Rhan o’r gyfres Cam nesaf Cymru
Flwyddyn yn ôl, roedd pawb yn dotio at yr ambarels lliwgar yn Stryd y Plas, nid am ei bod yn tresio bwrw, ond am ei bod yn ddiwrnod heluog, braf. Dyma’r syniad diweddaraf gan y stryd i’w gwneud yn fwy dengar. Yn wir, ar benwythnos yr Ŵyl Fwyd ar ail Sadwrn Mai, roedd mil a mwy o bobl yn mwynhau y dref fwyaf Cymreig yn y byd.
I’r sawl nad yw yn gyfarwydd â’r lle, er ei bod yn stryd ddigon cartrefol, mae ar y brif lwybr twristaidd, o Ganolfan Galeri a’r Harbwr tuag at y Castell. Falle i chi ei gweld ar bennod yr Arwisgo yng nghyfres The Crown, yn edrych yn go wahanol efo Iwnion Jacs dros y lle.
Beth sydd yn ei gwneud yn stryd mor ddengar? Y nifer uchel o siopau annibynnol mae’n debyg, a’r hyn sydd yn dda yw eu bod dan berchnogaeth leol. Tra bod strydoedd drwy Brydain gweld edwino yn y nifer o siopau, mae Stryd y Plas, Caernarfon wedi gweld cynnydd yn nifer y siopau yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Dyma stryd sy’n adleisio llwyddiannau pentrefi a threfu eraill yng Nghymru sydd wedi adeiladu ar fusnesau lleol ac ymdeimlad o berthyn, ac sy’n gosod glasbrint ar gyfer adnewyddu cymunedau hyd a lled y wlad; meddyliwch yn arbennig am lwyddiant Treorci wrth ennill cystadleuaeth stryd fawr y flwyddyn yn 2019.
Gan na allwn ymweld â’r fan ar hyn o bryd, dewch am dro rhithiol gyda mi.
Dros y ffordd i’r castell, mae tafarn Pen Deitsh, sydd efo traddodiad maith o dorri syched teithwyr, a dros y ffordd mae siop hufen ia liwgar. Bonta Deli sydd nesa, deli o safon uchel a chaffi bach i fyny’r grisiau. Dros y ffordd mae Petalau Pert sy’n siop fechan yn gyforiog efo blodau, a Tŷ Siocled drws nesaf, – nefoedd i’r rhai sydd efo dant melys (hon ‘di symud?). Dileit y crefftwyr yw’r siop wlân dros ffordd, Habadash, a lliwiau’r gwlân yn cystadlu efo’r blodau. Yna, os am rhywbeth i’w fwyta, piciwch i’r Becws, am baned neu dorth o fara. Mae siop Lotti & Wren yn siop grandiach, yn cynnig yr anrheg arbennig hwnnw y buoch yn chwilio amdano, a drws nesaf mae’r siop lyfrau orau yng Nghymru yn ôl Jon Gower ac Onllwyn – Palas Print (sydd hefyd yn gartref i swyddfa Cymdeithas yr Iaith a’r pensaer Sel Jones). Os am anrheg cwbl unigryw, ewch i Siop Manon, sy’n cynnig deunydd ‘vintage’ gwahanol, ac mae siop enwog Iard yn gwerthu tlysau Ann Catrin ac Angela Evans (a luniodd y Goron yn Eisteddfod 2019). Lluniau a werthir yn Panorama, ac erbyn i chi gael hufen ia yn Scoops, mae’n amser am rhywbeth bach i’r fwyta yn Wal. Ia, hawdd fyddai treulio bore cyfan dim ond yn crwydro Stryd y Plas. Pan mae hi’n braf, mae naws gyfandirol yn perthyn i’r stryd arbennig hon.
Effaith Covid-19
Bellach, a ninnau yng nghanol pandemig, sut mae hi ar Stryd y Plas bellach, un o’r strydoedd mwyaf poblogaidd yn nhref y Cofis?
Mae’r rhan fwyaf o’r siopau wedi sylweddoli ers stalwm na fydde yr un siop yn gallu goroesi ar ei phen ei hun, ac mae cydweithredu iach wedi bodoli ers stalwm. Mae’r argyfwng yma wedi cryfhau’r cydweithrediad hwn ymysg nifer o fusnesau’r stryd a thu hwnt.
Ar y dydd Sadwrn cyn y cau mawr, cytunodd saith busnes yn y stryd (yr enwau mewn bold) na fyddent yn agor ar y dydd Llun canlynol. Er gwaetha’r rhagofalon, y teimlad cyffredinol oedd y byddai siopau ar agor yn creu ffug synnwyr o normalrwydd. Sut felly oedd dal ati? Bu trafod mawr a oedd hi’n iawn neu’n saff i werthu ar lein, dros y ffôn neu drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Y casgliad oedd ei bod yn bwysig darparu gwasanaeth i gwsmeriaid, gan gynnwys pobl hŷn, heb anghofio’r ffaith fod cwsmeriaid eisiau cefnogi busnesau lleol sy’n rhan bwysig o’r economi leol.
O ganlyniad i’r cyd-weithio hwn, dydi pleserau Stryd y Plas heb lwyr ddiflannu. Falle na allwch gerdded ar ei hyd, ond gallwch gael gafael ar y nwyddau. Gallwch flasu danteithion Bonta Deli, neu archebu hamper hyd yn oed dros y Wê. Does dim angen dal eich dwylo mewn diflastod, archebwch lyfr o Palas Print neu wlân o Habedash. Os daw penblwydd neu ddathliad arbennig, mae Lotti & Wren a Siop Manon i gyd yn cynnig gwasanaeth ar lein, os na chawsoch gyfle i brynu planhigion, mae Petalau Pert yn gallu danfon blodau. Falle i chi fanteisio ar y Caethfyd i beintio ac addurno’r tŷ, ac eisiau llun i’w roi ar y wal – mi wnaiff Geraint Panorama wneud yn siwr y bydd yn ateb y gofyn.
O ran dosbarthu’r nwyddau, y ffordd saffaf yw eu derbyn drwy’r post. I’r sawl sy’n byw yn ddigon agos, mae’r siopau yn fodlon danfon y nwyddau. Mae gan Palas Print system dda, maent yn cludo llyfrau i bentrefi cyfagos unwaith yr wythnos, ac os oes digon o archebion, maent yn barod i ddosbarthu ar ran busnesau eraill. Arweiniodd hyn at eraill mewn strydoedd cyfagos yn dangos diddordeb mewn cydweithio. Un ohonynt yw’r siop ddi-blastig a agorodd ddiwedd llynedd – Y Glorian, ar y Maes. Gallwch gael deliferis diddorol – cofiant O.M. Edwards efo lentils, neu gopi o Barn efo hylif golchi llestri a dipyn o diwmeric! Beth fyddai eich archeb ddelfrydol chi?
Creu yr amodau i alluogi, hwyluso a chefnogi siopau
Y gobaith yw y bydd y cydweithio yn cryfhau. Mae perchnogion siopau Stryd y Plas wedi hen sylweddoli na fydd pethau yn mynd yn ôl i sut oeddent cynt. Ond fe ddaru nhw wrthod digalonni. Wrth gwrs fod bosib cael cant a mil o bethau ar Amazon, ond mae nifer cynyddol o bobl yn troi eu cefnau ar y farchnad fudr hon. Pwy gebyst sydd eisiau cefnogi cwmni sy’n camdrin eu gweithwyr?
Na, mae yna fanteision hir-dymor i gefnogi busnesau lleol. Mi gewch chi sgwrs glên ar y ffôn yn un peth, a gwasanaeth personol. Mi gewch bobl sy’n fodlon mynd yr ail filltir. Ac wedi cael danteithion Stryd y Plas ar garreg eich drws, drwy’r post, neu ymweliad personol, gallwch gysgu’n fwy dedwydd gan wybod fod y gymuned yn elwa, bod eich arian yn aros o fewn yr economi leol ac o fewn Cymru – a bod trethi’n cael eu talu yma hefyd.
Gweithred cadarnhaol yw prynu’n lleol felly – yn weithred gwleidyddol hyd yn oed. Mae gymaint a hynny’n amlwg pan fo’r Blaid Genedlaethol yn galw ar bobl i brynu cynnyrch Cymreig. Ond mae angen meddwl yn amgenach na bwyd, ac mae yna fesurau y gall sefydliadau a llywodraeth leol a chenedlaethol cymryd er mwyn cefnogi busnesau a chwsmeriaid wrth gadw pethau’n lleol.
Un mesur fyddai o gymorth mawr a hynny ydi diwygio treth busnes fel ei fod yn cael ei asesu ar sail trosiant neu elw busnes (fel rhyw treth incwm busnes). A sut bod gwerth ardrethol (mesur ar gyfer gwerth eiddo sy’n sail i drethi busnes) wedi bod yn codi er bod y stryd fawr mewn trafferthion? Mae hyn yn sicrhau bod lefel y rhent yn uchel, sydd er budd buddsoddwyr mawr yn unig. Canlyniad hyn yn y pen draw yw bod llywodraeth Cymru yn gorfod sybsideiddio y taliadau dreth (fel bod busnesau’n gallu fforddio talu’r dreth).
Mae caffael yn faes arall – un sy’n gofyn newid diwylliant ymysg ein sefydliadau gymaint a newid gan ein gwleidyddion. Un o’r meini tramgwydd amlwg fan hyn yw’r ymgyrch Sell2Wales sydd o’i hanfod yn milwrio yn erbyn amcan yr economi sylfaenol, trwy geisio denu cwmniau o du allan i gynnig am tendrau a chytundebau gan y sector cyhoeddus yng Nghymru. Ddylai cyngorau a chyrff cyhoeddus bod yn edrych i brynu’n lleol am resymau budd yr economi leol, rhanbarth a chenedlaethol.
Dameg o’r stori ehangach yw hanes siop a busnes nwyddau ag offer swyddfa sydd wedi gorfod cau ym Mangor – lle nad oedd prin dim archebion yn dod o’r cynghorau na’r brifysgol. Does dim syndod nad oes siop lyfrau ym Mangor pan nad yw’r brifysgol yn archebu unrhyw lyfrau o fusnesau yn lleol. Mae’n debyg bod pob archeb gan y llyfrgell neu ar ran darlithwyr yn cael ei osod i consortiwm, sydd wrth gwrs y tu allan i Gymru. A hyn tra bod Swyddog Caffael o’r Brifysgol yn nodi bod yn rhaid diogelu arian cyhoeddus ac o fewn dim yn nodi eu bod hefyd yn prynu o Amazon!
Ydyn, mae penderfyniadau gan reiny sydd yn arwain ein cymdeithas ac sydd yn rheoli ein sefydliadau mawrion yn allweddol wrth gynnal busnesau lleol, ledled y wlad. Ac heb newid y penderfyniadau hynny, anos o lawer fydd hi i wireddu amcanion economaidd ac amgylcheddol rydym i fod yn ymrwymiedig iddynt yma yng Nghymru. Yn sicr, pan fydd cyfle i droedio dan ambarels lliwgar Stryd y Plas unwaith eto, bydd y bobl leol yn falch iddynt wneud eu rhan i gadw’r stryd arbennig hon rhag diflannu. Cawn obeithio nawr y bydd ein harweinwyr hefyd yn gwneud eu rhan.