Yn ôl ym mis Hydref, yn dilyn addoediad Senedd San Steffan, cawsom gyfrif cryno a brathog o derfynau democratiaeth Prydeinig ar y blog hwn – a ddatgelodd y graddau y mae’n cwympo’n brin o’r ddelfryd, a pha mor agored yw hi i gam-driniaeth. Gydag ychydig dros wythnos i fynd tan yr Etholiad Cyffredinol, nid oes fawr o amheuaeth bellach ynghylch parodrwydd y Torïaid i nacau’r cysyniad o ddemocratiaeth o unrhyw ystyr gwirioneddol. Er bod yr etholiad blaenorol yn 2017 wedi dwyn bygythiad o ddifrod parhaol i’r Blaid Lafur, y tro hwn rhaid i’r etholwyr oll cydnabod y bygythiad o ddifrod ehangach, mwy cynhwysfawr a mwy parhaol sydd ymhlyg yn yr etholiad presennol. Y mae taer angen cydnabod bod y Torïaid yn lladd democratiaeth.
Mae modd ategu’r honiad yma trwy gyfeirio at waith diweddar Levitsky a Zeblatt yn eu llyfr, How Democracies Die, sydd, mewn ymateb i ethol Trump, yn dadlau mai erydu normau – rheolau a chonfensiynau beunyddiol gwleidyddol – sy’n achosi’r difrod mwyaf i ddiwylliant democrataidd, a’i bod yn berygl einioes. Yn benodol, ‘goddefgarwch cilyddol’ a ‘maddeugarwch sefydliadol’ (mutual tolerance and institutional forbearance) sy’n cael eu lluchio i’r neilltu gan wleidyddion fel Trump a Johnson. Dim ond mewn enw y ceir parch i’r cyfansoddiad, a’i gonfensiynau yn cael eu hanwybyddu’n gwbl agored; ymhellach, maent yn tanseilio’r arferion a’r ymrwymiadau cilyddol a fu erioed yn gynsail i ddemocratiaeth, gan wawdio eu gwrthwynebwyr yn ddidrugaredd, dangos dirmyg tuag at feirniaid, annog conspiracy theories a chwestiynu cyfreithlondeb pleidleisiau sydd yn mynd yn eu herbyn.
‘Perfidious Albion’
Mewn gwirionedd, wrth gwrs, mae’r prosesau yma wedi bod ar y gweill ym Mhrydain ers cryn amser bellach, gyda gweinyddiaeth Theresa May yn chwyrn ei beirniadaeth o’r ‘bradwyr’ a safodd yn ei ffordd, gan gwestiynu dilysrwydd Senedd San Steffan wrth ei dwyn hi i gyfrif. Fodd bynnag, er bod rhywun yn teimlo bod gan May ryw gweddillion o barch tuag at draddodiad, a rhyw synnwyr moesol (wedi’i gamgyfeirio wrth gwrs), mae Johnson yn fater arall. Mae ystyriaeth o gonfensiynau, moesoldeb a hyd yn oed y gwir yn ymddangos y tu hwnt i fusnes beunyddiol gwleidyddiaeth erbyn hyn.
Mae dirmyg tuag at normau yn Rhif 10 Downing Street wedi amlygu ei hun byth ers i Johnson preswylio yno, a phenodi Dominic Cummings – un sy’ fel pe bai’n barod i sathru dan draed unrhyw bersonau neu reolau sydd yn sefyll yn ei ffordd (yr enghraifft ddiweddaraf ohono’n gweithredu yn ol ei fympwy yw’r blog gwleidyddol a ysgrifennwyd ganddo yn ystod purdah). Roedd y bennod gyfan o addoediad y Senedd, eu hanghrediniaeth honedig yn wyneb gweithredoedd Ty’r Cyffredin, a’r agwedd llipa tuag at ddyfarniad yr Uchel Lys yn cyfleu eu difaterwch tuag at eu gwrthwynebwyr, a’r bwriad o danseilio cyfreithlondeb unrhyw benderfyniadau neu bleidlais oedd yn mynd yn eu herbyn. Yn hyn o beth, nid yw’n syndod bod dyfalu eisoes wedi bod yn y cyfryngau ynghylch y posibiliad y bydd Johnson am wyrdroi pleidlais sydd yn ei ddiorseddu fel AS.
Lefel arall
Mae’r dirmyg tuag at Corbyn a’r Blaid Lafur yn thema hirsefydlog wrth gwrs, ond mae criw Johnson wedi llwyddo ei droi i gyfeiriad lloerig braidd. Roedd y gymhariaeth o Corbyn a Stalin – i berson ag unrhyw crebwyll hanesyddol – yn chwerthinllyd ar y gorau, ond roedd y modd y bu’r Torïaid yn ei gyflwyno fel petai’n honiad difrifol yn anesmwytho rhywun. Mae hyn yn arbennig o wir o’i ystyried yng ngoleuni’r hyn sydd wedi bod fwyaf trawiadol yn ystod eu hymgyrch hyd yn hyd – sef y dirmyg tuag at eu beirniaid yn y cyfryngau, yn enwedig eu triniaeth o Channel 4. Roedd bygythiad gwbl agored i’r sianel – ar ol iddynt eilyddio Johnson am floc o ia wedi iddo wrthod cymryd rhan yn y ddadl ar newid hinsawdd – yn ymosodiad syfrdanol; dyma herio’n uniongyrchol un o’r ychydig bileri cadarn sydd yn parhau i sefyll yn y diwylliant ‘democrataidd’ drylliedig sydd ohoni.
Dim ond ymddygiad rhyfedd, ond bygythiol, Michael Gove sydd wedi rhagori ar y weithred hwn, wrth i yntau ymwneud â’r un sianel. Mae’r gaslighting yma wedi mynd â ni i lefel arall o bropaganda, gydag arlliw Orwelaidd. Yn gyntaf bu’r ymdrech warthus i ddarlunio Ciaran Jenkins yn ei holi ar y ffeithiau fel ymgais i wthio ‘persbectif asgell chwith’; pwysleisiodd Gove hyn dro ar ôl tro, fel pe bai’n ceisio goleuo’r gwyliwr diarwybod ynghylch dulliau tywyll y gwasanaeth newyddion, wedi’i gyflyrru gan ideoleg eithafol. Dilynwyd y perfformiad yma gan drip i lawr i’w stiwdios – gyda tad Johnson wrth ei gwt – ar noson y ddadl arweinyddion ar newid hinsawdd. Cyfunwyd hyn gydag ymosodiad ar Twitter yn honni mai’r sianel a’r gwleidyddion eraill oedd wedi gwrthod yr her.
Erydu’r gyhoeddfa
Cameos Gove yw’r enghreifftiau amlycaf o’r hyn a fyddai mewn unrhyw oes arall wedi cael ei ystyried yn berfformiad swrrealaidd, chwithig. Fodd bynnag, mae’r chwarae wic-wew yma bellach yn norm yn y ‘gyhoeddfa awtomataidd’ (automated public sphere), un sy’n rhedeg ar lwyfannau digidol lle mai metrigau ac elw yn teyrnasu, gan gynnig – yng ngeiriau Adrienne Russell – ‘faes chwarae i actorion drwg, a meithrinfa ar gyfer gwybodaeth wael’. Yn dyst i hyn oedd cyfweliad Nicky Morgan, a wynebodd dirmyg Piers Morgan a Susanna Reid (a chyfranwyr Gogglebox) pan geisiodd dyfalbarhau gyda’r honiad bod 50,000 o nyrsys newydd yn gallu cynnwys 19,000 a gyflogwyd eisoes yn y GIG.
Ac mae’n ymddangos bellach bod atebolrwydd cyhoeddus yn rhywbeth o’r gorffennol. Prawf diamheuol o hyn yw Prif Weinidog a all, yn ôl pob golwg, ddweud unrhyw beth y mae moen, osgoi unrhyw ddadleuon y mae’n eu dewis, a hynny heb gael ei ddwyn i gyfrif. Mor ddigalon a pheryglus yn hyn o beth fu ildio’r BBC, yn enwedig y methiant i wireddu addewid Johnson i ymddangos o flaen Andrew Neil. Ble ar y ddaear y mae’r norm Prydeinig adnabyddus o chwarae teg bellach? Yma yng Nghymru, mae’r ffaith bod Alun Cairns dal yn ymgeisydd, er gwaethaf ei gefnogaeth i ddyn a ddrylliodd achos llys o drais, yn adrodd cyfrolau damniol o’r dyfnderoedd yr ydym wedi suddo iddynt.
I’r diffeithwch
Yr hyn y mae’n rhaid i ni ei ofni, wrth gwrs, yw’r hyn sy’n dilyn os yw’r Torïaid yn ennill mwyafrif ar sail y ffasâd hwn. Mae’n anodd dychmygu na fyddant yn dehongli buddugoliaeth o’r fath megis carte blanche, i wneud beth bynnag a fynnant. Bydd bwgan y Brexit caled yn dychwelyd o’r cysgodion, a phwy a ŵyr i ble y byddwn yn mynd o fan yna. Blaen y gyllell yn unig fydd dyfnhau anghydraddoldeb. Mae’r trafodaethau gyda Trump yn ddigon i hela crid ar rywun. Efallai ei bod yn besimistaidd i dybio y bydd y casineb, y trais a’r tlodi sy’n nodweddiadol o’r gymdeithas heddiw yn dyfnhau, ond dan yr amodau, synnwyr cyffredin yw realaeth arw o’r fath.
Efallai y bydd rhai yn gweld hyn fel cyfle i gyflymu’r broses o chwalu’r DU, ond mae angen bod yn ofalus. A yw plaid Dorïaidd ddilyffethair, o dan arweinyddiaeth teyrn posib, y tu allan i’r UE, yn debygol o gynnig refferendwm arall i’r Alban, heb sôn am Ogledd Iwerddon a Chymru? Os yw llywodraeth PSOE asgell chwith yn Sbaen wedi gweithredu yn y fath modd yn erbyn Catalunya, o fewn yr UE, oni ddylem ystyried ymddygiad posibl llywodraeth Brydeinig dde caled, y tu allan i’r strwythurau trawswladol sydd wedi gweithredu fel rhwystr normadol? Gan ffansio ei hunan yn etifedd i Churchill, nid anodd yw dychmygu Johnson yn penderfynu ‘anfon y milwyr i mewn’ os yw’n gweld mantais yn hynny. Os na all ymladd rhyfel yn rhywle arall, beth am greu brwydr ar y ffrynt cartref, yn enw Prydain?
Rhaid i’r wythnos olaf o ymgyrchu adlewyrchu’r amseroedd enbyd yr ydym yn byw ynddynt, a rhaid i feddyliau’r etholwyr cael eu canolbwyntio ar y boen y byddwn yn eu hwynebu. Er na chyflawnwyd clymblaid wrth-Dorïaidd ffurfiol, mae’n rhaid i ymgyrchu lleol gofleidio realiti pleidleisio tactegol a chynnig y gobaith o sicrhau senedd grog, a fydd â photensial llawer mwy radical o safbwynt newid cadarnhaol ac adnewyddu ein gwleidyddiaeth. Ac yn y cyd-destun hwn wrth gwrs, gallai’r seddi ymylol hynny yng Nghymru fod y rhai sy’n ein gwaredu rhag y posibilrwydd o drychineb. Nid yw hyn bellach yn ymwneud â chlymblaid dros aros yn yr UE, mae’n glymblaid dros fywyd gwâr ar yr ynysoedd yma. Ar wahân i lond llaw o gyfalafwyr a’u cynffonwyr, ni fydd buddugoliaeth i blaid Dorïaidd – un sydd am ladd democratiaeth – yn dod ag unrhyw gysur i’r un ohonom.