Annwyl Gyfaill,
Rwy’n ysgrifennu’r llythyr agored hwn fel galwad i weithredu. Mae wedi bod yn chwarae ar fy meddwl wrth i mi wella ar ôl Covid a blwyddyn o brotest fel dim un arall. Nawr, wrth i Fil yr Heddlu, Trosedd, Dedfrydu a Llysoedd (y Mesur ‘Kill the Bill’ neu’r Mesur PCSC) symud trwy Senedd San Steffan, mae’n teimlo fel ein bod ni’n byw mewn cyfnod sydd ar fin ffrwydro.
Ar ôl plismona creulon o brotestiadau, a llofruddiaeth dau ddyn ifanc du gan yr heddlu yn ne Cymru, mae’n fater brys mai 2022 yw’r flwyddyn y mae’n rhaid i ni uno. Rhaid inni ddod ynghyd i wrthsefyll plismona ein cymunedau gan heddluoedd sy’n gynyddol dreisgar, hiliol, rhywiaethol homoffobaidd, a dosbarthiadol. Fe ffrwydrodd protestiadau mewn galwadau am gyfiawnder i Mohamud Hassan a Mouayed Bashir, i Sara Everard, yn erbyn dinistrio a gwerthu ein cymunedau a’n cartrefi, gyda gweithredoedd enfawr ar newid hinsawdd, a Mae Bywydau Duon o Bwys (BLM).
Mae cymaint o faterion enfawr, brys, a rhai na ellir eu hosgoi. Mae’n ddychrynllyd ac un person yn unig ydyn ni i gyd. Felly mae dod at ein gilydd mewn protest, mewn degau, neu ddegau o filoedd, yn rhoi cysur i ni, ynghyd â’r pŵer a’r cryfder i creu newid drwy sefyll lan am yr hyn sy’n iawn.
Yn 2022, bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn dileu ein hawl i brotestio, dileu hawliau dinasyddiaeth, ac ‘adolygu’ y Ddeddf Hawliau Dynol. Nid tanddatganiad yw dweud bod hwn yn ymosodiad ar raddfa eithriadol ar ein hawliau i brotestio, ymgynnull, ein hawl i hawliau dynol ystyrlon, ac i rai, yr hawl i fyw yng Nghymru hyd yn oed o gwbl.
Mae yna deddf allweddol (ymhlith rhaglen) wedi’u teilwra i bleisio’r adain dde hiliol a radical sy’n arwain ac yn rheoli’r Torïaid. Wrth fanteision ar ymatebion ‘middle Englanders’ i’r rhyfeloedd diwylliant ffug a’n pen mawr Brexit, mae’r Blaid Geidwadol yn canoli grym yn y cabinet ac yn mynd i’r afael yn llym ag anghytuno a rhwystrau i’w rhaglen lywodraethol ecsbloetiol, dreisgar.
Mae Mesur yr PCSC yma oherwydd y protestiadau BLM anhygoel ac emosiynol yn 2020 a gweithredoedd XR, ynghyd â phrotestiadau anhygoel a hirhoedlog a gweithredoedd uniongyrchol ledled Prydain. Mae’r gweithredoedd hyn wedi dangos yn gyson y gall gweithredoedd uniongyrchol parhaus neu wedi’u targedu, sy’n tarfu ar lif rheolaidd cyfalaf a llafur, sicrhau newid radical go iawn.
Mae’r Mesur yn fygythiad gwirioneddol i gynifer o unigolion a chymunedau, a’n hawl i wrthwynebu penderfyniadau anghyfiawn neu weithredoedd llygredig y llywodraeth. I mi, mae’n nodi bod effaith gweithredoedd Llywodraeth San Steffan ar fin gwaethygu llawer, a hynny i lawer o bobl. Mae hynny’n golygu bod yn rhaid i ni wthio yn ôl yn ei erbyn gyda’n gilydd.
Mae’r Mesur yn rhoi mwy o rym i’r heddlu gyfyngu ar ymgynnull, gorymdeithio a phrotestio heddychlon, gan greu trosedd statudol eang o niwsans cyhoeddus gyda dedfryd uchaf o 10 mlynedd. Mae’n creu trosedd newydd o breswylio neu fwriad i fyw ar dir lle mae’n achosi neu’n debygol o achosi ‘aflonyddwch, difrod neu drallod’ sy’n effeithio’n anuniongyrchol yn ddifrifol ar y gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr (GRT), ac a fyddai, mewn gwirionedd, dod â bywyd teithwyr traddodiadol i ben. Ymhlith materion difrifol eraill, bydd y Mesur hefyd yn cynyddu faint o amser y mae pobl yn ei dreulio yn y carchar cyn cael eu rhyddhau ar drwydded, gan effeithio’n anghymesur ar bobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a thanseilio adsefydlu carcharorion.
Bydd y Mesur hwn yn cael effaith ddifrifol ar weithredoedd protest y dyfodol ac ar y nifer fawr o bobl sydd mewni cysylltiad â’r heddlu a’r system gyfiawnder. Gwelwn drefnyddion a ‘drwgweithredwyr’ canfyddedig yn cael eu targedu gan yr heddlu, ac felly yn anochel yn arwain at gynnydd yn y trais yn erbyn pobl Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig a’r dosbarth gweithiol. Bydd i bob pwrpas yn dod â ffordd draddodiadol o fyw cymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr i ben. I Undod, gallai fod wedi atal y brotest ffermio a’r ralïau dros annibyniaeth, a gallai gwtogi ar weithredoedd lleol gan aelodau gyda’u cymuned leol. Mae’n sicr y bydd yn effeithio ar weithredoedd ac ymgyrchoedd yn y DU yn y dyfodol.
Fel swyddog ymgyrchoedd Undod, rwyf wedi ymrwymo i weithio gydag aelodau i barhau i wrthsefyll y Mesur hwn a’r lleill ymhell ar ôl iddynt ddod yn gyfraith. Rwy’n gobeithio y byddwch chi’n ymuno â mi i gymryd rhan mewn hyd yn oed mwy o brotestiadau eleni.
Mae gennym y grym i greu newid go iawn trwy brotest, dim ond trwy darfu ar lif rheolaidd cyfalaf a llafur, dosbarthu taflenni, rhannu adnoddau a thrwy godi ein lleisiau. Felly gwnewch 2022 y flwyddyn rydych chi’n helpu dod â busnes fel arfer i stop. Rhowch eich mwgwd ymlaen ac ymunwch yn lleol â’r gweithredoedd ‘kill the bill’ lleol, ac yna daliwch i droi i fyny pryd bynnag a lle bynnag y gallwch.
Ymunwch â’r diwrnod gweithredu cenedlaethol ar y 15fed o Ionawr 2022 drwy fynd i un o’r protestiadau neu drefnu gweithred yn dy gymuned.
Ffyciwch y Llywodraeth. #KillTheBill
Gyda cariad a heddwch am y blwyddyn newydd,
wrth Tess