Dan Newman a Roxanna Dehaghani
Mae system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn ddeilchion, yn ôl yr awdur nodedig Secret Barrister. Mae degawdau o ddiffyg ariannu, a waethygwyd gan lymder llywodraeth y DU ers 2010, wedi llethu’r system gan greu bygythiad mawr i fynediad at gyfiawnder.
Hyd yma, mae’r ddadl am broblemau cyfiawnder troseddol wedi tueddu i ganolbwyntio ar Gymru a Lloegr fel awdurdodaeth, heb fawr o ffocws penodol ar Gymru – boed hynny’n gwestiwn ynghylch a yw’r system cyfiawnder troseddol wedi’i chwalu yn y wlad hon, sut, neu i ba raddau. Mae ysgolheictod academaidd ar gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr yn tueddu i ganolbwyntio ar Loegr, a phrin fu’r ymchwil i effaith difrïo’r system cyfiawnder troseddol gan Lywodraethau’r DG ar Gymru.
Mae’r Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru wedi argymell sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru, gyda phwerau cyfiawnder troseddol i’w datganoli cyn gynted â phosibl. Efallai fydd gan Gymru ei sefydliadau cyfiawnder troseddol ei hun am y tro cyntaf ers 500 mlynedd, ac felly mae angen dybryd i ddeall gweithrediad cyfiawnder troseddol yng Nghymru, y materion o bwys, a’r heriau.
Fodd bynnag, yn aml ychydig iawn sy’n hysbys am ddatblygiadau ar lefel Gymreig: fel y mae Robert Jones wedi’i amlygu yn ei ffeiliau ffeithiau ar bynciau cyfiawnder troseddol megis dedfrydu a charcharu, nid yw’r rhan fwyaf o’r data a gyflwynir yn cael eu gwahanu, a gall fod yn anodd os nad amhosib mewn cyhoeddiadau swyddogol i ddod o hyd i ystadegau sydd wedi datgrynhoi, gan guddio’r heriau penodol yng Nghymru. Er bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi cydnabod gwerth casglu data ‘Cymreig yn unig’, gan addo ei gwneud yn haws cyrraedd eu gwefan, mae mynediad yn parhau i fod yn wael, ac yn aml dim ond drwy gais Rhyddid Gwybodaeth y ceir y data wedi’i ddatgrynhoi a gedwir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Un agwedd ar gyfiawnder troseddol y mae angen ei deall yng nghyd-destun Cymru yw cymorth cyfreithiol. Hwn yw’r hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol a ariennir gan y wladwriaeth, sydd ar gael ar gyfer gorsafoedd heddlu a, gan ddibynnu ar brawf moddion a natur y trosedd, yn y llysoedd yn ogystal.
Yn ystod cyfnod llymder y DU, torrwyd cymorth cyfreithiol o 8.75% o dan y glymblaid (ar ôl cael ei dorri gan 12% i bob pwrpas o dan Lafur Newydd); gostyngodd cyllideb gyffredinol y Weinyddiaeth Gyfiawnder 29%, y toriad mwyaf i unrhyw adran yn Whitehall. Mae toriadau o’r fath yn tanseilio mynediad at gyfiawnder gan fod mynediad o’r fath yn dibynnu’n gyffredinol ar argaeledd cyfreithwyr amddiffyn troseddol, a ariennir gan gymorth cyfreithiol i helpu diffynyddion a’r sawl sydd dan amheuaeth deall system ddryslyd, elyniaethus, mewn sefyllfa lle mae gan y wladwriaeth yr oruchafiaeth.
Er bod toriadau i gymorth cyfreithiol troseddol dan lymder wedi effeithio’n negyddol ar Gymru a Lloegr, mae effaith y toriadau wedi bod yn fwy amlwg ar Gymru nag yn Lloegr. Dangosodd y Comisiwn fod cyfanswm y gwariant ar gymorth cyfreithiol troseddol ledled Cymru a Lloegr fel awdurdodaeth wedi gostwng £ £1,045 miliwn yn 2011-12 i £873 miliwn yn 2018-19 tra, i Gymru yn y cyfnod 2011-12 i 2018-19, gostyngodd o £48.44 miliwn i £36.10 miliwn.
Felly, er bod yr holl awdurdodaeth yn wynebu gostyngiad mewn termau go iawn o bron i 26%, gwelodd Cymru ostyngiad mwy yn nhermau go iawn, sef bron i 34%. Gall y dirywiad ymysg cwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol bod yn bwnc lle gellid colli golwg ar Gymru ymhlith set ddata swyddogol llywodraeth y DU sy’n cael ei dominyddu gan Loegr.
Gellir gweld hyn yn y tabl isod, a gynhyrchwyd drwy Gwestiynau Ysgrifenedig i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn 2019. Mae’n dangos y dirywiad ledled Cymru a Lloegr ac fe’i defnyddiwyd yn helaeth mewn trafodaethau ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch effaith toriadau ar gymorth cyfreithiol troseddol.
2010/11 | 2011/12 | 2012/13 | 2013/14 | 2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | |
Cwmnïau | 1,861 | 1722 | 1656 | 1603 | 1517 | 1512 | 1388 | 1314 | 1271 |
Swyddfeydd | 2598 | 2415 | 2338 | 2282 | 2172 | 2240 | 1991 | 1998 | 1921 |
Mae’r ffigurau yn rhai ddramatig ac yn dangos y broblem i Gymru a Lloegr, ond nid ydynt yn rhoi unrhyw syniad o’r sefyllfa yng Nghymru – sy’n cael ei thraflyncu dan y partner llawer mwy yn yr awdurdodaeth unedol. Mewn gwrthgyferbyniad, mae’r tabl canlynol yn darparu’r wybodaeth ar gyfer Cymru yn unig yn seiliedig ar gais Rhyddid Gwybodaeth a wnaethom i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.
2010/11 | 2011/12 | 2012/13 | 2013/14 | 2014/15 | 2015/16 | 2016/17 | 2017/18 | 2018/19 | |
Cwmnïau | 146 | 140 | 137 | 132 | 122 | 109 | 105 | 94 | 89 |
Swyddfeydd | 186 | 183 | 181 | 176 | 165 | 150 | 145 | 131 | 126 |
O’i gymharu, gellir gweld gostyngiad o 31.7% mewn cwmnïau cymorth cyfreithiol troseddol ledled Cymru a Lloegr ond roedd y gostyngiad bron 8% yn uwch (ar 39.04%) yng Nghymru. At hynny, roedd y gostyngiad mewn swyddfeydd yn uwch yng Nghymru o’i gymharu â Chymru a Lloegr – 26.06% ledled yr awdurdodaeth o’i gymharu â 32.36% yng Nghymru.
O ganlyniad, ar gyfer Cymru a Lloegr gyda chyfanswm poblogaeth o 59.12 miliwn, mae yna 30.78 o swyddfeydd troseddol y pen o’r boblogaeth. Mae gan Gymru lai, gyda’r 3.14 miliwn o boblogaeth yn rhannu 24.9 swyddfa y pen o’r boblogaeth.
O gynnig barn ar sail mynediad at gyfreithwyr, mae’n ymddangos bod yr argyfwng o ran mynediad at gyfiawnder troseddol yn amlycach yn hanner Cymru o awdurdodaeth Cymru a Lloegr.
Rydym yn archwilio’r goblygiadau yn ein papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Legal Studies – ac, yn ddiweddarach eleni, byddwn yn ystyried y pwnc yn helaeth mewn llyfr gyda Gwasg Prifysgol Bryste.
Awgrymwn y dylid cynnal ymchwil pellach yng Nghymru hefyd i ystyried sut mae ein cymunedau’n profi’r system gyfiawnder, yr hyn y gellir ei wneud yn wahanol, a’r hyn y gellir ei wneud yn well. Heb ddwysystyried a chraffu ar y ran llai – ond nid llai pwysig – o awdurdodaeth Cymru a Lloegr, mae cynhyrchiad gwybodaeth, trafodaeth, a dadlau yn cael eu llethu.