English | català

Undod / sefyll gyda Catalunya

Ddoe daeth dyfarniad hir-ddisgwyledig Goruchaf Lys Sbaen yn erbyn naw garcharor gwleidyddol o Gatalunya ar gyhuddiadau yn cynnwys ‘gwrthryfel’ ac ‘annog brad’, mewn cyswllt a refferendwm Hydref 1af 2017 ar annibyniaeth i Gatalunya. ‘Roedd pob un yn wleidyddion amlwg neu’n arweinwyddion diwylliannol a bu Catalunya yn disgwyl yn bryderus am y dedfrydau llym disgwyledig ers iddyn nhw gael eu harestio a’r carchariad a ddechreuodd gyda’r ddau Jordi ar Hydref 16eg ddwy flynedd faith yn ol.

Drwy gydol y cyfnod carcharu ac achos llys mae cymunedau, trefi a dinasoedd ledled Catalunya wedi ymgyrchu’n ddibaid i gefnogi’r carcharorion ac i fynnu eu rhyddid, ac ymhellach fod gwladwriaeth Sbaen yn parchu eu hawl i hunanbenderfyniad o dan gyfraith Ewropeaidd, Rhyngwladol a Sbaenaidd.

Mae ymddygiad yr Uchel Lys a’r sustem gyfiawnder, yr awdurdodau sy’n erlyn a’r llywodraethau ym Madrid, gynt y PP a bellach PSOE, wrth ymdrin a dymuniadau democrataidd pobl Catalunya wedi eu condemnio’n eang gan gyfreithyddion a seneddwyr ledled Ewrop a’r byd.

Fodd bynnag yr hyn sy’n drawiadol drwy ei absenoldeb yw unrhyw feirniadaeth o wladwriaeth Sbaen gan sefydliadau a llywodraeth yr Undeb Ewropeiadd nac unrhyw un o’r gwledydd sy’n aelodau. A mae’r esgeulustod hwn gan yr UE ar waethaf gweithredoedd barnwriaeth a llywodraeth Sbaen yn groes i gyfreithiau yr UE a’r gwladwriaethau sy’n aelodau.

Os mai dymuniad gwladwriaeth Sbaen oedd annog symudiad dros annibyniaeth yng Nghatalunya ni fedrent wneud dim gwell nag a wnaethant. Datblygodd symudiad oedd at ei gilydd yn fodlon efo cytundeb ‘devo-max’ efo Madrid mor ddiweddar a 2012, i fod yn un am annibyniaeth lwyr erbyn hyn. Daeth y wladwriaeth ormesol oedd eisoes yn amlwg i Gataluniaid yn amlwg i’r byd amser y refferendwm ar Hydref 1af 2017 pan welwyd heddlu militaraidd Madrid, y Guardia Civil, yn pastynu hen ac ifanc yn giaidd am y drosedd ‘derfysgol’ o roi tameidiau o bapur mewn blychau pleidleisio.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, er fod gwrthdystiadau blynyddol anferth o lawer mwy na miliwn o bobl, cyfarfodydd a phrotestiadau ar draws y wlad yn ddyddiol ac wythnosol a fod llif parhaol o gondemnio ar weithredoedd gormesol gwladwriaeth Sbaen wedi parhau’n ddibaid, fodd bynnag, bu mantell o hunanymatal dros y cyfan yn ystod y cyfnod. A mae’r eglurhad yn amlwg – ‘roedd gan y Cataluniaid naw carcharor gwleidyddol yn y ddalfa yn disgwyl dedfryd gan sustem gyfreithiol sy’n llygredig yn wleidyddol, ac a oedd yn glafoerio i ddial ar unrhyw un efo’r hyfdra i roi sialens i undod gwleidyddol Sbaen. Tan y funud hon cafwyd hunanreolaeth eithriadol gan y Cataluniaid rhag ofn i bethau fod yn waeth i’w merthyron gwleidyddol.

Ddoe daeth y dedfrydau, rhwng 9 a 13 mlynedd am ‘annog brad‘. I lygaid unoliaethwyr Sbaen mae annog hunan-benderfyniad yn ddim llai nag annog brad. Os hyn fyddai cyfraith Ryngwladol ac Ewropeaidd, byddai carchardai yr Alban a Phrydain yn golifo ers hydoedd efo independistas.

Heb fychanu mewn unrhyw fodd y gwrthsefyll godidog ar lawr gwlad i ormes Madrid a welsom dros y ddwy flynedd olaf, mae’n ddigon posib mai megis rhagflas oedd hyn ar gyfer y prif ddigwyddiad – ymgyrch hunan-ddisgybledig a di-drais a fydd yn dwysau nes y bydd pob carcharor gwleidyddol yn rhydd a bod Catlaunya yn wladwriaeth rydd. Dim mwy a dim llai.

Ddoe gwelsom feddiannu Maes Awyr Barcelona, cyfarfodydd ar draws y wlad a phobl ifanc a hen ac o bob oed yn y canol, ar eu taith tua rhyddid. Dim mwy a dim llai.

Mae symudiad o anufudd-dod sifil o’r fath yn haeddu ein cefnogaeth er eu mwyn nhw ac er ein mwyn ninnau i gyd. Dim mwy a dim llai.

Cambro-Catalan Solidarity ar Twitter a Facebook

Llun gan Marta Pastor


La desobediència civil esclata a Catalunya

Undod / Solidaritat amb Catalunya

Ahir el Tribunal Suprem espanyol va dictar definitivament el veredicte contra els nou presoners polítics catalans on se’ls acusava de “rebel·lió” i de “sedició” entre altres delictes associats a la realització del referèndum per la independència de Catalunya de l’1 d’octubre del 2017. Tots són destacats polítics o líders culturals i Catalunya esperava amb ànsia les dures sentències des que van començar les detencions dels dos Jordis el 16 d’octubre de fa dos anys.

Durant tot el període de detenció i judici, els pobles i ciutats de tot Catalunya han mantingut una ferma i constant campanya de solidaritat amb els presos tot exigint la seva llibertat i exigint encara més que l’Estat espanyol faci honor al dret democràtic d’autodeterminació en virtut de les lleis europees, internacionals i espanyoles.

La manera de fer del Tribunal Suprem, del sistema judicial sencer, de les fiscalies i de l’antic govern del PP, i ara socialistes, a Madrid pel que fa als desitjos democràtics del poble català han estat àmpliament condemnats per juristes i parlamentaris d’arreu d’Europa i del món.

Amb tot això, es palesa notablement l’absència de crítica a l’Estat espanyol de cap de les institucions i del govern de la Unió Europea o de qualsevol dels seus membres constituents. Es tracta d’una negligència, perquè les accions del poder judicial i del govern espanyol són contraries a les lleis de la UE i els seus estats membres.

Ara bé. Si el propi Estat espanyol hagués volgut provocar un moviment independentista a Catalunya no ho hauria pogut fer millor del que ho han fet. El que era un moviment principalment contingut que acceptava l’equivalent a un acord de devolució “devo-max” amb Madrid, a partir del 2012 es va convertir en un sentiment inqüestionable d’independència. Un estat repressiu, que ja era vist així pels catalans, també es va mostrar d’aquesta manera a la resta del món quan pel referèndum de l’1-O del 2017, la policia militar -Guardia Civil- de Madrid, va maltractar a joves i grans pel delicte “terrorista” de posar butlletes a les urnes.

Durant els darrers dos anys, tot i que les manifestacions multitudinàries anuals de més d’un milió de persones; les trobades i protestes per tota la nació cada dia i setmanalment; i un flux continuat de denúncies de les accions repressives de l’estat espanyol. Malgrat això, però, els ciutadans s’han reprimit, auto-reprimit al llarg d’aquest període. L’explicació és ben senzilla: els catalans tenien nou presos polítics a la presó a l’espera de la sentència d’un sistema judicial políticament corrupte obligat a venjar-se de qualsevol persona que s’atrevís a desafiar la unió política espanyola. És per això que, fins al moment, els catalans han exercit un autocontrol excepcional per no empitjorar la situació dels seus màrtirs polítics.

Ahir es van pronunciar les sentències, condemnes d’entre els 9 i els 13 anys per “sedició”. Pels ulls unionistes espanyols, promoure l’autodeterminació és “sedició”, ni més ni menys. Si aquesta fos la llei internacional i europea, les presons escoceses i britàniques ja fa temps que s’havien desbordat d’independentistes.

Si tenim en compte la magnífica resistència a la repressió de Madrid que hem vist durant els últims dos anys, ara resultarà que pels catals allò no ha estat més que un escalfament i entrenament del que vindrà: el gran esdeveniment final. Una autodisciplina i la lluita no violenta que s’intensificarà fins que cada pres polític sigui lliure i Catalunya sigui un estat independent. Ni més ni menys.

Ahir vam veure l’ocupació de l’aeroport de Barcelona, manifestacions arreu del país i un poble de joves i grans en marxa per la llibertat. Ni més ni menys.

Com a moviment de desobediència civil mereix el nostre suport i la nostra consideració. Ni més ni menys.

Cyfieithiad: Jaume Puig García

post@undod.cymru

Nid yw popeth yn yr erthyglau yma o reidrwydd yn cyfleu safbwyntiau Undod fel mudiad. Rydym wedi dewis cyhoeddi amrywiaeth o eitemau gan bobl sy'n cydfynd â'n hegwyddorion fel mudiad er mwyn ysbrydoli a sbarduno sgwrs.