Sylwer: Cyflwynwyd yr araith hon yn nigwyddiad Rising Tide XR Caerdydd ar 2il mis Medi 2020 cyn cyhoeddi’r Mesur Marchnad Fewnol, sydd ond yn tanlinellu popeth a ddywedir isod, tra’n ychwanegu ymosodiad bwriadol ar ddatganoli a hawl pobl Cymru i hunanlywodraethu at amcanion dinistriol Llywodraeth San Steffan.

Siwan ydw i, ac rwy’n siarad yma heddiw ar ran Undod, mudiad dros annibyniaeth radical i Gymru. Yn ôl Undod, nid yw annibyniaeth – ac yn wir yr argyfwng hinsawdd – byth yn anwleidyddol.

Mae annibyniaeth yn fodd o gyrraedd nod, nid yn nod ynddo’i hun, ac ni fydd o werth oni bai ei fod yn rhan o ymdrech i sicrhau Cymru well, Cymru fwy teg a chyfiawn. Un o’r ffyrdd y mae’n rhaid i Gymru annibynnol fod yn well, un o’r dibenion pwysicaf, yw ei bod yn rhaid inni fod yn ryfelwr ymroddedig yn y frwydr yn erbyn dirywiad, camfanteisio ac anghyfiawnder amgylcheddol.

Yn ôl ein hegwyddorion:

2) (i) Safwn dros warchod ein hamgylchedd naturiol gan ei fod yn hanfodol i’n dyfodol ni gyd fel Cymry a thrigolion y ddaear i sicrhau bywyd o werth i ni, ein plant a’r cenedlaethau sydd i ddod.

(ii) Dylai moddion  cynhyrchu economaidd ac adnoddau naturiol Cymru fod yn eiddo i’w phobl. Gwelwn gyfiawnder, gofal a chynaliadwyedd yn gonglfeini’r economi ac yn sylfaen i lewyrch cenedl, nid elw a chyfalaf.

Nid oes yr un peth yn dangos diystyrru llywodraeth San Steffan o bobl a thir Cymru yn fwy na’r fandaliaeth y maent nawr yn bygwth ar gefn gwlad, ein cymunedau, ein diogelwch a’n moesau, trwy’r Biliau Amaeth a Masnach sy’n mynd drwy senedd San Steffan ar hyn o bryd. Er bod pandemig byd-eang yn tanlinellu pwysigrwydd diogelwch a sofraniaeth fwyd yn fwy nag erioed, mae llywodraeth y DG wedi penderfynu eu peryglu drwy fynd ar drywydd Brexit Caled a fydd yn elwa’r cyfoethocaf, gan ddadreoleiddio ein heconomi’n ddi-hyd.

Ym mis Mai, gwrthododd ASau San Steffan gwelliant i’r Bil Amaeth a fyddai wedi sicrhau bod mewnforion yn cydymffurfio â’n safonau bwyd, mewn unrhyw cytundeb masnach yn y dyfodol. Cafodd y gwelliant gefnogaeth eang dros ben: o undebau’r ffermwyr hyd at ymgyrchwyr amgylcheddol, o undebau ffermwyr tenant hyd at gymdeithasau tirfeddianwyr, ac o bob prif plaid wleidyddol heblaw’r Ceidwadwyr. Er i nifer o ASau Ceidwadol wrthryfela, pasiwyd y bil. Ymhlith y gwrthryfelwyr, nid oedd yr un AS Ceidwadol Cymreig. Eu hesgus ar y pryd oedd y byddai safonau mewnforio yn cael eu trin yn y Bil Masnach – doedd dim sôn amdanynt, wrth gwrs.

O ganlyniad, gall cytundebau masnach yn y dyfodol ganiatáu mewnforion nad ydynt yn cydymffurfio â safonau Prydain ar gyfer diogelwch bwyd, lles anifeiliaid na diogelu’r amgylchedd. Mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi gwneud hi’n glir y byddent yn ceisio sicrhau hwn – a “feto” ar labelu gorfodol o darddiad bwyd – fel amod cytundeb masnach gyda’r UDA.

Yr ydych saith gwaith yn fwy tebygol o ddioddef gwenwyn bwyd yn yr Unol Daleithiau nag yn y DU, ond mae’r goblygiadau i les anifeiliaid yn waeth fyth: a oes unrhyw un wedi clywed am gyw iâr wedi’i glorineiddio? Mae’n un o’r oblygiadau i fargen fasnach gyda’r Unol Daleithiau sydd wedi torri drwodd i’r cyhoedd. Yr hyn sy’n cael ei ddeall yn llai eang yw’r rheswm pam bod cyw iâr yr Unol Daleithiau yn cael ei glorineiddio: oherwydd bod yr adar yn cael eu cadw mewn amodau mor gyfyngedig ac aflan mae eu cyrff wedi’u gorchuddio i’r fath raddau â charthion erbyn iddynt gael eu difa, bod rhaid trochi eu carcasau mewn clorin cyn bod nhw’n addas i’w fwyta gan bobl. Hefyd, mae amaeth-fonopolïau’r Unol Daleithiau yn rhai o’r llygrwyr a ffynonellau dinistr amgylcheddol mwyaf arwyddocaol yn y byd.

Yn ogystal a’r niweidion uchod, mae cynlluniau’r llywodraeth yn ymosodiad systematig ar ffermydd bychan yng Nghymru. Wrth i bob diwrnod pasio, mae’n ymddangos yn fwy sicr bod llywodraeth Boris Johnson yn mynd ar drywydd Brexit “Dim Cytundeb”. Bydd hyn yn niweidio ffermydd Cymru yn arbennig, gan mai allforion cig oen fydd yn un o’r marchnadoedd sy’n cael eu effeithio gwaethaf. Bydd y cyfuniad o’r Biliau Amaeth a Masnach heb welliant a Brexit “Dim Cytundeb” yn gyfystyr â’r “NAFTA Prydeinig”. Fel NAFTA, bydd yn creu amgylchedd sy’n trosglwyddo ein cynhyrchiant bwyd i’r busnesau amaeth mwyaf echdynnol, ymelwol, gartref a thramor.

Bydd hyn, yn ei dro, yn dinistrio cymunedau gwledig. Fel grŵp sy’n ymladd dros gyfiawnder amgylcheddol nid amgylcheddaeth amwys, mae Undod yn gweld cymunedau dynol fel rhan o’r ecosystem. Dywedodd siaradwr blaenorol mai newyn oedd y bygythiad mwyaf sy’n wynebu pobl o ganlyniad i newid hinsawdd. Er nad wyf yn anghytuno, yr wyf yn fwy ofnus o’r canlyniadau gwleidyddol o adnoddau cynyddol brin ac amgylcheddau ansicr.

Thema’r digwyddiad heddiw yw “llanw’n codi”. Mae cynydd yn lefelau’r môr ar draws y byd, ond mae llanw ffasgaidd cynyddol hefyd. Nid oes dim yn dangos hyn yn gliriach na’r ffaith bod mudwyr, sy’n aml yn ffoi rhag effeithiau newid hinsawdd o ganlyniad i’n hallyriannau carbon ni, yn boddi ar hyn o bryd ym Môr y Canoldir a’r Sianel Seisnig ac mae well gan ein llywodraeth defnyddio’n Llynges yn eu herbyn yn hytrach na’u helpu.

Nid fi yw’r cyntaf i ddweud – wrth i effeithiau newid yn yr hinsawdd ddod yn amhosibl eu hanwybyddu – y bydd y tro yn rhethreg ein elît o wadu’r hinsawdd i ecofascism mor gyflym byddwch chi’n dioddef chwiplash. Yn wir, mae eisoes wedi dechrau. Nododd maniffesto’r saethwr yn El Paso, a daniodd at bawb yr oedd yn eu hystyried yn “fewnfudwyr” yn y dref ar ffin yr Unol Daleithiau gan lladd 23 o bobl, ei fod am ddiogelu amgylchedd yr Unol Daleithiau rhag dinistr gan mewnfudwyr.

Rhaid inni beidio â gadael i ffasgaeth cael gafael ar ein mudiadau: nid eithafwyr ar y de yw’r unig bobl sy’n defnyddio rethreg ewgenig. Mae llawer o amgylcheddwyr enwog yn parhau i feio newid yn yr hinsawdd ar gyfraddau geni “gormodol” yn y De byd-eang, pan wyddom fod allyriadau hinsawdd pobl mewn gwledydd tlotach yn gyfran fach iawn o’r rheini yn y Gogledd byd-eang ac mai dim ond 100 o gwmnïau sy’n gyfrifol am 71% o allyriadau carbon. Yn ystod yr argyfwng Cofid-19, mae sawl amgylcheddwr wedi ymuno â’r dde eithafol i arddel damcaniaethau cynllwyn gwrth-semitig, yn aml yn mynnu nad yw’r firws rywsut yn beryglus am ei fod yn tueddu i ladd henoed, pobl sâl a’r anabl (tra’n effeithio’n anghymesur ar bobl dlawd a phobl o liw). Ni ddylid goddef y fathau hyn o amgylcheddiaeth yn ein mudiad.

Un o’r amddiffynfeydd cryfaf yn erbyn ffasgaeth yw cymuned: mae’r rhai sy’n adnabod, yn gofalu am ac yn teimlo undod â’u cymdogion yn llai tebygol o fod yn dawel pan gânt eu cipio yn y nôs. Des i ar draws podlediad yn ddiweddar o’r enw “City of Refuge”, sy’n adrodd hanes Le Chambon, casgliad o bentrefi Ffrengig a wrthwynebodd y Llywodraeth Vichy a’r Meddiannaeth Almeinig yn yr Ail Ryfel Byd. Pan ymwelodd swyddog Vichy â’r pentref am y tro cyntaf, cyflwynodd grŵp o bobl ifanc yn eu harddegau araith yn cyhoeddi bod pobl Iddewig yn byw yn eu plith yn y pentref ac na fyddent byth yn trosglwyddo’r bobl hyn i’r awdurdodau. Pan fynnodd y swyddog restr o Iddewon y dref o’r gweinidog lleol, Andre Trocme, atebodd y gweinidog, “Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw “Iddew”, dim ond pobl rydyn ni’n eu hadnabod.”

Drwy gydol y meddiannaeth, lledaenodd enw da Le Chambon fel ardal o loches. Yn ystod y ryfel, wnaeth Le Chambon rhoi lloches, a hwyluso dianc i’r Swistir i hwng 3000 a 5000 o Iddewon a dioddefwyr eraill dan erledigaeth y Naziaid. Nid gweithred unrhyw unigolyn oedd hyn: dim ond drwy cydweithrediad y gymuned gyfan oedd ymgyrch ar y raddfa hon yn bosib. Gall y gymuned gyfan gymryd rhan am eu bod yn byw mewn gwe o gyd-ddibyniaeth a chyd-gymorth, ac oherwydd bod llawer o’r gymuned hon eu hunain yn Huguenots a geisiodd loches rhag erledigaeth yn y mynyddoedd ganrifoedd yn gynharach.

Mae pentrefi gwledig Cymreig yn rhannu cymaint o’r rhinweddau hyn â phentref Le Chambon. Roeddwn yn helpu ar fferm teulu fy mam pan ddechreuodd y Cyfnod Clo. Ar unwaith, cododd rhwydwaith o ofal cymunedol ac fe’m syfrdanwyd gan hyder llwyr fy modryb fod pawb yn y pentref yn derbyn gofal – ac eto yr oeddent. Roedd cysylltiadau’r gymuned eisoes yn barod. Mae pentrefi gwledig Cymru hefyd yn cadw’r traddodiad ar gyfer democratiaeth uniongyrchol a thrafodaeth gymunedol “anniben” y mae Euros Lewis yn ei amlinellu mor hardd yn ei ddisgrifiad o gymuned coll Epynt. Fel Cymry, mae gan bob un ohonom rywfaint o ddealltwriaeth o gael ein heithrio a diraddio gan bŵer fwy. Wrth i ffasgaeth esgyn, ni allwn fforddio colli’r fath gymunedau.

Mae ysbryd o gymuned a democratiaeth wedi esblygu ym mhentrefi Cymru yn rhannol oherwydd hanes anarferol ffermio Cymreig. Er bod diwydiannu wedi gweld cyfradd perchenogaeth tir yn gostwng yn Lloegr a’r Alban, gyda thir wedi’i ganoli yn nwylo tirfeddianwyr mawr a gweddill y gymdeithas wledig wedi’i rhannu rhwng ffermwyr tenant a llafurwyr, yng Nghymru (yn enwedig y Gogledd-Orllewin) cynyddodd cyfradd perchnogaeth tir. Datblygodd economi o ffermio cynhaliaeth, gyda ffermydd yn aml yn cael eu rhedeg gan fenywod tra bod eu gwyr yn mynd allan i weithio mewn chwareli neu fwyngloddiau. Gwelir effaith hwn o hyd: mae ffermydd yng Nghymru yn hanner maint ffermydd Seisnig ar gyfartaledd. Y ffermydd bychan hyn yw’r union rai a gaiff eu dinistrio gan gynlluniau Brexit y llywodraeth a chyda hwy y cymunedau a’r iaith y maent yn eu cynnal: rydym ar drothwy dinistr ar raddfa sydd yn galw i’r cof yr hyn a ddigwyddodd pan gaeodd Thatcher y pyllau glo yn y 1980au.

Nid yw Undod yn barod i adael i’r cymunedau hyn cael eu chwalu. Ar y 19eg o Fedi, byddwn yn cydweithio gyda “Save British Farming” i gynnal demos tractor a ralïau cefnogwyr ledled Cymru. Er na fu ffermwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol yn ffrindiau gorau erioed, does gennym ni ddim dewis ond i weithio gyda’n gilydd. Ein gwendid mwyaf wrth wrthwynebu ffasgaeth a newid hinsawdd yw ein methiant i uno dros achosion cyffredin. Yn Undod – mudiad ar gyfer annibyniaeth Cymru – ni fyddem wedi rhagweld cydsefyll â sefydliad o’r enw Achub Ffermio “Prydeinig”. Ond mae’r rhain yn amseroedd digynsail, fallai amseroedd enbyd, a rhaid i ni ddod o hyd i’n cynghreiriaid lle bynnag y bônt.

Gwelwn ni chi ar y 19eg, yn brwydro dros ein ffermydd, ein safonau bwyd, ein cymunedau a’n dyfodol. Diolch yn fawr.

Gweithredwch

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.