“Sylfaen chwyldro yw diddymu hierarchaeth, rheolaeth dosbarth a gorfodaeth, ac i adeiladu Cymru newydd, yn ddemocratiaeth gyfranogol go iawn gyda thegwch a chymuned yn sail iddi, lle gall dinasyddion byw bywydau hapus, bodlon.”

Rhai misoedd yn ôl, gofynnodd gydymaith pa beth oedd wedi’i sgrifennu am sut yn union fyddai Cymru annibynnol yn edrych. Darganfyddodd ychydig iawn heblaw Annibyniaeth yn dy Boced – ymdrech i ddangos bod opsiynau eraill tu hwnt i’r status quo Prydeinig.

Ydy hyn o achos hanes arbennig ein mudiad cenedlaethol? O sefyllfa amddiffynnol i warchod ein hiaith a diwylliant unigryw, mae’n hawdd ar adegau i ddisgyn nôl ar weledigaethau o orffennol wedi’i ddelfrydu. Yn fwy diweddar, mae trechiad y glowyr a rheolaeth wag Llafur Cymru wedi’n gadael heb y meddwl iwtopaidd sydd ei angen arnom i ddychmygu dyfodol sy’n well na’r presennol.

Ffurfiwyd Undod gan nad oedd apêl anwleidyddol i’r ‘genedl’ yn gymwys ar gyfer y gwaith o’n blaenau. Does dim diben ail-greu anghydraddoldeb y DG ar raddfa llai. Dyna pam bod Llyfr Du gan Llywelyn ap Gwilym yn gyfraniad hollbwysig i’r weledigaeth fydd yn rhyddhau Cymru o’r wladwriaeth Brydeinig bydredig.

Gan gyfeirio at ryddid, cydraddoldeb a brawdoliaeth (neu solidariaeth yn ein oes llai patriarchol ni) y Chwyldro Ffrengig, mae’r dull gofalus hwn yn dechrau gyda thri egwyddor ar gyfer y Chwyldro Cymreig, sef democratiaeth, cymuned a thegwch.

Gan amlygu mai chwyldro sydd ei eisiau gennym – nid trawsnewid pwer o un elît i’r llall, mae’n cydnabod yr angen am weledigaeth afaelgar sydd werth rhwygo’r drefn sydd ohoni, a dyfnder her y mudiad genedlaethol sydd o’n blaenau.

Fe welwn llawn gofleidio y cysyniad Cwrdaidd o gydffederaliaeth ddemocrataidd. Ar gyfer ein pwrpasau yma, golyga hyn diddymu democratiaeth gynrychiadol o blaid strwythurau a ganiatâ i bob aelod o’r gymuned gymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio  arnynt. Dangosa’r dylanwad hwn hefyd le fynno’r pamffled olwg plwralistig ar ddiwylliannau a chymunedau yng Nghymru, yn lle ceisio mowldio ein gwlad amrywiol i fewn i homogenedd ffug a lletchwith.

Agora’r egwyddorion chwyldroadol drafodaeth ar sut y gallai cymdeithas Gymreig gael ei threfnu i gyflawni anghenion dynol mewn oes o anghydraddoldeb ac argyfwng hinsawdd. Mae syniadau megis incwm sylfaenol a dad-gynwyddoli (tynnu mas o farchnadoedd cyfalafol) rhannau mawr o’r economi yn cyfuno’n hawdd â chyfeiriadaeth tuag at y dyfodol a fu’n aml ar goll o’n trafodaeth genedlaethol, gan gynnwys gwireddu, o’r diwedd, y weledigaeth o hamdden ehangedig a addawyd yn yr 20fed ganrif.

Wrth geisio gwneud yn iawn am ein diffyg dychymyg  iwtopaidd, fe fyddai’n hawdd i ni fynd i hwyl â syniadau na wyddai neb sut i’w gwireddu. Ond mae’r economi marchnad a awgrymir, wedi’i ffurfio o fudiadau cydweithredol, partneriaethau rhwng y wladwriaeth a’r gymuned, a mentrau cymunedol eraill, yn rhoi i ni weledigaeth sy’n radical ac yn bragmatig.

Gwela’r bamffled hon y cysylltiad a gollir mor aml rhwng democratiaeth ym myd gwleidyddiaeth a phwy sy’n berchen ar ein adnoddau a’n gweithleoedd. Does dim diben i ddemocratiaeth wleidyddol os y treuliem o leiaf un drydedd o’n bywydau dan unbennaeth ein meistri.

Gallai’r bamffled hon fod yn fan cychwyn ar gyfer cyfansoddiad radical Cymreig. Fe fyddwn innau’n ei dyfnhau a’i radicaleiddio, ond fe ro i’r mudiad weledigaeth gliriach nag oedd ganddo o’r blaen. Ein gwaith ni yn awr yw i fyfyrio’n ofalus ar y sefyllfa wleidyddol yr ydym ynddi, ac i adeiladu’r strategaeth a wna ein dwyn tuag at y weledigaeth hon.

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.