Mae Undod yn collfarnu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymddiried yn ein hathrawon, ac i osod graddau yn lle hynny ar sail algorithm a gymeradwywyd gan Lywodraeth Dorïaidd yn San Steffan.
Mae’r weithred hon wedi dinoethi’r anghydraddoldebau strwythurol sy’n gweithredu yn ein system addysg, ac mae wedi ategu ymhellach y rhagfarnau sy’n gweithredu yn erbyn y dosbarth gweithiol a rhannau tlotaf Cymru, a’r DU ehangach.
Rydym yn llwyr gefnogi aelodau ifanc Cwmni Bro Ffestiniog, y protestwyr yn y Senedd, a’r holl bobl ifanc hynny ledled Cymru sy’n gweithredu yn erbyn ein llywodraeth, ac rydym yn sefyll gyda nhw mewn undod.
Yng ngeiriau un o aelodau Undod, Elspeth Webb, Athro mewn Gofal Iechyd Plant ac ymgyrchydd Hawliau Plant: “Mae ein pobl ifanc wedi cael eu camarwain yn ddifriol gan y celwydd ein bod ni’n byw mewn cymdeithas sy’n seiliedig ar deilyngdod. Mae Llywodraethau olynol – yng Nghymru a San Steffan, Llafur a Cheidwadwyr – wedi beio canlyniadau gwael disgyblion tlawd ar eu “diffyg uchelgais”. Mae’r ffordd y mae’r llywodraeth wedi delio â chanlyniadau arholiadau yn ystod y pandemig wedi datgelu anonestrwydd y dull yma o feio dioddefwyr; mae’r awdurdodau yn gosod y plant yma mewn sefyllfa i fethu bob tro. ”
Mae ein plant wedi dioddef digon yn ystod y 5 mis diwethaf, ac mae’r rhai a oedd ym mlwyddyn 13 a blwyddyn 11 wedi colli allan ar gyfnod allweddol o’u bywydau. Rhaid inni beidio â’u cosbi ymhellach, a byddai unrhyw lywodraeth sydd â gronyn o gydymdeimlad a moesoldeb yn perthyn iddi yn gwneud popeth o fewn ei gallu i liniaru’r golled hon. Rydym yn galw ar y llywodraeth i wyrdroi’r penderfyniad hwn, i ofalu am ein plant, ac i ymddiried yn ein hathrawon.