Mae annibyniaeth Cymru yn gyfle i ailfeddwl popeth. Yn ei araith a gafodd ganmoliaeth eang, galwodd Eddie Butler annibyniaeth yn gynfas wag yn yr orymdaith ym Merthyr Tudful. Heb os, refferendwm fydd y modd y deuwn yn annibynnol ond ni ddylem adael i’n gweledigaeth gael ei chyfyngu gan y gorwel hwnnw.
Ar ôl yr orymdaith, trefnodd Undod ddigwyddiad anffurfiol ar annibyniaeth radical. Fe gawsom rai cyfraniadau agoriadol er mwyn chychwyn y sgwrs ond bwriad y digwyddiad oedd cymryd ychydig o gyffro’r orymdaith a’i sianelu i feddwl yn wirioneddol radical. Roedd yr ystafell dan ei sang – bron mor dynn â’r trenau i Ferthyr yn gynharach y diwrnod hwnnw!
Trafodwyd llawer o bethau, o drefnu cymunedol yng ngogledd Cymru i gydffederaliaeth ddemocrataidd gogledd-ddwyrain Syria. Buom yn trafod lle mae’r pŵer dros Gymru a lle y gallai orwedd. Byddai annibyniaeth yn sicr yn dod â phŵer yn ôl o Lundain ond a allwn ni ddisgwyl bod yn llawer gwell ein byd pe baem yn syml yn ei adleoli i Gaerdydd?
Dadleua rhai pobl y dylid symud calon pŵer gwleidyddol yng Nghymru i rywle mwy canolog, efallai Aberystwyth neu Machynlleth. Ond a oes angen prifddinas ar Gymru hyd yn oed? Cyflwynwyd y cwestiwn syml hwn gan Elin Hywel a oedd newydd gyflwyno crynodeb gwych o waith Cwmni Bro Ffestiniog a’i berthnasedd i’r symudiad annibyniaeth. Mae pobl Blaenau Ffestiniog yn gwybod mwy na’r mwyafrif sut brofiad yw cael eich anghofio gan brifddinas – boed hynny yn Llundain neu Gaerdydd.
Rydyn ni wedi ein cloi i mewn i rai ffyrdd o feddwl am yr hyn y mae’n rhaid i wlad, cenedl, gwladwriaeth fod. Gall ein dychymyg, hyd yn oed o fewn symudiad sydd mor fygythiol i’r status quo â’n un ni, gael ei gyfyngu’n hawdd gan y gorwelion hyn. Mae gwleidyddiaeth ryngwladol yn rhoi rhai ffactorau cyfyngol ond o fewn ffiniau Cymru byddwn yn creu ein dychymyg, a rhoi iddo’r gallu i redeg yn wyllt.
Mae prifddinas yn ganolbwynt grym. Fel arfer, dyna le mae Senedd y wlad yn cwrdd. Mae’n tueddu bod dinas bwysicaf yn economaidd y wlad ac yn debygol o fod yn arglwyddiaethu’n ddiwylliannol.
Yn aml, dyna le mae’r prifysgolion gorau, lle mae’r sefydliadau newyddiadurol mwyaf dylanwadol, ac yn lle mae’r melinau trafod yn mynd ar gyfer cyfalaf deallusol. Yn y brifddinas yw lle mae llawer o’r arian.
Ac mewn gwledydd lle nid y brifddinas yw’r ddinas gyfoethocaf neu’r mwyaf, megis Twrci neu Awstralia, yn aml, y brifddinas yw’r ardal bwysicaf o ran bywyd gwleidyddol y wlad. Pan ddarllenwn am wlad, yn aml, cyfeirir ati wrth sôn am enw’r brifddinas yn unig: “Mae tensiynau ar gynnydd rhwng Tehran a Washington”, “Mae Moscow yn parhau i swyno Istanbul”.
Nid yw prifddinasoedd wastad wedi bodoli ac nid oes gennym yr un rheswm i gredu y byddant yn bodoli am byth. (Mae cenedl-wladwriaethau yn gysyniad rhyfedd o ystyried darlun ehangach). Roedd gan rai o’r ymerodraethau cynharaf brifddinasoedd, ond eithriadau nid y norm oedd rheiny am ran fwyaf dynoliaeth oedd yn byw bywyd llawer mwy lleol ei natur. Cyfalafiaeth a moderniaeth sy’n gwneud prifddinasoedd yn rheidrwydd ac mae’r dosbarth busnes a’r fiwrocratiaeth sy’n cyfiawnhau eu parhad.
Mae’r cwestiwn ‘a oes angen prifddinas ar Gymru?” yn un mor radical gan ei fod yn ein gorfodi i gwestiynu rhai o’n rhagdybiaethau mwyaf elfennol am beth yw cenedl. Ydyn ni eisiau Cymru lle mae grym gwleidyddol mor ddibynnol ar un ddinas? Nid ŵyr Llundain beth sydd orau i Flaenau Ffestiniog, Abertawe neu’r Rhyl – ac nid ŵyr Caerdydd chwaith. Un o’r prif gwynion sydd gan bobl am y llywodraeth yw ei bod yn bell, ynysig ac nad oes ots ganddi am anghenion a dyheadau lleol.
Beth am i ni ddefnyddio llechen lân annibyniaeth i ail-ddychmygu beth all ein democratiaeth fod a ail-osodon ni prif safle ein bywyd gwleidyddol yn ein cymunedau? Beth am sefydlu cynulliadau democrataidd ym mhob tref, pob cymuned fel prif sylfeini ein democratiaeth? Pobl sy’n byw mewn cymuned sy’n gwybod beth sydd orau i’r gymuned honno.
Nid oes rhaid i hyn olygu encilio i blwyfoldeb lleol. I’r gwrthwyneb. Drwy barchu hunanlywodraeth leol, gallwn ni gydweithio ar delerau mwy cyfartal. Mi allai cynulliadau lleol conffederaleiddio i fyny i’r lefel tref, dinas, rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn gweithio ar brosiectau isadeiledd, polisi tramor, cydlynu polisi domestig cenedlaethol a thynnu ynghyd adnoddau er mwyn gwella ardaloedd tlotach. Yn aml, cyfeirir at Gymru fel ‘cymuned o gymunedau’. Dylai ein gwleidyddiaeth adlewyrchu hynny. Mae hyd yn oed dadl i’w gwneud bod profiad canoli grym y ganrif neu ddwy ddiwethaf yn estron i fywyd gwleidyddol ehangach ein cenedl.
Mae syniadau felly yn anodd ei thrin a thrafod pan mai’r unig brofiad o wleidyddiaeth yw’r cenedl-wladwriaethau prin-eu-democratiaeth a lle mae grym wedi eu canoli sydd gennym heddiw. Mae ymdrech wedi ei wneud i gynnal democratiaethau o’r fath yng ngogledd-ddwyrain Syria a Barcelona. Mae annibyniaeth yn cynnig cyfle unigryw i geisio rhywbeth sylfaenol gwahanol, sydd wedi ei leoli ym mywydau pobl leol, nid prifddinasoedd pell i ffwrdd. Mi allai ein mudiad adeiladu ar brosiectau fel Cwmni Bro a chael eu hysbrydoli gan fudiadau democrataidd byd-eang er mwyn plannu’r hadau ar gyfer Cymru newydd ymhell cyn i ni gyrraedd y bleidlais annibyniaeth. Gallwn ni ddechrau ymddwyn yn annibynnol yn gynt nag rydym yn meddwl.
Dydw i ddim wedi penderfynu fy hun os yw’r Gymru hoffwn i weld yn y dyfodol o reidrwydd gyda phrifddinas ai peidio. Ond, mae cwestiynu rhagdybiaeth o’r math yn gyffrous ac yn angenrheidiol. Ar hyn o bryd, mwy nag erioed o’r blaen, mae angen i ni wthio ein syniadau i’r eithaf. Os gallwn ni ddatblygu gweledigaeth o Gymru annibynnol sy’n mynnu sylw, wedyn bydd yn llawer haws i frwydro drosti. A gorau oll pan enillwn ni hi. Mae’n rhaid i’r mudiad annibyniaeth fod llawer mwy na pheiriant sy’n arwain at refferendwm.
Beth am ei drio eich hun? Cwestiynwch yr hyn sy’n amhosib ei chwestiynu. Ystyriwch y cwestiynau sy’n amhosib eu cwestiynu. Dyma’r hyn sydd ei angen ar ein mudiad. Dyma’r hyn y teimlai gan gynifer ohonom yn ystod ein trafodaeth ysbrydoledig ym Merthyr ar ôl yr orymdaith. Dyma’r cyfle i feddwl o’r newydd.
Ew, mi ddaru ‘mi fwynhau darllen hyn, diolch! Cwestiynnu call ac aeddfed, a mi dwi’n hoffi’r syniad o beidio ail-greu’r un hen senario o ‘brif ddinas’ yn llyncu a hawlio pob ceiniog a sefydliad diwylliannol cenedl. Beth am i Gymru annibynol ail-gydio mewn syniad o ‘gantrefi’ efallai?