am Amgueddfa Tiger Bay gael eu helaethu 1000 o weithiau yn achos amgueddfa filwrol: fy atgasedd at unrhyw beth milwrol bron; gorfodaeth o’r ‘tu allan’ a choloneiddio ‘ein gofod’; dargyfeirio arian cyhoeddus … Rwy’n deall nad yw’n ariannol hyfyw, ac felly’r sôn am gynnwys elfennau eraill. Yn wir, fydden i ddim yn synnu os ydyn nhw hefyd yn meddwl am gynnwys rhyw fath o elfen dreftadaeth leol o fewn y cynlluniau.
O ran dewis cadarnhaol, soniais am BACA yn gynharach – mae’n fwrdd a ddaeth at ei gilydd yn bennaf ar gyfer Carnifal ond sydd eisiau gwneud pethau eraill (e.e. yr archif). Fel y gwyddoch, mae llawer o wybodaeth leol ac arbenigedd proffesiynol yn y grŵp. Rydym wedi bod yn derbyn cymorth da gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac roeddwn yn y broses o wneud cais am grant mawr (1 flwyddyn) i ddatblygu cynllun busnes ac yna gwneud cais am gyllid ‘portffolio’ (5 mlynedd). Mae Covid wedi atal y broses hon am y tro ond rydym yn dal mewn sefyllfa gymharol dda i ailafael ar – neu golynnu – y cynlluniau pan yn bosibl. Yn sicr, roedd safle yn un o amcanion (mwy uchelgeisiol) y cynllun busnes drafft hyd yn hyn, ond dwi ddim yn ceisio cais neilltuol fan hyn am y defnydd gorau, ac efallai nad yw’r safle penodol hwnnw yn addas i’n cynlluniau ni. Mae llawer o leoedd yn Butetown y gellid eu datblygu, ac nid oes rheswm dros gyfyngu’r uchelgais i’r safle hwn os yw’r gwleidyddion wirioneddol o ddifrif ynglŷn â gwrando.
Mewn gwirionedd, gyda golwg ar Barc Britannia (ac mae wir angen newid enw!) gellid ei ddatblygu fel rhyw fath o amffitheatr awyr agored… Byddai’n wych ar gyfer Carnifal/Eisteddfod a hyd yn oed mwy o ddigwyddiadau, yn enwedig pan fyddwn yn meddwl sut mae Covid yn effeithio ar y theatr. Gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwrthdystiadau a dylai, mewn gwirionedd, gynnwys cornel siaradwyr. Nid wyf yn ddatblygwr, ond rwy’n credu y gellid cyflawni llawer ohono drwy dirlunio yn hytrach nag adeiladu, ac y byddai’n parhau i fod yn fan agored ar gyfer defnydd hamdden cyffredinol.
Fy mhwynt olaf – a byddai hwn yn un mwy cyffredinol – yw bod angen inni ystyried yn hyn i gyd y materion gwaelodol sy’n wynebu cymunedau Butetown. Mae angen i ni feddwl am anghenion a chyfleoedd i bobl ifanc – ac i’m feddwl i mae hynny’n cynnwys amlygu naratif gwahanol – a hyd yn oed yn fwy hanfodol yw’r symudiad i ddod â hanes pobl dduon i’r cwricwlwm, sy’n ennill rhywfaint o gefnogaeth. Cofiwch, rwyf wedi llofnodi’r ddeiseb fy hun, tra’n dal i fod yn wyliadwrus iawn y bydd y cynnwys yn llythrennol yn cael ei liwio i gyd-fynd ag uchelgais unigolion a sefydliadau. Dydw i ddim yn credu bod disodli un set o fythau gyda set arall yn mynd i sicrhau’r canlyniadau a ddymunir.
Undod: Cynigion sy’n ymddangos yn anodd i weld bai arnynt, chwarae teg. Mae wedi bod yn wych siarad â ti Keith. Byddai’n dda orffen drwy glywed eich barn am y digwyddiadau ehangach sy’n digwydd ar hyn o bryd. Felly dim ond cwestiwn bach(!) i ddiweddu: Beth wnei di o fudiad BLM a’r protestiadau yng Nghaerdydd – ydi hwn yn gyfle go iawn i Gymru (a’r byd)?
KM: Dwi mewn cyflwr “ddeubegynol” braidd am BLM, ac yn enwedig yng Nghaerdydd, Cymru.
Rwy’n cytuno’n llwyr â’r mudiad swyddogol a’r ymdeimlad gwreiddiol – rwy’n deall ac yn cytuno â’r brand er y gallwn ddweud ei fod yn gamenwi, oherwydd ei fod yn ymwneud mwy â marwolaethau pobl dduon ac is-set benodol ar hynny. Dydw i ddim yn gwybod beth sydd ganddynt mewn golwg o ran eu huchelgais ehangach ond rwy’n cefnogi BLM a’u prif ffocws o atal llofruddiaethau gan yr heddlu.
Dydw i ddim eisiau herwgipio na dargyfeirio o BLM, ond gan fy mod i mewn sefyllfa i edrych ar bethau o bell, dwi’n meddwl bod gen i rywbeth i gynnig o safbwynt trafod materion ehangach a hyd yn oed yn nes adref.
Mewn termau byd-eang, rhaid imi ddweud fy mod mewn penbleth ynghylch y ‘pam nawr’ – ac i ba raddau mae ein cysylltiad ni gyda’i diwylliant nhw yn gwneud hyn yn foment bwysig … ond ‘dyw hynny’n amharu dim ar y foment, ac yn gyffredinol mae’r ymateb cyhoeddus yn fy nghalonogi’n fawr.
Roedd y niferoedd a’r awyrgylch cyffredinol ym Mharc Bute yn ysbrydoledig – ond roeddwn i’n teimlo bod y siaradwyr a’r areithiau’n tueddu ar y cyfan tuag at greu sioe a braw – a dangos diffyg arweinyddiaeth ddilys yn llwyr, hyd yn oed yng nghyswllt y drafodaeth ar faterion hil fel y’u gelwir yng Nghaerdydd a Chymru (a hwyrach bod hynny’n draethawd arall ar gyfer diwrnod arall …).
Er yr holl ddicter a difrifoldeb y materion, y neges ehangach oedd ei hangen oedd cefnogaeth a chydsafiad, ac nid dim ond cloddio am hen gwynion i gyd-fynd a’r foment. Oes, mae gwaith i’w wneud i fynd i’r afael ag anghyfiawnderau fan yma, ond rwy’n wirioneddol ffieiddio’r ensyniad y gallai bywydau duon fod mewn perygl fel arfer o drais hamddenol gan yr heddlu. Dyma bryfocio dan gochl creu ymwybyddiaeth.
Y tu hwnt i’r rali, rwy’ hefyd wedi gweld rhai unigolion a grwpiau yn dechrau lleoli eu hunain i fanteisio ar y sefyllfa i guro ar ddrysau fel rhyw fath o piñata gwleidyddol.
Mae hwn yn ddosbarth rheoli sydd wedi hen ennill ei blwyf yn y diwydiant cydraddoldebau yng Nghaerdydd/Cymru/y DU (roeddwn i’n arfer eu galw’n ‘prefnics’ – a dylid nodi wrth basio bod rhan fwyaf o’r prif gymeriadau yn dod o’r tu allan i Gymru a/neu mor bell o Butetown ag y bo modd). Mae llawer o’r rhai sydd bellach yn y sefyllfa o ‘gondemnio’ hiliaeth systemig yn gyfranogwyr a buddiolwyr mewn gwirionedd, ac wedi methu â gwneud newid parhaol, mae ganddynt bellach gyfle i adennill hygrededd o BLM.
Fel cyffelybiaeth: rwy’n cymeradwyo’r hyn sydd ar droed i gael gwared ar Picton o Neuadd y ddinas Caerdydd, ond rwy’n gwybod y bu gloddesta VIP dirifedi i’r sefydliadau BAME yn y fan honno, lle’r oedd pobl yn ddigon hapus i fod mewn cwmni o’r fath.
Gwelsom rywfaint o hyn yn dod o achos Stephen Lawrence a sawl mater arall ers hynny. Mae Cymru (Llafur) yn mwynhau cael eu digio yn arbennig gan hiliaeth o Loegr (y Torïaid) ac fel arfer bydd yn dosbarthu ychydig o £££ i’w cymdeithion BAME i drefnu jamboree. Rwy’n sylweddoli bod rhan fwyaf o hyn yn mynegi fy ochr sinigaidd – ond rwy’n credu bod gen i hawl i hynny o ystyried bod pawb yn lleisio eu rhwystredigaethau ar hyn o bryd.
Yn fwy optimistaidd, ac ar gyfer y dyfodol: rwy’n credu y bydd newidiadau cadarnhaol a sylweddol yn deillio o BLM – mae’r ffaith ein bod ni’n ei drafod fel sail ar gyfer newid yn dangos i mi ei fod yn digwydd … Dwi wir yn credu bod hyn yn golygu y bydd cenhedlaeth o bobl ifanc yn gwireddu’r newidiadau sydd eu hangen – efallai ddim yn gyfan gwbl, ond byddan nhw’n gwneud eu rhan …
Ychydig dros 20 mlynedd yn ôl, roeddwn yn ymwneud â chefnogi Fforwm Ieuenctid Cenedlaethol y DG, a arweiniodd at gyhoeddi Siarter a gyflwynwyd wedyn gan y bobl ifanc yn Nhŷ’r Cyffredin a swyddfeydd y Senedd.
Ddoe, cysylltodd un neu ddau o’r bobl ifanc (nid mor ifanc bellach) a gweithwyr (hynafion bellach). Mae un o’r bobl o’r fforwm bellach yn gweithio ar ‘amrywiaeth’ yn Nhŷ’r Cyffredin ac mae’n hyderus iawn y byddai’r Siarter dal i fod yn gyfredol wrth ymateb y Llywodraeth i sefyllfa’r BLM. Mae hyn i gyd yn dal yn ad hoc iawn ar hyn o bryd, ac wrth gwrs y bwriad fyddai ail-ymgysylltu â’r genhedlaeth bresennol o bobl ifanc er mwyn rhoi perthnasedd a pherchnogaeth, ond gallai gostwng oedran pleidleisio i Gymru fod yn ffenestr ddelfrydol i’w hyrwyddo.
Rwy’n credu y bydd hyn hefyd yn effeithio ar ymgyrchoedd a materion eraill hefyd … Ac rwy’n meddwl bod grwpiau fel XR wedi dangos rhywfaint o arweiniad wrth godi’r tymheredd gwleidyddol, hyd yn oed os nad ar y mater penodol hwn.
… a siarad drosof fi fy hun, teimlaf fod hyn yn dod â mwy o berthnasedd – hyd yn oed dilysiad – i’r hyn rwyf wedi bod yn ei ddweud a’i wneud ers pryd bynnag, ac rwy’n teimlo fel cario ymlaen.
********
Ôl-nodyn
Gofynnom i’r dylunydd Malltwen Gwladys am rai syniadau ynghylch sut y gellid datblygu’r gofod yn ysbryd syniadau Keith a dyma ychydig o enghreifftiau:
1, Parc Dinesig Superkilen gan BIG (Bjarke Ingels) Copenhagen
https://www.dezeen.com/2012/10/24/superkilen-park-by-big-topotek1-and-superflex/
Mae’r cwmni pensaernïaeth Danaidd BIG wedi gwasgaru dodrefn stryd amrywiol o 60 o wahanol genhedloedd ar draws carped lliwgar o laswellt a rwber yn y Parc hwn yn Copenhagen.
2, Pafiliwn Dulwich
Cystadleuaeth bensaernïol yw hon sy’n digwydd pob dwy flynedd yng ngerddi’r Dulwich Picture Gallery i adeiladu pafiliwn awyr agored ar gyfer misoedd yr haf, er mwyn cynnal rhaglen o berfformiadau a cherddoriaeth ayyb. Mae’r gystadleuaeth cynllunio pafiliwn yma yn rhan bwysig o galendr cynllunwyr (gan ddenu sylw a thalent fyd-eang). Tybed a allasai Britannia Park gael y math yma o bafiliwn a fyddai’n denu talent cynllunio leol?
3, Ac yn olaf, dyma Pafiliwn Galeri Serpentine (Herzog & de Meuron a Ai Weiwei- 2012)
I love the second idea – yearly changing pavilions. Norkirke Park might have the most footfall and therefore be the most prestigious, but I guess the pavilions might have more value in the occasionally bleak sections of Canal Park.
Perhaps the competition should be teams of local older schoolchildren with support from a few engineering/architectire students and a professional. Done well keeps the networks flowing across areas, years and up the old path of the canal.
Hatch of dcw perhaps to organise?