Yn ein gwibdaith o gwmpas Cymru i siarad gydag ambell ymgeisydd, trown am y gogledd y tro hwn, i gwrdd gyda Beca Brown.

“Roedd gweithio fel cynhyrchydd yn gyfnod dylanwadol gan ofyn meithrin perthynas efo pobl o bob math ac ennill eu hymddiriedaeth. Dysgais rhoi llais i’r rhai a oedd yn aml yn teimlo wedi eu hanghofio.”

U: Ble rydych chi’n sefyll a beth mae’r lle hwnnw’n ei olygu i chi, a sut mae’r etholaethau newydd yn cyflwyno her?

BB: Dwi’n ymgeisydd yn etholaeth anferth Gwynedd Maldwyn – ac yn falch iawn o hynny, gan fod llawer o’i chymunedau wedi cynnig cyfleoedd a phrofiadau amhrisiadwy i mi. Ges i fy magu yn Ardudwy cyn symud i Arfon, a fel plentyn i rieni a fudodd yma o Loegr, bu’r ardaloedd rheiny’n gryn ddylanwad ar daith ein teulu ni tuag at Gymreictod a’r Gymraeg.

Ydy, mae’n etholaeth fawr. Ond un o bleserau mwyaf yr ymgyrch yma oedd gallu teithio ar hyd a lled yr ardal gan ailgynefino â rhai ardaloedd, a dod i adnabod eraill am y tro cyntaf. Dwi’n edrych ymlaen at yr her – a’r fraint – o gael codi llais dros gymunedau mor arbennig, os byddaf yn ddigon ffodus i gael gwneud hynny.

U: Ym mha ffordd rydych chi wedi bod yn rhan o wleidyddiaeth – pleidiol neu fel arall – ac unrhyw gyflawniadau arbennig rydych chi’n falch ohonynt?

BB: Mae gwleidyddiaeth a chyfiawnder cymdeithasol wedi bod o ddiddordeb mawr imi ers canol fy arddegau. Mi wnes i ymuno efo Cymdeithas yr Iaith pan ro’n i tua 15 oed, ble wnes i ddysgu am y mudiad iaith wrth gwrs, ond hefyd am y mudiad heddwch ac am heriau a brwydrau pobl a diwylliannau ar draws y byd. 

Pan roeddwn i ar fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol mi wnes i weithredu’n uniongyrchol gyda’r Gymdeithas fel rhan o’u hymgyrch dros addysg Gymraeg. Mi wnes i a fy nghyfaill Olwen dreulio pythefnos dan glo o ganlyniad i hynny, ac roedd bod mewn carchar merched yn 21 oed yn agoriad llygad go iawn. 

Yn ystod y cyfnod yna sylweddolais pa mor erchyll o heriol ydi bywydau’r rhai sydd ar waelod y doman gymdeithasol, a sut mae profiadau niweidiol cynnar yn gallu bwrw cysgod gydol oes dros ferched sydd wedi dioddef trawma a chamdriniaeth. Dwi’n cyfri’r bythefnos yna yng ngharchar Pucklechurch, Bryste, yn un sydd wedi ffurfio llawer o fy ngwerthoedd craidd o ran sut y dylem, fel pobl, ymdrin â’n gilydd.

Yn naturiol roedd gofyn osgoi unrhyw weithgarwch pleidiol tra’n gweithio fel newyddiadurwraig i’r Western Mail ac yna i HTV Cymru, ond wedi hynny ymunais efo Plaid Cymru, a chael fy ethol yn gynghorydd sir bum mlynedd yn ôl. Mae gwirfoddoli bob wythnos gyda’r cynllun bwyd lleol wedi dod â’r argyfwng costau byw yn fyw imi, ac mae’n fy ngwylltio bod cyfraddau tlodi plant mor uchel yma yng Nghymru.

Yn ystod y pandemig wnes i fabwysiadu cyn-filgi rasio, a dod i ddysgu am erchyllterau creulon y diwydiant hwnnw. Arweiniodd hynny at fod yn ran o dîm Achub Milgwn Cymru sydd wedi ymgyrchu’n llwyddiannus dros wahardd rasio milgwn yng Nghymru. 

Mae gweld y diniwed a’r bregus – waeth pwy neu beth ydyn nhw – yn cael eu hecsploetio er budd eraill, yn codi pwys arna’i. 

U: Ble’r aethoch chi i’r ysgol? Unrhyw wersi bywyd rydych chi’n teimlo sy’n bwysig mewn gwleidyddiaeth?

Ro’n i’n ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Ardudwy ac yna yn Ysgol Syr Huw Owen, Caernarfon. Roedd ymgyrchu yn rhan bwysig o ‘nghyfnod i yn yr ysgol uwchradd, a dwi’n siwr ‘mod i’n dipyn o niwsans! Chwaraeais rhan flaenllaw yn yr ymgyrch lwyddiannus dros ennill yr hawl i ferched gael gwisgo trowsus i’r ysgol, ac roedd gweld neu brofi anghyfiawnder yn dueddol o fy nhanio. Mae’n bosib nad o’n i’n arbennig o dda am ddewis fy mrwydrau bryd hynny, ond dwi wedi gwella yn hynny o beth wrth fynd yn hŷn! Rhaid blaenoriaethu os am gyflawni…

BB: Beth am eich bywyd y tu allan i wleidyddiaeth, unrhyw brofiadau neu swyddi mawr sydd wedi’ch llunio? Profiadau/mewnwelediad neu arbenigedd sydd o gymorth mawr ichi?

U: Roedd gweithio fel newyddiadurwraig ac yna fel cynhyrchydd rhaglenni dogfen yn gyfnod dylanwadol a phwysig, oherwydd bod gofyn meithrin perthynas efo pobl o bob math, ac ennill eu hymddiriedaeth. Dysgais i wrando, gwerthfawrogi a gweithredu, a rhoi llais i’r rhai a oedd yn aml yn teimlo wedi eu hanghofio. Roedd llawer o’r rhaglenni cynhyrchais i yn ymwneud â materion fel tlodi, anabledd, iechyd a chyfiawnder cymdeithasol, ac ro’n i’n trio codi cwr y llen ar fywydau’r bobl rheiny sydd yn aml yn anweledig. 

Roedd fy nghyfnod ar gabinet Cyngor Gwynedd yn un hynod o ffurfiannol, gan imi edrych ar ôl y portffolio Addysg yn ystod amser digynsail o gythryblus ac anodd. Daeth fy nghyfnod ar y cabinet i ben yn gynt na’r bwriad gan i mi a thri o ‘nghyd-weithwyr gamu i lawr ar fater o egwyddor a oedd yn ymwneud ag achos y troseddwr rhyw, Neil Foden. Mi wnes i ddysgu pwy ydw i yn ystod y cyfnod yna.

U: Beth sydd bwysicaf am wleidyddiaeth yn eich barn chi, ac os cewch chi eich ethol beth fydd eich blaenoriaeth?

BB: Petawn i’n ddigon ffodus i gael fy ethol i’r Senedd mi fyddwn i’n mynd gyda mi yr holl hanesion, straeon a phrofiadau mae gwahanol bobl wedi eu rhannu gyda mi dros y blynyddoedd wrth imi gyflawni fy ngwahanol rolau. Merched Pucklechurch; hogia’ Sgubor Goch; teuluoedd Tŷ Gobaith, a phawb dwi wedi bod yn ddigon breintiedig i ddod ar eu traws nhw wrth fy ngwaith fel cynghorydd sir. Fy mlaenoriaeth fyddai ceisio creu newid go iawn, o sylwedd, i’r bobl rheiny – ac i bawb sydd wedi aros mor hir am rywbeth gwell.

U: Fel ymgeisydd Plaid beth yw eich barn yn fras ar annibyniaeth i Gymru, sut y dylid mynd ati, sut mae’n ymwneud â blaenoriaethau eraill ac ati?

BB: Mae annibyniaeth yn beth normal ar draws bedwar ban byd, ond mae’n rhaid wrth hunan-hyder a hunan-gred i’w gyrraedd. Helpu adeiladu’r ffydd a’r gobaith hwnnw ydi’n gwaith ni fel gwleidyddion – ar y cyd gydag unrhywun sy’n chwilfrydig am yr hyn all Cymru fod.

U: A phan nad ydych chi’n gwleidydda ble byddem ni’n dod o hyd i chi, a beth byddech chi’n debyg o fod yn gwneud?

BB: Ar hyd llwybrau Llanrug yn cerdded y ci tra’n gwrando ar bodlediad, neu yn mwydro efo ‘mhlant, sef fy hoff bobl yn y byd i gyd.

Gadael sylw

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.