Wrth deithio hyd a lled Cymru i gwrdd gydag ambell ymgeisydd dyma droi at Bontypridd Cynon Merthyr i gwrdd gyda’r Annibynnwr Cymunedol Beth Winter.

“Mae grym a gwleidyddiaeth go iawn o’n cwmpas ni yn ein cymunedau, a mae angen i ni eu harneisio a meithrin mudiad sosialaidd lawr gwlad, gyda’r gymuned yn arwain newid er gwell. Mae’r hadau eisoes wedi’u hau o’n cwmpas.”
U: Ble wyt ti’n sefyll ac beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i ti, ac sut mae’r etholaethau newydd yn cyflwyno her?
BW: Rwy’n sefyll fel ymgeisydd Annibynnol yn etholaeth Pontypridd, Cynon a Merthyr (PCM). Mae fy nghalon a’m henaid yn gorwedd yn y cymoedd hyn. Dyma fy nghartref – cefais fy magu yma, rwy’n dal i fyw yma gyda fy nheulu. Mae gan y cymoedd yma hanes hynod i fod yn falch ohono – ar flaen y gad ym mrwydr y dosbarth gweithiol – ac rwy’n credu’n gryf bod y dyfodol yna inni i’w ennill. Mae heriau, serch hynny, oherwydd maint yr etholaeth newydd a’r system bleidleisio sy’n annheg ac mewn peryg o ddifreinio ac amddifadu hyd yn oed mwy o bobl. Dyma fwy o reswm eto i gael sosialiaid fel fi yn y Senedd i sichrau llais cryf i’n cymoedd.
U: Pa fath o wleidyddiaeth rydych chi wedi cyfrannu ati – boed fel rhan o blaid neu fel arall – ac oes unrhyw gyflawniadau penodol rydych chi’n falch ohonynt?
BW: Mae gwleidyddiaeth yn fy ngwaed ac rydw i wedi bod yn weithgar drwy gydol fy mywyd – o’r mudiadau gwrth-apartheid a heddwch fel plentyn, i wrthwynebu ffioedd dysgu fel myfyriwr, cefnogi llawer o ymgyrchoedd lleol ar lawr gwlad fel oedolyn yn erbyn toriadau llymder, ac yn rhyngwladol fel cefnogwr hirhoedlog o Balesteina. Dim ond yn 2016 ymunais â’r Blaid Lafur ac wedi hynny cefais y fraint o gael fy ethol yn AS dros fy nghartref, Cwm Cynon, ar faniffesto sosialaidd. Cyflawniadau? Rydw i bob amser wedi hyrwyddo ein cymoedd, wedi sefyll ochr yn ochr â phobl ac wedi annog er budd pawb, ac nid wyf erioed wedi cyfaddawdu ar fy egwyddorion sosialaidd.
U: I ba ysgol aethoch chi? Oedd unrhyw wersi bywyd o’r profiad rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?
BW: Es i ysgol gynradd yn Aberdâr ac ysgol uwchradd yn Rhydyfelin, y ddwy yn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rwyf wedi bod mor ffodus yn tyfu i fyny yn y cymoedd ac mewn teulu gwleidyddol, oherwydd ei fod wedi meithrin gwerthoedd ac egwyddorion cryf ynof – parch, goddefgarwch, bod yn gynhwysol, peidio â barnu, parodrwydd i wrando a dysgu, bod yn onest ac yn gywir bob amser, magu’r gallu i gerdded yn esgidiau eraill – sydd wedi bod yna sail i bopeth rwy’n ei wneud mewn gwleidyddiaeth a thu hwnt.
U: Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi o bwys sydd wedi’ch llunio? Profiadau/Mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?
BW: Rwyf wedi bod yn hynod ffodus i fod mewn sefyllfa i ddilyn fy niddordebau – astudio tai, tlodi ac anghydraddoldeb i lefel PhD a gallu ceisio gweithredu’r hyn a ddysgais trwy gael gyrfa mewn gwaith cymunedol, tai ac undebau llafur, a bod yn weithgar yn wleidyddol bob amser. Ac mae hyn wedi fy nysgu bod grym a gwleidyddiaeth go iawn o’n cwmpas ni yn ein cymunedau, a bod angen i ni eu harneisio a meithrin mudiad sosialaidd lawr gwlad, gyda’r gymuned yn arwain newid er gwell. Mae’r hadau eisoes wedi’u hau o’n cwmpas.
U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os gewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?
BW: Mae’r system wleidyddol bresennol wedi torri – mae pobl wedi colli pob ymddiriedaeth ac wedi’u dadrithio. Rhaid inni droi gwleidyddiaeth ar ei phen, edrych tuag allan, a gosod grym yn y mannau cywir a lle mae’r atebion yn bodoli – yn ein cymunedau. Byddaf yn llais cryf dros ein cymoedd yn y Senedd a byddaf yn herio’n gryf unrhyw barhad o dincran di-sylwedd gyda’r system. Byddaf yn dadlau dros newid systemig gyda 3 blaenoriaeth sef – gwrthwynebu toriadau, hyrwyddo adeiladu cyfoeth cymunedol a byddaf yn rhannu cyflog yr AS gyda’r cymoedd i helpu adeiladu o’r gwaelod i fyny.
U: Fel ymgeisydd Annibynnol, beth yn fras yw eich barn ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?
BW: Byddaf bob amser yn dadlau dros ailddosbarthu cyfoeth a phŵer i’r cenhedloedd, rhanbarthau a chymunedau. O ran annibyniaeth Cymru, pe bai refferendwm yfory, yna mwy na thebyg byddwn yn pleidleisio drosto, ond nid fel diben ynddo’i hun. Rhaid iddo fod yn rhan o’n llwybr i wireddu sosialaeth. Yn y pen draw, fodd bynnag, pobl Cymru sydd i benderfynu…
U: A phan nad ydych chi wrthi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?
BW: Treulio amser gyda fy nheulu – rydym yn deulu agos iawn ac mae ein tri phlentyn yn ein cadw ni’n brysur! Rwyf wedi derbyn fy mod yn ôl pob tebyg yn workaholic ac yn ei chael hi’n anodd switsio bant, ond pan fyddaf yn gwneud hynny, rwy’n dwlu ar fynd i wyliau cerddoriaeth, darllen (The Fraud gan Paul Holden ar hyn o bryd!), treulio amser gyda ffrindiau a llawer o gerdded gyda’n ci o amgylch ein cymoedd hardd. Dyma wir y lle gorau i fyw!
