Ar y cyntaf o Fehefin y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Undod y fersiwn gyntaf o’r datganiad yma mewn cydsafiad â’r sawl oedd yn mynnu cyfiawnder i George Floyd, a phawb sy’n brwydro yn erbyn hiliaeth a thrais y wladwriaeth ym mhobman.
Nodwyd gennym ar y pryd bod yr ymgeisiadau treisgar i atal y protestiadau ar draws yr Unol Daleithiau, o greulondeb di-feddwl i fwledi rwber a’r defnydd eang o chwistrell bupur, yn datgelu cymdeithas sydd wedi ei chreithio’n ddwfn gan hiliaeth wedi’i hen sefydlu. Mae’r ffaith i brotestiwr cael ei saethu’n farw o ffenest car dangos yn ogystal sut mae ymateb y wladwriaeth yn annog terfysgaeth adain-dde eithafol. Ni fyddai’r un epilog i’r stori hon yn fwy dadlennol neu symbolaidd nag ysbeilio’r Senedd gan Neo-Natsïaid a goruchafiaethwyr gwyn, a hynny’n ymddangosiadol ddi-gosb.
Ond – fel y pwysleisiwyd haf ddiwethaf – mae’n rhaid i ni herio’r syniad taw problem unigryw Americanaidd yw hon. Mae hiliaeth hefyd wedi’i gwreiddio yng nghymdeithas y Deyrnas Gyfunol, ei sefydliadau a’i hanes imperialaidd. Mae cyfalafiaeth a goruchafiaeth wen yn mynd law yn llaw. Mae’r Deyrnas Gyfunol a’r Unol Daleithiau wedi’u hadeiladu ar ganrifoedd o ecsbloetio, gormes a thrais tuag at bobl groenliw. Mae’r pandemig wedi datgelu hiliaeth sefydliadau’r wladwriaeth ymhellach. Er gwaetha’r risg anghymesur eithafol o farwolaeth i bobl ddu a lleiafrifoedd ethnig o Covid-19, mae llywodraeth y DG yn gwrthod ymchwilio i’r rhesymau dros hyn neu gymryd camau digonol i amddiffyn ein cymunedau mwyaf ymylol.
Ym mis Mehefin cyfeiriasom yn ogystal at y ffaith bod marwolaethau pobl dduon yn y ddalfa, ers nifer fawr o flynyddoedd, wedi digwydd heb ymchwiliadau na chyhuddiadau, er gwaethaf degawdau o ymgyrchu gan deuluoedd. Yma yng Nghymru, mae ein carchardai yn carcharu’r gyfran uchaf o bobl groenliw yn y DG. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i’r strategaeth Prevent hiliol sy’n camwahaniaethu yn erbyn ein cymunedau Mwslimaidd. Mae’r heddlu’n parhau i ddefnyddio grymoedd stopio a chwilio i dargedu dynion lliw ifanc ar raddfa anghymesur. Hanes y Tri Caerdydd fu’r enghraifft fwyaf enwog o’r hiliaeth endemig, hanesyddol a sefydliadol yma.
Ac yn awr, ar ddechrau blwyddyn pan roeddem yn coleddu’r gobaith o greu newid er gwell, rydym yn wynebu marwolaeth drasig un o feibion Caerdydd, Mohamud Hassan.
Y mae newid go iawn yn dechrau trwy atebolrwydd ar ran yr heddlu, a chyfiawnder go iawn i deulu Mohamud. Os ydym am sicrhau cymdeithas sy’n gwarantu diogelwch ac urddas i bawb, yna mae’n rhaid i ni weithredu er mwyn chwalu’r hiliaeth sy’n treiddio’n ddwfn trwy i’n cymdeithas, ein sefydliadau, a’n calonnau ni ein hunain. Ni fedrwn aros mwyach.
Mae bywydau du o bwys.
Cyfiawnder i Mohamud Hassan.